xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
7.—(1) Rhaid i weithredwr cyfrifol llwyth a reolir sydd i’w ddwyn i Gymru drwy’r awyr fod wedi hysbysu’r awdurdod priodol y disgwylir i’r llwyth gyrraedd o leiaf bedair awr waith cyn y disgwylir iddo gyrraedd Cymru.
(2) Yn achos unrhyw lwyth a reolir sy’n cynnwys, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, logiau heb eu prosesu neu bren wedi ei lifio neu wedi ei sglodio ac sydd i’w ddwyn i Gymru wrth bwynt mynediad sydd â safle rheoli ar y ffin dros dro yn unig, rhaid i’r gweithredwr cyfrifol fod wedi hysbysu Gweinidogion Cymru fod y llwyth yn cyrraedd o leiaf dri diwrnod gwaith cyn y disgwylir iddo gyrraedd Cymru.
(3) Nid yw Erthygl 1(1) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1013 yn gymwys i unrhyw weithredwr cyfrifol ar lwyth a reolir y cyfeirir ato ym mharagraff (1) neu (2).
(4) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “awr waith” (“working hour”) yw cyfnod o un awr yn ystod diwrnod sydd yng Nghymru yn ddiwrnod gwaith, ac mae “oriau gwaith” yn cynnwys oriau yn ystod mwy nag un diwrnod gwaith;
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod, heblaw—
dydd Sadwrn neu ddydd Sul,
dydd Nadolig neu ddydd Gwener y Groglith, neu
gŵyl banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(1);
ystyr “gweithredwr cyfrifol” (“responsible operator”), mewn perthynas â llwyth a reolir, yw gweithredwr y mae’n ofynnol iddo sicrhau bod y llwyth yn cael ei gyflwyno ar gyfer rheolaethau swyddogol wrth y safle rheoli ar y ffin lle mae’r llwyth yn cyrraedd yr Undeb am y tro cyntaf yn unol ag Erthygl 47(5) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol;
ystyr “Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1013” (“Commission Implementing Regulation (EU) 2019/1013”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1013 ynghylch hysbysu ymlaen llaw fod llwythi o gategorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau yn dod i’r Undeb(2);
ystyr “safle rheoli dros dro ar y ffin” (“temporary border control post”) yw safle rheoli ar y ffin yng Nghymru sydd wedi ei esemptio o’r rhwymedigaethau yn Erthygl 64(3)(a), (c) ac (f) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol yn unol ag Erthygl 4 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1012 yn ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor drwy randdirymu’r rheolau ar ddynodi safleoedd rheoli a’r isafswm gofynion ar gyfer safleoedd rheoli ar y ffin(3).
8.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo arolygydd iechyd planhigion yn amau bod llwyth a reolir neu eitem a reoleiddir yn debygol o gael ei dwyn, neu wedi ei dwyn, i Gymru o drydedd wlad yn groes i un o reolau iechyd planhigion yr UE, neu nad yw unrhyw lwyth neu eitem o’r fath yn cydymffurfio fel arall ag un o reolau iechyd planhigion yr UE.
(2) Rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth a reolir neu’r eitem a reoleiddir—
(a)yn rhoi’r llwyth neu’r eitem yng nghadw yn swyddogol, a
(b)yn gwahardd y llwyth neu’r eitem rhag dod i diriogaeth yr Undeb,
tra disgwylir canlyniad y rheolaethau swyddogol i gadarnhau neu ddileu’r amheuaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1).
(3) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw lwyth a reolir neu eitem a reoleiddir p’un a yw eu cyrchfan derfynol yng Nghymru ai peidio.
9. Pan fo arolygydd iechyd planhigion yn amau neu’n ymwybodol nad yw llwyth a reolir wedi ei gyflwyno ar gyfer rheolaethau swyddogol yn unol ag Erthygl 47(1) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol, neu yn unol â’r gofynion eraill y cyfeirir atynt yn Erthygl 66(6) o’r Rheoliad hwnnw, rhaid i’r arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth yn adalw’r llwyth ac yn rhoi’r llwyth yng nghadw yn swyddogol.
10.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i’r canlynol—
(a)unrhyw lwyth a reolir neu eitem a reoleiddir sydd, ym marn arolygydd iechyd planhigion, wedi eu dwyn i Gymru o drydedd wlad yn groes i un o reolau iechyd planhigion yr UE,
(b)unrhyw lwyth a reolir neu eitem a reoleiddir a ddygwyd i Gymru o drydedd wlad ac nad yw fel arall yn cydymffurfio ag un o reolau iechyd planhigion yr UE, neu
(c)unrhyw lwyth a ddygwyd i Gymru o drydedd wlad ac sydd, ym marn arolygydd iechyd planhigion, yn peri risg i iechyd planhigion yng Nghymru neu i unrhyw ran arall o diriogaeth yr Undeb.
