xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 23

ATODLEN 2LL+C

RHAN 1LL+CDehongli cyffredinol

1.  Yn yr Atodlen hon—LL+C

F1...

F1...

F1...

[F2ystyr “EPPO PM 7/21” (“EPPO PM 7/21”) yw’r safon sy’n disgrifio protocol diagnostig ar gyfer Ralstonia solanacearum, R. pseudosolanacearum ac R. syzygii a gymeradwyir gan Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a Glannau’r Canolfor;

ystyr “EPPO PM 7/40” (“EPPO PM 7/40”) yw’r safon sy’n disgrifio protocol diagnostig ar gyfer Globodera rostochiensis a Globodera pallida a gymeradwyir gan Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a Glannau’r Canolfor;

ystyr “EPPO PM 7/59” (“EPPO PM 7/59”) yw’r safon sy’n disgrifio protocol diagnostig ar gyfer Clavibacter michiganensis subsp. sepedonicus a gymeradwyir gan Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a Glannau’r Canolfor;

ystyr “EPPO PM 7/119” (“EPPO PM 7/119”) yw’r safon sy’n disgrifio’r gweithdrefnau ar gyfer echdynnu nematodau a gymeradwyir gan Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a Glannau’r Canolfor;.]

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw le, gan gynnwys unrhyw dir, adeilad, cerbyd, llestr, awyren, hofrenfad, cynhwysydd llwythi, wagen reilffordd, trelar neu adeilad neu adeiledd symudol;

ystyr “Pydredd coch tatws” (“Potato brown rot”) yw naill ai’r clefyd tatws a achosir gan Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. neu’r bacteriwm hwnnw, fel y bo’r cyd-destun yn mynnu;

ystyr “Pydredd cylch tatws” (“Potato ring rot”) yw naill ai’r clefyd tatws a achosir gan y bacteriwm Clavibacter michiganensis (Smith) Davis et al. spp. Sependonicus (Spieckermann a Kotthof) Davis et al. neu’r bacteriwm hwnnw, fel y bo’r cyd-destun yn mynnu;

ystyr “Rheoliadau Tatws Hadyd” (“Seed Potatoes Regulations”) yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016(1);

ystyr “taten” (“potato”) yw unrhyw gloronen neu wir had neu unrhyw blanhigyn arall o Solanum tuberosum L, neu unrhyw rywogaeth arall o’r genws Solanum L. sy’n ffurfio cloron.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

RHAN 2LL+CDarpariaethau cyffredinol ynglŷn â phlannu rhywogaethau mochlysaidd penodol

Cyfyngiadau cyffredinol ar blannu tatwsLL+C

2.—(1Ni chaiff unrhyw berson fynd ati’n fwriadol i blannu’r canlynol, nac achosi na chaniatáu’n fwriadol iddynt gael eu plannu—

(a)unrhyw datws a dyfwyd mewn trydedd wlad [F3y mae’r gwaharddiad yn Erthygl 40(1) o’r Rheoliad Iechyd Planhigion yn gymwys iddynt], neu

(b)unrhyw datws a gynhyrchir o’r tatws hynny.

(2Ni chaiff unrhyw berson fynd ati’n fwriadol i blannu unrhyw datws, nac achosi na chaniatáu’n fwriadol iddynt gael eu plannu oni bai—

(a)eu bod yn tarddu mewn llinell uniongyrchol o ddeunydd tatws sydd wedi ei gael o dan [F4raglen ar gyfer ardystio tatws a gymeradwywyd yn swyddogol gan awdurdod cymwys neu awdurdod Tiriogaeth Ddibynnol y Goron] ,

(b)y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Pydredd cylch tatws mewn profion swyddogol gan ddefnyddio’r dulliau a nodir yn [F5EPPO PM 7/21], ac

(c)y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Pydredd coch tatws mewn profion swyddogol gan ddefnyddio’r dulliau a nodir yn [F6EPPO PM 7/59].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

RHAN 3LL+CMesurau i reoli Clefyd y ddafaden tatws

DehongliLL+C

3.  Yn y Rhan hon—

(a)ystyr “Clefyd y ddafaden tatws” yw naill ai’r clefyd tatws a achosir gan y ffwng Synchytrium endobioticum (Schilbersky) Percival neu’r ffwng hwnnw, fel y bo’r cyd-destun yn mynnu;

(b)mae llain o dir i’w hystyried yn llain halogedig os bydd prawf swyddogol yn cadarnhau bod Clefyd y ddafaden tatws yn bresennol ar o leiaf un planhigyn sy’n tyfu neu a dyfwyd ar y llain honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Mesurau swyddogol ynglŷn â lleiniau tir halogedigLL+C

4.—(1Rhaid i arolygydd iechyd planhigion ddarnodi unrhyw lain halogedig a pharth diogelwch o amgylch y llain honno sy’n ddigon mawr i sicrhau diogelwch yr ardal o’i hamgylch.

(2Rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad o dan reoliad 15(1) yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gloron neu wlydd tatws sy’n bresennol ar y llain halogedig neu sydd wedi dod o’r llain halogedig, gael eu trin mewn modd sy’n sicrhau bod Clefyd y ddafaden tatws sy’n bresennol arnynt yn cael ei ddinistrio.

(3Pan fo arolygydd iechyd planhigion wedi ei fodloni bod unrhyw gloron neu wlydd tatws wedi eu halogi â Chlefyd y ddafaden tatws ac na all yr arolygydd ganfod a fu’r cloron neu’r gwlydd hynny yn bresennol ar lain halogedig, caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad o dan reoliad 15(1) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r swp cyfan sy’n cynnwys y cloron neu’r gwlydd yr effeithiwyd arnynt gael ei drin mewn modd sy’n sicrhau nad oes risg y bydd Clefyd y ddafaden tatws yn lledaenu.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Gwahardd plannu tatws ar leiniau halogedigLL+C

5.—(1Pan fo llain halogedig wedi ei darnodi o dan baragraff 4(1), ni chaiff unrhyw berson—

(a)tyfu unrhyw datws ar y llain, neu

(b)tyfu neu storio ar y llain unrhyw blanhigion a fwriedir i’w trawsblannu.

(2Ni chaiff unrhyw berson dyfu tatws mewn parth diogelwch a ddarnodir o dan baragraff 4(1) oni bai bod arolygydd iechyd planhigion wedi ei fodloni eu bod o rywogaeth sydd ag ymwrthedd i’r hiliau o Glefyd y ddafaden tatws a geir ar y llain halogedig y mae’r parth diogelwch yn ymwneud â hi.

(3Bernir bod amrywogaeth tatws yn un sydd ag ymwrthedd i hil benodol o Glefyd y ddafaden tatws at ddibenion is-baragraff (2) pan fo’r amrywogaeth honno yn adweithio i halogiad gan gyfrwng pathogenig yr hil honno mewn modd sy’n sicrhau nad oes perygl o sgil-heintio.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Dirymu darnodiad llain halogedigLL+C

6.  Pan fo arolygydd iechyd planhigion wedi ei fodloni nad yw Clefyd y ddafaden tatws yn bresennol mwyach ar lain a ddarnodir o dan baragraff 4(1) neu ar ei pharth diogelwch cysylltiedig, rhaid i’r arolygydd ddirymu’r darnodiad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

RHAN 4LL+CMesurau i reoli poblogaethau Ewropeaidd o Lyngyr tatws

DehongliLL+C

7.  Yn y Rhan hon—

ystyr “bylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau” (“susceptible bulbs”) yw bylbiau, cloron neu risomau, a dyfwyd mewn pridd ac a fwriedir i’w plannu, o Allium ascalonicum L., Allium cepa L., Dahlia spp., Gladiolus Tourn. Ex L., Hyacinthus spp., Iris spp., Lilium spp., Narcissus L. neu Tulipa L., heblaw’r rhai y ceir tystiolaeth drwy gyfrwng eu pecynnau neu drwy ddulliau eraill y bwriedir iddynt gael eu gwerthu i ddefnyddwyr terfynol nad ydynt yn ymwneud yn broffesiynol â chynhyrchu planhigion neu flodau wedi eu torri;

ystyr “cae” (“field”) yw ardal sydd wedi ei darnodi fel cae at ddibenion [F7y Rhan hon];

ystyr “cae a heigiwyd” (“infested field”) yw cae y cofnodwyd ei fod wedi ei heigio yn unol â pharagraff 9(1);

ystyr “deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau” (“susceptible material”) yw planhigion cynhaliol, bylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau;

ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad o dan reoliad 15(1);

ystyr “Llyngyr tatws” (“Potato cyst nematode”) yw unrhyw lyngyr sy’n ffurfio systiau o’r rhywogaeth Globodera pallida (Stone) Behrens neu Globodera rostochiensis (Wollenweber) Behrens sy’n heigio ac yn lluosogi ar datws, gan gynnwys unrhyw fath neu bathoteip o lyngyr o’r fath;

[F8ystyr “mesurau penodedig” (“specified measures”) yw—

(a)

at ddibenion paragraff 9(2), ail-samplu swyddogol y cae a chynnal profion swyddogol ar y samplau, a gynhelir o leiaf bob tair blynedd ar ôl gweithredu mesurau rheoli priodol a gymeradwywyd yn swyddogol yn y cae neu, yn unrhyw achos arall, o leiaf bum mlynedd ar ôl y flwyddyn y canfuwyd Llyngyr tatws neu y tyfwyd tatws ddiwethaf yn y cae ynddi;

(b)

at ddibenion paragraffau 11(3) a 15—

(i)

dadheigio’r bylbiau neu’r planhigion drwy ddulliau priodol sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Llyngyr tatws;

(ii)

symud pridd oddi ar y bylbiau neu’r planhigion drwy eu golchi neu eu brwsio hyd nes eu bod yn rhydd rhag pridd i bob pwrpas, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Llyngyr tatws;]

ystyr “planhigion cynhaliol” (“host plants”) yw planhigion ac iddynt wreiddiau Capsicum spp., Solanum lycopersicum L. neu Solanum melongena L.;

ystyr “planhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau” (“susceptible plants”) yw planhigion ac iddynt wreiddiau Allium porrum L., Asparagus officinalis L., Beta vulgaris L., Brassica spp. neu Fragaria L.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

[F9Profion swyddogolLL+C

7A.  Rhaid cynnal unrhyw brofion swyddogol ar samplau at ddibenion y Rhan hon yn unol ag EPPO PM 7/40 ac EPPO PM 7/119.]

