Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) (Diwygio) 2020
Enwi a chychwyn1.
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) (Diwygio) 2020 a deuant i rym ar 6 Mawrth 2020.
Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 20102.
(1)
(2)
Yn Atodlen 1 (clefydau a syndromau hysbysadwy), ar ôl “Brwselosis” mewnosoder “Clefyd coronafirws 2019 (COVID-19)”.
(3)
Yn Atodlen 2 (cyfryngau achosol), ar ôl “Coronafirws y syndrom anadlu acíwt difrifol (SARS)” mewnosoder “Coronafirws y syndrom anadlu acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2)”.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010 (“Rheoliadau 2010”) sy’n gosod rhwymedigaethau ar wahanol bersonau at ddiben atal mynychder neu ledaeniad haint neu halogiad, diogelu rhagddo, ei reoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd iddo.
Mae rheoliad 2(2) yn mewnosod “Clefyd coronafirws 2019 (COVID-19)” yn Atodlen 1 i Reoliadau 2010 at ddibenion ychwanegu hwn at y rhestr o “Clefydau a Syndromau” y mae dyletswydd ar ymarferwyr meddygol i hysbysu awdurdod lleol perthnasol amdanynt os credir bod clefyd neu syndrom o’r fath ar glaf y maent yn ei wasanaethu. Mae’r ddyletswydd hon yn estyn i hysbysu ynghylch amheuaeth o glefyd, haint neu halogiad mewn corff marw.
Mae rheoliad 2(3) yn mewnosod “Coronafirws y syndrom anadlu acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2)” yn Atodlen 2 i Reoliadau 2010 at ddibenion ychwanegu hwn at y rhestr o “Cyfryngau Achosol” y mae dyletswydd ar weithredwyr labordai diagnostig i hysbysu awdurdod lleol perthnasol amdanynt os ydynt yn darganfod cyfrwng, neu dystiolaeth o gyfrwng o’r fath, mewn sampl ddynol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.