xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 206 (Cy. 48)

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Iechyd Planhigion, Cymru

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020

Gwnaed

2 Mawrth 2020

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

5 Mawrth 2020

Yn dod i rym

27 Mawrth 2020

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) (“Deddf 1972”) mewn perthynas â’r polisi amaethyddol cyffredin(2) a mesurau sy’n ymwneud â rheoli a rheoleiddio gollwng yn fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig, eu rhoi ar y farchnad a’u symud ar draws ffiniau(3).

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf 1972, a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i’r cyfeiriadau at Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2072 yn sefydlu amodau unffurf i weithredu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, o ran mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion(4), ac at offerynnau’r Undeb Ewropeaidd a grybwyllir yn rheoliad 3(1), gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

RHAN 1Rhagymadrodd

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 27 Mawrth 2020.

Dehongli: cyffredinol

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “arolygydd iechyd planhigion” (“plant health inspector”) yw swyddog iechyd planhigion swyddogol a benodir gan Weinidogion Cymru;

ystyr “awdurdod priodol” (“appropriate authority”) yw Gweinidogion Cymru, ac mae i’w ddehongli yn unol â rheoliad 6;

ystyr “Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC” (“Council Directive 2000/29/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ynghylch mesurau i ddiogelu rhag cyflwyno i’r Gymuned organeddau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion a rhag eu lledaenu yn y Gymuned(5);

ystyr “Cymru” (“Wales”) yw ardal gyfunol y siroedd a’r bwrdeistrefi sirol yng Nghymru (gweler Rhannau 1 a 2 o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(6));

ystyr “dyddiad cychwyn” (“commencement date”) yw’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym;

ystyr “eitem a reoleiddir” (“regulated item”) yw—

(a)

unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall y mae un o reolau iechyd planhigion yr UE yn gymwys iddynt, heblaw unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall sy’n rhan o lwyth a reolir, neu

(b)

pla planhigion a reolir;

ystyr “Gorchymyn 2005” (“the 2005 Order”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005(7);

ystyr “Gorchymyn 2018” (“the 2018 Order”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018(8);

ystyr “llwyth a reolir” (“controlled consignment”) yw llwyth sy’n cynnwys unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall—

(a)

na chaniateir dod â hwy i diriogaeth yr Undeb heb dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn unol â’r canlynol—

(i)

Erthygl 72 neu 74 o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE,

(ii)

penderfyniad brys gan yr UE, neu

(iii)

unrhyw un arall o reolau iechyd planhigion yr UE, heblaw Erthygl 73 o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, neu

(b)

a allforiwyd o diriogaeth yr Undeb i drydedd wlad ac sy’n dychwelyd i diriogaeth yr Undeb ar ôl i’r drydedd wlad honno wrthod mynediad i’r wlad iddynt;

ystyr “penderfyniad brys gan yr UE” (“EU emergency decision”) yw offeryn y cyfeirir ato yn rheoliad 3(1);

ystyr “pla planhigion” (“plant pest”) yw pla a fewn yr ystyr a roddir yn Erthygl 1(1) a (2) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE;

ystyr “pla planhigion a reolir” (“controlled plant pest”) yw—

(a)

pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodiad 2, 3 neu 4 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol,

(b)

pla planhigion o ddisgrifiad a bennir mewn penderfyniad brys gan yr UE, neu

(c)

pla planhigion sy’n destun unrhyw un arall o reolau iechyd planhigion yr UE;

ystyr “Rheoliad Amodau Ffytoiechydol” (“Phytosanitary Conditions Regulation”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2072 yn sefydlu amodau unffurf i weithredu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, o ran mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion(9);

ystyr “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE” (“EU Plant Health Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion(10);

ystyr “Rheoliad Rheolaethau Swyddogol” (“Official Controls Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion i ddiogelu planhigion, i’r graddau y mae’n gymwys i reolau iechyd planhigion yr UE(11);

ystyr “SRFFf 15” (“ISPM 15”) yw’r Safon Ryngwladol ar Fesurau Ffytoiechydol Rhif 15 dyddiedig Mawrth 2002 ynghylch Canllawiau ynglŷn â rheoleiddio deunydd pecynnu pren mewn masnach ryngwladol, a baratowyd gan Ysgrifenyddiaeth y Confensiwn Rhyngwladol ar Warchod Planhigion a sefydlwyd gan Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig(12);

ystyr “un o reolau iechyd planhigion yr UE” (“EU plant health rule”) yw rheol o fewn yr ystyr a roddir yn Erthygl 1(2)(g) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.

(2Oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae i eiriau ac ymadroddion sydd heb eu diffinio yn y Rheoliadau hyn ac y mae’r geiriau ac ymadroddion Saesneg cyfatebol yn ymddangos yn Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd gan y geiriau ac ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol (yn ôl y digwydd).

Dehongli: offerynnau’r UE ynglŷn ag iechyd planhigion

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Penderfyniad y Comisiwn 98/109/EC” (“Commission Decision 98/109/EC”) yw Penderfyniad y Comisiwn 98/109/EC yn awdurdodi’r Aelod-wladwriaethau dros dro i gymryd mesurau brys rhag lledaenu Thrips palmi Karny o ran Gwlad Thai(13);

ystyr “Penderfyniad y Comisiwn 2002/757/EC” (“Commission Decision 2002/757/EC”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2002/757/EC ynghylch mesurau ffytoiechydol brys dros dro i atal Phytophthora ramorum Werres, De Cock & Man in ‘t Veld sp. nov.(14) rhag cael ei gyflwyno i’r Gymuned a lledaenu ynddi;

ystyr “Penderfyniad y Comisiwn 2004/200/EC” (“Commission Decision 2004/200/EC”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2004/200/EC ynghylch mesurau i atal Firws amryliw pepino(15) rhag cael ei gyflwyno i’r Gymuned a lledaenu ynddi;

ystyr “Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2011/787/EU” (“Commission Implementing Decision 2011/787/EU”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2011/787/EU yn awdurdodi’r Aelod-wladwriaethau dros dro i gymryd mesurau brys rhag lledaenu Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. o ran yr Aifft(16);

ystyr “Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/138/EU” (“Commission Implementing Decision 2012/138/EU”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/138/EU o ran mesurau brys i atal Anoplophora chinensis (Forster)(17) rhag cael ei gyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo;

ystyr “Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/270/EU” (“Commission Implementing Decision 2012/270/EU”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/270/EU o ran mesurau brys i atal Epitrix cucumeris (Harris), Epitrix papa sp.n., Epitrix subcrinita (Lec.) ac Epitrix tuberis (Gentner)(18) rhag cael eu cyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo;

ystyr “Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/535/EU” (“Commission Implementing Decision 2012/535/EU”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/535/EU ynghylch mesurau brys i atal Bursaphelenchus xylophilus (Steiner et Buhrer) Nickle et al. (llyngyr coed pin)(19) rhag cael ei ledaenu yn yr Undeb;

ystyr “Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/697/EU” (“Commission Implementing Decision 2012/697/EU”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/697/EU o ran mesurau i atal y genws Pomacea (Perry)(20) rhag cael ei gyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo;

ystyr “Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/789” (“Commission Implementing Decision (EU) 2015/789”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/789 o ran mesurau i atal Xylella fastidiosa (Wells et al.)(21) rhag cael ei gyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo;

ystyr “Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/893” (“Commission Implementing Decision (EU) 2015/893”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/893 o ran mesurau i atal Anoplophora glabripennis (Motschulsky)(22) rhag cael ei gyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo;

ystyr “Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/715” (“Commission Implementing Decision (EU) 2016/715”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/715 yn nodi mesurau o ran ffrwythau penodol sy’n tarddu o drydydd gwledydd penodol i atal yr organeb niweidiol Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa.(23) rhag cael ei gyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo;

ystyr “Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/198” (“Commission Implementing Decision (EU) 2017/198”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/198 o ran mesurau i atal Pseudomonas syringae pv. actinidiae Takikawa, Serizawa, Ichikawa, Tsuyuma & Goto(24) rhag cael ei gyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo;

ystyr “Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/638” (“Commission Implementing Decision (EU) 2018/638”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/638 yn sefydlu mesurau brys i atal yr organedd niweidiol Spodoptera frugiperda (Smith)(25) rhag cael ei gyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo;

ystyr “Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/1503” (“Commission Implementing Decision (EU) 2018/1503”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/1503 yn sefydlu mesurau i atal Aromia bungii (Faldermann)(26) rhag cael ei gyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo;

ystyr “Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1615” (“Commission Implementing Decision (EU) 2019/1615”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1615 yn sefydlu mesurau brys i atal Firws ffrwythau crychlyd coch tomatos (ToBRFV)(27) rhag cael ei gyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo;

ystyr “Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1739” (“Commission Implementing Decision (EU) 2019/1739”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1739 yn sefydlu mesurau brys i atal Firws Rhoséd Rhosynnau(28) rhag cael ei gyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo;

ystyr “Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2032” (“Commission Implementing Decision (EU) 2019/2032”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2032 yn sefydlu mesurau i atal Fusarium circinatum Nirenberg & O’Donnell (Gibberella circinata gynt)(29) rhag cael ei gyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo.

(2Mae cyfeiriadau at y Rheoliad Amodau Ffytoiechydol ac at offerynnau’r Undeb Ewropeaidd y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) i’w dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Mesurau a fabwysiedir yn unol ag Erthygl 30(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE

4.  Mae unrhyw gyfeiriad yn Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE at bla sy’n destun y mesurau a fabwysiedir yn unol ag Erthygl 30(1) yn cynnwys y plâu planhigion a ganlyn—

(a)Epitrix cucumeris (Harris), Epitrix papa. (Orlova-Bienkowskaja), Epitrix subcrinita (Lec.) neu Epitrix tuberis (Gentner);

(b)Pseudomonas syringae pv. actinidiae Takikawa, Serizawa, Ichikawa, Tsuyuma & Goto;

(c)Firws rhoséd rhosynnau;

(d)Firws ffrwythau crychlyd coch tomatos.

Erthygl 82 o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE: ystyr “close proximity”

5.—(1At ddibenion Erthygl 82 o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, bernir bod mangre gweithredwr cofrestredig yn un sy’n agos at fangreoedd eraill i’r gweithredwr hwnnw, yn yr ystyr a roddir i “close proximity”, os oes unrhyw bwynt ar ffin ei man gweithredol, neu ar ffin unrhyw un neu ragor o’i fannau gweithredol, o fewn deng milltir i unrhyw bwynt ar ffin y man gweithredol, neu ar ffin unrhyw un neu ragor o’r mannau gweithredol, o’r fangre arall

(2Ym mharagraff (1), ystyr “man gweithredol”, mewn perthynas â mangre gweithredwr cofrestredig, yw—

(a)yn achos mangre a ddefnyddir yn llwyr gan y gweithredwr cofrestredig i gyflawni un neu ragor o’r gweithgareddau a grybwyllir yn Erthygl 65(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, y man sy’n ffurfio’r fangre honno;

(b)yn achos unrhyw fangre arall a ddefnyddir gan y gweithredwr cofrestredig i gyflawni un neu ragor o’r gweithgareddau a grybwyllir yn Erthygl 65(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, man o fewn y fangre a ddefnyddir gan y gweithredwr cofrestredig i gyflawni unrhyw un neu ragor o’r gweithgareddau hynny.

RHAN 2Awdurdodau cymwys: iechyd planhigion

Dynodi awdurdodau cymwys

6.—(1Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi fel yr awdurdod cymwys sy’n gyfrifol am drefnu a chyflawni rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill yng Nghymru i’r graddau y maent yn ymwneud â’r canlynol—

(a)plâu planhigion, planhigion, plâu coed, coed, deunydd coedwigaeth neu ddeunydd nad yw’n ddeunydd coedwigaeth, neu

(b)gweithredwyr proffesiynol coedwigaeth neu weithredwyr proffesiynol eraill.

(2Yn y rheoliad hwn—

ystyr “coeden” (“tree”) yw coeden neu lwyn byw, neu ran fyw o goeden neu lwyn, ar unrhyw gyfnod yn eu tyfiant;

ystyr “deunydd coedwigaeth” (“forestry material”) yw—

(a)

pren sy’n cadw rhan neu’r cyfan o’i arwyneb crwn naturiol, gyda rhisgl neu hebddo;

(b)

pren ar ffurf sglodion, gronynnau, naddion, blawd llif, gwastraff neu sgrap pren;

(c)

coed conwydd dros 3m o uchder;

(d)

rhisgl sydd wedi ei dynnu neu sydd wedi datgysylltu oddi ar goeden fyw, coeden a gwympwyd neu goeden a syrthiodd, neu oddi ar ran o un o’r rhain;

ystyr “deunydd nad yw’n ddeunydd coedwigaeth” (“non-forestry material”) yw planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill, heblaw deunydd coedwigaeth;

ystyr “deunydd pecynnu pren” (“wood packaging material”) yw pren neu gynhyrchion pren (ac eithrio cynhyrchion papur) a ddefnyddir, neu y bwriedir eu defnyddio, i gynnal, diogelu neu gario nwydd o unrhyw fath, gan gynnwys pacin;

ystyr “gweithredwr proffesiynol coedwigaeth” (“forestry professional operator”) yw gweithredwr proffesiynol sy’n cyflawni un neu ragor o’r gweithgareddau a ganlyn, ond nid unrhyw weithgareddau eraill a ddisgrifir yn Erthygl 2(9) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE—

(a)

cyflwyno deunydd coedwigaeth i Gymru;

(b)

storio, agregu neu symud deunydd coedwigaeth yng Nghymru, symud deunydd coedwigaeth i Gymru o ran arall o diriogaeth yr Undeb neu symud deunydd coedwigaeth o Gymru i ran arall o diriogaeth yr Undeb;

(c)

allforio deunydd coedwigaeth o Gymru i drydedd wlad;

(d)

trin a marcio deunydd pecynnu pren neu ddeunydd coedwigaeth yn unol ag Atodiad 1 i SRFFf 15 neu drwsio deunydd pecynnu pren yng Nghymru;

(e)

cyflwyno plâu coed i Gymru, symud plâu coed yng Nghymru neu ddal neu luosi plâu coed yng Nghymru, at ddibenion profion swyddogol, dibenion gwyddonol neu addysgol, treialon, dewis neu fridio amrywogaethau;

(f)

cyflwyno coed neu ddeunydd coedwigaeth i Gymru neu symud coed neu ddeunydd coedwigaeth yng Nghymru, i’w defnyddio at ddibenion profion swyddogol, dibenion gwyddonol neu addysgol, treialon, dewis neu fridio amrywogaethau;

ystyr “pla coed” (“tree pest”) yw pla planhigion sy’n niweidiol i goed neu bren.

RHAN 3Rheolaethau swyddogol ar lwythi a reolir o drydydd gwledydd a rheolaethau swyddogol eraill ar nwyddau o drydydd gwledydd

Rhanddirymu’r gofyniad i roi hysbysiad ymlaen llaw yn unol ag Erthygl 1(1) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1013

7.—(1Rhaid i weithredwr cyfrifol llwyth a reolir sydd i’w ddwyn i Gymru drwy’r awyr fod wedi hysbysu’r awdurdod priodol y disgwylir i’r llwyth gyrraedd o leiaf bedair awr waith cyn y disgwylir iddo gyrraedd Cymru.

(2Yn achos unrhyw lwyth a reolir sy’n cynnwys, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, logiau heb eu prosesu neu bren wedi ei lifio neu wedi ei sglodio ac sydd i’w ddwyn i Gymru wrth bwynt mynediad sydd â safle rheoli ar y ffin dros dro yn unig, rhaid i’r gweithredwr cyfrifol fod wedi hysbysu Gweinidogion Cymru fod y llwyth yn cyrraedd o leiaf dri diwrnod gwaith cyn y disgwylir iddo gyrraedd Cymru.

(3Nid yw Erthygl 1(1) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1013 yn gymwys i unrhyw weithredwr cyfrifol ar lwyth a reolir y cyfeirir ato ym mharagraff (1) neu (2).

(4Yn y rheoliad hwn—

ystyr “awr waith” (“working hour”) yw cyfnod o un awr yn ystod diwrnod sydd yng Nghymru yn ddiwrnod gwaith, ac mae “oriau gwaith” yn cynnwys oriau yn ystod mwy nag un diwrnod gwaith;

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod, heblaw—

(a)

dydd Sadwrn neu ddydd Sul,

(b)

dydd Nadolig neu ddydd Gwener y Groglith, neu

(c)

gŵyl banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(30);

ystyr “gweithredwr cyfrifol” (“responsible operator”), mewn perthynas â llwyth a reolir, yw gweithredwr y mae’n ofynnol iddo sicrhau bod y llwyth yn cael ei gyflwyno ar gyfer rheolaethau swyddogol wrth y safle rheoli ar y ffin lle mae’r llwyth yn cyrraedd yr Undeb am y tro cyntaf yn unol ag Erthygl 47(5) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol;

ystyr “Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1013” (“Commission Implementing Regulation (EU) 2019/1013”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1013 ynghylch hysbysu ymlaen llaw fod llwythi o gategorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau yn dod i’r Undeb(31);

ystyr “safle rheoli dros dro ar y ffin” (“temporary border control post”) yw safle rheoli ar y ffin yng Nghymru sydd wedi ei esemptio o’r rhwymedigaethau yn Erthygl 64(3)(a), (c) ac (f) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol yn unol ag Erthygl 4 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1012 yn ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor drwy randdirymu’r rheolau ar ddynodi safleoedd rheoli a’r isafswm gofynion ar gyfer safleoedd rheoli ar y ffin(32).