Ymchwiliadau ac arolygon swyddogolLL+C

8. [F10(1)]  Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)bod ymchwiliadau swyddogol yn cael eu cynnal yn unol [F11â’r Rhan hon] ar gyfer presenoldeb Llyngyr tatws mewn caeau y bwriedir plannu neu storio ynddynt datws hadyd neu ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu planhigion i’w plannu, a

(b)bod arolygon swyddogol yn cael eu cynnal yn unol [F12â’r Rhan hon] ar gyfer presenoldeb Llyngyr tatws mewn caeau a ddefnyddir i gynhyrchu tatws, heblaw’r rhai a fwriedir ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd.

[F13(2) Rhaid i ymchwiliad swyddogol i gae at ddibenion paragraff 8(1)(a) gael ei gynnal—

(a)cyn y plannu neu storio arfaethedig, a

(b)oni bai bod tystiolaeth ddogfennol o ymchwiliad swyddogol blaenorol sy’n cadarnhau na chanfuwyd unrhyw Lyngyr tatws yn ystod yr ymchwiliad ac nad oedd tatws na phlanhigion cynhaliol yn bresennol ar adeg yr ymchwiliad hwnnw ac nad ydynt wedi eu tyfu yn y cae ers yr ymchwiliad hwnnw, rhwng cynaeafu’r cnwd diwethaf yn y cae a’r gwaith arfaethedig o blannu tatws hadyd neu ddeunydd arall sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau.

(3) Yn achos cae lle y mae tatws hadyd neu blanhigion cynhaliol, y bwriedir eu defnyddio i gynhyrchu planhigion ar gyfer eu plannu, i’w plannu neu eu storio, rhaid i ymchwiliad swyddogol at ddibenion paragraff 8(1)(a) gynnwys samplu pridd y cae ar y gyfradd samplu pridd briodol a chynnal profion swyddogol ar y samplau.

(4) Yn achos cae lle y mae bylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, y bwriedir eu defnyddio i gynhyrchu planhigion ar gyfer eu plannu, i’w plannu neu eu storio, rhaid i ymchwiliad swyddogol at ddibenion paragraff 8(1)(a) gynnwys—

(a)samplu pridd y cae ar y gyfradd samplu pridd briodol a chynnal profion swyddogol ar y samplau, neu

(b)gwirio, ar sail canlyniadau profion priodol a gymeradwywyd yn swyddogol, na fu Llyngyr tatws yn bresennol yn y cae yn ystod y 12 mlynedd flaenorol neu wirio, ar sail hanes cnydio hysbys y cae, na thyfwyd unrhyw datws na phlanhigion cynhaliol yn y cae yn ystod y 12 mlynedd flaenorol.

(5) Rhaid i arolwg swyddogol at ddibenion paragraff 8(1)(b) gynnwys samplu pridd y cae ar y gyfradd samplu briodol ar o leiaf 0.5% o’r erwau a ddefnyddir i gynhyrchu tatws yn y flwyddyn berthnasol a chynnal profion swyddogol ar y samplau.

(6) Nid yw paragraff 8(1)(a) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi cadarnhau nad oes unrhyw risg o ledaenu Llyngyr tatws ac—

(a)bod unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau y bwriedir ei ddefnyddio i gynhyrchu planhigion ar gyfer eu plannu i’w ddefnyddio o fewn yr un man cynhyrchu sydd wedi ei leoli o fewn ardal sydd wedi ei diffinio yn swyddogol,

(b)bod tatws hadyd i’w defnyddio o fewn yr un man cynhyrchu sydd wedi ei leoli o fewn ardal sydd wedi ei diffinio yn swyddogol, neu

(c)yn achos unrhyw fylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau y bwriedir eu defnyddio i gynhyrchu planhigion ar gyfer eu plannu, bod y planhigion a gynaeafir i fod yn destun mesurau a gymeradwywyd yn swyddogol.

(7) At ddibenion is-baragraffau (3) i (5)—

(a)“y gyfradd samplu briodol”, mewn perthynas â chae, yw’r gyfradd samplu ofynnol a bennir yn y tabl a ganlyn—

Is-baragraffCaeY Gyfradd
(3) a (4)Cae ≤ 8 hectar1,500 ml o bridd fesul hectar a gesglir o 100 craidd/hectar o leiaf
Cae > 8 hectarYr 8 hectar cyntaf1,500 ml o bridd fesul hectar
Pob hectar ychwanegol400 ml o bridd fesul hectar
Cae ≤ 4 hectar sy’n bodloni un maen prawf o leiaf ym mharagraff (b)400 ml o bridd fesul hectar
Cae > 4 hectar sy’n bodloni un maen prawf o leiaf ym mharagraff (b)Y 4 hectar cyntaf400 ml o bridd fesul hectar
Pob hectar ychwanegol200 ml o bridd fesul hectar
(5)Cae ≤ 4 hectar

Unrhyw un neu ragor o’r cyfraddau a ganlyn:

—400 ml o bridd fesul hectar

—gwaith samplu wedi ei dargedu ar o leiaf 400 ml o bridd yn dilyn cynnal archwiliad gweledol o wreiddiau sydd â symptomau gweledol, neu

—pan fo’n bosibl olrhain y tatws a gynaeafwyd i’r cae lle y’u tyfwyd, 400 ml o bridd sy’n gysylltiedig â’r tatws a gynaeafwyd.

(b)y meini prawf yw—

(i)bod tystiolaeth ddogfennol yn bodoli i ddangos nad yw tatws na phlanhigion cynhaliol wedi eu tyfu yn y cae yn y chwe mlynedd cyn yr ymchwiliad swyddogol, neu nad oeddent yn bresennol yn y cae yn ystod y cyfnod hwnnw;

(ii)nad oes unrhyw Lyngyr tatws wedi eu canfod yn ystod y ddau ymchwiliad swyddogol olynol diweddaraf mewn samplau o 1,500 ml o bridd/hectar, ac nad oes unrhyw datws na phlanhigion cynhaliol, ac eithrio’r rhai y mae’r ymchwiliad swyddogol yn ofynnol ar eu cyfer, wedi eu tyfu yn y cae ers y cyntaf o’r ddau ymchwiliad hynny;

(iii)nad oes unrhyw Lyngyr tatws na Llyngyr tatws heb gynnwys byw wedi eu canfod yn yr ymchwiliad swyddogol diweddaraf a oedd ar ffurf maint sampl o 1,500 ml o bridd/hectar o leiaf, ac nad oes unrhyw datws na phlanhigion cynhaliol, ac eithrio’r rhai y mae’r ymchwiliad swyddogol yn ofynnol ar eu cyfer, wedi eu tyfu yn y cae ers yr ymchwiliad swyddogol diweddaraf.]

Cofnodion swyddogol ymchwiliadau ac arolygonLL+C

9.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod canlyniadau pob ymchwiliad swyddogol neu arolwg swyddogol a gynhelir yn unol â pharagraff 8 yn cael eu cofnodi i ddangos a ganfuwyd Llyngyr tatws yn y caeau yn ystod yr ymchwiliad neu’r arolwg.

(2Pan fo’r mesurau [F14penodedig perthnasol] wedi eu cymryd mewn cae y cofnodwyd ei fod wedi ei heigio yn unol ag is-baragraff (1) ac, ar ôl cwblhau’r mesurau hynny, y cadarnheir yn swyddogol nad oes Llyngyr tatws yn bresennol yn y cae mwyach, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y cofnod yn cael ei ddiweddaru yn unol â hynny.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Hysbysiadau mewn perthynas â chaeau a heigiwyd a deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a halogwydLL+C

10.—(1Rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd neu i’r person arall sydd â gofal am gae a heigiwyd, sy’n pennu ffiniau’r cae a heigiwyd.

(2Ni chaniateir tynnu’r hysbysiad yn ôl hyd nes y cadarnheir, yn unol â pharagraff 9(2) nad oes Llyngyr tatws yn bresennol yn y cae mwyach.

(3Rhaid i arolygydd iechyd planhigion, drwy hysbysiad, ddynodi bod unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n dod o gae y cofnodwyd yn swyddogol ei fod wedi ei heigio o dan baragraff 9(1) neu unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sydd wedi bod mewn cysylltiad â phridd lle cafwyd Llyngyr tatws yn ddeunydd halogedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Gwahardd plannu tatws mewn caeau a heigiwydLL+C

11.—(1Oni chaiff ei awdurdodi i wneud hynny gan arolygydd, ni chaiff unrhyw berson—

(a)plannu unrhyw datws y bwriedir eu defnyddio i gynhyrchu tatws hadyd mewn cae a heigiwyd, neu

(b)plannu neu storio unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau y bwriedir ei blannu mewn cae a heigiwyd.