(2) Rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth neu’r eitem—
(a)yn rhoi’r llwyth neu’r eitem yng nghadw yn swyddogol, a
(b)yn nodi’r mesurau y mae’n rhaid i’r gweithredwr eu cymryd mewn perthynas â’r llwyth neu’r eitem.
11.—(1) Caiff hysbysiad o dan reoliad 8, 9 neu 10 gynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
(a)y mesurau y mae’n rhaid i’r gweithredwr cyfrifol eu cymryd mewn perthynas â’r llwyth neu’r eitem i ynysu’r llwyth neu’r eitem neu eu gosod mewn cwarantin, neu i ymdrin fel arall â’r risg i iechyd planhigion sy’n deillio o’r llwyth neu’r eitem;
(b)pan fo arolygydd iechyd planhigion yn ei gwneud yn ofynnol i’r llwyth neu’r eitem gael eu dinistrio neu eu gwaredu fel arall, eu hailallforio neu eu trin, y mesurau y mae’n rhaid i’r gweithredwr cyfrifol eu cymryd i ddinistrio’r llwyth neu’r eitem neu i’w gwaredu fel arall, i’w hailallforio neu i’w trin;
(c)unrhyw fesurau eraill y mae’r arolygydd iechyd planhigion o’r farn eu bod yn briodol yng ngoleuni’r toriad tybiedig neu hysbys neu’r risg i iechyd planhigion yng Nghymru neu i unrhyw ran arall o diriogaeth yr Undeb sy’n deillio o’r llwyth neu’r eitem.
(2) Ym mharagraff (1), mae “gweithredwr cyfrifol” i’w ddehongli yn unol â rheoliad 8, 9 neu 10 (yn ôl y digwydd).
12.—(1) Caiff yr awdurdod priodol roi trwydded sy’n awdurdodi—
(a)defnyddio cyfleuster a leolir o fewn safle rheoli ar y ffin yn ganolfan arolygu at ddibenion cyflawni rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill ar lwythi a reolir ac eitemau eraill a reoleiddir pan fyddant yn cyrraedd y safle rheoli ar y ffin;
(b)defnyddio cyfleusterau storio masnachol o fewn cyffiniau agos safle rheoli ar y ffin yn fan lle y gellir cynnal gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol ar lwythi a reolir ac eitemau eraill a reoleiddir pan fyddant yn cyrraedd y safle rheoli ar y ffin.
(2) Rhaid i gais am drwydded gael ei wneud i’r awdurdod priodol gan weithredwr y cyfleuster neu’r cyfleusterau storio masnachol yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan yr awdurdod priodol.
(3) Dim ond os yw’r awdurdod priodol wedi ei fodloni bod y cyfleuster yn cydymffurfio â’r gofynion a bennir mewn cysylltiad â chanolfannau arolygu yn Erthygl 8 o Reoliad (EU) 2019/1014 y caniateir rhoi trwydded o dan baragraff (1)(a).
(4) Dim ond os yw’r awdurdod priodol wedi ei fodloni bod y cyfleusterau storio masnachol yn cydymffurfio â’r gofynion a bennir mewn cysylltiad â chyfleusterau storio masnachol yn Erthygl 3(11) o Reoliad (EU) 2019/1014 y caniateir rhoi trwydded o dan baragraff (1)(b).
(5) Rhaid i drwydded a roddir o dan baragraff (1)(a) neu (b) fod mewn ysgrifen a chaniateir iddo gael ei roi—
(a)o dan amodau;
(b)am gyfnod amhenodol ynteu am gyfnod penodol.
(6) Caiff trwydded a roddir o dan baragraff (1)(a) neu (b) gynnwys darpariaeth yn caniatáu i’r awdurdod priodol addasu, atal neu ddirymu’r drwydded unrhyw bryd drwy hysbysiad ysgrifenedig.
(7) Yn y rheoliad hwn, ystyr “Rheoliad (EU) 2019/1014” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1014 i osod rheolau manwl ynghylch yr isafswm gofynion ar gyfer safleoedd rheoli ar y ffin, gan gynnwys canolfannau arolygu, ac ar gyfer y fformat, y categorïau a’r byrfoddau sydd i’w defnyddio i restru safleoedd rheoli ar y ffin a phwyntiau rheoli(4).
13.—(1) Yn ystod y cyfnod perthnasol caiff yr awdurdod priodol awdurdodi—
(a)cludo llwyth a reolir i fan arolygu a gymeradwywyd, a
(b)cyflawni gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion gan arolygydd iechyd planhigion mewn man arolygu a gymeradwywyd.