Amau bod diffyg cydymffurfiaeth

8.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo arolygydd iechyd planhigion yn amau bod llwyth a reolir neu eitem a reoleiddir yn debygol o gael ei dwyn, neu wedi ei dwyn, i Gymru o drydedd wlad yn groes i un o reolau iechyd planhigion yr UE, neu nad yw unrhyw lwyth neu eitem o’r fath yn cydymffurfio fel arall ag un o reolau iechyd planhigion yr UE.

(2Rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth a reolir neu’r eitem a reoleiddir—

(a)yn rhoi’r llwyth neu’r eitem yng nghadw yn swyddogol, a

(b)yn gwahardd y llwyth neu’r eitem rhag dod i diriogaeth yr Undeb,

tra disgwylir canlyniad y rheolaethau swyddogol i gadarnhau neu ddileu’r amheuaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1).

(3Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw lwyth a reolir neu eitem a reoleiddir p’un a yw eu cyrchfan derfynol yng Nghymru ai peidio.

Llwythi sydd heb eu cyflwyno’n gywir ar gyfer rheolaethau swyddogol

9.  Pan fo arolygydd iechyd planhigion yn amau neu’n ymwybodol nad yw llwyth a reolir wedi ei gyflwyno ar gyfer rheolaethau swyddogol yn unol ag Erthygl 47(1) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol, neu yn unol â’r gofynion eraill y cyfeirir atynt yn Erthygl 66(6) o’r Rheoliad hwnnw, rhaid i’r arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth yn adalw’r llwyth ac yn rhoi’r llwyth yng nghadw yn swyddogol.

Mesurau swyddogol mewn perthynas â llwythi nad ydynt yn cydymffurfio neu lwythi sy’n peri risg i iechyd planhigion

10.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i’r canlynol—

(a)unrhyw lwyth a reolir neu eitem a reoleiddir sydd, ym marn arolygydd iechyd planhigion, wedi eu dwyn i Gymru o drydedd wlad yn groes i un o reolau iechyd planhigion yr UE,

(b)unrhyw lwyth a reolir neu eitem a reoleiddir a ddygwyd i Gymru o drydedd wlad ac nad yw fel arall yn cydymffurfio ag un o reolau iechyd planhigion yr UE, neu

(c)unrhyw lwyth a ddygwyd i Gymru o drydedd wlad ac sydd, ym marn arolygydd iechyd planhigion, yn peri risg i iechyd planhigion yng Nghymru neu i unrhyw ran arall o diriogaeth yr Undeb.

(2Rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth neu’r eitem—

(a)yn rhoi’r llwyth neu’r eitem yng nghadw yn swyddogol, a

(b)yn nodi’r mesurau y mae’n rhaid i’r gweithredwr eu cymryd mewn perthynas â’r llwyth neu’r eitem.

Hysbysiadau o dan reoliad 8, 9 neu 10

11.—(1Caiff hysbysiad o dan reoliad 8, 9 neu 10 gynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)y mesurau y mae’n rhaid i’r gweithredwr cyfrifol eu cymryd mewn perthynas â’r llwyth neu’r eitem i ynysu’r llwyth neu’r eitem neu eu gosod mewn cwarantin, neu i ymdrin fel arall â’r risg i iechyd planhigion sy’n deillio o’r llwyth neu’r eitem;

(b)pan fo arolygydd iechyd planhigion yn ei gwneud yn ofynnol i’r llwyth neu’r eitem gael eu dinistrio neu eu gwaredu fel arall, eu hailallforio neu eu trin, y mesurau y mae’n rhaid i’r gweithredwr cyfrifol eu cymryd i ddinistrio’r llwyth neu’r eitem neu i’w gwaredu fel arall, i’w hailallforio neu i’w trin;

(c)unrhyw fesurau eraill y mae’r arolygydd iechyd planhigion o’r farn eu bod yn briodol yng ngoleuni’r toriad tybiedig neu hysbys neu’r risg i iechyd planhigion yng Nghymru neu i unrhyw ran arall o diriogaeth yr Undeb sy’n deillio o’r llwyth neu’r eitem.

(2Ym mharagraff (1), mae “gweithredwr cyfrifol” i’w ddehongli yn unol â rheoliad 8, 9 neu 10 (yn ôl y digwydd).

Safleoedd rheoli ar y ffin: awdurdodi canolfannau arolygu a chyfleusterau storio masnachol

12.—(1Caiff yr awdurdod priodol roi trwydded sy’n awdurdodi—

(a)defnyddio cyfleuster a leolir o fewn safle rheoli ar y ffin yn ganolfan arolygu at ddibenion cyflawni rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill ar lwythi a reolir ac eitemau eraill a reoleiddir pan fyddant yn cyrraedd y safle rheoli ar y ffin;

(b)defnyddio cyfleusterau storio masnachol o fewn cyffiniau agos safle rheoli ar y ffin yn fan lle y gellir cynnal gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol ar lwythi a reolir ac eitemau eraill a reoleiddir pan fyddant yn cyrraedd y safle rheoli ar y ffin.

(2Rhaid i gais am drwydded gael ei wneud i’r awdurdod priodol gan weithredwr y cyfleuster neu’r cyfleusterau storio masnachol yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan yr awdurdod priodol.

(3Dim ond os yw’r awdurdod priodol wedi ei fodloni bod y cyfleuster yn cydymffurfio â’r gofynion a bennir mewn cysylltiad â chanolfannau arolygu yn Erthygl 8 o Reoliad (EU) 2019/1014 y caniateir rhoi trwydded o dan baragraff (1)(a).

(4Dim ond os yw’r awdurdod priodol wedi ei fodloni bod y cyfleusterau storio masnachol yn cydymffurfio â’r gofynion a bennir mewn cysylltiad â chyfleusterau storio masnachol yn Erthygl 3(11) o Reoliad (EU) 2019/1014 y caniateir rhoi trwydded o dan baragraff (1)(b).

(5Rhaid i drwydded a roddir o dan baragraff (1)(a) neu (b) fod mewn ysgrifen a chaniateir iddo gael ei roi—

(a)o dan amodau;

(b)am gyfnod amhenodol ynteu am gyfnod penodol.

(6Caiff trwydded a roddir o dan baragraff (1)(a) neu (b) gynnwys darpariaeth yn caniatáu i’r awdurdod priodol addasu, atal neu ddirymu’r drwydded unrhyw bryd drwy hysbysiad ysgrifenedig.

(7Yn y rheoliad hwn, ystyr “Rheoliad (EU) 2019/1014” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1014 i osod rheolau manwl ynghylch yr isafswm gofynion ar gyfer safleoedd rheoli ar y ffin, gan gynnwys canolfannau arolygu, ac ar gyfer y fformat, y categorïau a’r byrfoddau sydd i’w defnyddio i restru safleoedd rheoli ar y ffin a phwyntiau rheoli(33).

Darpariaeth drosiannol: mannau arolygu a gymeradwywyd

13.—(1Yn ystod y cyfnod perthnasol caiff yr awdurdod priodol awdurdodi—

(a)cludo llwyth a reolir i fan arolygu a gymeradwywyd, a

(b)cyflawni gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion gan arolygydd iechyd planhigion mewn man arolygu a gymeradwywyd.

(2Rhaid i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth a reolir ac a fwriedir ar gyfer man arolygu a gymeradwywyd—

(a)rhoi i’r awdurdod priodol y manylion a nodir ym mharagraff (3) drwy hysbysiad ysgrifenedig heb fod yn hwyrach na thri diwrnod gwaith cyn i’r llwyth gyrraedd Cymru,

(b)sicrhau bod y llwyth, ei becyn a’r cerbyd y caiff ei gludo ynddo yn cael eu cau neu eu selio yn y fath fodd fel nad oes risg i’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau yn y llwyth achosi heigiad, haint neu halogiad na risg y bydd newid yn digwydd yng nghynnwys y llwyth, ac

(c)sicrhau bod dogfen symud iechyd planhigion yn cyd-fynd â’r llwyth.

(3Dyma’r manylion—

(a)enw, cyfeiriad a lleoliad y man arolygu a gymeradwywyd y mae’r llwyth wedi ei fwriadu iddo,

(b)y dyddiad a’r amser y trefnwyd i’r llwyth gyrraedd y man y cyfeirir ato yn is-baragraff (a),

(c)os yw ar gael, rhif cyfresol unigol y ddogfen symud iechyd planhigion mewn perthynas â’r llwyth hwnnw,

(d)os ydynt ar gael, y dyddiad a’r man y lluniwyd y ddogfen symud iechyd planhigion,

(e)enw, cyfeiriad a rhif cofrestru’r gweithredwr, ac

(f)rhif cyfeirnod y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n ofynnol mewn perthynas â’r llwyth yn unol ag Erthygl 72(1) neu 74(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE.

(4Rhaid i’r gweithredwr hysbysu’r awdurdod priodol ar unwaith mewn ysgrifen am unrhyw newidiadau yn y manylion y mae’r gweithredwr wedi eu rhoi o dan baragraff (2)(a).

(5Rhaid i’r hysbysiad gael ei roi i’r awdurdod priodol yn y cyfeiriad a roddir gan yr awdurdod priodol o bryd i’w gilydd at ddibenion y rheoliad hwn.

(6At ddibenion paragraff (1) caiff awdurdod priodol gymeradwyo man y mae llwyth a reolir wedi ei fwriadu ar ei gyfer fel man lle y caniateir i wiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion gael eu cyflawni gan arolygydd iechyd planhigion yn ystod y cyfnod perthnasol.

(7Rhaid i gais am gymeradwyaeth o dan baragraff (6) gael ei wneud i’r awdurdod priodol yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan yr awdurdod priodol.

(8Caniateir i gymeradwyaeth gael ei rhoi o dan amodau, gan gynnwys amodau ynglŷn â storio llwythi a reolir, a chaniateir ei thynnu’n ôl unrhyw bryd os nad yw’r awdurdod priodol bellach yn credu bod y man y mae’r gymeradwyaeth yn ymwneud ag ef yn addas at y diben y rhoddwyd y gymeradwyaeth ar ei gyfer.

(9Dim ond os yw’r man wedi ei gymeradwyo gan Gomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i’w ddefnyddio’n gyfleuster storio dros dro y caiff yr awdurdod priodol gymeradwyo man fel man arolygu a gymeradwywyd.

(10Yn y rheoliad hwn—

mae i “awr waith” (“working hour”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 7(4);

ystyr “cyfleuster storio dros dro” (“temporary storage facility”) yw cyfleuster storio dros dro o fewn ystyr Erthygl 148 o Reoliad (EU) Rhif 952/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor yn gosod Cod Tollau’r Undeb(34);

ystyr “cyfnod perthnasol” (“relevant period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy’n diweddu yn union cyn 14 Rhagfyr 2020;

ystyr “dogfen symud iechyd planhigion” (“plant health movement document”) yw dogfen ar y ffurf a nodir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/103/EC ynghylch gwiriadau adnabod planhigion a gwiriadau iechyd planhigion ar blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill, a restrir yn Rhan B o Atodiad V i Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC, a all gael eu cyflawni mewn man heblaw’r pwynt mynediad i’r Gymuned neu mewn man gerllaw ac sy’n pennu’r amodau sy’n gysylltiedig â’r gwiriadau hyn(35);

ystyr “man arolygu a gymeradwywyd” (“approved place of inspection”) yw man a gymeradwywyd yn fan arolygu gan awdurdod priodol o dan erthygl 17(1) o Orchymyn 2005 neu Orchymyn 2018 cyn y dyddiad cychwyn ac sy’n dal wedi ei gymeradwyo yn rhinwedd rheoliad 54(1), neu fan a gymeradwywyd o dan baragraff (6).

RHAN 4Gweithgareddau swyddogol i atal plâu planhigion rhag ymsefydlu neu ledaenu

Rhagymadrodd

14.—(1Mae’r Rhan hon yn gymwys os bydd arolygydd iechyd planhigion yn amau bod pla planhigion a reolir neu ddeunydd gwaharddedig yn bresennol neu’n debygol o fod yn bresennol, neu os bydd yn dod yn ymwybodol bod pla planhigion a reolir neu ddeunydd gwaharddedig yn bresennol, ar unrhyw fangre yng Nghymru.

(2Yn y Rhan hon—

ystyr “deunydd gwaharddedig” (“prohibited material” yw—

(a)

planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall sy’n cario pla planhigion a reolir, neu sydd wedi ei heigio neu wedi ei heintio ganddo, neu a allai fod yn cario pla planhigion a reolir, neu wedi ei heigio neu wedi ei heintio ganddo;

(b)

planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall y gwaherddir mynediad iddynt i diriogaeth yr Undeb neu i Gymru o dan un o reolau iechyd planhigion yr UE;

(c)

planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall y mae ei symud o fewn tiriogaeth yr Undeb, neu i Gymru, yng Nghymru neu o Gymru, wedi ei wahardd o dan un o reolau iechyd planhigion yr UE;

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw le, gan gynnwys unrhyw dir, adeilad, cerbyd, llestr, awyren, hofrenfad, cynhwysydd llwythi, wagen reilffordd, trelar neu adeilad neu adeiledd symudol.

Hysbysiadau mewn perthynas â phlâu planhigion a reolir neu ddeunydd gwaharddedig

15.—(1Caiff arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad i’r person priodol—

(a)yn ei gwneud yn ofynnol i’r person priodol drin, dinistrio neu waredu fel arall y pla planhigion a reolir neu’r deunydd gwaharddedig,

(b)yn gwahardd am y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad—

(i)symud unrhyw bla planhigion a reolir neu unrhyw ddeunydd gwaharddedig ymaith o’r fangre, neu

(ii)unrhyw weithgaredd y mae’r arolygydd o’r farn ei bod yn angenrheidiol ei wahardd er mwyn atal pla planhigion a reolir rhag ymsefydlu neu ledaenu,

(c)yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw bla planhigion a reolir neu ddeunydd gwaharddedig gael eu symud ymaith o’r fangre, neu

(d)yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gamau eraill gael eu cymryd, fel y’u pennir yn yr hysbysiad, y mae’r arolygydd o’r farn eu bod yn angenrheidiol er mwyn dileu’r pla planhigion a reolir neu i’w atal rhag ymsefydlu neu ledaenu.

(2Os oes gan arolygydd iechyd planhigion sail resymol dros gredu bod hynny’n angenrheidiol at ddiben atal unrhyw bla planhigion a reolir rhag lledaenu, neu sicrhau y dilëir unrhyw bla planhigion a reolir, o unrhyw fangre, caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad i’r meddiannydd yn gosod unrhyw waharddiad neu’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gam rhesymol gael ei gymryd at y diben hwnnw.

(3Ym mharagraff (1), ystyr “person priodol” yw—

(a)yn achos mangre a ddefnyddir gan weithredwr proffesiynol, y gweithredwr proffesiynol;

(b)yn achos unrhyw fangre arall—

(i)y meddiannydd neu unrhyw berson arall sydd â gofal am y fangre;

(ii)unrhyw berson arall sydd â gofal am y pla planhigion a reolir neu’r deunydd gwaharddedig yn y fangre honno.

Camau y caiff arolygydd iechyd planhigion eu cymryd

16.—(1Caiff arolygydd iechyd planhigion, o roi hysbysiad rhesymol, fynd i mewn i unrhyw fangre ac unrhyw fangre gyfagos at ddiben cymryd camau i wneud y canlynol—

(a)dileu neu ddinistrio unrhyw bla planhigion a reolir, neu ddelio ag ef fel arall,

(b)atal unrhyw bla planhigion a reolir rhag lledaenu, neu

(c)dinistrio neu drin unrhyw ddeunydd a heintiwyd, neu ddelio ag ef fel arall.

(2Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i arolygydd iechyd planhigion ddangos tystiolaeth o’i awdurdod cyn mynd i mewn i unrhyw fangre at y dibenion a bennir ym mharagraff (1).

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat oni bai bod 24 awr o rybudd wedi ei roi i’r meddiannydd.

(4Caiff arolygydd iechyd planhigion ddod ag unrhyw bersonau eraill (gan gynnwys cynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd) gydag ef a chaiff ddod ag unrhyw offer a cherbydau i’r fangre y mae’r arolygydd o’r farn eu bod yn angenrheidiol.

(5Caiff person sy’n dod gydag arolygydd iechyd planhigion o dan baragraff (4)—

(a)aros yn y fangre ac o bryd i’w gilydd fynd i’r fangre eto heb arolygydd iechyd planhigion,

(b)dod ag unrhyw offer neu gerbydau i’r fangre y mae’r person o’r farn eu bod yn angenrheidiol, ac

(c)cyflawni gwaith yn y fangre mewn modd a gyfarwyddir gan arolygydd iechyd planhigion.

(6Ym mharagraff (1), ystyr “deunydd a heintiwyd” yw—

(a)planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall sy’n cario pla planhigion a reolir, neu sydd wedi ei heigio neu wedi ei heintio ganddo, neu a allai fod yn cario pla planhigion a reolir, neu wedi ei heigio neu wedi ei heintio ganddo;

(b)planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall nad yw’n cario pla planhigion a reolir, neu nad yw wedi ei heigio neu wedi ei heintio ganddo, ond y gallai eu presenoldeb neu eu bodolaeth, ym marn arolygydd iechyd planhigion, beri i bla planhigion a reolir ledu neu gael ei ledaenu.