(2Caiff arolygydd iechyd planhigion awdurdodi plannu bylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau mewn cae a heigiwyd.

(3Rhaid i awdurdodiad o dan is-baragraff (2) gael ei roi drwy hysbysiad a rhaid iddo gynnwys [F15un o’r mesurau penodedig perthnasol].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Atal Llyngyr tatwsLL+C

12.—(1Ni chaiff unrhyw berson blannu unrhyw datws mewn cae a heigiwyd nad ydynt wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd oni bai ei fod wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan arolygydd iechyd planhigion.

(2Rhaid i awdurdodiad o dan is-baragraff (1) gael ei roi drwy hysbysiad a dim ond os yw’r arolygydd wedi ei fodloni bod pob cam rhesymol i atal Llyngyr tatws yn y cae wedi eu cymryd yn unol â’r rhaglen reoli swyddogol a fabwysiadwyd gan Weinidogion Cymru ar gyfer atal Llyngyr tatws y caniateir iddo gael ei roi.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Rheolaethau ar datws hadyd halogedig etc.LL+C

13.—(1Ni chaiff unrhyw berson blannu unrhyw datws hadyd nac unrhyw blanhigion cynhaliol sydd wedi eu dynodi yn halogedig yn unol â pharagraff 10(3), oni bai ei fod wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan arolygydd.

(2Rhaid i awdurdodiad o dan is-baragraff (1) gael ei roi drwy hysbysiad a rhaid iddo gynnwys y mesurau sy’n angenrheidiol ym marn yr arolygydd i ddihalogi’r tatws hadyd neu’r planhigion cynhaliol hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Rheolaethau ar datws ar gyfer prosesu neu raddio diwydiannolLL+C

14.—(1Ni chaiff unrhyw berson symud unrhyw datws a ddynodwyd yn halogedig yn unol â pharagraff 10(3) ac a fwriedir ar gyfer prosesu neu raddio diwydiannol, oni bai ei fod wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan arolygydd.

(2Rhaid i awdurdodiad o dan is-baragraff (1) gael ei roi drwy hysbysiad a rhaid iddo ei gwneud yn ofynnol i’r tatws gael eu danfon i safle prosesu neu raddio sydd â gweithdrefnau gwaredu gwastraff priodol a gymeradwywyd yn swyddogol sy’n sicrhau nad oes risg y bydd Llyngyr tatws yn lledaenu.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Rheolaethau ar fylbiau halogedig etc.LL+C

15.  Ni chaiff unrhyw berson blannu unrhyw fylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sydd wedi eu dynodi fel rhai a halogwyd yn unol â pharagraff 10(3), oni bai eu bod wedi bod yn destun [F16un o’r mesurau penodedig perthnasol] a bod arolygydd wedi cadarnhau drwy hysbysiad nad ydynt wedi eu halogi mwyach.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Ymchwiliadau pellach ar gyfer presenoldeb llyngyr tatwsLL+C

16.  Os yw unrhyw achos a amheuir o Lyngyr tatws neu unrhyw achos o bresenoldeb Llyngyr tatws a gadarnhawyd yn deillio o fethiant neu newid o ran effeithiolrwydd amrywogaeth tatws sydd ag ymwrthedd sy’n ymwneud â newid eithriadol o ran cyfansoddiad rhywogaethau llyngyr, pathodeipiau neu grwpiau gwenwyndra, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau y cynhelir drwy ddulliau priodol ymchwiliad i’r rhywogaeth o Lyngyr tatws dan sylw a, pan fo’n gymwys, y pathoteip a’r grŵp gwenwyndra dan sylw, a’u bod yn cael eu cadarnhau drwy ddulliau priodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

RHAN 5LL+CMesurau i reoli Pydredd cylch tatws

DehongliLL+C

17.  Yn y Rhan hon—

ystyr “blwyddyn dyfu gyntaf” (“first growing year”), yn achos mesurau sydd i’w cymryd mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig, yw’r flwyddyn dyfu gyntaf yn dilyn y flwyddyn dyfu pryd y dynodir y man cynhyrchu yn halogedig [F17yn unol â pharagraff 19(1)(a)];

ystyr “deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau” (“susceptible material”) yw cloron neu blanhigion Solanum tuberosum L.;

ystyr “gwrthrych” (“object”) yw unrhyw beiriant, cerbyd, llestr, storfa neu wrthrych arall, gan gynnwys deunydd pecynnu;

ystyr “halogedig” (“contaminated”) yw wedi ei dynodi’n halogedig gan arolygydd iechyd planhigion [F17yn unol â pharagraff 19(1)(a)] ;

ystyr “halogedig o bosibl” (“possibly contaminated”) yw wedi ei bennu’n halogedig o bosibl gan arolygydd iechyd planhigion [F18yn unol â pharagraff 19(1)(b)];

ystyr “hysbysiad” (“notice”), mewn perthynas â hysbysiad sydd i’w roi gan arolygydd iechyd planhigion, yw hysbysiad o dan reoliad 15(1);

ystyr “parth” (“zone”) yw unrhyw ardal, gan gynnwys unrhyw fangre unigol;

ystyr “tatws hadyd ardystiedig” (“certified seed potatoes”) yw tatws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig o fewn yr ystyr a nodir yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau Tatws Hadyd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Arolygon a phrofion swyddogolLL+C

18.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod arolygon swyddogol systemataidd ar gyfer Pydredd cylch tatws yn cael eu cynnal yng Nghymru ar gloron Solanum tuberosum L. a, pan fo’n briodol, ar blanhigion Solanum tuberosum L.F19....

[F20(1A) Yn achos cloron Solanum tuberosum L., rhaid i’r arolygon hynny gynnwys cynnal profion swyddogol ar samplau o datws hadyd a thatws eraill yn unol ag EPPO PM 7/59.

(1B) Yn achos planhigion Solanum tuberosum L., rhaid cynnal yr arolygon hynny yn unol â dulliau priodol, a rhaid iddynt gynnwys cynnal profion swyddogol priodol ar samplau.

(1C) Rhaid i’r gwaith o gasglu samplau at ddibenion is-baragraffau (1A) ac (1B) fod yn seiliedig ar egwyddorion gwyddonol ac ystadegol cadarn a bioleg Pydredd cylch tatws, ac ystyried systemau cynhyrchu tatws perthnasol.]

(2Pan amheuir bod Pydredd cylch tatws yn bresennol mewn deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)bod profion swyddogol yn cael eu cynnal gan ddefnyddio’r dull a nodir yn [F21EPPO PM 7/59] i gadarnhau a yw’n bresennol ai peidio,

(b)bod y canlynol yn cael eu cadw a’u diogelu’n briodol tra disgwylir i’r profion swyddogol gael eu cwblhau—

(i)yr holl gloron a samplwyd, a lle bynnag y bo’n bosibl, yr holl blanhigion a samplwyd;

(ii)unrhyw echdyniad sy’n weddill a deunydd paratoi ychwanegol ar gyfer y profion sgrinio;

(iii)yr holl ddogfennaeth berthnasol, ac

(c)hyd nes y cadarnheir ei fod yn bresennol neu y gwrthbrofir yr amheuaeth ei fod yn bresennol, pan fo symptomau gweledol diagnostig sy’n peri amheuaeth ynghylch presenoldeb Pydredd cylch tatws wedi eu gweld, neu pan fo symptomau Pydredd cylch tatws wedi eu canfod gan brawf imiwnofflworoleuedd cadarnhaol neu brawf cadarnhaol priodol arall—

(i)bod symud yr holl lotiau neu lwythi y cymerwyd y samplau ohonynt, heblaw’r rhai sydd o dan reolaeth swyddogol, yn cael ei wahardd, ac eithrio pan gadarnhawyd nad oes risg adnabyddadwy y bydd Pydredd cylch tatws yn lledaenu,

(ii)bod camau’n cael eu cymryd i olrhain tarddiad yr achos a amheuir, a

(iii)bod camau rhagofalus priodol ychwanegol sy’n seiliedig ar lefel y risg a amcangyfrifir yn cael eu cymryd i atal y pla planhigion rhag lledaenu.

