ATODLEN 2LL+C

RHAN 5LL+CMesurau i reoli Pydredd cylch tatws

Mesurau mewn perthynas â man cynhyrchu halogedigLL+C

21.—(1Rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno’r hysbysiadau a ganlyn i unrhyw feddiannydd neu berson arall sydd â gofal am fan cynhyrchu halogedig—

(a)mewn perthynas ag unrhyw gae halogedig sy’n rhan o’r man cynhyrchu, hysbysiad yn cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu neu hysbysiad yn cynnwys yr ail gyfres o fesurau dileu;

(b)mewn perthynas ag unrhyw gae sy’n rhan o’r man cynhyrchu ond nad yw’n halogedig, hysbysiad yn cynnwys y drydedd set o fesurau dileu.

(2Dyma’r set gyntaf o fesurau dileu—

(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am o leiaf dair blwyddyn dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol, ac unrhyw blanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws,

(b)gwaharddiad ar blannu unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn y cae yn ystod y cyfnod hwnnw—

(i)cloron, planhigion neu wir hadau tatws;

(ii)planhigion sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws;

(iii)cnydau lle ceir risg mewn cysylltiad â hwy y bydd Pydredd cylch tatws yn lledaenu,

(c)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta y caniateir eu plannu yn y cae yn ystod y tymor cnydio tatws cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw, a bod y tatws dim ond yn cael eu plannu os canfuwyd bod y cae yn rhydd rhag planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws am o leiaf ddwy flwyddyn dyfu yn olynol cyn plannu, a bod y cloron a gynaeafwyd yn destun profion swyddogol gan ddefnyddio’r dull a nodir yn [F1EPPO PM 7/59], a

(d)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta y caniateir eu plannu yn y cae yn ystod y tymor cnydio tatws nesaf yn dilyn cylch cylchdroi priodol (rhaid i’r cylch hwnnw fod o leiaf ddwy flynedd pan fo’r tatws i’w plannu i gynhyrchu tatws hadyd).

(3Dyma’r ail set o fesurau dileu—

(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am bedair blwyddyn dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol, a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws,

(b)gofyniad bod y cae yn cael ei gadw, yn ystod y cyfnod hwnnw, yn fraenar neu’n dir pori parhaol, gan dorri’r borfa yn fyr neu bori’r tir yn ddwys yn fynych, ac

(c)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta y caniateir eu plannu yn ystod y tymor cnydio tatws cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw, a bod y tatws dim ond yn cael eu plannu os canfuwyd bod y cae yn rhydd rhag planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws am o leiaf ddwy flwyddyn dyfu yn olynol cyn plannu, a bod y cloron a gynaeafwyd yn destun profion swyddogol gan ddefnyddio’r dull a nodir yn [F2EPPO PM 7/59].

(4Dyma’r drydedd set o fesurau dileu—

(a)pan fo arolygydd iechyd planhigion wedi ei fodloni bod y risg o blanhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws wedi ei ddileu, gwaharddiad ar blannu unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am y flwyddyn dyfu gyntaf—

(i)cloron, planhigion neu wir hadau tatws,

(ii)planhigion sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws, a

(iii)tatws hadyd ardystiedig, oni bai eu bod ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta yn unig,

(b)gofyniad mai dim ond y tatws a ganlyn y caniateir eu plannu ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta yn y flwyddyn dyfu ganlynol—

(i)tatws hadyd ardystiedig, a

(ii)tatws hadyd a brofwyd yn swyddogol ar gyfer absenoldeb Pydredd cylch tatws ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol mewn man cynhyrchu nad yw’n fan cynhyrchu halogedig,

(c)gofyniad mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol o datws hadyd ardystiedig y caniateir eu plannu i gynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta yn ystod o leiaf y drydedd flwyddyn dyfu, a

(d)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad hyd at ddiwedd y drydedd flwyddyn dyfu er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol, ac unrhyw blanhigion sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws a gofyniad bod profion swyddogol yn cael eu cynnal ar y cloron a gynaeafwyd ym mhob cae gan ddefnyddio’r dull a nodir yn [F3EPPO PM 7/59].

(5Rhaid hefyd i hysbysiad a gyflwynir gan arolygydd iechyd planhigion o dan is-baragraff (1)(a) sy’n cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu—

(a)cynnwys gofyniad bod rhaid i’r holl beiriannau a chyfleusterau storio yn y man cynhyrchu a ddefnyddir i gynhyrchu tatws gael eu glanhau a’u diheintio ar unwaith ac yn dilyn y flwyddyn dyfu gyntaf, a

(b)pennu’r dulliau priodol ar gyfer glanhau a diheintio’r peiriannau a’r cyfleusterau storio.

(6Caniateir i’r mesurau y caiff eu pennu mewn hysbysiad o dan is-baragraff (1) neu (5) gael eu cynnwys mewn hysbysiad gyda mesurau priodol eraill.

(7Rhaid i’r person y cyflwynir hysbysiad iddo yn unol ag is-baragraff (1) sicrhau bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad yn cael eu cymryd yn y modd gofynnol.

(8Pan fo arolygydd iechyd planhigion yn cyflwyno hysbysiad yn cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod arolwg swyddogol yn cael ei gynnal mewn perthynas â’r cae a grybwyllir yn is-baragraff (2)(d) yn unol ag [F4EPPO PM 7/59].