xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
17.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod priodol wedi cadarnhau’n swyddogol bresenoldeb pla planhigion a reolir nad yw’n hysbys ei fod yn bresennol yng Nghymru neu bresenoldeb pla planhigion a reolir mewn ardal o Gymru lle nad oedd yn bresennol o’r blaen.
(2) Caiff awdurdod priodol drwy hysbysiad—
(a)darnodi ardal mewn perthynas â phresenoldeb y pla planhigion a reolir at ddiben dileu neu gyfyngu’r pla planhigion;
(b)pennu’r gwaharddiadau neu’r cyfyngiadau sydd i fod yn gymwys i’r ardal a ddarnodir at y diben hwnnw.
(3) O ran hysbysiad o dan baragraff (2)—
(a)rhaid iddo fod mewn ysgrifen;
(b)rhaid iddo ddisgrifio hyd a lled yr ardal a ddarnodir;
(c)rhaid iddo bennu ar ba ddyddiad y bydd unrhyw waharddiadau neu gyfyngiadau o’r fath yn cychwyn;
(d)rhaid iddo gael ei gyhoeddi mewn modd sy’n briodol i ddod ag ef i sylw’r cyhoedd;
(e)caniateir iddo gael ei ddiwygio neu ei ddirymu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, drwy hysbysiad arall.