(3Caiff hysbysiad gynnwys mesurau at ddibenion is-baragraff (2)(c)(i) i (iii).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 2 para. 18 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Mesurau i’w cymryd yn dilyn cadarnhau presenoldeb Pydredd cylch tatwsLL+C

19.—(1Os yw presenoldeb Pydredd cylch tatws yn cael ei gadarnhau mewn sampl o ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn dilyn profion swyddogol a gynhelir yn unol â pharagraff 18(2)(a) neu is-baragraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)bod y deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, y llwyth neu’r lot ac unrhyw wrthrych y cymerwyd y sampl ohono a, pan fo’n briodol, y man cynhyrchu a’r cae y cynaeafwyd y deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ohonynt, yn cael eu dynodi yn halogedig gan arolygydd iechyd planhigion;

(b)bod arolygydd iechyd planhigion yn canfod graddau’r halogi tebygol drwy gysylltiad cyn neu ar ôl cynaeafu neu drwy unrhyw gyswllt cynhyrchu ag unrhyw beth a ddynodir yn halogedig o dan baragraff (a), gan [F22roi sylw i’r ffactorau a ganlyn— ;

(i)y deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a dyfir yn y man cynhyrchu halogedig;

(ii)y mannau cynhyrchu sydd ag unrhyw gysylltiad cynhyrchu â’r deunydd hwnnw sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, gan gynnwys y rhai sy’n rhannu cyfarpar a chyfleusterau cynhyrchu yn uniongyrchol neu drwy gontractwr sy’n gyffredin rhyngddynt;

(iii)cynhyrchu deunydd arall sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn y man cynhyrchu halogedig, neu bresenoldeb deunydd o’r fath yn y man hwnnw;

(iv)y mangreoedd sy’n trafod tatws o’r man cynhyrchu halogedig a’r mannau cynhyrchu a grybwyllir yn is-baragraff (ii);

(v)unrhyw wrthrych a allai fod wedi dod i gysylltiad â’r deunydd halogedig sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau;

(vi)unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a gaiff ei storio mewn unrhyw wrthrych cyn iddo gael ei ddiheintio, neu ddeunydd o’r fath sydd wedi dod i gysylltiad ag unrhyw wrthrych o’r fath;

(vii)unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sy’n perthyn fel chwaer neu riant drwy glonio i’r deunydd halogedig sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a mannau cynhyrchu’r deunydd hwnnw;]

(c)bod parth yn cael ei ddarnodi gan arolygydd iechyd planhigion ar sail y dynodiad a wneir o dan baragraff (a), gan ystyried [F23agosrwydd mannau cynhyrchu eraill sy’n tyfu tatws neu blanhigion cynhaliol eraill a chynhyrchu a defnyddio stociau tatws hadyd ar y cyd].

[F24(1A) Wrth wneud dynodiad neu benderfyniad o dan is-baragraff (1), rhaid i arolygydd roi sylw i egwyddorion gwyddonol cadarn, bioleg Pydredd cylch tatws a systemau cynhyrchu, marchnata a phrosesu perthnasol.]

(2Pan fo deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau wedi ei ddynodi yn halogedig o dan is-baragraff (1)(a), rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau y cynhelir profion ar stociau tatws sy’n perthyn drwy glonio i’r deunydd hwnnw sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn y dull a bennir ym mharagraff 18(2)(a) er mwyn canfod prif ffynhonnell debygol yr haint, a graddau’r halogi tebygol.

(3Rhaid cynnal unrhyw brofion o’r fath ar faint bynnag o ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ag sy’n angenrheidiol i ganfod prif ffynhonnell debygol yr haint, a graddau’r halogi tebygol.

(4Rhaid i unrhyw ddynodiad gan arolygydd iechyd planhigion o dan y paragraff hwn hon gael ei wneud drwy hysbysiad.

(5Pan fo arolygydd iechyd planhigion yn canfod o dan is-baragraff (1)(b) fod unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, neu unrhyw wrthrych, yn halogedig o bosibl, rhaid i’r arolygydd ddynodi drwy hysbysiad fod y deunydd hwnnw neu’r gwrthrych hwnnw yn halogedig o bosibl.

Cyfyngiadau mewn perthynas â deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu wrthrychau sy’n halogedig neu sy’n halogwyd o bosibl â Phydredd cylch tatwsLL+C

20.—(1Ni chaiff unrhyw berson fynd ati’n fwriadol i blannu’r canlynol, nac achosi na chaniatáu’n fwriadol iddynt gael eu plannu—

(a)unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig, neu

(b)unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig o bosibl.

(2Pan fo deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu wrthrych wedi eu dynodi’n halogedig neu’n halogedig o bosibl o dan baragraff 19(1) neu (5), rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol—

(a)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig, i’r deunydd gael ei waredu drwy ei ddinistrio neu drwy [F25ddull gwaredu a gymeradwywyd yn swyddogol sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd cylch tatws];

(b)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig o bosibl, i’r deunydd gael ei ddefnyddio neu ei waredu [F26mewn modd sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd cylch tatws];

(c)yn achos gwrthrych sy’n halogedig neu wrthrych sy’n halogedig o bosibl, i’r gwrthrych—

(i)cael ei waredu drwy ei ddinistrio, neu

(ii)cael ei lanhau a’i ddiheintio fel nad oes risg adnabyddadwy y bydd Pydredd cylch tatws yn goroesi neu’n lledaenu.

(3Ni chaniateir i ddim byd a lanhawyd ac a ddiheintiwyd yn unol ag is-baragraff (2)(c)(ii) gael ei drin mwyach fel pe bai’n halogedig at ddibenion [F27y Rhan hon].

Mesurau mewn perthynas â man cynhyrchu halogedigLL+C

21.—(1Rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno’r hysbysiadau a ganlyn i unrhyw feddiannydd neu berson arall sydd â gofal am fan cynhyrchu halogedig—

(a)mewn perthynas ag unrhyw gae halogedig sy’n rhan o’r man cynhyrchu, hysbysiad yn cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu neu hysbysiad yn cynnwys yr ail gyfres o fesurau dileu;

(b)mewn perthynas ag unrhyw gae sy’n rhan o’r man cynhyrchu ond nad yw’n halogedig, hysbysiad yn cynnwys y drydedd set o fesurau dileu.

(2Dyma’r set gyntaf o fesurau dileu—

(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am o leiaf dair blwyddyn dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol, ac unrhyw blanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws,

(b)gwaharddiad ar blannu unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn y cae yn ystod y cyfnod hwnnw—

(i)cloron, planhigion neu wir hadau tatws;

(ii)planhigion sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws;

(iii)cnydau lle ceir risg mewn cysylltiad â hwy y bydd Pydredd cylch tatws yn lledaenu,

(c)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta y caniateir eu plannu yn y cae yn ystod y tymor cnydio tatws cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw, a bod y tatws dim ond yn cael eu plannu os canfuwyd bod y cae yn rhydd rhag planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws am o leiaf ddwy flwyddyn dyfu yn olynol cyn plannu, a bod y cloron a gynaeafwyd yn destun profion swyddogol gan ddefnyddio’r dull a nodir yn [F28EPPO PM 7/59], a

(d)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta y caniateir eu plannu yn y cae yn ystod y tymor cnydio tatws nesaf yn dilyn cylch cylchdroi priodol (rhaid i’r cylch hwnnw fod o leiaf ddwy flynedd pan fo’r tatws i’w plannu i gynhyrchu tatws hadyd).

(3Dyma’r ail set o fesurau dileu—

(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am bedair blwyddyn dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol, a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws,

(b)gofyniad bod y cae yn cael ei gadw, yn ystod y cyfnod hwnnw, yn fraenar neu’n dir pori parhaol, gan dorri’r borfa yn fyr neu bori’r tir yn ddwys yn fynych, ac

(c)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta y caniateir eu plannu yn ystod y tymor cnydio tatws cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw, a bod y tatws dim ond yn cael eu plannu os canfuwyd bod y cae yn rhydd rhag planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws am o leiaf ddwy flwyddyn dyfu yn olynol cyn plannu, a bod y cloron a gynaeafwyd yn destun profion swyddogol gan ddefnyddio’r dull a nodir yn [F29EPPO PM 7/59].

(4Dyma’r drydedd set o fesurau dileu—

(a)pan fo arolygydd iechyd planhigion wedi ei fodloni bod y risg o blanhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws wedi ei ddileu, gwaharddiad ar blannu unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am y flwyddyn dyfu gyntaf—

(i)cloron, planhigion neu wir hadau tatws,

(ii)planhigion sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws, a

(iii)tatws hadyd ardystiedig, oni bai eu bod ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta yn unig,

(b)gofyniad mai dim ond y tatws a ganlyn y caniateir eu plannu ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta yn y flwyddyn dyfu ganlynol—

(i)tatws hadyd ardystiedig, a

(ii)tatws hadyd a brofwyd yn swyddogol ar gyfer absenoldeb Pydredd cylch tatws ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol mewn man cynhyrchu nad yw’n fan cynhyrchu halogedig,

(c)gofyniad mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol o datws hadyd ardystiedig y caniateir eu plannu i gynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta yn ystod o leiaf y drydedd flwyddyn dyfu, a

(d)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad hyd at ddiwedd y drydedd flwyddyn dyfu er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol, ac unrhyw blanhigion sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws a gofyniad bod profion swyddogol yn cael eu cynnal ar y cloron a gynaeafwyd ym mhob cae gan ddefnyddio’r dull a nodir yn [F30EPPO PM 7/59].

(5Rhaid hefyd i hysbysiad a gyflwynir gan arolygydd iechyd planhigion o dan is-baragraff (1)(a) sy’n cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu—

(a)cynnwys gofyniad bod rhaid i’r holl beiriannau a chyfleusterau storio yn y man cynhyrchu a ddefnyddir i gynhyrchu tatws gael eu glanhau a’u diheintio ar unwaith ac yn dilyn y flwyddyn dyfu gyntaf, a

(b)pennu’r dulliau priodol ar gyfer glanhau a diheintio’r peiriannau a’r cyfleusterau storio.

(6Caniateir i’r mesurau y caiff eu pennu mewn hysbysiad o dan is-baragraff (1) neu (5) gael eu cynnwys mewn hysbysiad gyda mesurau priodol eraill.

(7Rhaid i’r person y cyflwynir hysbysiad iddo yn unol ag is-baragraff (1) sicrhau bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad yn cael eu cymryd yn y modd gofynnol.