Sefydlu ardaloedd a ddarnodir a mesurau sydd i’w cymryd yn yr ardaloedd hynny

17.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod priodol wedi cadarnhau’n swyddogol bresenoldeb pla planhigion a reolir nad yw’n hysbys ei fod yn bresennol yng Nghymru neu bresenoldeb pla planhigion a reolir mewn ardal o Gymru lle nad oedd yn bresennol o’r blaen.

(2Caiff awdurdod priodol drwy hysbysiad—

(a)darnodi ardal mewn perthynas â phresenoldeb y pla planhigion a reolir at ddiben dileu neu gyfyngu’r pla planhigion;

(b)pennu’r gwaharddiadau neu’r cyfyngiadau sydd i fod yn gymwys i’r ardal a ddarnodir at y diben hwnnw.

(3O ran hysbysiad o dan baragraff (2)—

(a)rhaid iddo fod mewn ysgrifen;

(b)rhaid iddo ddisgrifio hyd a lled yr ardal a ddarnodir;

(c)rhaid iddo bennu ar ba ddyddiad y bydd unrhyw waharddiadau neu gyfyngiadau o’r fath yn cychwyn;

(d)rhaid iddo gael ei gyhoeddi mewn modd sy’n briodol i ddod ag ef i sylw’r cyhoedd;

(e)caniateir iddo gael ei ddiwygio neu ei ddirymu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, drwy hysbysiad arall.

RHAN 5Mesurau gwladol dros dro ynglŷn ag iechyd planhigion

Atodlen 1

18.  Mae Atodlen 1 yn cynnwys mesurau dros dro ychwanegol i atal plâu planhigion penodol a reolir rhag dod i Gymru, neu ymsefydlu yng Nghymru, neu ledaenu yng Nghymru.

RHAN 6Cofrestru, awdurdodiadau a thystysgrifau ynglŷn ag iechyd planhigion

Ceisiadau am gofrestru

19.  Rhaid i gais am gofrestru yn unol ag Erthygl 66(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE sydd i’w gyflwyno i awdurdod priodol gael ei gyflwyno yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan yr awdurdod priodol.

Ceisiadau eraill

20.—(1Rhaid i’r ceisiadau a ganlyn gael eu gwneud i’r awdurdod priodol yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan yr awdurdod priodol—

(a)cais am awdurdodiad dros dro i ganiatáu gweithgaredd perthnasol at ddibenion profion swyddogol, dibenion gwyddonol neu addysgol, treialon, dethol neu fridio amrywogaethau;

(b)cais am awdurdodiad y cyfeirir ato yn y darpariaethau a ganlyn yn Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE—

(i)Erthygl 64(2),

(ii)Erthygl 89(1), neu

(iii)Erthygl 98(1);

(c)cais am ddyroddi tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio, tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio neu dystysgrif cyn-allforio.

(2Yn y rheoliad hwn—

ystyr “gweithgaredd perthnasol” yw gweithgaredd a fyddai fel arall wedi ei wahardd o dan Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, penderfyniad brys gan yr UE neu un arall o reolau iechyd planhigion yr UE ac sy’n golygu—

(a)

cyflwyno pla planhigion neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall i Gymru,

(b)

symud pla planhigion neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall yng Nghymru,

(c)

dal pla planhigion a reolir neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall ar fangre yng Nghymru, neu

(d)

lluosogi pla planhigion ar fangre yng Nghymru.

Awdurdodi at ddibenion eraill

21.—(1Caiff yr awdurdod priodol roi awdurdodiad i ganiatáu cyflawni—

(a)unrhyw weithgaredd a bennir mewn rhanddirymiad iechyd planhigion, neu

(b)unrhyw weithgaredd arall y mae cymeradwyaeth yr awdurdod priodol yn ofynnol ar ei gyfer o dan Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol neu’r Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i gais am unrhyw awdurdodiad o’r fath gael ei wneud i’r awdurdod priodol yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan yr awdurdod priodol.

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr “rhanddirymiad iechyd planhigion” yw—

(a)rhanddirymiad darpariaethau Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE a nodir mewn act weithredu neu act ddirprwyedig a fabwysiedid gan y Comisiwn Ewropeaidd o dan Reoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol, neu

(b)rhanddirymiad unrhyw benderfyniad o fewn ystyr Erthygl 288 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd, sy’n dal yn gymwys at ddibenion Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE ar neu ar ôl y dyddiad cychwyn ac sy’n caniatáu i’r Aelod-wladwriaethau awdurdodi gweithgaredd a fyddai fel arall wedi ei wahardd gan Reoliad Iechyd Planhigion yr UE neu odano.

Awdurdodiadau a roddir gan awdurdod priodol

22.—(1Rhaid i awdurdodiad a roddir gan awdurdod priodol at ddibenion Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE, y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol neu’r Rheoliadau hyn fod mewn ysgrifen a chaniateir iddo gael ei roi—

(a)o dan amodau;

(b)am gyfnod amhenodol ynteu am gyfnod penodol.

(2Caiff awdurdodiad a roddir gan awdurdod priodol ganiatáu i’r awdurdod priodol addasu’r awdurdodiad, ei atal dros dro neu ei ddirymu unrhyw bryd drwy hysbysiad ysgrifenedig.

RHAN 7Mesurau ynglŷn â rhywogaethau mochlysaidd penodol

Atodlen 2

23.  Mae Atodlen 2 yn cynnwys mesurau penodol ynglŷn â rhywogaethau mochlysaidd penodol.

RHAN 8Gofynion o ran hysbysiadau: iechyd planhigion

Gofynion o ran hysbysiadau mewn perthynas â thatws hadyd

24.—(1Rhaid i weithredwr proffesiynol sy’n dod ag unrhyw un neu ragor o’r tatws a ganlyn i Gymru, o leiaf ddau ddiwrnod cyn y dyddiad y disgwylir iddynt gyrraedd Cymru, roi hysbysiad ysgrifenedig i arolygydd iechyd planhigion ynglŷn â’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)—

(a)tatws hadyd a dyfwyd neu yr amheuir eu bod wedi eu tyfu mewn Aelod-wladwriaeth arall neu yn y Swistir, neu

(b)tatws, heblaw tatws hadyd, a dyfwyd neu yr amheuir eu bod wedi eu tyfu yng Ngwlad Pwyl, Portiwgal, Rwmania neu Sbaen.

(2Dyma’r materion—

(a)yr amser a’r dyddiad y disgwylir iddynt gyrraedd,

(b)eu diben arfaethedig,

(c)eu cyrchfan arfaethedig,

(d)eu hamrywogaeth a’u nifer, ac

(e)rhif adnabod cynhyrchydd y tatws.

(3Ym mharagraff (1)(b), ystyr “Sbaen” yw’r rhan honno o Sbaen sydd wedi ei chynnwys o fewn tiriogaeth yr Undeb at ddibenion Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE, heblaw Ynysoedd Baleares.

Gofynion o ran hysbysiadau mewn perthynas â ffrwythau sitrws

25.—(1Rhaid i weithredwr proffesiynol sy’n cyflwyno ffrwythau sitrws hysbysadwy i diriogaeth yr Undeb drwy safle rheoli ar y ffin mewn rhan arall o diriogaeth yr Undeb, cyn iddynt gyrraedd y safle rheoli hwnnw ar y ffin, roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru yn y cyfeiriad penodedig ynglŷn â’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2).

(2Dyma’r materion—

(a)y dyddiad y disgwylir eu cyflwyno i’r Undeb Ewropeaidd;

(b)enw’r safle rheoli ar y ffin;

(c)eu swm;

(d)rhifau adnabod eu cynwysyddion;

(e)enwau, cyfeiriadau a lleoliadau’r mangreoedd yng Nghymru lle maent i gael eu prosesu.

(3Ym mharagraff (1)—

ystyr “cyfeiriad penodedig” (“specified address”) yw’r cyfeiriad a roddir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd at ddibenion y rheoliad hwn;

ystyr “ffrwythau sitrws hysbysadwy” (“notifiable citrus fruits”) yw ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle, Poncirus Raf., Microcitrus Swingle, Naringi Adans., neu Swinglea Merr., yn tarddu o drydedd wlad, sydd i’w prosesu’n ddiwydiannol yn sudd yng Nghymru.

Gofynion o ran hysbysiadau mewn perthynas â phlanhigion a chynhyrchion planhigion eraill

26.—(1Rhaid i weithredwr proffesiynol sy’n dod ag unrhyw un neu ragor o’r planhigion neu’r cynhyrchion planhigion a ganlyn i Gymru, cyn y dyddiad y maent yn cyrraedd Cymru neu heb fod yn hwyrach na phedwar diwrnod ar ôl y dyddiad y maent yn cyrraedd Cymru, roi hysbysiad ysgrifenedig i arolygydd iechyd planhigion ynglŷn â’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)—

(a)planhigion Castanea Mill., Fraxinus L., Olea europaea L., Pinus L., Platanus L., Prunus L., Quercus L. neu Ulmus L. a fwriedir i’w plannu, a dyfwyd neu yr amheuir eu bod wedi eu tyfu mewn Aelod-wladwriaeth arall,

(b)planhigion Castanea Mill., Fraxinus L., Olea europaea L., Pinus L., Platanus L., Prunus L., Quercus L. neu Ulmus L. a fwriedir i’w plannu, a dyfwyd neu yr amheuir eu bod wedi eu tyfu yn y Swistir ac nad yw Erthygl 47(1) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol yn gymwys iddynt, neu

(c)pren tanwydd solet o Aelod-wladwriaeth arall, neu bren tanwydd solet o drydedd wlad nad yw Erthygl 47(1) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol yn gymwys iddo.

(2Dyma’r materion—

(a)y dyddiad y disgwylir i’r llwyth gyrraedd neu, os yw’r llwyth wedi cyrraedd Cymru, y dyddiad y cyrhaeddodd Gymru gyntaf;

(b)cyrchfan arfaethedig y llwyth, neu os yw’r llwyth wedi cyrraedd ei gyrchfan arfaethedig yng Nghymru, ei leoliad presennol;

(c)genws, rhywogaeth a nifer y planhigion neu’r pren yn y llwyth;

(d)y wlad y traddodwyd neu y traddodir y planhigion neu’r pren ohoni;

(e)yn achos planhigion y bwriedir eu plannu, rhif adnabod cyflenwr y planhigion;

(f)yn achos pren tanwydd solet—

(i)cyfeiriad y traddodwr, a

(ii)manylion unrhyw driniaethau ffytoiechydol a roddwyd i’r pren.

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr “pren tanwydd solet” yw pren tanwydd ar ffurf logiau, plociau, brigau, ffagodau neu ffurfiau tebyg eraill.

RHAN 9Pwerau cyffredinol arolygwyr iechyd planhigion a gorfodi

Dehongli

27.—(1Yn y Rhan hon—

mae “deunydd pecynnu pren” (“wood packaging material”) yn cynnwys unrhyw bren neu wrthrych arall y mae’n ofynnol ei drin a’i farcio yn unol ag Atodiad 1 i SRFFf 15;

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw le, gan gynnwys unrhyw dir, adeilad, cerbyd, llestr, awyren, hofrenfad, cynhwysydd llwythi, wagen reilffordd, trelar neu adeilad neu adeiledd symudol;

ystyr “nod SRFFf 15” (“ISPM 15 mark”) yw’r nod y cyfeirir ato yn Erthygl 96(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, y gellir ei osod ar ddeunydd pecynnu pren i dystio ei fod wedi ei drin yn unol ag Atodiad 1 i SRFFf 15.

(2At ddibenion rheoliadau 32 a 33, mae person yn gosod nod SRFFf 15 ar ddeunydd pecynnu pren “yn anghywir” os yw’r person yn gosod y nod heblaw yn y modd a bennir yn Erthygl 96(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, fel y’i darllenir gydag Erthygl 97(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE.

Pwerau mynediad

28.—(1Caiff arolygydd iechyd planhigion fynd i mewn i unrhyw fangre ar adeg resymol at ddiben—

(a)cyflawni rheolaethau swyddogol i ddilysu—

(i)bod gweithredwr yn cydymffurfio â’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol,

(ii)bod gweithredwr proffesiynol yn cydymffurfio â Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE,

(iii)bod person yn cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, neu

(iv)bod unrhyw blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n destun un o reolau iechyd planhigion yr UE neu i’r gofynion yn Atodlen 1 yn cydymffurfio â’r rheol honno neu’r gofynion hynny;

(b)cyflawni gweithgareddau swyddogol eraill sydd i’w cyflawni gan yr awdurdod priodol yn unol â’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol, Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliadau hyn;

(c)gorfodi’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol, Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliadau hyn;

(d)dilysu gwybodaeth a roddwyd gan berson mewn cysylltiad â chais am gofrestriad neu am awdurdodiad neu drwydded a roddwyd, neu sydd i’w rhoi, o dan y Rheoliadau hyn;

(e)canfod a ydys yn cydymffurfio neu a gydymffurfiwyd ag amod mewn awdurdodiad neu drwydded a roddwyd gan awdurdod priodol o dan y Rheoliadau hyn neu at ddiben Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.

(2Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i arolygydd iechyd planhigion ddangos tystiolaeth o’i awdurdod cyn mynd i mewn i unrhyw fangre at y dibenion a bennir ym mharagraff (1).

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat oni bai bod 24 awr o rybudd wedi ei roi i’r meddiannydd.

(4Caiff arolygydd iechyd planhigion sy’n mynd i mewn i fangre at ddiben a bennir ym mharagraff (1) neu o dan warant a ddyroddir gan ynad heddwch—

(a)archwilio, marcio neu dynnu ffotograff o unrhyw ran o’r fangre, unrhyw wrthrych yn y fangre neu unrhyw beth sydd wedi ei atodi i’r fangre neu fel arall yn ffurfio rhan ohoni;

(b)yn achos mangre sy’n cael ei defnyddio i weithgynhyrchu deunydd pecynnu pren, archwilio neu brofi unrhyw gyfleuster trin, peiriannau, offer neu gyfarpar arall a ddefnyddir i weithgynhyrchu deunydd pecynnu pren neu arsylwi a monitro’r broses o weithgynhyrchu deunydd pecynnu pren;

(c)cymryd samplau—

(i)o unrhyw bla planhigion neu oddi arno,

(ii)o unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall neu oddi arnynt, neu

(iii)o unrhyw gynhwysydd, pecyn neu wrthrych sydd wedi bod neu a allai fod wedi bod mewn cysylltiad â phla planhigion neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall neu oddi ar y rhain;

(d)agor unrhyw gynhwysydd neu becyn neu ei gwneud yn ofynnol i berchennog neu berson sydd â gofal am unrhyw gynhwysydd neu becyn agor y cynhwysydd neu’r pecyn;

(e)arolygu neu wneud copïau o unrhyw ddogfennau neu gofnodion (ar ba ffurf bynnag y cânt eu dal) sy’n ymwneud â chynhyrchu unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall, neu ag unrhyw weithgareddau sy’n ymwneud â hwy.

(5Caiff arolygydd iechyd planhigion ddinistrio neu waredu fel arall unrhyw sampl a gymerir o dan y rheoliad hwn pan na fydd angen y sampl mwyach.

(6Caiff arolygydd iechyd planhigion—

(a)dod ag—

(i)cynrychiolydd o’r Comisiwn Ewropeaidd neu swyddog awdurdodedig i unrhyw awdurdod cymwys a ddynodwyd o fewn tiriogaeth yr Undeb at ddibenion Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol, neu

(ii)unrhyw bersonau eraill y mae’r arolygydd o’r farn eu bod yn angenrheidiol, a

(b)dod ag unrhyw offer a cherbydau i’r fangre y mae’r arolygydd o’r farn eu bod yn angenrheidiol.

(7Caiff arolygydd iechyd planhigion sy’n dod â pherson a grybwyllir ym mharagraff (6)(a)(i)—

(a)dangos i’r person unrhyw ddogfennau neu gofnodion a arolygir gan yr arolygydd o dan baragraff (4)(e), a

(b)gwneud copïau, neu ei gwneud yn ofynnol bod copïau yn cael eu gwneud o’r dogfennau neu’r cofnodion hynny ar gyfer y person hwnnw.

(8Caiff person sy’n dod gydag arolygydd iechyd planhigion o dan baragraff (6)(a)(ii)—

(a)aros yn y fangre ac o bryd i’w gilydd fynd i’r fangre eto heb arolygydd iechyd planhigion,

(b)dod ag unrhyw offer neu gerbydau i’r fangre y mae’r person o’r farn eu bod yn angenrheidiol, ac

(c)cyflawni gwaith yn y fangre mewn modd a gyfarwyddir gan arolygydd iechyd planhigion.

Hawl mynediad a roddir gan warant a ddyroddir gan ynad heddwch

29.—(1Caiff ynad heddwch, drwy warant wedi ei llofnodi, ganiatáu i arolygydd fynd i fangre o dan reoliad 16(1), 28(1) neu 31(1), gan ddefnyddio grym rhesymol os oes ei angen, os yw’r ynad wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—

(a)bod sail resymol dros fynd i’r fangre honno, a

(b)bod unrhyw un neu ragor o’r amodau ym mharagraff (2) wedi eu bodloni.

