2020 Rhif 220 (Cy. 49)
Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) 2020
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(e), 17(1) a (2), 26(3) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2, a chan baragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19723.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr4 ac at Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/775 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Erthygl 26(3) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, o ran y rheolau ar gyfer dangos gwlad tarddiad neu darddle’r prif gynhwysyn mewn bwyd5 a fewnosodir yn Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 20146, gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19907.
Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd8.