(8Pan fo arolygydd iechyd planhigion yn cyflwyno hysbysiad yn cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod arolwg swyddogol yn cael ei gynnal mewn perthynas â’r cae a grybwyllir yn is-baragraff (2)(d) yn unol ag [F31EPPO PM 7/59].

Mesurau ychwanegol sy’n gymwys i uned cynhyrchu cnwd o dan orchuddLL+C

22.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys i blannu unrhyw gloron, planhigion neu wir hadau tatws mewn uned cynhyrchu cnydau o dan orchudd sy’n halogedig lle mae’n bosibl amnewid yr holl gyfrwng tyfu yn yr uned.

(2Ni chaiff unrhyw berson blannu unrhyw gloron, planhigion na gwir hadau tatws yn yr uned heb awdurdodiad ysgrifenedig arolygydd iechyd planhigion.

(3Ni chaiff arolygydd iechyd planhigion roi awdurdodiad o dan is-baragraff (2) oni bai—

(a)y cydymffurfiwyd â’r holl fesurau i ddileu Pydredd cylch tatws ac i symud yr holl blanhigion sy’n eu cynnal ymaith a bennir mewn hysbysiad mewn perthynas â’r man cynhyrchu lle y mae’r uned wedi ei lleoli,

(b)bod y cyfrwng tyfu yn yr uned wedi ei newid yn llwyr, ac

(c)bod yr uned a’r holl offer a ddefnyddiwyd yn yr uned wedi eu glanhau ac wedi eu diheintio i ddileu Pydredd cylch tatws ac i symud yr holl ddeunydd planhigion cynhaliol ymaith.

(4Pan roddir awdurdodiad o dan is-baragraff (2), caiff yr awdurdodiad bennu mai dim ond tatws hadyd ardystiedig, cloron bychain neu ficro-blanhigion sy’n deillio o ffynonellau a brofwyd yn swyddogol y caniateir eu defnyddio yn y broses gynhyrchu.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 2 para. 22 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Mesurau i’w cymryd mewn parthau a ddarnodwyd i reoli Pydredd cylch tatwsLL+C

23.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo arolygydd iechyd planhigion wedi darnodi parth yn unol â pharagraff 19(1)(c).

(2Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad, bennu rhagor o waharddiadau, cyfyngiadau a mesurau eraill a fydd yn gymwys yn y parth a ddarnodwyd i atal y risg y bydd Pydredd cylch tatws yn goroesi neu’n lledaenu.

(3Caiff Gweinidogion Cymru, yn benodol, bennu mewn hysbysiad o dan is-baragraff (2)—

(a)bod rhaid i unrhyw beiriannau neu gyfleusterau storio mewn mangre yn y parth a ddarnodwyd a ddefnyddir i gynhyrchu tatws gael eu glanhau a’u diheintio mewn modd priodol, fel nad oes risg adnabyddadwy y bydd Pydredd cylch tatws yn goroesi neu’n lledaenu;

(b)mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu yn ystod y cyfnod penodedig;

(c)bod rhaid i unrhyw datws hadyd a dyfir mewn man cynhyrchu sy’n halogedig o bosibl gael eu profi’n swyddogol ar ôl eu cynaeafu;

(d)bod rhaid i datws a fwriedir i’w plannu gael eu trin ar wahân i’r holl datws eraill mewn mangre yn y parth neu fod rhaid gweithredu system lanhau a, pan fo’n briodol, ddiheintio rhwng trin tatws hadyd a thrin tatws bwyta yn ystod y cyfnod penodedig.

(4O ran hysbysiad o dan is-baragraff (2)—

(a)rhaid iddo fod mewn ysgrifen,

(b)rhaid iddo ddisgrifio hyd a lled y parth a ddarnodir,

(c)rhaid iddo bennu ar ba ddyddiad y bydd pob mesur i gael effaith ac am ba hyd,

(d)rhaid iddo gael ei gyhoeddi mewn modd sy’n briodol i ddod ag ef i sylw’r cyhoedd, ac

(e)caniateir iddo gael ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, drwy hysbysiad arall.

(5Rhaid trin unrhyw fangre sy’n rhannol o fewn parth a ddarnodir ac yn rhannol y tu allan iddo fel pe bai o fewn y parth hwnnw at ddibenion y paragraff hwn, ac eithrio pan nad yw’r rhan sydd y tu allan i’r parth a ddarnodir yng Nghymru.

(6Rhaid trin hysbysiad a gyhoeddir yn unol ag is-baragraff (4) fel pe bai wedi ei gyflwyno—

(a)i unrhyw feddiannydd neu berson arall sydd â gofal am unrhyw fangre o fewn y parth a ddarnodir, a

(b)i unrhyw berson sy’n gweithredu peiriannau neu sy’n cyflawni unrhyw weithgaredd arall mewn perthynas â chynhyrchu tatws o fewn y parth a ddarnodir.

(7Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)bod mangreoedd sy’n tyfu, yn storio neu’n trin cloron tatws, a mangreoedd sy’n gweithredu peiriannau tatws o dan gontract, yn cael eu goruchwylio gan arolygwyr iechyd planhigion drwy gydol y cyfnod penodedig;

(b)bod arolwg swyddogol yn cael ei gynnal yn ystod y cyfnod penodedig yn unol ag [F32EPPO PM 7/59];

(c)bod rhaglen yn cael ei sefydlu, pan fo’n briodol, i amnewid yr holl stociau tatws hadyd dros gyfnod priodol o amser.

(8At ddibenion is-baragraffau (3) a (7), ystyr “y cyfnod penodedig” yw’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, a rhaid iddo fod o leiaf dri thymor tyfu ar ôl y flwyddyn y darnodwyd y parth.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 2 para. 23 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

RHAN 6LL+CMesurau i reoli Pydredd coch tatws

24.  Yn y Rhan hon—LL+C

ystyr “blwyddyn dyfu gyntaf” (“first growing year”), yn achos mesurau sydd i’w cymryd mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig, yw’r flwyddyn dyfu gyntaf yn dilyn y flwyddyn dyfu pryd y dynodir y man cynhyrchu halogedig yn halogedig [F33yn unol â pharagraff 26(2)(c)];

ystyr “deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau” (“susceptible material”) yw planhigion (gan gynnwys cloron) heblaw gwir hadau Solanum tuberosum L. neu blanhigion, heblaw ffrwythau neu hadau Solanum lycopersicum L.;

ystyr “gofynion PRHG perthnasol” (“relevant RNQP requirements”), mewn perthynas â phlanhigion at blannu Solanum lycopersicum L., yw—

(a)

yn achos planhigion i’w plannu a gynhyrchwyd cyn 14 Rhagfyr 2019, y gofynion a oedd yn gymwys i’r planhigion i’w plannu hynny o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC neu yn rhinwedd y Gyfarwyddeb honno;

(b)

yn achos planhigion i’w plannu a gynhyrchwyd ar neu ar ôl 14 Rhagfyr 2019, y gofynion sy’n gymwys i’r planhigion i’w plannu hynny o dan y Rheoliad Amodau Ffytoiechydol neu yn rhinwedd y Rheoliad hwnnw;

ystyr “gwrthrych” (“object”) yw unrhyw beiriant, cerbyd, llestr, storfa neu wrthrych arall, gan gynnwys deunydd pecynnu;

ystyr “halogedig” (“contaminated”) yw wedi ei ddynodi’n halogedig gan arolygydd iechyd planhigion [F33yn unol â pharagraff 26(2)(c)];

ystyr “halogedig o bosibl” (“possibly contaminated”) yw wedi ei bennu’n halogedig o bosibl gan arolygydd iechyd planhigion [F34yn unol â pharagraff 26(2)(d)];

ystyr “hysbysiad” (“notice”), mewn perthynas â hysbysiad sydd i’w roi gan arolygydd iechyd planhigion, yw hysbysiad o dan reoliad 15(1);

ystyr “parth” (“zone”) yw unrhyw ardal, gan gynnwys unrhyw fangre unigol;

ystyr “tatws hadyd ardystiedig” (“certified seed potatoes”) yw tatws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau Tatws Hadyd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 2 para. 24 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Arolygon a phrofion swyddogolLL+C

25.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau y cynhelir arolygon swyddogol systemataidd blynyddol yng Nghymru er mwyn nodi presenoldeb Pydredd coch tatws ar ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau F35....

[F36(1A) Rhaid i’r arolygon hynny fod yn seiliedig ar asesiad risg i nodi ffynonellau halogi posibl eraill sy’n peryglu cynhyrchu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a chynnwys arolygon swyddogol wedi eu targedu mewn ardaloedd cynhyrchu, yn seiliedig ar yr asesiad risg perthnasol, i nodi presenoldeb Pydredd coch tatws ar—

(a)deunydd perthnasol, ac eithrio deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau,

(b)dŵr wyneb a ddefnyddir ar gyfer dyfrhau neu chwistrellu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ac

(c)gollyngiadau gwastraff hylifol o fangre brosesu neu becynnu diwydiannol sy’n trafod deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau.