(2Dyma’r amodau—

(a)bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a bod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd,

(b)y byddai gofyn am gael mynediad i’r fangre, neu roi hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant, yn mynd yn groes i’r amcan o fynd i’r fangre,

(c)bod angen mynd i’r fangre ar fyrder, neu

(d)bod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro.

(3Mae gwarant yn ddilys am un mis.

(4Rhaid i arolygydd sy’n mynd i unrhyw fangre nad yw wedi ei meddiannu ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad heb awdurdod ag yr oedd cyn iddo fynd iddi.

Hysbysiadau gwybodaeth

30.—(1Caiff arolygydd iechyd planhigion neu unrhyw swyddog arall i awdurdod priodol drwy hysbysiad ysgrifenedig ei gwneud yn ofynnol i berson priodol roi i’r arolygydd neu’r swyddog, o fewn yr amser a bennir yn yr hysbysiad, unrhyw wybodaeth a all fod gan y person ynghylch—-

(a)y planhigion a dyfwyd neu’r cynhyrchion a storiwyd unrhyw bryd yn y fangre a bennir yn yr hysbysiad,

(b)unrhyw bla planhigion neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)(b), neu

(c)y personau sydd wedi cael, neu sy’n debygol o fod wedi cael, unrhyw bla planhigion neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)(b) yn eu meddiant neu o dan eu gofal.

(2Rhaid i’r amser y mae’n ofynnol i’r wybodaeth gael ei rhoi i’r arolygydd neu’r swyddog arall o’i fewn fod yn rhesymol.

(3Rhaid i berson priodol ddangos unrhyw awdurdodiad, datganiad swyddogol, tystysgrif, pasbort planhigion, cofnod, anfoneb neu ddogfen arall sy’n ymwneud â phla planhigion neu unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall a bennir yn yr hysbysiad i’w harchwilio gan yr arolygydd neu’r swyddog arall.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “person priodol” yw—

(a)mewn perthynas ag unrhyw fangre a bennir mewn hysbysiad o dan baragraff (1), person sy’n berchennog, yn feddiannydd neu’n berson arall sydd â gofal am y fangre,

(b)person y mae neu y bu ganddo feddiant o’r canlynol neu ofal amdanynt, neu y mae’n rhesymol i’r arolygydd neu’r swyddog amau bod ganddo, neu y bu ganddo feddiant ohonynt neu ofal amdanynt—

(i)pla planhigion a reolir,

(ii)unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall a oedd yn cario pla planhigion a reolir neu a oedd wedi ei heigio neu wedi ei heintio gan bla planhigion a reolir, neu

(iii)unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall y mae’r arolygydd neu’r swyddog yn gwybod neu’n amau eu bod wedi eu mewnforio i Gymru neu wedi eu hallforio ohoni, neu

(c)person sydd, fel arwerthwr, gwerthwr neu fel arall, wedi gwerthu pla planhigion a reolir, wedi ei gynnig ar werth neu wedi ei waredu fel arall.

Methu â chydymffurfio â hysbysiad

31.—(1Os bydd person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir i’r person hwnnw o dan y Rheoliadau hyn, caiff arolygydd iechyd planhigion fynd i unrhyw fangre yr effeithir arni ar bob adeg resymol i gymryd neu beri cymryd unrhyw gamau y mae’r arolygydd iechyd planhigion o’r farn eu bod yn angenrheidiol i sicrhau y cydymffurfir â’r hysbysiad neu i unioni canlyniadau’r methiant i’w cyflawni.

(2Rhaid i arolygydd iechyd planhigion sy’n gweithredu o dan baragraff (1) ddangos tystiolaeth o’i awdurdod i weithredu, os gofynnir iddo wneud hynny.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat oni bai bod 24 awr o rybudd wedi ei roi i’r meddiannydd.

(4Caiff arolygydd iechyd planhigion ddod ag unrhyw bersonau eraill (gan gynnwys cynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd) gydag ef a chaiff ddod ag unrhyw offer a cherbydau i’r fangre y mae’r arolygydd o’r farn eu bod yn angenrheidiol.

(5Caiff person sy’n dod gydag arolygydd iechyd planhigion o dan baragraff (4)—

(a)aros yn y fangre ac o bryd i’w gilydd fynd i’r fangre eto heb arolygydd iechyd planhigion,

(b)dod ag unrhyw ofer neu gerbydau i’r fangre y mae’r person o’r farn eu bod yn angenrheidiol, ac

(c)cyflawni gwaith yn y fangre mewn modd a gyfarwyddir gan arolygydd iechyd planhigion.

Tynnu nod SRFFf 15 oddi ar ddeunydd pecynnu pren

32.  Pan fo arolygydd yn gwybod, neu pan fo ganddo sail resymol dros amau, bod y nod SRFFf 15 wedi ei osod yn anghywir ar ddeunydd pecynnu pren, caiff arolygydd iechyd planhigion dynnu’r nod neu, drwy hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol i berson arall ei dynnu.

Marcio deunydd pecynnu pren: pŵer ymafael

33.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo arolygydd iechyd planhigion yn gwybod, neu pan fo ganddo sail resymol dros amau, bod person wedi gosod yn anghywir, neu’n bwriadu gosod yn anghywir, y nod SRFFf 15 ar ddeunydd pecynnu pren mewn unrhyw fangre yng Nghymru.

(2Caiff yr arolygydd iechyd planhigion ymafael mewn unrhyw stensil, templed neu eitem arall o offer y mae’n ymddangos i’r arolygydd y gellid eu defnyddio i osod y nod SRFFf 15, oddi wrth y person hwnnw neu o’r fangre honno a’u cadw.

(3Os nad yw’r arolygydd iechyd planhigion o’r farn ei bod yn ymarferol, am y tro, i’r arolygydd ymafael mewn unrhyw eitem a’i symud ymaith, caiff yr arolygydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson yn y fangre sicrhau na chaiff yr eitem ei symud ymaith ac nad ymyrrir â’r eitem fel arall nes y gall yr arolygydd ymafael ynddi a’i symud ymaith.

(4Rhaid i’r arolygydd iechyd planhigion wneud ymdrechion rhesymol i roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person priodol—

(a)yn nodi’r hyn yr ymafaelwyd ynddo a’r rheswm dros ymafael ynddo;

(b)yn esbonio effaith paragraffau (5) i (12).

(5Caniateir i unrhyw eitem yr ymafaelir ynddi o dan baragraff (2) gael ei chadw gan Weinidogion Cymru am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol o dan yr holl amgylchiadau, ac yn benodol at ddibenion achos cyfreithiol mewn perthynas â throsedd a bennir yn rheoliad 38(1).

(6Caiff Gweinidogion Cymru wneud cais i’r llys ynadon am fforffedu unrhyw eitem a gedwir o dan baragraff (5).

(7Pan wneir cais o dan baragraff (6), caiff y llys orchymyn i’r eitem gael ei fforffedu os yw’r llys wedi ei fodloni—

(a)bod trosedd a bennir yn rheoliad 38(1) wedi ei chyflawni mewn cysylltiad â hi, neu

(b)ei bod wedi ei defnyddio wrth gyflawni trosedd o’r fath.

(8Os yw’r llys yn gorchymyn i’r eitem gael ei fforffedu, caiff Gweinidogion Cymru ei gwaredu ym mha ffordd bynnag y credant ei bod yn briodol.

(9Os nad yw’r llys yn gorchymyn i’r eitem gael ei fforffedu, rhaid iddo orchymyn i’r eitem gael ei dychwelyd i’r person priodol.

(10Caiff Gweinidogion Cymru adennill oddi ar y person priodol yr holl gostau rhesymol yr aed iddynt gan Weinidogion Cymru at ddibenion sicrhau bod eitem yn cael ei fforffedu o dan baragraffau (6) i (8).

(11Pan awdurdodwyd cadw unrhyw eitem o dan y rheoliad hwn, ond nad yw hynny wedi ei awdurdodi mwyach—

(a)rhaid i’r eitem gael ei dychwelyd i’r person priodol;

(b)caiff y person priodol wneud cais i’r llys ynadon am orchymyn i’r eitem gael ei dychwelyd.

(12Pan fo’n ofynnol i’r eitem gael ei dychwelyd i’r person priodol a bod ymdrechion rhesymol wedi eu gwneud, heb lwyddiant, i ddychwelyd yr eitem i’r person hwnnw, caiff Gweinidogion Cymru waredu’r eitem ym mha ffordd bynnag y credant ei bod yn briodol.

(13Yn y rheoliad hwn—

ystyr “person priodol” yw—

(a)

yn achos eitem yr ymafaelwyd ynddi oddi wrth berson, y person yr ymafaelwyd yn yr eitem oddi wrtho;

(b)

yn achos eitem yr ymafaelwyd ynddi o fangre, y meddiannydd neu unrhyw berson arall sydd â gofal am y fangre;

(c)

yn achos eitem yr ymafaelwyd ynddi oddi wrth berson neu o fangre nad yw’n perthyn i berson sy’n dod o fewn paragraff (a) neu (b), y person y mae’n perthyn iddo ac sy’n haeru perchnogaeth drosti.

(14Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn effeithio ar bwerau arolygydd iechyd planhigion o dan reoliad 32.

Datgelu gwybodaeth a ddelir gan Gomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi

34.—(1Caiff Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ddatgelu unrhyw wybodaeth yn eu meddiant i awdurdod priodol at ddibenion galluogi neu gynorthwyo’r awdurdod priodol i gyflawni unrhyw swyddogaeth a roddwyd iddo o dan Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol neu’r Rheoliadau hyn, neu yn rhinwedd y rhain.

(2Nid oes dim ym mharagraff (1) yn effeithio ar unrhyw bŵer sydd gan y Comisiynwyr i ddatgelu gwybodaeth neu unrhyw ofyniad arall sydd arnynt i wneud hynny.

Datgelu gwybodaeth i awdurdodau cymwys eraill

35.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ddatgelu gwybodaeth i unrhyw awdurdod cymwys arall mewn rhan arall o diriogaeth yr Undeb at ddibenion Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.

(2Nid oes dim ym mharagraff (1) yn effeithio ar unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i ddatgelu gwybodaeth neu unrhyw ofyniad arall sydd arnynt i wneud hynny.

RHAN 10Darpariaethau cyffredinol ac atodol ynglŷn â hysbysiadau iechyd planhigion

Darpariaethau amrywiol ynglŷn â hysbysiadau

36.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw hysbysiad a roddir gan arolygydd iechyd planhigion o dan y Rheoliadau hyn heblaw hysbysiad a roddir o dan reoliad 33(4).

(2Caiff yr hysbysiad—

(a)pennu—

(i)un neu ragor o ofynion neu ofynion amgen;

(ii)ym mha fodd ac ym mha gyfnod y mae’n rhaid cyflawni unrhyw ofyniad neu amod a bennir yn yr hysbysiad, neu

(b)ei gwneud yn ofynnol i’r perchennog neu unrhyw berson arall y mae’n ymddangos ei fod â gofal am y fangre y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi—

(i)hysbysu’r awdurdod priodol am unrhyw newid ym meddiannaeth y fangre, dyddiad y newid ac enw’r meddiannydd newydd, a

(ii)rhoi gwybod i feddiannydd newydd y fangre am gynnwys yr hysbysiad.

(3Rhaid i unrhyw waith i ddinistrio, gwaredu, ailallforio neu drin planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall neu bla planhigion y mae’n ofynnol ei wneud o dan yr hysbysiad gael ei wneud neu rhaid trefnu iddo gael ei wneud, er boddhad arolygydd iechyd planhigion gan y person y mae’r hysbysiad wedi ei gyflwyno iddo o’r man a bennir yn yr hysbysiad neu yn y man hwnnw.

(4Caiff arolygydd iechyd planhigion ddiwygio’r hysbysiad neu ei dynnu’n ôl drwy hysbysiad pellach.

(5Caiff yr hysbysiad ddiffinio hyd a lled y fangre y cyfeirir ati yn yr hysbysiad drwy gyfeirio at fap neu blan neu fel arall.

Cyflwyno hysbysiadau

37.—(1Caniateir i hysbysiad gael ei gyflwyno i weithredwr cofrestredig—

(a)drwy ei ddanfon yn bersonol,

(b)drwy ei adael yng nghyfeiriad cysylltu’r gweithredwr cofrestredig, neu ei anfon yno drwy’r post, neu

(c)drwy ei anfon at y cyfeiriad ebost y mae’r gweithredwr wedi ei roi i’r awdurdod priodol ar gyfer cyflwyno hysbysiadau.

(2Caniateir i hysbysiad gael ei gyflwyno i unrhyw berson arall—

(a)drwy ei ddanfon yn bersonol,

(b)drwy ei adael yng nghartref neu fan busnes hysbys diwethaf y person, neu ei anfon yno drwy’r post, neu

(c)drwy ei anfon at unrhyw gyfeiriad ebost y mae’r person wedi ei roi i’r awdurdod priodol ar gyfer cyflwyno hysbysiadau

(3Os oes hysbysiad i’w roi gan arolygydd iechyd planhigion i feddiannydd neu i berson arall sydd â gofal am fangre, ac na ellir dod o hyd i gartref neu gyfeiriad hysbys diwethaf y person hwnnw ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, caniateir cyflwyno’r hysbysiad i’r person hwnnw drwy ei gyfeirio at “y meddiannydd” a’i adael wedi ei osod yn weladwy ar wrthrych yn y fangre am gyfnod o saith niwrnod.

(4Caniateir i hysbysiad gael ei gyflwyno—

(a)yn achos corff corfforedig (heblaw partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig), i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw yng nghyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff hwnnw,

(b)yn achos partneriaeth (heblaw partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, ond gan gynnwys partneriaeth Albanaidd), i bartner neu berson sy’n llywio neu’n rheoli busnes y bartneriaeth yng nghyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth, neu

(c)yn achos partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, i aelod o’r bartneriaeth yng nghyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r bartneriaeth.

(5At ddibenion paragraff (4), prif swyddfa cwmni a gofrestrwyd y tu allan i’r Deyrnas Unedig neu bartneriaeth sy’n cyflawni busnes y tu allan i’r Deyrnas Unedig yw ei brif swyddfa neu ei phrif swyddfa yn y Deyrnas Unedig.

(6Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cyfeiriad cysylltu” (“contact address”), mewn perthynas â gweithredwr cofrestredig, yw—

(a)

prif gyfeiriad y gweithredwr yn y gofrestr, neu

(b)

unrhyw gyfeiriad post arall yng Nghymru y mae’r gweithredwr wedi ei roi i’r awdurdod priodol fel cyfeiriad cysylltu ar gyfer cyflwyno hysbysiadau;

ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad sydd i’w roi gan arolygydd iechyd planhigion o dan y Rheoliadau hyn.

RHAN 11Troseddau ynglŷn â deddfwriaeth iechyd planhigion

Cyffredinol

38.—(1Mae person yn cyflawni trosedd os yw’n torri’r canlynol, neu’n methu â chydymffurfio â hwy—

(a)rheoliad 24(1), 25(1) neu 26(1);

(b)paragraff 2 neu 4 o Atodlen 1;

(c)paragraffau 2(1) neu (2), 5(1) neu (2), 11(1), 12(1), 13(1), 14(1), 15, 20(1), 21(7), 22(2), 27(1), 28(7), 29(2) neu 31(2) o Atodlen 2;

(d)un o ddarpariaethau Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 3;

(e)un o ddarpariaethau’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 3 (i’r graddau y mae’n gymwys i blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n destun un o reolau iechyd planhigion yr UE);

(f)darpariaeth mewn unrhyw ddeddfwriaeth arall yr UE a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 3;

(g)darpariaeth mewn unrhyw benderfyniad brys gan yr UE a bennir yn Atodlen 4.

(2Ond nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw beth a wneir o dan y canlynol, neu yn unol â hwy—

(a)awdurdodiad neu drwydded a roddir o dan y Rheoliadau hyn, neu sy’n cael effaith o dan y Rheoliadau hyn neu yn rhinwedd y Rheoliadau hyn;

(b)cymeradwyaeth a roddir o dan reoliad 13(6) neu gymeradwyaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 54(1);

(c)hysbysiad a roddir gan arolygydd iechyd planhigion neu awdurdod priodol o dan y Rheoliadau hyn, neu sy’n cael effaith o dan y Rheoliadau hyn neu yn rhinwedd y Rheoliadau hyn.

Methu â chydymffurfio â gofynion hysbysiadau etc.

39.  Mae person yn cyflawni trosedd os yw’n methu â chydymffurfio â’r canlynol—

(a)darpariaeth neu amod mewn hysbysiad a gyflwynwyd i’r person o dan y Rheoliadau hyn neu sy’n cael effaith o dan y Rheoliadau hyn neu yn rhinwedd y Rheoliadau hyn,

(b)darpariaeth neu amod mewn awdurdodiad neu drwydded a roddwyd i’r person o dan y Rheoliadau hyn neu sy’n cael effaith o dan y Rheoliadau hyn neu yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, neu

(c)darpariaeth neu amod mewn cyfarwyddyd a roddir o dan y Rheoliadau hyn.

Amddiffyniad: esgus rhesymol

40.  Mae’n amddiffyniad i berson a gyhuddir o drosedd o dan reoliad 38 neu 39 ddangos bod ganddo esgus rhesymol dros dorri’r gwaharddiad neu’r gofyniad o dan sylw neu dros fethu â chydymffurfio â hwy.

Darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol

41.  Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw, at ddibenion sicrhau awdurdodiad neu drwydded neu at ddibenion sicrhau y dyroddir pasbort planhigion neu dystysgrif—

(a)yn fwriadol neu’n ddi-hid yn gwneud datganiad neu sylwadau sy’n ffug o ran manylyn perthnasol,

(b)yn fwriadol neu’n ddi-hid yn darparu dogfen neu wybodaeth sy’n ffug o ran manylyn perthnasol, neu

(c)yn fwriadol yn methu â datgelu unrhyw wybodaeth berthnasol.

Defnyddio pasbortau planhigion neu dystysgrifau yn amhriodol

42.—(1Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw—

(a)yn dyroddi pasbort planhigion neu dystysgrif yn anonest,

(b)yn newid pasbort planhigion neu dystysgrif yn anonest, neu

(c)yn ailddefnyddio pasbort planhigion neu dystysgrif yn anonest.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “tystysgrif” yw tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio, tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio neu dystysgrif cyn-allforio.

Rhwystro

43.—(1Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw—

(a)yn fwriadol yn rhwystro arolygydd iechyd planhigion neu berson awdurdodedig sy’n gweithredu i weithredu neu orfodi Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE, y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol neu’r Rheoliadau hyn,

(b)heb esgus rhesymol, yn methu â rhoi i arolygydd iechyd planhigion neu berson awdurdodedig unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae’n rhesymol i’r arolygydd neu’r person awdurdodedig eu gwneud yn ofynnol at y dibenion hynny, neu

(c)yn methu â dangos dogfen neu gofnod pan fo awdurdod priodol neu arolygydd iechyd planhigion sy’n gweithredu i weithredu neu orfodi Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE, y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol neu’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “person awdurdodedig” yw person a awdurdodwyd gan awdurdod priodol.

Trosedd ynglŷn â datgelu gwybodaeth a ddelir gan Gyllid a Thollau

44.  Mae person yn cyflawni trosedd os yw’n datgelu unrhyw wybodaeth a gafwyd oddi wrth Gomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi o dan reoliad 34(1) ac—

(a)bod yr wybodaeth yn ymwneud â pherson y mae ei fanylion adnabod wedi eu pennu yn y datgeliad, neu y gellir eu casglu o’r datgeliad,

(b)bod y datgeliad yn ddatgeliad at ddiben heblaw’r un a bennir yn rheoliad 34(1), ac

(c)nad yw’r Comisiynwyr wedi rhoi eu cydsyniad i’r datgeliad ymlaen llaw.

Amddiffyniad: datgelu cyfreithlon

45.  Mae’n amddiffyniad i berson a gyhuddir o drosedd o dan reoliad 44 brofi ei fod yn credu’n rhesymol—

(a)bod y datgeliad yn gyfreithlon, neu

(b)bod yr wybodaeth ar gael i’r cyhoedd yn flaenorol a hynny mewn modd cyfreithlon.

Troseddau gan gyrff corfforedig

46.—(1Pan fo trosedd o dan y Rhan hon wedi ei chyflawni gan gorff corfforedig ac y profir bod y drosedd—

(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog, neu

(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog,

mae’r swyddog, yn ogystal â’r corff corfforedig, yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforedig, yw—

(a)cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i’r corff, neu

(b)person sy’n honni ei fod yn gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o’r fath.

(3Os yw materion corff corfforedig yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd ac anweithredoedd aelod mewn cysylltiad â swyddogaethau’r aelod hwnnw o reoli fel y mae’n gymwys i un o swyddogion corff corfforedig.

Troseddau gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig

47.—(1Rhaid i achos am drosedd o dan y Rhan hon yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig gael ei ddwyn yn erbyn y bartneriaeth neu’r gymdeithas yn enw’r bartneriaeth neu’r gymdeithas.

(2At ddibenion achosion o’r fath—

(a)mae rheolau’r llys ynglŷn â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig yn gorff corfforedig, a

(b)mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925 (gweithdrefn ynglŷn â chyhuddiad o drosedd yn erbyn corfforaeth)(36) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (corfforaethau)(37) yn gymwys mewn perthynas â’r bartneriaeth neu’r gymdeithas fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforedig.

(3Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu ar gymdeithas anghorfforedig wedi ei chollfarnu o drosedd o dan y Rhan hon i’w thalu o gronfeydd y bartneriaeth neu’r gymdeithas.

(4Os profir bod trosedd o dan y Rhan hon a gyflawnwyd gan bartneriaeth—

(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu

(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner,

mae’r partner, yn ogystal â’r bartneriaeth, yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(5Ym mharagraff (4), mae “partner” yn cynnwys person sy’n honni ei fod yn gweithredu fel partner.

(6Os profir bod trosedd o dan y Rhan hon a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig (heblaw partneriaeth)—

(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad un o swyddogion y gymdeithas, neu

(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog o’r fath,

mae’r swyddog, yn ogystal â’r gymdeithas, yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(7Ym mharagraff (6), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chymdeithas anghorfforedig, yw—

(a)un o swyddogion y gymdeithas neu aelod o’i chorff llywodraethu, neu

(b)person sy’n honni ei fod yn gweithredu mewn swyddogaeth o’r fath.

Cosbau

48.—(1Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 38(1), 39, 41, 42 neu 43 yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy.

(2Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 44 yn agored—

(a)ar gollfarn ddiannod, i garchariad am gyfnod nad yw’n fwy na thri mis, i ddirwy neu i’r ddau;

(b)ar gollfarn ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw’n fwy na dwy flynedd, i ddirwy neu i’r ddau.

RHAN 12Amrywiol: iechyd planhigion

Diwygiadau mân a chanlyniadol

49.  Mae Atodlen 5 yn cynnwys diwygiadau mân a chanlyniadol i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â marchnata hadau a deunydd lluosogi planhigion a ffioedd iechyd planhigion.

Dirymu offerynnau iechyd planhigion

50.  Mae’r offerynnau a restrir yn Atodlen 6 wedi eu dirymu.

Darpariaethau trosiannol: trwyddedau o dan erthygl 39(1) o Orchymyn 2005 neu erthygl 41(1) o Orchymyn 2018

51.—(1Mae unrhyw drwydded a roddwyd gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 39(1) o Orchymyn 2005 neu o dan erthygl 41(1) o Orchymyn 2018, sydd mewn grym yn union cyn y dyddiad cychwyn, yn cael effaith yn ystod y cyfnod perthnasol fel pe bai wedi ei rhoi gan yr awdurdod priodol yn unol ag Erthygl 5 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/829 ar y dyddiad y’i rhoddwyd o dan Orchymyn 2005 neu Orchymyn 2018

(2Nid oes dim ym mharagraff (1) yn effeithio ar unrhyw beth a gyflawnwyd cyn y dyddiad cychwyn, o dan y drwydded neu at ddibenion y drwydded.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y drwydded at Orchymyn 2005, Gorchymyn 2018, Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC neu Gyfarwyddeb y Comisiwn 2008/61/EC i’w ddarllen fel cyfeiriad at y ddarpariaeth gyfatebol yn Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliadau hyn neu o dan y Rheoliad hwnnw neu’r Rheoliadau hynny.

(4Yn y rheoliad hwn—

ystyr “Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/61/EC” (“Commission Directive 2008/61/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/61/EC yn sefydlu o dan ba amodau y caniateir cyflwyno rhai organeddau niweidiol, planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill a restrir yn Atodiadau I i V i Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC i’r Gymuned neu i barthau gwarchodedig penodol ynddi, neu eu symud yn y Gymuned neu’r parthau hynny, at ddibenion treialon neu ddibenion gwyddonol ac ar gyfer gwaith ar ddethol amrywogaethau(38);

ystyr “cyfnod perthnasol” (“relevant period”), mewn perthynas â thrwydded, yw—

(a)

os yw’r drwydded yn dod i ben ar neu ar ôl 31 Rhagfyr 2020, y cyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy’n diweddu ar 31 Rhagfyr 2020, neu

(b)

os yw’r drwydded yn dod i ben cyn 31 Rhagfyr 2020, y cyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy’n diweddu ar y dyddiad a bennir yn y drwydded i’r drwydded ddod i ben;

ystyr “Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/829” (“Commission Delegated Regulation (EU) 2019/829”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/829 yn ategu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion, yn awdurdodi’r Aelod-wladwriaethau i ddarparu ar gyfer rhanddirymiadau dros dro oherwydd dibenion profion swyddogol, dibenion gwyddonol neu addysgol, treialon, dethol neu fridio amrywogaethau(39).

Darpariaethau trosiannol: trwyddedau eraill o dan Orchymyn 2005 neu Orchymyn 2018

52.—(1Mae unrhyw drwydded a roddwyd gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 38(1)(a) o Orchymyn 2005 neu o dan erthygl 40(1)(a) o Orchymyn 2018 ac sy’n cael effaith ar y dyddiad cychwyn yn parhau mewn grym fel pe bai’n awdurdodiad a roddwyd gan yr awdurdod priodol o dan reoliad 21(1)(a) ar y dyddiad y rhoddwyd y drwydded o dan Orchymyn 2005 neu Orchymyn 2018.

(2Nid oes dim ym mharagraff (1) yn effeithio ar unrhyw beth a gyflawnwyd cyn y dyddiad cychwyn, o dan y drwydded neu at ddibenion y drwydded.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y drwydded at Orchymyn 2005, Gorchymyn 2018 neu Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC i’w ddarllen fel cyfeiriad at y ddarpariaeth gyfatebol yn Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliadau hyn neu o dan y Rheoliad hwnnw neu’r Rheoliadau hynny.

Darpariaethau trosiannol: hysbysiadau

53.—(1Mae unrhyw hysbysiad a roddwyd o dan Orchymyn 2005, Gorchymyn Iechyd Planhigion (Marcio Deunydd Pecynnu Pren) (Coedwigaeth) 2006(40) neu Orchymyn 2018 ac sy’n cael effaith ar y dyddiad cychwyn—

(a)yn parhau mewn grym ac yn parhau i gael effaith fel pe bai wedi ei roi o dan y Rheoliadau hyn at ddiben cyfatebol ar y dyddiad y rhoddwyd ef o dan Orchymyn 2005, Gorchymyn Iechyd Planhigion (Marcio Deunydd Pecynnu Pren) (Coedwigaeth) 2006 neu Orchymyn 2018 (yn ôl y digwydd), a

(b)i’w ddarllen gydag unrhyw addasiadau sy’n angenrheidiol er mwyn iddo wneud hynny.

(2Ym mharagraff (1), mae’r cyfeiriad at unrhyw hysbysiad o dan Orchymyn 2005, Gorchymyn Iechyd Planhigion (Marcio Deunydd Pecynnu Pren) (Coedwigaeth) 2006 neu Orchymyn 2018 yn cynnwys unrhyw gymeradwyaeth swyddogol a roddwyd at ddibenion yr hysbysiad.

Darpariaethau trosiannol: cymeradwyaethau a roddwyd o dan erthygl 17(1) o Orchymyn 2005 neu Orchymyn 2018

54.—(1Mae unrhyw gymeradwyaeth a roddwyd gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 17(1) o Orchymyn 2005 neu o dan erthygl 17(1) o Orchymyn 2018 sydd mewn grym yn union cyn y dyddiad cychwyn yn parhau mewn grym ac yn parhau i gael effaith yn ystod y cyfnod perthnasol.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “cyfnod perthnasol”, mewn perthynas â chymeradwyaeth a roddwyd o dan erthygl 17(1) o Orchymyn 2005 neu Orchymyn 2018, yw—

(a)os yw’r gymeradwyaeth yn dod i ben ar neu ar ôl 13 Rhagfyr 2020, y cyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy’n diweddu ar 13 Rhagfyr 2020, neu

(b)os yw’r gymeradwyaeth yn dod i ben cyn 13 Rhagfyr 2020, y cyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy’n diweddu ar y dyddiad a bennir yn y gymeradwyaeth i’r gymeradwyaeth ddod i ben.

RHAN 13Rheolaethau swyddogol mewn perthynas ag organeddau a addaswyd yn enetig

Diwygio is-ddeddfwriaeth ar reolaethau swyddogol mewn perthynas ag organeddau a addaswyd yn enetig

55.—(1Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020(41) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “deddfwriaeth berthnasol”, yn lle “is-baragraffau (a), (c), (d), (e) ac (f)” rhodder “is-baragraffau (a) i (f)”.

(3Yn rheoliad 13(5)(b), yn y testun Cymraeg, ar ôl “bodlonir” mewnosoder “un”.

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

2 Mawrth 2020

Rheoliad 18

ATODLEN 1Mesurau gwladol dros dro

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon, ystyr “cyflwyno” yw cyflwyno i Gymru o drydedd wlad neu ran arall o diriogaeth yr Undeb.

RHAN 1Planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o drydydd gwledydd

Mesurau dros dro sy’n gymwys i gyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o drydydd gwledydd

2.—(1Ni chaiff unrhyw berson gyflwyno unrhyw beiriannau neu gerbydau a ddefnyddiwyd ac a weithredwyd at ddibenion amaethyddiaeth neu goedwigaeth ac a allforiwyd o’r Swistir oni bai bod y peiriannau neu’r cerbydau—

(a)wedi eu hallforio o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad amddiffyn planhigion gwladol yn unol ag SRFFf 4 fel ardal sy’n rhydd rhag Ceratocystis platani (J.M. Walter) Engelbr. & T.C. Harr., neu

(b)yn achos unrhyw beiriannau neu gerbydau a allforiwyd o ardal sydd wedi ei heigio â Ceratocystis platani (J.M. Walter) Engelbr. & T.C. Harr., eu bod wedi eu glanhau a’u bod yn rhydd rhag gweddillion pridd a phlanhigion cyn eu symud allan o’r ardal.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “SRFFf 4” yw’r Safon Ryngwladol ar Fesurau Ffytoiechydol Rhif 4 dyddiedig Tachwedd 1995 ynghylch y gofynion ar gyfer sefydlu ardaloedd di-bla, a baratowyd gan Ysgrifenyddiaeth yr IPPC a sefydlwyd gan Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig(42).

RHAN 2Planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o ran arall o diriogaeth yr Undeb

Mesurau dros dro sy’n gymwys i gyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o ran arall o diriogaeth yr Undeb

3.  Yn y Rhan hon—

ystyr “datganiad swyddogol” (“official statement”) yw datganiad a ddyroddir gan gynrychiolydd awdurdodedig i’r awdurdod cymwys yn yr Aelod-wladwriaeth wreiddiol neu o dan ei oruchwyliaeth;

ystyr “Sbaen” (“Spain”) yw’r rhan honno o Sbaen sydd wedi ei chynnwys o fewn tiriogaeth yr Undeb at ddibenion Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE, heblaw Ynysoedd Baleares;

ystyr “symud” (“move”) yw symud yng Nghymru.

4.  Ni chaiff unrhyw berson gyflwyno na symud unrhyw blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill a ddisgrifir yng ngholofn 2 o Dabl 1 oni cheir datganiad swyddogol gyda hwy yn cadarnhau’r materion a nodir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3 o’r Tabl hwnnw.

Tabl 1
(1)

(2)

Disgrifiad o’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill

(3)

Manylion y datganiad swyddogol

1.Cloron Solanum tuberosum L., gan gynnwys y rhai a fwriedir i’w plannu sy’n tarddu o Sbaen ac eithrio pan fo’r cloron hynny’n tarddu o ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 5 o Benderfyniad 2012/270/EURhaid i’r datganiad swyddogol gadarnhau bod y cloron wedi eu golchi fel nad oes mwy na 0.1% o bridd ar ôl
2.Cloron Solanum tuberosum L., yn tarddu o Wlad Pwyl

Rhaid i’r datganiad swyddogol gadarnhau y cafwyd bod y cloron yn rhydd rhag

Clavibacter michiganensis ssp. Sepedonicus (Spieckermann a Kotthoff) David et al. mewn profion mewn labordy

Rheoliad 23

ATODLEN 2

RHAN 1Dehongli cyffredinol

1.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “Cyfarwyddeb 93/85/EEC” (“Directive 93/85/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 93/85/EEC ynghylch rheoli pydredd cylch tatws(43);

ystyr “Cyfarwyddeb 98/57/EC” (“Directive 98/57/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 98/57/EC ynghylch rheoli Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al.(44);

ystyr “Cyfarwyddeb 2007/33/EC” (“Directive 2007/33/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2007/33/EC ynghylch rheoli Llyngyr tatws(45);

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw le, gan gynnwys unrhyw dir, adeilad, cerbyd, llestr, awyren, hofrenfad, cynhwysydd llwythi, wagen reilffordd, trelar neu adeilad neu adeiledd symudol;

ystyr “Pydredd coch tatws” (“Potato brown rot”) yw naill ai’r clefyd tatws a achosir gan Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. neu’r bacteriwm hwnnw, fel y bo’r cyd-destun yn mynnu;

ystyr “Pydredd cylch tatws” (“Potato ring rot”) yw naill ai’r clefyd tatws a achosir gan y bacteriwm Clavibacter michiganensis (Smith) Davis et al. spp. Sependonicus (Spieckermann a Kotthof) Davis et al. neu’r bacteriwm hwnnw, fel y bo’r cyd-destun yn mynnu;

ystyr “Rheoliadau Tatws Hadyd” (“Seed Potatoes Regulations”) yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016(46);

ystyr “taten” (“potato”) yw unrhyw gloronen neu wir had neu unrhyw blanhigyn arall o Solanum tuberosum L, neu unrhyw rywogaeth arall o’r genws Solanum L. sy’n ffurfio cloron.

