Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
2020 Rhif 295 (Cy. 67)
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(e), 26(3) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901, ac, mewn perthynas â rheoliad 2(3), (5) ac (8), gan baragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr3, a fewnosodir yn Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 20144 gan rheoliad 2(3) a (5) o’r Rheoliadau hyn, gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y Rheoliad yr UE hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.
I’r graddau y mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer pwerau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A)5 o’r Ddeddf honno.
Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd6.