30.—(1) Caiff arolygydd iechyd planhigion neu unrhyw swyddog arall i awdurdod priodol drwy hysbysiad ysgrifenedig ei gwneud yn ofynnol i berson priodol roi i’r arolygydd neu’r swyddog, o fewn yr amser a bennir yn yr hysbysiad, unrhyw wybodaeth a all fod gan y person ynghylch—-
(a)y planhigion a dyfwyd neu’r cynhyrchion a storiwyd unrhyw bryd yn y fangre a bennir yn yr hysbysiad,
(b)unrhyw bla planhigion neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)(b), neu
(c)y personau sydd wedi cael, neu sy’n debygol o fod wedi cael, unrhyw bla planhigion neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)(b) yn eu meddiant neu o dan eu gofal.
(2) Rhaid i’r amser y mae’n ofynnol i’r wybodaeth gael ei rhoi i’r arolygydd neu’r swyddog arall o’i fewn fod yn rhesymol.
(3) Rhaid i berson priodol ddangos unrhyw awdurdodiad, datganiad swyddogol, tystysgrif, pasbort planhigion, cofnod, anfoneb neu ddogfen arall sy’n ymwneud â phla planhigion neu unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall a bennir yn yr hysbysiad i’w harchwilio gan yr arolygydd neu’r swyddog arall.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “person priodol” yw—
(a)mewn perthynas ag unrhyw fangre a bennir mewn hysbysiad o dan baragraff (1), person sy’n berchennog, yn feddiannydd neu’n berson arall sydd â gofal am y fangre,
(b)person y mae neu y bu ganddo feddiant o’r canlynol neu ofal amdanynt, neu y mae’n rhesymol i’r arolygydd neu’r swyddog amau bod ganddo, neu y bu ganddo feddiant ohonynt neu ofal amdanynt—
(i)pla planhigion a reolir,
(ii)unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall a oedd yn cario pla planhigion a reolir neu a oedd wedi ei heigio neu wedi ei heintio gan bla planhigion a reolir, neu
(iii)unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall y mae’r arolygydd neu’r swyddog yn gwybod neu’n amau eu bod wedi eu mewnforio i Gymru neu wedi eu hallforio ohoni, neu
(c)person sydd, fel arwerthwr, gwerthwr neu fel arall, wedi gwerthu pla planhigion a reolir, wedi ei gynnig ar werth neu wedi ei waredu fel arall.