RHAN 2Darpariaethau cyffredinol ynglŷn â phlannu rhywogaethau mochlysaidd penodol

Cyfyngiadau cyffredinol ar blannu tatws

2.—(1Ni chaiff unrhyw berson fynd ati’n fwriadol i blannu’r canlynol, nac achosi na chaniatáu’n fwriadol iddynt gael eu plannu—

(a)unrhyw datws a dyfwyd mewn trydedd wlad, heblaw’r Swistir, neu

(b)unrhyw datws a gynhyrchir o’r tatws hynny.

(2Ni chaiff unrhyw berson fynd ati’n fwriadol i blannu unrhyw datws, nac achosi na chaniatáu’n fwriadol iddynt gael eu plannu oni bai—

(a)eu bod yn tarddu mewn llinell uniongyrchol o ddeunydd tatws sydd wedi ei gael o dan raglen a gymeradwywyd yn swyddogol yn yr Undeb Ewropeaidd neu’r Swistir,

(b)y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Pydredd cylch tatws mewn profion swyddogol gan ddefnyddio’r dulliau a nodir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC, ac

(c)y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Pydredd coch tatws mewn profion swyddogol gan ddefnyddio’r dulliau a nodir yn Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 98/57/EC.

RHAN 3Mesurau i reoli Clefyd y ddafaden tatws

Dehongli

3.  Yn y Rhan hon—

(a)ystyr “Clefyd y ddafaden tatws” yw naill ai’r clefyd tatws a achosir gan y ffwng Synchytrium endobioticum (Schilbersky) Percival neu’r ffwng hwnnw, fel y bo’r cyd-destun yn mynnu;

(b)mae llain o dir i’w hystyried yn llain halogedig os bydd prawf swyddogol yn cadarnhau bod Clefyd y ddafaden tatws yn bresennol ar o leiaf un planhigyn sy’n tyfu neu a dyfwyd ar y llain honno.

Mesurau swyddogol ynglŷn â lleiniau tir halogedig

4.—(1Rhaid i arolygydd iechyd planhigion ddarnodi unrhyw lain halogedig a pharth diogelwch o amgylch y llain honno sy’n ddigon mawr i sicrhau diogelwch yr ardal o’i hamgylch.

(2Rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad o dan reoliad 15(1) yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gloron neu wlydd tatws sy’n bresennol ar y llain halogedig neu sydd wedi dod o’r llain halogedig, gael eu trin mewn modd sy’n sicrhau bod Clefyd y ddafaden tatws sy’n bresennol arnynt yn cael ei ddinistrio.

(3Pan fo arolygydd iechyd planhigion wedi ei fodloni bod unrhyw gloron neu wlydd tatws wedi eu halogi â Chlefyd y ddafaden tatws ac na all yr arolygydd ganfod a fu’r cloron neu’r gwlydd hynny yn bresennol ar lain halogedig, caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad o dan reoliad 15(1) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r swp cyfan sy’n cynnwys y cloron neu’r gwlydd yr effeithiwyd arnynt gael ei drin mewn modd sy’n sicrhau nad oes risg y bydd Clefyd y ddafaden tatws yn lledaenu.

Gwahardd plannu tatws ar leiniau halogedig

5.—(1Pan fo llain halogedig wedi ei darnodi o dan baragraff 4(1), ni chaiff unrhyw berson—

(a)tyfu unrhyw datws ar y llain, neu

(b)tyfu neu storio ar y llain unrhyw blanhigion a fwriedir i’w trawsblannu.

(2Ni chaiff unrhyw berson dyfu tatws mewn parth diogelwch a ddarnodir o dan baragraff 4(1) oni bai bod arolygydd iechyd planhigion wedi ei fodloni eu bod o rywogaeth sydd ag ymwrthedd i’r hiliau o Glefyd y ddafaden tatws a geir ar y llain halogedig y mae’r parth diogelwch yn ymwneud â hi.

(3Bernir bod amrywogaeth tatws yn un sydd ag ymwrthedd i hil benodol o Glefyd y ddafaden tatws at ddibenion is-baragraff (2) pan fo’r amrywogaeth honno yn adweithio i halogiad gan gyfrwng pathogenig yr hil honno mewn modd sy’n sicrhau nad oes perygl o sgil-heintio.

Dirymu darnodiad llain halogedig

6.  Pan fo arolygydd iechyd planhigion wedi ei fodloni nad yw Clefyd y ddafaden tatws yn bresennol mwyach ar lain a ddarnodir o dan baragraff 4(1) neu ar ei pharth diogelwch cysylltiedig, rhaid i’r arolygydd ddirymu’r darnodiad hwnnw.

RHAN 4Mesurau i reoli poblogaethau Ewropeaidd o Lyngyr tatws

Dehongli

7.  Yn y Rhan hon—

ystyr “bylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau” (“susceptible bulbs”) yw bylbiau, cloron neu risomau, a dyfwyd mewn pridd ac a fwriedir i’w plannu, o Allium ascalonicum L., Allium cepa L., Dahlia spp., Gladiolus Tourn. Ex L., Hyacinthus spp., Iris spp., Lilium spp., Narcissus L. neu Tulipa L., heblaw’r rhai y ceir tystiolaeth drwy gyfrwng eu pecynnau neu drwy ddulliau eraill y bwriedir iddynt gael eu gwerthu i ddefnyddwyr terfynol nad ydynt yn ymwneud yn broffesiynol â chynhyrchu planhigion neu flodau wedi eu torri;

ystyr “cae” (“field”) yw ardal sydd wedi ei darnodi fel cae at ddibenion Erthygl 3 o Gyfarwyddeb 2007/33/EC;

ystyr “cae a heigiwyd” (“infested field”) yw cae y cofnodwyd ei fod wedi ei heigio yn unol â pharagraff 9(1);

ystyr “deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau” (“susceptible material”) yw planhigion cynhaliol, bylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau;

ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad o dan reoliad 15(1);

ystyr “Llyngyr tatws” (“Potato cyst nematode”) yw unrhyw lyngyr sy’n ffurfio systiau o’r rhywogaeth Globodera pallida (Stone) Behrens neu Globodera rostochiensis (Wollenweber) Behrens sy’n heigio ac yn lluosogi ar datws, gan gynnwys unrhyw fath neu bathoteip o lyngyr o’r fath;

ystyr “planhigion cynhaliol” (“host plants”) yw planhigion ac iddynt wreiddiau Capsicum spp., Solanum lycopersicum L. neu Solanum melongena L.;

ystyr “planhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau” (“susceptible plants”) yw planhigion ac iddynt wreiddiau Allium porrum L., Asparagus officinalis L., Beta vulgaris L., Brassica spp. neu Fragaria L.

Ymchwiliadau ac arolygon swyddogol

8.  Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)bod ymchwiliadau swyddogol yn cael eu cynnal yn unol ag Erthyglau 4 a 5 o Gyfarwyddeb 2007/33/EC ar gyfer presenoldeb Llyngyr tatws mewn caeau y bwriedir plannu neu storio ynddynt datws hadyd neu ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu planhigion i’w plannu, a

(b)bod arolygon swyddogol yn cael eu cynnal yn unol ag Erthygl 6 o Gyfarwyddeb 2007/33/EC ar gyfer presenoldeb Llyngyr tatws mewn caeau a ddefnyddir i gynhyrchu tatws, heblaw’r rhai a fwriedir ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd.

Cofnodion swyddogol ymchwiliadau ac arolygon

9.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod canlyniadau pob ymchwiliad swyddogol neu arolwg swyddogol a gynhelir yn unol â pharagraff 8 yn cael eu cofnodi i ddangos a ganfuwyd Llyngyr tatws yn y caeau yn ystod yr ymchwiliad neu’r arolwg.

(2Pan fo’r mesurau a gymeradwywyd yn swyddogol ac a nodir yn Adran 3(C) o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 2007/33/EC wedi eu cymryd mewn cae y cofnodwyd ei fod wedi ei heigio yn unol ag is-baragraff (1) ac, ar ôl cwblhau’r mesurau hynny, y cadarnheir yn swyddogol nad oes Llyngyr tatws yn bresennol yn y cae mwyach, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y cofnod yn cael ei ddiweddaru yn unol â hynny.

Hysbysiadau mewn perthynas â chaeau a heigiwyd a deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a halogwyd

10.—(1Rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd neu i’r person arall sydd â gofal am gae a heigiwyd, sy’n pennu ffiniau’r cae a heigiwyd.

(2Ni chaniateir tynnu’r hysbysiad yn ôl hyd nes y cadarnheir, yn unol â pharagraff 9(2) nad oes Llyngyr tatws yn bresennol yn y cae mwyach.

(3Rhaid i arolygydd iechyd planhigion, drwy hysbysiad, ddynodi bod unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n dod o gae y cofnodwyd yn swyddogol ei fod wedi ei heigio o dan baragraff 9(1) neu unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sydd wedi bod mewn cysylltiad â phridd lle cafwyd Llyngyr tatws yn ddeunydd halogedig.

Gwahardd plannu tatws mewn caeau a heigiwyd

11.—(1Oni chaiff ei awdurdodi i wneud hynny gan arolygydd, ni chaiff unrhyw berson—

(a)plannu unrhyw datws y bwriedir eu defnyddio i gynhyrchu tatws hadyd mewn cae a heigiwyd, neu

(b)plannu neu storio unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau y bwriedir ei blannu mewn cae a heigiwyd.

(2Caiff arolygydd iechyd planhigion awdurdodi plannu bylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau mewn cae a heigiwyd.

(3Rhaid i awdurdodiad o dan is-baragraff (2) gael ei roi drwy hysbysiad a rhaid iddo gynnwys y mesurau a nodir yn Adran 3(A) o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 2007/33/EC.

Atal Llyngyr tatws

12.—(1Ni chaiff unrhyw berson blannu unrhyw datws mewn cae a heigiwyd nad ydynt wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd oni bai ei fod wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan arolygydd iechyd planhigion.

(2Rhaid i awdurdodiad o dan is-baragraff (1) gael ei roi drwy hysbysiad a dim ond os yw’r arolygydd wedi ei fodloni bod pob cam rhesymol i atal Llyngyr tatws yn y cae wedi eu cymryd yn unol â’r rhaglen reoli swyddogol a fabwysiadwyd gan Weinidogion Cymru ar gyfer atal Llyngyr tatws y caniateir iddo gael ei roi.

Rheolaethau ar datws hadyd halogedig etc.

13.—(1Ni chaiff unrhyw berson blannu unrhyw datws hadyd nac unrhyw blanhigion cynhaliol sydd wedi eu dynodi yn halogedig yn unol â pharagraff 10(3), oni bai ei fod wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan arolygydd.

(2Rhaid i awdurdodiad o dan is-baragraff (1) gael ei roi drwy hysbysiad a rhaid iddo gynnwys y mesurau sy’n angenrheidiol ym marn yr arolygydd i ddihalogi’r tatws hadyd neu’r planhigion cynhaliol hynny.

Rheolaethau ar datws ar gyfer prosesu neu raddio diwydiannol

14.—(1Ni chaiff unrhyw berson symud unrhyw datws a ddynodwyd yn halogedig yn unol â pharagraff 10(3) ac a fwriedir ar gyfer prosesu neu raddio diwydiannol, oni bai ei fod wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan arolygydd.

(2Rhaid i awdurdodiad o dan is-baragraff (1) gael ei roi drwy hysbysiad a rhaid iddo ei gwneud yn ofynnol i’r tatws gael eu danfon i safle prosesu neu raddio sydd â gweithdrefnau gwaredu gwastraff priodol a gymeradwywyd yn swyddogol sy’n sicrhau nad oes risg y bydd Llyngyr tatws yn lledaenu.

Rheolaethau ar fylbiau halogedig etc.

15.  Ni chaiff unrhyw berson blannu unrhyw fylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sydd wedi eu dynodi fel rhai a halogwyd yn unol â pharagraff 10(3), oni bai eu bod wedi bod yn destun y mesurau a nodir yn Adran 3(A) o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 2007/33/EC a bod arolygydd wedi cadarnhau drwy hysbysiad nad ydynt wedi eu halogi mwyach.

Ymchwiliadau pellach ar gyfer presenoldeb llyngyr tatws

16.  Os yw unrhyw achos a amheuir o Lyngyr tatws neu unrhyw achos o bresenoldeb Llyngyr tatws a gadarnhawyd yn deillio o fethiant neu newid o ran effeithiolrwydd amrywogaeth tatws sydd ag ymwrthedd sy’n ymwneud â newid eithriadol o ran cyfansoddiad rhywogaethau llyngyr, pathodeipiau neu grwpiau gwenwyndra, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau y cynhelir drwy ddulliau priodol ymchwiliad i’r rhywogaeth o Lyngyr tatws dan sylw a, pan fo’n gymwys, y pathoteip a’r grŵp gwenwyndra dan sylw, a’u bod yn cael eu cadarnhau drwy ddulliau priodol.

RHAN 5Mesurau i reoli Pydredd cylch tatws

Dehongli

17.  Yn y Rhan hon—

ystyr “blwyddyn dyfu gyntaf” (“first growing year”), yn achos mesurau sydd i’w cymryd mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig, yw’r flwyddyn dyfu gyntaf yn dilyn y flwyddyn dyfu pryd y dynodir y man cynhyrchu yn halogedig at ddibenion Erthygl 5(1)(a) o Gyfarwyddeb 93/85/EEC;

ystyr “deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau” (“susceptible material”) yw cloron neu blanhigion Solanum tuberosum L.;

ystyr “gwrthrych” (“object”) yw unrhyw beiriant, cerbyd, llestr, storfa neu wrthrych arall, gan gynnwys deunydd pecynnu;

ystyr “halogedig” (“contaminated”) yw wedi ei dynodi’n halogedig gan arolygydd iechyd planhigion at ddibenion Erthygl 5(1)(a) o Gyfarwyddeb 93/85/EEC;

ystyr “halogedig o bosibl” (“possibly contaminated”) yw wedi ei bennu’n halogedig o bosibl gan arolygydd iechyd planhigion at ddibenion Erthygl 5(1)(b) o Gyfarwyddeb 93/85/EEC;

ystyr “hysbysiad” (“notice”), mewn perthynas â hysbysiad sydd i’w roi gan arolygydd iechyd planhigion, yw hysbysiad o dan reoliad 15(1);

ystyr “parth” (“zone”) yw unrhyw ardal, gan gynnwys unrhyw fangre unigol;

ystyr “tatws hadyd ardystiedig” (“certified seed potatoes”) yw tatws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig o fewn yr ystyr a nodir yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau Tatws Hadyd.

Arolygon a phrofion swyddogol

18.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod arolygon swyddogol systemataidd ar gyfer Pydredd cylch tatws yn cael eu cynnal yng Nghymru ar gloron Solanum tuberosum L. a, pan fo’n briodol, ar blanhigion Solanum tuberosum L., yn unol ag Erthygl 2(1) o Gyfarwyddeb 93/85/EEC.

(2Pan amheuir bod Pydredd cylch tatws yn bresennol mewn deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)bod profion swyddogol yn cael eu cynnal gan ddefnyddio’r dull a nodir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC ac yn unol â’r amodau a bennir ym mhwynt 1 o Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC i gadarnhau a yw’n bresennol ai peidio,

(b)bod y canlynol yn cael eu cadw a’u diogelu’n briodol tra disgwylir i’r profion swyddogol gael eu cwblhau—

(i)yr holl gloron a samplwyd, a lle bynnag y bo’n bosibl, yr holl blanhigion a samplwyd;

(ii)unrhyw echdyniad sy’n weddill a deunydd paratoi ychwanegol ar gyfer y profion sgrinio;

(iii)yr holl ddogfennaeth berthnasol, ac

(c)hyd nes y cadarnheir ei fod yn bresennol neu y gwrthbrofir yr amheuaeth ei fod yn bresennol, pan fo symptomau gweledol diagnostig sy’n peri amheuaeth ynghylch presenoldeb Pydredd cylch tatws wedi eu gweld, neu pan fo symptomau Pydredd cylch tatws wedi eu canfod gan brawf imiwnofflworoleuedd cadarnhaol neu brawf cadarnhaol priodol arall—

(i)bod symud yr holl lotiau neu lwythi y cymerwyd y samplau ohonynt, heblaw’r rhai sydd o dan reolaeth swyddogol, yn cael ei wahardd, ac eithrio pan gadarnhawyd nad oes risg adnabyddadwy y bydd Pydredd cylch tatws yn lledaenu,

(ii)bod camau’n cael eu cymryd i olrhain tarddiad yr achos a amheuir, a

(iii)bod camau rhagofalus priodol ychwanegol sy’n seiliedig ar lefel y risg a amcangyfrifir yn cael eu cymryd i atal y pla planhigion rhag lledaenu.

(3Caiff hysbysiad gynnwys mesurau at ddibenion is-baragraff (2)(c)(i) i (iii).