(1B) Rhaid i’r arolygon hynny hefyd fod yn seiliedig ar fioleg Pydredd coch tatws a’r systemau cynhyrchu perthnasol, a rhaid iddynt gynnwys—

(a)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sy’n cynnwys planhigion Solanum tuberosum L., cynnal arolygiadau gweledol o’r cnwd sy’n tyfu, ar adegau priodol, neu samplu tatws hadyd a thatws eraill yn ystod y tymor tyfu neu wrth eu storio, a rhaid i hynny gynnwys cynnal arolygiad gweledol swyddogol o gloron drwy eu torri;

(b)yn achos tatws hadyd a, phan fo’n briodol, thatws eraill, cynnal profion swyddogol ar samplau gan ddefnyddio’r dull a nodir yn EPPO PM 7/21;

(c)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sy’n cynnwys planhigion Solanum lycopersicum L., cynnal arolygiadau gweledol, ar adegau priodol, o leiaf o’r cnwd o blanhigion sy’n tyfu y bwriedir eu defnyddio i’w hailblannu at ddefnydd proffesiynol;

(d)ar gyfer planhigion cynhaliol, ac eithrio deunyddiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ac ar gyfer dŵr gan gynnwys gwastraff hylifol, cynnal profion swyddogol.

(1C) Rhaid i’r gwaith o gasglu samplau at ddibenion is-baragraff (1B) fod yn seiliedig ar egwyddorion gwyddonol ac ystadegol cadarn a bioleg Pydredd coch tatws, ac ystyried systemau cynhyrchu tatws perthnasol o ran deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a phlanhigion cynhaliol eraill Pydredd coch tatws.]

(2Pan amheuir bod Pydredd coch tatws yn bresennol, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)bod profion swyddogol yn cael eu cynnal i gadarnhau a yw’n bresennol—

(i)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, gan ddefnyddio’r dull a nodir yn [F37EPPO PM 7/21];

(ii)mewn unrhyw achos arall, gan ddefnyddio unrhyw ddull a gymeradwyir yn swyddogol;

(b)hyd nes y cadarnheir ei fod yn bresennol neu y gwrthbrofir yr amheuaeth ei fod yn bresennol, pan fo symptomau gweledol diagnostig sy’n peri amheuaeth ynghylch presenoldeb Pydredd coch tatws wedi eu gweld, ac y cafwyd canlyniad cadarnhaol mewn prawf sgrinio cyflym, neu y cafwyd canlyniad cadarnhaol yn y profion sgrinio [F38y cyfeirir atynt yn EPPO PM 7/21]

(i)bod symud yr holl blanhigion a’r holl gloron o’r holl gnydau, yr holl lotiau neu’r holl lwythi y cymerwyd y samplau ohonynt, heblaw’r rhai sydd o dan reolaeth swyddogol, yn cael ei wahardd, ac eithrio pan gadarnhawyd nad oes risg adnabyddadwy y bydd Pydredd coch tatws yn lledaenu,

(ii)bod camau’n cael eu cymryd i olrhain tarddiad yr achos a amheuir, a

(iii)bod mesurau rhagofalus priodol ychwanegol sy’n seiliedig ar lefel y risg a amcangyfrifir yn cael eu cymryd er mwyn atal Pydredd coch tatws rhag lledaenu.

(3Caiff hysbysiad gynnwys mesurau at ddibenion is-baragraff (2)(b)(i) i (iii).

Mesurau i’w cymryd yn dilyn cadarnhau presenoldeb Pydredd coch tatwsLL+C

26.—(1Os bydd presenoldeb Pydredd coch tatws yn cael ei gadarnhau yn dilyn profion swyddogol a gynhelir yn unol â pharagraff 25(2)(a), rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau y cymerir y camau a bennir yn is-baragraffau (2) i (4) yn unol ag egwyddorion gwyddonol cadarn, bioleg Pydredd coch tatws a systemau cynhyrchu, marchnata a phrosesu perthnasol planhigion sy’n cynnal Pydredd coch tatws.

(2Yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, y camau yw—

(a)ymchwiliad gan arolygydd iechyd planhigion i ganfod graddau’r halogiad a phrif ffynonellau’r halogiad [F39sy’n cynnwys cynnal ymchwiliad i’r pethau a ganlyn— ;

(i)tatws sy’n tyfu neu a gynaeafwyd sy’n perthyn drwy glonio i unrhyw datws halogedig;

(ii)tomatos sy’n tyfu neu a gynaeafwyd sydd o’r un ffynhonnell ag unrhyw domatos halogedig;

(iii)tatws neu domatos sy’n tyfu neu a gynaeafwyd sydd o dan reolaeth swyddogol ac yr amheuir eu bod wedi eu halogi â Phydredd coch tatws;

(iv)tatws sy’n tyfu neu a gynaeafwyd sy’n perthyn drwy glonio i unrhyw datws a dyfwyd yn y man cynhyrchu halogedig;

(v)tatws neu domatos sy’n tyfu gerllaw’r man cynhyrchu halogedig, gan gynnwys y rhai sy’n rhannu cyfarpar a chyfleusterau cynhyrchu yn uniongyrchol neu drwy gontractwr sy’n gyffredin rhyngddynt;

(vi)dŵr wyneb a ddefnyddir ar gyfer dyfrhau a chwistrellu o unrhyw ffynhonnell y cadarnheir neu yr amheuir ei bod wedi ei halogi a Phydredd coch tatws;

(vii)dŵr wyneb a ddefnyddir ar gyfer dyfrhau a chwistrellu o ffynhonnell a ddefnyddir ar y cyd â’r mannau cynhyrchu halogedig a’r mannau cynhyrchu sy’n halogedig o bosibl;

(viii)mannau cynhyrchu sydd wedi eu gorlifo, neu a oedd wedi eu gorlifo, â dŵr wyneb halogedig neu ddŵr wyneb sy’n halogedig o bosibl;

(ix)dŵr wyneb a ddefnyddir ar gyfer dyfrhau neu chwistrellu’r man cynhyrchu halogedig neu gaeau sydd wedi eu gorlifo yn y man cynhyrchu halogedig;]

(b)profion swyddogol pellach, gan gynnwys profion ar yr holl stociau tatws hadyd sy’n perthyn drwy glonio;

(c)dynodi gan arolygydd iechyd planhigion bod y pethau a ganlyn yn halogedig—

(i)y deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a’r llwyth neu’r lot y cymerwyd y sampl ohono neu ohoni;

(ii)unrhyw wrthrychau sydd wedi dod i gysylltiad â’r sampl honno;

(iii)unrhyw uned cynhyrchu cnwd dan orchudd neu gae cynhyrchu cnwd dan orchudd ac unrhyw fan cynhyrchu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau y cymerwyd y sampl ohoni neu ohono;

(d)penderfyniad gan arolygydd iechyd planhigion ynghylch graddau’r halogiad tebygol drwy ddod i gysylltiad cyn neu ar ôl cynaeafu, drwy gysylltau cynhyrchu, dyfrhau neu chwistrellu neu drwy berthynas drwy glonio;

(e)darnodi parth gan arolygydd iechyd planhigion ar sail y dynodiad o dan baragraff (c), y penderfyniad a wneir o dan baragraff (d) a lledaeniad posibl Pydredd coch tatws [F40gan ystyried y ffactorau perthnasol].

(3Yn achos planhigion cynhaliol, heblaw deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, pan fo arolygydd iechyd planhigion yn nodi bod cynhyrchu deunydd o’r fath yn wynebu risg, y camau yw—

(a)ymchwiliad gan arolygydd iechyd planhigion i ganfod graddau’r halogiad a phrif ffynonellau’r halogiad [F41sy’n cynnwys cynnal ymchwiliad i’r pethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(a)(i) i (ix)];

(b)dynodi gan arolygydd iechyd planhigion fod planhigion cynhaliol y cymerwyd y sampl ohonynt yn halogedig;

(c)penderfyniad gan arolygydd iechyd planhigion o ran yr halogiad tebygol;

(d)darnodi parth gan arolygydd iechyd planhigion ar sail y dynodiad o dan baragraff (b), y penderfyniad a wnaed o dan baragraff (c) a lledaeniad posibl Pydredd coch tatws [F42gan ystyried y ffactorau perthnasol].

(4Yn achos dŵr wyneb a phlanhigion cynhaliol mochlysaidd gwyllt cysylltiedig, pan fo arolygydd iechyd planhigion yn nodi bod cynhyrchu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn wynebu risg oherwydd dyfrhau, chwistrellu neu lifogydd dŵr wyneb, y camau yw—

(a)ymchwiliad gan arolygydd iechyd planhigion i ganfod graddau’r halogiad, sy’n cynnwys cynnal arolwg swyddogol, ar adegau priodol, ar samplau o ddŵr wyneb ac, os ydynt yn bresennol, planhigion cynhaliol mochlysaidd gwyllt;

(b)dynodi dŵr wyneb y cymerwyd y sampl ohono gan arolygydd iechyd planhigion, i’r graddau sy’n briodol ac ar sail yr ymchwiliad o dan baragraff (a);

(c)penderfyniad gan arolygydd iechyd planhigion o ran yr halogiad tebygol ar sail y dynodiad a wnaed o dan baragraff (b);

(d)darnodi parth gan arolygydd iechyd planhigion ar sail y dynodiad o dan baragraff (b), y penderfyniad a wnaed o dan baragraff (c) a lledaeniad posibl Pydredd coch tatws [F43gan ystyried y ffactorau perthnasol].