(2) Rhaid i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth a reolir ac a fwriedir ar gyfer man arolygu a gymeradwywyd—
(a)rhoi i’r awdurdod priodol y manylion a nodir ym mharagraff (3) drwy hysbysiad ysgrifenedig heb fod yn hwyrach na thri diwrnod gwaith cyn i’r llwyth gyrraedd Cymru,
(b)sicrhau bod y llwyth, ei becyn a’r cerbyd y caiff ei gludo ynddo yn cael eu cau neu eu selio yn y fath fodd fel nad oes risg i’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau yn y llwyth achosi heigiad, haint neu halogiad na risg y bydd newid yn digwydd yng nghynnwys y llwyth, ac
(c)sicrhau bod dogfen symud iechyd planhigion yn cyd-fynd â’r llwyth.
(3) Dyma’r manylion—
(a)enw, cyfeiriad a lleoliad y man arolygu a gymeradwywyd y mae’r llwyth wedi ei fwriadu iddo,
(b)y dyddiad a’r amser y trefnwyd i’r llwyth gyrraedd y man y cyfeirir ato yn is-baragraff (a),
(c)os yw ar gael, rhif cyfresol unigol y ddogfen symud iechyd planhigion mewn perthynas â’r llwyth hwnnw,
(d)os ydynt ar gael, y dyddiad a’r man y lluniwyd y ddogfen symud iechyd planhigion,
(e)enw, cyfeiriad a rhif cofrestru’r gweithredwr, ac
(f)rhif cyfeirnod y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n ofynnol mewn perthynas â’r llwyth yn unol ag Erthygl 72(1) neu 74(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE.
(4) Rhaid i’r gweithredwr hysbysu’r awdurdod priodol ar unwaith mewn ysgrifen am unrhyw newidiadau yn y manylion y mae’r gweithredwr wedi eu rhoi o dan baragraff (2)(a).
(5) Rhaid i’r hysbysiad gael ei roi i’r awdurdod priodol yn y cyfeiriad a roddir gan yr awdurdod priodol o bryd i’w gilydd at ddibenion y rheoliad hwn.
(6) At ddibenion paragraff (1) caiff awdurdod priodol gymeradwyo man y mae llwyth a reolir wedi ei fwriadu ar ei gyfer fel man lle y caniateir i wiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion gael eu cyflawni gan arolygydd iechyd planhigion yn ystod y cyfnod perthnasol.
(7) Rhaid i gais am gymeradwyaeth o dan baragraff (6) gael ei wneud i’r awdurdod priodol yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan yr awdurdod priodol.
(8) Caniateir i gymeradwyaeth gael ei rhoi o dan amodau, gan gynnwys amodau ynglŷn â storio llwythi a reolir, a chaniateir ei thynnu’n ôl unrhyw bryd os nad yw’r awdurdod priodol bellach yn credu bod y man y mae’r gymeradwyaeth yn ymwneud ag ef yn addas at y diben y rhoddwyd y gymeradwyaeth ar ei gyfer.
(9) Dim ond os yw’r man wedi ei gymeradwyo gan Gomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i’w ddefnyddio’n gyfleuster storio dros dro y caiff yr awdurdod priodol gymeradwyo man fel man arolygu a gymeradwywyd.
(10) Yn y rheoliad hwn—
mae i “awr waith” (“working hour”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 7(4);
ystyr “cyfleuster storio dros dro” (“temporary storage facility”) yw cyfleuster storio dros dro o fewn ystyr Erthygl 148 o Reoliad (EU) Rhif 952/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor yn gosod Cod Tollau’r Undeb(5);
ystyr “cyfnod perthnasol” (“relevant period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy’n diweddu yn union cyn 14 Rhagfyr 2020;
ystyr “dogfen symud iechyd planhigion” (“plant health movement document”) yw dogfen ar y ffurf a nodir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/103/EC ynghylch gwiriadau adnabod planhigion a gwiriadau iechyd planhigion ar blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill, a restrir yn Rhan B o Atodiad V i Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC, a all gael eu cyflawni mewn man heblaw’r pwynt mynediad i’r Gymuned neu mewn man gerllaw ac sy’n pennu’r amodau sy’n gysylltiedig â’r gwiriadau hyn(6);
ystyr “man arolygu a gymeradwywyd” (“approved place of inspection”) yw man a gymeradwywyd yn fan arolygu gan awdurdod priodol o dan erthygl 17(1) o Orchymyn 2005 neu Orchymyn 2018 cyn y dyddiad cychwyn ac sy’n dal wedi ei gymeradwyo yn rhinwedd rheoliad 54(1), neu fan a gymeradwywyd o dan baragraff (6).
1971 p. 80, y ceir diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
OJ Rhif L 165, 21.6.2019, t. 8.
OJ Rhif L 165, 21.6.2019, t. 4.
OJ Rhif L 165, 21.6.2019, t. 10.
OJ Rhif L 269, 10.10.2013, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) 2019/632 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 111, 25.4.2019, t. 54).
OJ Rhif L 313, 12.10.2004, t. 16.