Mesurau i’w cymryd yn dilyn cadarnhau presenoldeb Pydredd cylch tatws

19.—(1Os yw presenoldeb Pydredd cylch tatws yn cael ei gadarnhau mewn sampl o ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn dilyn profion swyddogol a gynhelir yn unol â pharagraff 18(2)(a) neu is-baragraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)bod y deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, y llwyth neu’r lot ac unrhyw wrthrych y cymerwyd y sampl ohono a, pan fo’n briodol, y man cynhyrchu a’r cae y cynaeafwyd y deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ohonynt, yn cael eu dynodi yn halogedig gan arolygydd iechyd planhigion;

(b)bod arolygydd iechyd planhigion yn canfod graddau’r halogi tebygol drwy gysylltiad cyn neu ar ôl cynaeafu neu drwy unrhyw gyswllt cynhyrchu ag unrhyw beth a ddynodir yn halogedig o dan baragraff (a), gan ystyried y materion a nodir ym mhwynt 1 o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC;

(c)bod parth yn cael ei ddarnodi gan arolygydd iechyd planhigion ar sail y dynodiad a wneir o dan baragraff (a), gan ystyried y materion a nodir ym mhwynt 2 o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC.

(2Pan fo deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau wedi ei ddynodi yn halogedig o dan is-baragraff (1)(a), rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau y cynhelir profion ar stociau tatws sy’n perthyn drwy glonio i’r deunydd hwnnw sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn y dull a bennir ym mharagraff 18(2)(a) er mwyn canfod prif ffynhonnell debygol yr haint, a graddau’r halogi tebygol.

(3Rhaid cynnal unrhyw brofion o’r fath ar faint bynnag o ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ag sy’n angenrheidiol i ganfod prif ffynhonnell debygol yr haint, a graddau’r halogi tebygol.

(4Rhaid i unrhyw ddynodiad gan arolygydd iechyd planhigion o dan y paragraff hwn hon gael ei wneud drwy hysbysiad.

(5Pan fo arolygydd iechyd planhigion yn canfod o dan is-baragraff (1)(b) fod unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, neu unrhyw wrthrych, yn halogedig o bosibl, rhaid i’r arolygydd ddynodi drwy hysbysiad fod y deunydd hwnnw neu’r gwrthrych hwnnw yn halogedig o bosibl.

Cyfyngiadau mewn perthynas â deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu wrthrychau sy’n halogedig neu sy’n halogwyd o bosibl â Phydredd cylch tatws

20.—(1Ni chaiff unrhyw berson fynd ati’n fwriadol i blannu’r canlynol, nac achosi na chaniatáu’n fwriadol iddynt gael eu plannu—

(a)unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig, neu

(b)unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig o bosibl.

(2Pan fo deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu wrthrych wedi eu dynodi’n halogedig neu’n halogedig o bosibl o dan baragraff 19(1) neu (5), rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol—

(a)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig, i’r deunydd gael ei waredu drwy ei ddinistrio neu drwy unrhyw fesur arall sy’n cydymffurfio â phwynt 1 o Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC;

(b)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig o bosibl, i’r deunydd gael ei ddefnyddio neu ei waredu yn unol â phwynt 2 o Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC;

(c)yn achos gwrthrych sy’n halogedig neu wrthrych sy’n halogedig o bosibl, i’r gwrthrych—

(i)cael ei waredu drwy ei ddinistrio, neu

(ii)cael ei lanhau a’i ddiheintio fel nad oes risg adnabyddadwy y bydd Pydredd cylch tatws yn goroesi neu’n lledaenu.

(3Ni chaniateir i ddim byd a lanhawyd ac a ddiheintiwyd yn unol ag is-baragraff (2)(c)(ii) gael ei drin mwyach fel pe bai’n halogedig at ddibenion Cyfarwyddeb 93/85/EEC.

Mesurau mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig

21.—(1Rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno’r hysbysiadau a ganlyn i unrhyw feddiannydd neu berson arall sydd â gofal am fan cynhyrchu halogedig—

(a)mewn perthynas ag unrhyw gae halogedig sy’n rhan o’r man cynhyrchu, hysbysiad yn cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu neu hysbysiad yn cynnwys yr ail gyfres o fesurau dileu;

(b)mewn perthynas ag unrhyw gae sy’n rhan o’r man cynhyrchu ond nad yw’n halogedig, hysbysiad yn cynnwys y drydedd set o fesurau dileu.

(2Dyma’r set gyntaf o fesurau dileu—

(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am o leiaf dair blwyddyn dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol, ac unrhyw blanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws,

(b)gwaharddiad ar blannu unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn y cae yn ystod y cyfnod hwnnw—

(i)cloron, planhigion neu wir hadau tatws;

(ii)planhigion sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws;

(iii)cnydau lle ceir risg mewn cysylltiad â hwy y bydd Pydredd cylch tatws yn lledaenu,

(c)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta y caniateir eu plannu yn y cae yn ystod y tymor cnydio tatws cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw, a bod y tatws dim ond yn cael eu plannu os canfuwyd bod y cae yn rhydd rhag planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws am o leiaf ddwy flwyddyn dyfu yn olynol cyn plannu, a bod y cloron a gynaeafwyd yn destun profion swyddogol gan ddefnyddio’r dull a nodir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC, a

(d)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta y caniateir eu plannu yn y cae yn ystod y tymor cnydio tatws nesaf yn dilyn cylch cylchdroi priodol (rhaid i’r cylch hwnnw fod o leiaf ddwy flynedd pan fo’r tatws i’w plannu i gynhyrchu tatws hadyd).

(3Dyma’r ail set o fesurau dileu—

(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am bedair blwyddyn dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol, a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws,

(b)gofyniad bod y cae yn cael ei gadw, yn ystod y cyfnod hwnnw, yn fraenar neu’n dir pori parhaol, gan dorri’r borfa yn fyr neu bori’r tir yn ddwys yn fynych, ac

(c)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta y caniateir eu plannu yn ystod y tymor cnydio tatws cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw, a bod y tatws dim ond yn cael eu plannu os canfuwyd bod y cae yn rhydd rhag planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws am o leiaf ddwy flwyddyn dyfu yn olynol cyn plannu, a bod y cloron a gynaeafwyd yn destun profion swyddogol gan ddefnyddio’r dull a nodir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC.

(4Dyma’r drydedd set o fesurau dileu—

(a)pan fo arolygydd iechyd planhigion wedi ei fodloni bod y risg o blanhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws wedi ei ddileu, gwaharddiad ar blannu unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am y flwyddyn dyfu gyntaf—

(i)cloron, planhigion neu wir hadau tatws,

(ii)planhigion sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws, a

(iii)tatws hadyd ardystiedig, oni bai eu bod ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta yn unig,

(b)gofyniad mai dim ond y tatws a ganlyn y caniateir eu plannu ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta yn y flwyddyn dyfu ganlynol—

(i)tatws hadyd ardystiedig, a

(ii)tatws hadyd a brofwyd yn swyddogol ar gyfer absenoldeb Pydredd cylch tatws ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol mewn man cynhyrchu nad yw’n fan cynhyrchu halogedig,

(c)gofyniad mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol o datws hadyd ardystiedig y caniateir eu plannu i gynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta yn ystod o leiaf y drydedd flwyddyn dyfu, a

(d)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad hyd at ddiwedd y drydedd flwyddyn dyfu er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol, ac unrhyw blanhigion sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws a gofyniad bod profion swyddogol yn cael eu cynnal ar y cloron a gynaeafwyd ym mhob cae gan ddefnyddio’r dull a nodir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC.

(5Rhaid hefyd i hysbysiad a gyflwynir gan arolygydd iechyd planhigion o dan is-baragraff (1)(a) sy’n cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu—

(a)cynnwys gofyniad bod rhaid i’r holl beiriannau a chyfleusterau storio yn y man cynhyrchu a ddefnyddir i gynhyrchu tatws gael eu glanhau a’u diheintio ar unwaith ac yn dilyn y flwyddyn dyfu gyntaf, a

(b)pennu’r dulliau priodol ar gyfer glanhau a diheintio’r peiriannau a’r cyfleusterau storio.

(6Caniateir i’r mesurau y caiff eu pennu mewn hysbysiad o dan is-baragraff (1) neu (5) gael eu cynnwys mewn hysbysiad gyda mesurau priodol eraill.

(7Rhaid i’r person y cyflwynir hysbysiad iddo yn unol ag is-baragraff (1) sicrhau bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad yn cael eu cymryd yn y modd gofynnol.

(8Pan fo arolygydd iechyd planhigion yn cyflwyno hysbysiad yn cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod arolwg swyddogol yn cael ei gynnal mewn perthynas â’r cae a grybwyllir yn is-baragraff (2)(d) yn unol ag Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 93/85/EEC.

Mesurau ychwanegol sy’n gymwys i uned cynhyrchu cnwd o dan orchudd

22.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys i blannu unrhyw gloron, planhigion neu wir hadau tatws mewn uned cynhyrchu cnydau o dan orchudd sy’n halogedig lle mae’n bosibl amnewid yr holl gyfrwng tyfu yn yr uned.

(2Ni chaiff unrhyw berson blannu unrhyw gloron, planhigion na gwir hadau tatws yn yr uned heb awdurdodiad ysgrifenedig arolygydd iechyd planhigion.

(3Ni chaiff arolygydd iechyd planhigion roi awdurdodiad o dan is-baragraff (2) oni bai—

(a)y cydymffurfiwyd â’r holl fesurau i ddileu Pydredd cylch tatws ac i symud yr holl blanhigion sy’n eu cynnal ymaith a bennir mewn hysbysiad mewn perthynas â’r man cynhyrchu lle y mae’r uned wedi ei lleoli,

(b)bod y cyfrwng tyfu yn yr uned wedi ei newid yn llwyr, ac

(c)bod yr uned a’r holl offer a ddefnyddiwyd yn yr uned wedi eu glanhau ac wedi eu diheintio i ddileu Pydredd cylch tatws ac i symud yr holl ddeunydd planhigion cynhaliol ymaith.

(4Pan roddir awdurdodiad o dan is-baragraff (2), caiff yr awdurdodiad bennu mai dim ond tatws hadyd ardystiedig, cloron bychain neu ficro-blanhigion sy’n deillio o ffynonellau a brofwyd yn swyddogol y caniateir eu defnyddio yn y broses gynhyrchu.

Mesurau i’w cymryd mewn parthau a ddarnodwyd i reoli Pydredd cylch tatws

23.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo arolygydd iechyd planhigion wedi darnodi parth yn unol â pharagraff 19(1)(c).

(2Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad, bennu rhagor o waharddiadau, cyfyngiadau a mesurau eraill a fydd yn gymwys yn y parth a ddarnodwyd i atal y risg y bydd Pydredd cylch tatws yn goroesi neu’n lledaenu.

(3Caiff Gweinidogion Cymru, yn benodol, bennu mewn hysbysiad o dan is-baragraff (2)—

(a)bod rhaid i unrhyw beiriannau neu gyfleusterau storio mewn mangre yn y parth a ddarnodwyd a ddefnyddir i gynhyrchu tatws gael eu glanhau a’u diheintio mewn modd priodol, fel nad oes risg adnabyddadwy y bydd Pydredd cylch tatws yn goroesi neu’n lledaenu;

(b)mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu yn ystod y cyfnod penodedig;

(c)bod rhaid i unrhyw datws hadyd a dyfir mewn man cynhyrchu sy’n halogedig o bosibl gael eu profi’n swyddogol ar ôl eu cynaeafu;

(d)bod rhaid i datws a fwriedir i’w plannu gael eu trin ar wahân i’r holl datws eraill mewn mangre yn y parth neu fod rhaid gweithredu system lanhau a, pan fo’n briodol, ddiheintio rhwng trin tatws hadyd a thrin tatws bwyta yn ystod y cyfnod penodedig.

(4O ran hysbysiad o dan is-baragraff (2)—

(a)rhaid iddo fod mewn ysgrifen,

(b)rhaid iddo ddisgrifio hyd a lled y parth a ddarnodir,

(c)rhaid iddo bennu ar ba ddyddiad y bydd pob mesur i gael effaith ac am ba hyd,

(d)rhaid iddo gael ei gyhoeddi mewn modd sy’n briodol i ddod ag ef i sylw’r cyhoedd, ac

(e)caniateir iddo gael ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, drwy hysbysiad arall.

(5Rhaid trin unrhyw fangre sy’n rhannol o fewn parth a ddarnodir ac yn rhannol y tu allan iddo fel pe bai o fewn y parth hwnnw at ddibenion y paragraff hwn, ac eithrio pan nad yw’r rhan sydd y tu allan i’r parth a ddarnodir yng Nghymru.

(6Rhaid trin hysbysiad a gyhoeddir yn unol ag is-baragraff (4) fel pe bai wedi ei gyflwyno—

(a)i unrhyw feddiannydd neu berson arall sydd â gofal am unrhyw fangre o fewn y parth a ddarnodir, a

(b)i unrhyw berson sy’n gweithredu peiriannau neu sy’n cyflawni unrhyw weithgaredd arall mewn perthynas â chynhyrchu tatws o fewn y parth a ddarnodir.

(7Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)bod mangreoedd sy’n tyfu, yn storio neu’n trin cloron tatws, a mangreoedd sy’n gweithredu peiriannau tatws o dan gontract, yn cael eu goruchwylio gan arolygwyr iechyd planhigion drwy gydol y cyfnod penodedig;

(b)bod arolwg swyddogol yn cael ei gynnal yn ystod y cyfnod penodedig yn unol ag Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 93/85/EEC;

(c)bod rhaglen yn cael ei sefydlu, pan fo’n briodol, i amnewid yr holl stociau tatws hadyd dros gyfnod priodol o amser.

(8At ddibenion is-baragraffau (3) a (7), ystyr “y cyfnod penodedig” yw’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, a rhaid iddo fod o leiaf dri thymor tyfu ar ôl y flwyddyn y darnodwyd y parth.

RHAN 6Mesurau i reoli Pydredd coch tatws

24.  Yn y Rhan hon—

ystyr “blwyddyn dyfu gyntaf” (“first growing year”), yn achos mesurau sydd i’w cymryd mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig, yw’r flwyddyn dyfu gyntaf yn dilyn y flwyddyn dyfu pryd y dynodir y man cynhyrchu halogedig yn halogedig at ddibenion Erthygl 5(1)(a)(ii) o Gyfarwyddeb 98/57/EC;

ystyr “deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau” (“susceptible material”) yw planhigion (gan gynnwys cloron) heblaw gwir hadau Solanum tuberosum L. neu blanhigion, heblaw ffrwythau neu hadau Solanum lycopersicum L.;

ystyr “gofynion PRHG perthnasol” (“relevant RNQP requirements”), mewn perthynas â phlanhigion at blannu Solanum lycopersicum L., yw—

(a)

yn achos planhigion i’w plannu a gynhyrchwyd cyn 14 Rhagfyr 2019, y gofynion a oedd yn gymwys i’r planhigion i’w plannu hynny o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC neu yn rhinwedd y Gyfarwyddeb honno;

(b)

yn achos planhigion i’w plannu a gynhyrchwyd ar neu ar ôl 14 Rhagfyr 2019, y gofynion sy’n gymwys i’r planhigion i’w plannu hynny o dan y Rheoliad Amodau Ffytoiechydol neu yn rhinwedd y Rheoliad hwnnw;

ystyr “gwrthrych” (“object”) yw unrhyw beiriant, cerbyd, llestr, storfa neu wrthrych arall, gan gynnwys deunydd pecynnu;

ystyr “halogedig” (“contaminated”) yw wedi ei ddynodi’n halogedig gan arolygydd iechyd planhigion at ddibenion Erthygl 5(1)(a)(ii) o Gyfarwyddeb 98/57/EC;

ystyr “halogedig o bosibl” (“possibly contaminated”) yw wedi ei bennu’n halogedig o bosibl gan arolygydd iechyd planhigion at ddibenion Erthygl 5(1)(a)(iii) neu (c)(iii) o Gyfarwyddeb 98/57/EC;

ystyr “hysbysiad” (“notice”), mewn perthynas â hysbysiad sydd i’w roi gan arolygydd iechyd planhigion, yw hysbysiad o dan reoliad 15(1);

ystyr “parth” (“zone”) yw unrhyw ardal, gan gynnwys unrhyw fangre unigol;

ystyr “tatws hadyd ardystiedig” (“certified seed potatoes”) yw tatws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau Tatws Hadyd.

Arolygon a phrofion swyddogol

25.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau y cynhelir arolygon swyddogol systemataidd blynyddol yng Nghymru er mwyn nodi presenoldeb Pydredd coch tatws ar ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn unol ag Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 98/57/EC.

(2Pan amheuir bod Pydredd coch tatws yn bresennol, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)bod profion swyddogol yn cael eu cynnal i gadarnhau a yw’n bresennol—

(i)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, gan ddefnyddio’r dull a nodir yn Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 98/57/EC ac yn unol â’r amodau a bennir ym mhwynt 1 o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 98/57/EC;

(ii)mewn unrhyw achos arall, gan ddefnyddio unrhyw ddull a gymeradwyir yn swyddogol;

(b)hyd nes y cadarnheir ei fod yn bresennol neu y gwrthbrofir yr amheuaeth ei fod yn bresennol, pan fo symptomau gweledol diagnostig sy’n peri amheuaeth ynghylch presenoldeb Pydredd coch tatws wedi eu gweld, ac y cafwyd canlyniad cadarnhaol mewn prawf sgrinio cyflym, neu y cafwyd canlyniad cadarnhaol yn y profion sgrinio a bennir ym mhwynt 2 o Adran 1 ac Adran 3 o Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 98/57/EC—

(i)bod symud yr holl blanhigion a’r holl gloron o’r holl gnydau, yr holl lotiau neu’r holl lwythi y cymerwyd y samplau ohonynt, heblaw’r rhai sydd o dan reolaeth swyddogol, yn cael ei wahardd, ac eithrio pan gadarnhawyd nad oes risg adnabyddadwy y bydd Pydredd coch tatws yn lledaenu,

(ii)bod camau’n cael eu cymryd i olrhain tarddiad yr achos a amheuir, a

(iii)bod mesurau rhagofalus priodol ychwanegol sy’n seiliedig ar lefel y risg a amcangyfrifir yn cael eu cymryd er mwyn atal Pydredd coch tatws rhag lledaenu.