[F44(5) Y “ffactorau perthnasol” yw—

(a)at ddibenion is-baragraffau (2)(e) a (3)(d)—

(i)agosrwydd mannau cynhyrchu eraill sy’n tyfu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau;

(ii)cynhyrchu a defnyddio stociau tatws hadyd ar y cyd;

(iii)mannau cynhyrchu sy’n defnyddio dŵr wyneb i ddyfrhau neu chwistrellu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau pan fo risg o ddŵr wyneb ffo o’r man cynhyrchu halogedig;

(b)at ddibenion is-baragraff (4)(d)—

(i)mannau cynhyrchu sy’n cynhyrchu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sy’n gyfagos i ddŵr wyneb halogedig, neu sy’n wynebu risg o orlifo gan ddŵr o’r fath;

(ii)unrhyw fasn dyfrhau ar wahân sy’n gysylltiedig â’r dŵr wyneb halogedig;

(iii)crynofeydd dŵr sy’n gysylltiedig â’r dŵr wyneb halogedig, gan roi sylw i gyfeiriad a chyfradd llif y dŵr wyneb halogedig a phresenoldeb planhigion cynhaliol mochlysaidd gwyllt.]

Cyfyngiadau mewn perthynas â deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu wrthrychau sy’n halogedig neu sy’n halogedig o bosibl â Phydredd coch tatwsLL+C

27.—(1Ni chaiff unrhyw berson fynd ati’n fwriadol i blannu’r canlynol, nac achosi na chaniatáu’n fwriadol iddynt gael eu plannu—

(a)unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig, neu

(b)unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig o bosibl.

(2Pan fo deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu wrthrych wedi eu dynodi’n halogedig neu’n halogedig o bosibl o dan baragraff 26(2), rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol—

(a)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig, i’r deunydd fod yn destun unrhyw [F45ddull gwaredu a gymeradwywyd yn swyddogol sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd coch tatws];

(b)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig o bosibl, i’r deunydd gael ei ddefnyddio neu ei waredu [F46drwy ddull gwaredu a gymeradwywyd yn swyddogol sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd coch tatws];

(c)yn achos gwrthrych sy’n halogedig neu wrthrych sy’n halogedig o bosibl, i’r gwrthrych—

(i)cael ei waredu drwy ei ddinistrio, neu

(ii)cael ei lanhau a’i ddiheintio fel nad oes risg adnabyddadwy y bydd Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu.

(3Ni chaniateir i ddim byd a lanhawyd ac a ddiheintiwyd yn unol ag is-baragraff (2) gael ei drin mwyach fel pe bai’n halogedig at ddibenion [F47y Rhan hon].

Mesurau y caniateir eu gwneud yn ofynnol mewn perthynas â man cynhyrchu halogedigLL+C

28.—(1Rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno’r hysbysiadau a ganlyn i unrhyw feddiannydd neu berson arall sydd â gofal am fan cynhyrchu halogedig sydd mewn parth a ddarnodir gan arolygydd iechyd planhigion o dan baragraff 26(2)(e)—

(a)mewn perthynas â chae halogedig neu uned cynhyrchu cnwd dan orchudd halogedig sy’n rhan o’r man cynhyrchu, hysbysiad yn cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu neu hysbysiad yn cynnwys yr ail set o fesurau dileu;

(b)mewn perthynas â chae sy’n rhan o’r man cynhyrchu ond nad yw’n halogedig a, pan fo’r arolygydd wedi ei fodloni bod y risg o blanhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd coch tatws wedi ei dileu, hysbysiad yn cynnwys y drydedd set o fesurau dileu.

(2Y set gyntaf o fesurau dileu yw—

(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae neu’r uned o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am o leiaf bedair blwyddyn dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf, er mwyn dileu unrhyw blanhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol ac unrhyw blanhigion eraill, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, sy’n cynnal Pydredd coch tatws,

(b)gwaharddiad ar blannu unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn y cae neu’r uned yn ystod y cyfnod hwnnw—

(i)cloron, planhigion neu wir hadau tatws;

(ii)planhigion tomatos neu hadau tomatos;

(iii)gan ystyried bioleg Pydredd coch tatws, planhigion cynhaliol eraill neu blanhigion o’r rhywogaeth Brassica lle ceir risg mewn cysylltiad â hwy bod Pydredd coch tatws yn goroesi;

(iv)cnydau lle ceir risg mewn cysylltiad â hwy y bydd Pydredd coch tatws yn lledaenu,

(c)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta y caniateir eu plannu yn y cae neu’r uned yn ystod y tymor cnydio tatws neu domatos cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw, a bod y tatws dim ond yn cael eu plannu os canfuwyd bod y cae neu’r uned yn rhydd rhag planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomato gwirfoddol a phlanhigion cynhaliol eraill, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, yn ystod arolygiadau swyddogol ar gyfer Pydredd coch tatws, am o leiaf y ddwy flwyddyn dyfu olynol cyn plannu, a bod y cloron neu’r planhigion tomatos a gynaeafwyd yn destun profion swyddogol gan ddefnyddio’r dull a nodir yn [F48EPPO PM 7/21], a

(d)gofyniad bod rhaid cymhwyso cylch cylchdroi priodol yn y tymhorau cnydio tatws neu domatos dilynol, a rhaid i’r cylch hwnnw fod yn ddwy flynedd o leiaf pan fo tatws i’w plannu i gynhyrchu tatws hadyd.

(3Yr ail set o fesurau dileu yw—

(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae neu’r uned o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am bum blwyddyn dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, sy’n cynnal Pydredd coch tatws,

(b)gofyniad—

(i)yn ystod tair blwyddyn gyntaf y blynyddoedd tyfu hynny, fod y cae neu’r uned yn cael ei gadw neu ei chadw—

(aa)yn fraenar,

(bb)gyda chnydau grawnfwyd, os yw’r arolygydd wedi ei fodloni nad oes risg y bydd Pydredd coch tatws yn lledaenu,

(cc)yn dir pori parhaus gan dorri’r borfa yn fyr neu bori’r tir yn ddwys yn fynych, neu

(dd)fel glaswellt ar gyfer cynhyrchu hadau;

(ii)yn ystod y bedwaredd a’r bumed flwyddyn dyfu, mai dim ond planhigion nad ydynt yn cynnal Pydredd coch tatws ac nad oes unrhyw risg mewn cysylltiad â hwy y bydd Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu y caniateir eu plannu yn y cae neu’r uned, ac

(c)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta y caniateir eu plannu yn ystod y tymor cnydio tatws neu domatos cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw, a bod y tatws dim ond yn cael eu plannu os canfuwyd bod y cae neu’r uned yn rhydd rhag planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol a phlanhigion cynhaliol eraill, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, yn ystod arolygiadau swyddogol ar gyfer Pydredd coch tatws, am o leiaf ddwy flwyddyn dyfu yn olynol cyn plannu, a bod y cloron neu’r planhigion tomatos a gynaeafwyd yn destun profion swyddogol gan ddefnyddio’r dull a nodir yn [F49EPPO PM 7/21].

(4Y drydedd set o fesurau dileu yw—

(a)gofyniad na phlennir planhigion sy’n cynnal Pydredd coch tatws neu mai dim ond y planhigion tatws a’r planhigion tomatos a ganlyn y caniateir eu plannu yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am y flwyddyn dyfu gyntaf—

(i)tatws hadyd ardystiedig ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta;

(ii)planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol ar gyfer cynhyrchu ffrwythau,

(b)gofyniad mai dim ond y tatws a ganlyn y caniateir eu plannu i gynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta yn y flwyddyn dyfu ddilynol gyntaf, os oes tatws i’w plannu yn y flwyddyn honno—

(i)tatws hadyd ardystiedig;

(ii)tatws hadyd a brofwyd yn swyddogol ar gyfer absenoldeb Pydredd coch tatws ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol mewn man cynhyrchu nad yw’n halogedig,

(c)gofyniad mai dim ond y planhigion tomatos a ganlyn y caniateir eu plannu i gynhyrchu planhigion neu ffrwythau yn y flwyddyn dyfu ddilynol gyntaf, os oes planhigion tomatos i’w plannu yn y flwyddyn honno—

(i)planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol;

(ii)os ydynt wedi eu lluosogi yn llystyfol, planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol mewn man cynhyrchu nad yw’n halogedig,

(d)gofyniad, yn achos tatws, mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol o datws hadyd ardystiedig y caniateir eu plannu yn y cae yn ystod yr ail flwyddyn dyfu ddilynol ac unrhyw flwyddyn dyfu ddilynol arall i gynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta yn y cae,

(e)gofyniad, yn achos tomatos, mai dim ond planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol neu, os ydynt wedi eu lluosogi yn llystyfol, planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu yn y cae yn ystod yr ail flwyddyn dyfu ddilynol ac unrhyw flwyddyn dyfu ddilynol arall i gynhyrchu planhigion neu ffrwythau yn y cae,

(f)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad hyd at ddiwedd y flwyddyn dyfu a bennir yn yr hysbysiad er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol, a phlanhigion sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd coch tatws, ac

(g)arolygiadau swyddogol o gnydau sy’n tyfu ar adegau priodol a phrofion swyddogol ar datws a gynaeafwyd yn unol â’r dull a nodir yn [F50EPPO PM 7/21].

(5Rhaid hefyd i hysbysiad a gyflwynir gan arolygydd iechyd planhigion o dan is-baragraff (1)(a) sy’n cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu—

(a)cynnwys gofyniad bod rhaid i’r holl beiriannau a chyfleusterau storio yn y man cynhyrchu a ddefnyddir i gynhyrchu tatws gael eu glanhau a’u diheintio ar unwaith ac yn dilyn y flwyddyn dyfu gyntaf,

(b)pennu’r dulliau priodol ar gyfer glanhau a diheintio’r peiriannau a’r cyfleusterau storio, ac

(c)gwahardd unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu neu bennu sut y mae’n rhaid cynnal unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu, at ddiben atal Pydredd coch tatws rhag lledaenu.

(6Caniateir i’r mesurau y caiff eu pennu mewn hysbysiad o dan is-baragraff (1) neu (5) gael eu cynnwys mewn hysbysiad gyda mesurau priodol eraill.

(7Rhaid i’r person y cyflwynir hysbysiad iddo yn unol ag is-baragraff (1) sicrhau bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad yn cael eu cymryd yn y modd gofynnol.

Mesurau ychwanegol mewn perthynas ag unedau cynhyrchu cnwd dan orchuddLL+C

29.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys i blannu unrhyw gloron, planhigion neu wir hadau tatws mewn uned cynhyrchu cnydau o dan orchudd sy’n halogedig lle mae’n bosibl amnewid yr holl gyfrwng tyfu yn yr uned.

(2Ni chaiff unrhyw berson blannu unrhyw gloron, planhigion na gwir hadau tatws, planhigion tomatos neu hadau tomatos neu blanhigion eraill sy’n cynnal Pydredd coch tatws yn yr uned heb awdurdodiad ysgrifenedig arolygydd iechyd planhigion.

(3Ni chaiff arolygydd iechyd planhigion roi awdurdodiad o dan is-baragraff (2) oni bai—

(a)y cydymffurfiwyd â’r holl fesurau i ddileu Pydredd coch tatws ac i symud yr holl blanhigion sy’n cynnal Pydredd coch tatws ymaith a bennir mewn hysbysiad mewn perthynas â’r man cynhyrchu lle y mae’r uned wedi ei lleoli,

(b)bod y cyfrwng tyfu yn yr uned wedi ei newid yn llwyr, ac

(c)bod yr uned a’r holl offer a ddefnyddiwyd yn yr uned wedi eu glanhau ac wedi eu diheintio i ddileu Pydredd coch tatws ac i symud yr holl ddeunydd planhigion cynhaliol ymaith.

(4Caiff awdurdodiad o dan is-baragraff (2)—

(a)mewn perthynas â chynhyrchu tatws, bennu mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu gloron bychain neu ficro-blanhigion sy’n deillio o ffynonellau a brofwyd yn swyddogol y caniateir eu defnyddio yn y broses gynhyrchu;

(b)mewn perthynas â chynhyrchu tomatos, bennu mai dim ond hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol neu, os cânt eu lluosogi yn llystyfol, blanhigion tomatos a gynhyrchwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu defnyddio yn y broses gynhyrchu;

(c)gwahardd unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu;

(d)pennu sut y mae’n rhaid cynnal unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu at ddiben atal Pydredd coch tatws rhag lledaenu.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 2 para. 29 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Mesurau i’w cymryd mewn parthau a ddarnodwyd i reoli Pydredd coch tatwsLL+C

30.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo arolygydd iechyd planhigion wedi darnodi parth mewn perthynas â chadarnhad bod Pydredd coch tatws wedi ei ganfod o dan baragraff 26(3)(d) neu (4)(d).

(2Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad, bennu rhagor o waharddiadau, cyfyngiadau a mesurau eraill a fydd yn gymwys yn y parth a ddarnodir i atal y risg y bydd Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu.

(3Caiff Gweinidogion Cymru, yn benodol, bennu mewn hysbysiad o dan is-baragraff (2)—

(a)bod rhaid glanhau a, pan fo’n briodol, ddiheintio unrhyw beiriannau neu gyfleusterau storio mewn mangre o fewn y parth a ddarnodir a ddefnyddir i dyfu, i storio neu i drin cloron tatws neu domatos o fewn y parth, neu unrhyw fangre o fewn y parth y gweithredir peiriannau o dan gontract ar gyfer cynhyrchu tatws neu domatos ohoni, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy y bydd Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu;

(b)yn achos cnydau tatws, mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu yn ystod y cyfnod penodedig;

(c)bod rhaid i datws a fwriedir i’w plannu gael eu trin ar wahân i’r holl datws eraill mewn mangre o fewn y parth neu fod rhaid gweithredu system lanhau a, pan fo’n briodol, ddiheintio rhwng trin tatws hadyd a thrin tatws bwyta yn ystod y cyfnod penodedig;

(d)yn achos cnydau tomatos, mai dim ond planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol neu, os cânt eu lluosogi yn llystyfol, blanhigion tomatos a gynhyrchir o hadau o’r fath ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu yn ystod y cyfnod penodedig;

(e)na chaniateir defnyddio dŵr wyneb halogedig ar gyfer dyfrhau na chwistrellu deunydd planhigion penodedig a, pan fo’n briodol, blanhigion eraill sy’n cynnal Pydredd coch tatws, heb awdurdodiad ysgrifenedig ymlaen llaw gan arolygydd iechyd planhigion;

(f)os oes gollyngiadau gwastraff hylifol wedi eu halogi, fod rhaid gwaredu unrhyw wastraff o fangre brosesu neu becynnu ddiwydiannol yn y parth sy’n trin deunydd planhigion penodedig o dan oruchwyliaeth arolygydd iechyd planhigion.

(4O ran hysbysiad o dan is-baragraff (2)—

(a)rhaid iddo fod mewn ysgrifen,

(b)rhaid iddo ddisgrifio hyd a lled y parth a ddarnodir,

(c)rhaid iddo bennu mewn perthynas â phob mesur a yw’n gymwys yn gyffredinol ynteu i ardal o ddŵr wyneb yn y parth a ddarnodwyd,

(d)rhaid iddo bennu ar ba ddyddiad y bydd pob mesur yn cael effaith ac am ba hyd,

(e)rhaid iddo gael ei gyhoeddi mewn modd sy’n briodol i ddod ag ef i sylw’r cyhoedd, ac

(f)caniateir iddo gael ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, drwy hysbysiad arall.

(5Rhaid trin unrhyw fangre sy’n rhannol o fewn parth a ddarnodir ac yn rhannol y tu allan iddo fel pe bai o fewn y parth hwnnw at ddibenion y paragraff hwn, ac eithrio pan nad yw’r rhan sydd y tu allan i’r parth a ddarnodir yng Nghymru.

(6Rhaid trin hysbysiad a gyhoeddir yn unol ag is-baragraff (4) fel pe bai wedi ei gyflwyno—

(a)i unrhyw feddiannydd neu berson arall sydd â gofal am unrhyw fangre o fewn y parth a ddarnodir;

(b)i unrhyw berson—

(i)sydd â hawl i ddefnyddio unrhyw ddŵr wyneb halogedig,

(ii)sydd ag unrhyw ddŵr wyneb halogedig ar fangre o fewn y parth a ddarnodir y mae’r person yn ei meddiannu neu y mae ganddo ofal amdani, a

(iii)sy’n gweithredu peiriannau neu sy’n cyflawni unrhyw weithgaredd arall mewn perthynas â chynhyrchu tatws neu domatos o fewn y parth a ddarnodir.

(7Ni chaiff Gweinidogion Cymru bennu’r mesurau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3) ond pan fo’r parth wedi ei darnodi—

(a)mewn perthynas â’r mesurau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (d) o’r is-baragraff hwnnw at ddibenion [F51paragraff 26(3)(d)];

(b)mewn perthynas â’r mesurau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (e) ac (f) o’r is-baragraff hwnnw at ddibenion [F52paragraff 26(4)(d)].

(8Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)bod mangreoedd sy’n tyfu, yn storio neu’n trin cloron tatws a mangreoedd sy’n gweithredu peiriannau tatws o dan gontract yn cael eu goruchwylio gan arolygwyr iechyd planhigion yn ystod y cyfnod penodedig;

(b)bod arolwg swyddogol yn cael ei gynnal yn unol ag [F53EPPO PM 7/21] yn ystod y cyfnod penodedig;

(c)bod rhaglen yn cael ei sefydlu, pan fo’n briodol, i amnewid yr holl stociau tatws hadyd dros gyfnod priodol o amser.

(9At ddibenion is-baragraffau (3) ac (8), rhaid i’r “cyfnod penodedig”, mewn perthynas â pharth a ddarnodir yn unol â pharagraff 26(3)(d) neu (4)(d) fod o leiaf dri thymor tyfu ar ôl y flwyddyn y darnodwyd y parth.

RHAN 7LL+CMesurau ynglŷn â thatws o’r Aifft

[F54Mesurau ychwanegol ynglŷn â thatws o’r Aifft]LL+C

31.—(1Yn y Rhan hon, ystyr “tatws o’r Aifft” yw unrhyw gloron Solanum tuberosum L., yn tarddu o’r Aifft a gyflwynir i [F55Brydain Fawr] o dan [F56Erthygl 41(1) o’r Rheoliad Iechyd Planhigion].

(2Ni chaiff unrhyw weithredwr proffesiynol—

(a)symud unrhyw datws o’r Aifft yng Nghymru oni bai eu bod wedi eu labelu i ddangos eu bod yn tarddu o’r Aifft;

(b)prosesu, paratoi, golchi neu becynnu unrhyw datws o’r Aifft mewn mangre yng Nghymru heblaw mewn mangre y mae Gweinidogion Cymru wedi ei chymeradwyo mewn ysgrifen at y diben hwnnw.

(3Nid yw is-baragraff (2)(b) yn gymwys i becynnu neu baratoi unrhyw datws o’r Aifft mewn siop, bwyty, ffreutur, clwb, tŷ tafarn, ysgol, ysbyty, neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) i’w ddanfon at y defnyddiwr terfynol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 2 para. 31 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1