(3Caiff hysbysiad gynnwys mesurau at ddibenion is-baragraff (2)(b)(i) i (iii).

Mesurau i’w cymryd yn dilyn cadarnhau presenoldeb Pydredd coch tatws

26.—(1Os bydd presenoldeb Pydredd coch tatws yn cael ei gadarnhau yn dilyn profion swyddogol a gynhelir yn unol â pharagraff 25(2)(a), rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau y cymerir y camau a bennir yn is-baragraffau (2) i (4) yn unol ag egwyddorion gwyddonol cadarn, bioleg Pydredd coch tatws a systemau cynhyrchu, marchnata a phrosesu perthnasol planhigion sy’n cynnal Pydredd coch tatws.

(2Yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, y camau yw—

(a)ymchwiliad gan arolygydd iechyd planhigion i ganfod graddau’r halogiad a phrif ffynonellau’r halogiad yn unol ag Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 98/57/EC;

(b)profion swyddogol pellach, gan gynnwys profion ar yr holl stociau tatws hadyd sy’n perthyn drwy glonio;

(c)dynodi gan arolygydd iechyd planhigion bod y pethau a ganlyn yn halogedig—

(i)y deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a’r llwyth neu’r lot y cymerwyd y sampl ohono neu ohoni;

(ii)unrhyw wrthrychau sydd wedi dod i gysylltiad â’r sampl honno;

(iii)unrhyw uned cynhyrchu cnwd dan orchudd neu gae cynhyrchu cnwd dan orchudd ac unrhyw fan cynhyrchu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau y cymerwyd y sampl ohoni neu ohono;

(d)penderfyniad gan arolygydd iechyd planhigion ynghylch graddau’r halogiad tebygol drwy ddod i gysylltiad cyn neu ar ôl cynaeafu, drwy gysylltau cynhyrchu, dyfrhau neu chwistrellu neu drwy berthynas drwy glonio;

(e)darnodi parth gan arolygydd iechyd planhigion ar sail y dynodiad o dan baragraff (c), y penderfyniad a wneir o dan baragraff (d) a lledaeniad posibl Pydredd coch tatws yn unol â phwynt 2(i) o Atodiad 5 i Gyfarwyddeb 98/57/EC.

(3Yn achos planhigion cynhaliol, heblaw deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, pan fo arolygydd iechyd planhigion yn nodi bod cynhyrchu deunydd o’r fath yn wynebu risg, y camau yw—

(a)ymchwiliad gan arolygydd iechyd planhigion i ganfod graddau’r halogiad a phrif ffynonellau’r halogiad yn unol ag Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 98/57/EC;

(b)dynodi gan arolygydd iechyd planhigion fod planhigion cynhaliol y cymerwyd y sampl ohonynt yn halogedig;

(c)penderfyniad gan arolygydd iechyd planhigion o ran yr halogiad tebygol;

(d)darnodi parth gan arolygydd iechyd planhigion ar sail y dynodiad o dan baragraff (b), y penderfyniad a wnaed o dan baragraff (c) a lledaeniad posibl Pydredd coch tatws yn unol â phwynt 2(i) o Atodiad 5 i Gyfarwyddeb 98/57/EC.

(4Yn achos dŵr wyneb a phlanhigion cynhaliol mochlysaidd gwyllt cysylltiedig, pan fo arolygydd iechyd planhigion yn nodi bod cynhyrchu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn wynebu risg oherwydd dyfrhau, chwistrellu neu lifogydd dŵr wyneb, y camau yw—

(a)ymchwiliad gan arolygydd iechyd planhigion i ganfod graddau’r halogiad, sy’n cynnwys cynnal arolwg swyddogol, ar adegau priodol, ar samplau o ddŵr wyneb ac, os ydynt yn bresennol, planhigion cynhaliol mochlysaidd gwyllt;

(b)dynodi dŵr wyneb y cymerwyd y sampl ohono gan arolygydd iechyd planhigion, i’r graddau sy’n briodol ac ar sail yr ymchwiliad o dan baragraff (a);

(c)penderfyniad gan arolygydd iechyd planhigion o ran yr halogiad tebygol ar sail y dynodiad a wnaed o dan baragraff (b);

(d)darnodi parth gan arolygydd iechyd planhigion ar sail y dynodiad o dan baragraff (b), y penderfyniad a wnaed o dan baragraff (c) a lledaeniad posibl Pydredd coch tatws yn unol â phwynt 2(ii) o Atodiad 5 i Gyfarwyddeb 98/57/EC.

Cyfyngiadau mewn perthynas â deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu wrthrychau sy’n halogedig neu sy’n halogedig o bosibl â Phydredd coch tatws

27.—(1Ni chaiff unrhyw berson fynd ati’n fwriadol i blannu’r canlynol, nac achosi na chaniatáu’n fwriadol iddynt gael eu plannu—

(a)unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig, neu

(b)unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig o bosibl.

(2Pan fo deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu wrthrych wedi eu dynodi’n halogedig neu’n halogedig o bosibl o dan baragraff 26(2), rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol—

(a)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig, i’r deunydd fod yn destun unrhyw fesur sy’n cydymffurfio â phwynt 1 o Atodiad 6 i Gyfarwyddeb 98/57/EC;

(b)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig o bosibl, i’r deunydd gael ei ddefnyddio neu ei waredu yn unol â phwynt 2 o Atodiad 6 i Gyfarwyddeb 98/57/EC;

(c)yn achos gwrthrych sy’n halogedig neu wrthrych sy’n halogedig o bosibl, i’r gwrthrych—

(i)cael ei waredu drwy ei ddinistrio, neu

(ii)cael ei lanhau a’i ddiheintio fel nad oes risg adnabyddadwy y bydd Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu.

(3Ni chaniateir i ddim byd a lanhawyd ac a ddiheintiwyd yn unol ag is-baragraff (2) gael ei drin mwyach fel pe bai’n halogedig at ddibenion Cyfarwyddeb 98/57/EC.

Mesurau y caniateir eu gwneud yn ofynnol mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig

28.—(1Rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno’r hysbysiadau a ganlyn i unrhyw feddiannydd neu berson arall sydd â gofal am fan cynhyrchu halogedig sydd mewn parth a ddarnodir gan arolygydd iechyd planhigion o dan baragraff 26(2)(e)—

(a)mewn perthynas â chae halogedig neu uned cynhyrchu cnwd dan orchudd halogedig sy’n rhan o’r man cynhyrchu, hysbysiad yn cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu neu hysbysiad yn cynnwys yr ail set o fesurau dileu;

(b)mewn perthynas â chae sy’n rhan o’r man cynhyrchu ond nad yw’n halogedig a, pan fo’r arolygydd wedi ei fodloni bod y risg o blanhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd coch tatws wedi ei dileu, hysbysiad yn cynnwys y drydedd set o fesurau dileu.

(2Y set gyntaf o fesurau dileu yw—

(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae neu’r uned o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am o leiaf bedair blwyddyn dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf, er mwyn dileu unrhyw blanhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol ac unrhyw blanhigion eraill, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, sy’n cynnal Pydredd coch tatws,

(b)gwaharddiad ar blannu unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn y cae neu’r uned yn ystod y cyfnod hwnnw—

(i)cloron, planhigion neu wir hadau tatws;

(ii)planhigion tomatos neu hadau tomatos;

(iii)gan ystyried bioleg Pydredd coch tatws, planhigion cynhaliol eraill neu blanhigion o’r rhywogaeth Brassica lle ceir risg mewn cysylltiad â hwy bod Pydredd coch tatws yn goroesi;

(iv)cnydau lle ceir risg mewn cysylltiad â hwy y bydd Pydredd coch tatws yn lledaenu,

(c)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta y caniateir eu plannu yn y cae neu’r uned yn ystod y tymor cnydio tatws neu domatos cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw, a bod y tatws dim ond yn cael eu plannu os canfuwyd bod y cae neu’r uned yn rhydd rhag planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomato gwirfoddol a phlanhigion cynhaliol eraill, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, yn ystod arolygiadau swyddogol ar gyfer Pydredd coch tatws, am o leiaf y ddwy flwyddyn dyfu olynol cyn plannu, a bod y cloron neu’r planhigion tomatos a gynaeafwyd yn destun profion swyddogol gan ddefnyddio’r dull a nodir yn Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 98/57/EC, a

(d)gofyniad bod rhaid cymhwyso cylch cylchdroi priodol yn y tymhorau cnydio tatws neu domatos dilynol, a rhaid i’r cylch hwnnw fod yn ddwy flynedd o leiaf pan fo tatws i’w plannu i gynhyrchu tatws hadyd.

(3Yr ail set o fesurau dileu yw—

(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae neu’r uned o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am bum blwyddyn dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, sy’n cynnal Pydredd coch tatws,

(b)gofyniad—

(i)yn ystod tair blwyddyn gyntaf y blynyddoedd tyfu hynny, fod y cae neu’r uned yn cael ei gadw neu ei chadw—

(aa)yn fraenar,

(bb)gyda chnydau grawnfwyd, os yw’r arolygydd wedi ei fodloni nad oes risg y bydd Pydredd coch tatws yn lledaenu,

(cc)yn dir pori parhaus gan dorri’r borfa yn fyr neu bori’r tir yn ddwys yn fynych, neu

(dd)fel glaswellt ar gyfer cynhyrchu hadau;

(ii)yn ystod y bedwaredd a’r bumed flwyddyn dyfu, mai dim ond planhigion nad ydynt yn cynnal Pydredd coch tatws ac nad oes unrhyw risg mewn cysylltiad â hwy y bydd Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu y caniateir eu plannu yn y cae neu’r uned, ac

(c)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta y caniateir eu plannu yn ystod y tymor cnydio tatws neu domatos cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw, a bod y tatws dim ond yn cael eu plannu os canfuwyd bod y cae neu’r uned yn rhydd rhag planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol a phlanhigion cynhaliol eraill, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, yn ystod arolygiadau swyddogol ar gyfer Pydredd coch tatws, am o leiaf ddwy flwyddyn dyfu yn olynol cyn plannu, a bod y cloron neu’r planhigion tomatos a gynaeafwyd yn destun profion swyddogol gan ddefnyddio’r dull a nodir yn Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 98/57/EC.

(4Y drydedd set o fesurau dileu yw—

(a)gofyniad na phlennir planhigion sy’n cynnal Pydredd coch tatws neu mai dim ond y planhigion tatws a’r planhigion tomatos a ganlyn y caniateir eu plannu yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am y flwyddyn dyfu gyntaf—

(i)tatws hadyd ardystiedig ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta;

(ii)planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol ar gyfer cynhyrchu ffrwythau,

(b)gofyniad mai dim ond y tatws a ganlyn y caniateir eu plannu i gynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta yn y flwyddyn dyfu ddilynol gyntaf, os oes tatws i’w plannu yn y flwyddyn honno—

(i)tatws hadyd ardystiedig;

(ii)tatws hadyd a brofwyd yn swyddogol ar gyfer absenoldeb Pydredd coch tatws ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol mewn man cynhyrchu nad yw’n halogedig,

(c)gofyniad mai dim ond y planhigion tomatos a ganlyn y caniateir eu plannu i gynhyrchu planhigion neu ffrwythau yn y flwyddyn dyfu ddilynol gyntaf, os oes planhigion tomatos i’w plannu yn y flwyddyn honno—

(i)planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol;

(ii)os ydynt wedi eu lluosogi yn llystyfol, planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol mewn man cynhyrchu nad yw’n halogedig,

(d)gofyniad, yn achos tatws, mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol o datws hadyd ardystiedig y caniateir eu plannu yn y cae yn ystod yr ail flwyddyn dyfu ddilynol ac unrhyw flwyddyn dyfu ddilynol arall i gynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta yn y cae,

(e)gofyniad, yn achos tomatos, mai dim ond planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol neu, os ydynt wedi eu lluosogi yn llystyfol, planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu yn y cae yn ystod yr ail flwyddyn dyfu ddilynol ac unrhyw flwyddyn dyfu ddilynol arall i gynhyrchu planhigion neu ffrwythau yn y cae,

(f)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad hyd at ddiwedd y flwyddyn dyfu a bennir yn yr hysbysiad er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol, a phlanhigion sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd coch tatws, ac

(g)arolygiadau swyddogol o gnydau sy’n tyfu ar adegau priodol a phrofion swyddogol ar datws a gynaeafwyd yn unol â’r dull a nodir yn Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 98/57/EC.

(5Rhaid hefyd i hysbysiad a gyflwynir gan arolygydd iechyd planhigion o dan is-baragraff (1)(a) sy’n cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu—

(a)cynnwys gofyniad bod rhaid i’r holl beiriannau a chyfleusterau storio yn y man cynhyrchu a ddefnyddir i gynhyrchu tatws gael eu glanhau a’u diheintio ar unwaith ac yn dilyn y flwyddyn dyfu gyntaf,

(b)pennu’r dulliau priodol ar gyfer glanhau a diheintio’r peiriannau a’r cyfleusterau storio, ac

(c)gwahardd unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu neu bennu sut y mae’n rhaid cynnal unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu, at ddiben atal Pydredd coch tatws rhag lledaenu.

(6Caniateir i’r mesurau y caiff eu pennu mewn hysbysiad o dan is-baragraff (1) neu (5) gael eu cynnwys mewn hysbysiad gyda mesurau priodol eraill.

(7Rhaid i’r person y cyflwynir hysbysiad iddo yn unol ag is-baragraff (1) sicrhau bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad yn cael eu cymryd yn y modd gofynnol.

Mesurau ychwanegol mewn perthynas ag unedau cynhyrchu cnwd dan orchudd

29.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys i blannu unrhyw gloron, planhigion neu wir hadau tatws mewn uned cynhyrchu cnydau o dan orchudd sy’n halogedig lle mae’n bosibl amnewid yr holl gyfrwng tyfu yn yr uned.

(2Ni chaiff unrhyw berson blannu unrhyw gloron, planhigion na gwir hadau tatws, planhigion tomatos neu hadau tomatos neu blanhigion eraill sy’n cynnal Pydredd coch tatws yn yr uned heb awdurdodiad ysgrifenedig arolygydd iechyd planhigion.

(3Ni chaiff arolygydd iechyd planhigion roi awdurdodiad o dan is-baragraff (2) oni bai—

(a)y cydymffurfiwyd â’r holl fesurau i ddileu Pydredd coch tatws ac i symud yr holl blanhigion sy’n cynnal Pydredd coch tatws ymaith a bennir mewn hysbysiad mewn perthynas â’r man cynhyrchu lle y mae’r uned wedi ei lleoli,

(b)bod y cyfrwng tyfu yn yr uned wedi ei newid yn llwyr, ac

(c)bod yr uned a’r holl offer a ddefnyddiwyd yn yr uned wedi eu glanhau ac wedi eu diheintio i ddileu Pydredd coch tatws ac i symud yr holl ddeunydd planhigion cynhaliol ymaith.

(4Caiff awdurdodiad o dan is-baragraff (2)—

(a)mewn perthynas â chynhyrchu tatws, bennu mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu gloron bychain neu ficro-blanhigion sy’n deillio o ffynonellau a brofwyd yn swyddogol y caniateir eu defnyddio yn y broses gynhyrchu;

(b)mewn perthynas â chynhyrchu tomatos, bennu mai dim ond hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol neu, os cânt eu lluosogi yn llystyfol, blanhigion tomatos a gynhyrchwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu defnyddio yn y broses gynhyrchu;

(c)gwahardd unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu;

(d)pennu sut y mae’n rhaid cynnal unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu at ddiben atal Pydredd coch tatws rhag lledaenu.

Mesurau i’w cymryd mewn parthau a ddarnodwyd i reoli Pydredd coch tatws

30.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo arolygydd iechyd planhigion wedi darnodi parth mewn perthynas â chadarnhad bod Pydredd coch tatws wedi ei ganfod o dan baragraff 26(3)(d) neu (4)(d).

(2Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad, bennu rhagor o waharddiadau, cyfyngiadau a mesurau eraill a fydd yn gymwys yn y parth a ddarnodir i atal y risg y bydd Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu.

(3Caiff Gweinidogion Cymru, yn benodol, bennu mewn hysbysiad o dan is-baragraff (2)—

(a)bod rhaid glanhau a, pan fo’n briodol, ddiheintio unrhyw beiriannau neu gyfleusterau storio mewn mangre o fewn y parth a ddarnodir a ddefnyddir i dyfu, i storio neu i drin cloron tatws neu domatos o fewn y parth, neu unrhyw fangre o fewn y parth y gweithredir peiriannau o dan gontract ar gyfer cynhyrchu tatws neu domatos ohoni, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy y bydd Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu;

(b)yn achos cnydau tatws, mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu yn ystod y cyfnod penodedig;

(c)bod rhaid i datws a fwriedir i’w plannu gael eu trin ar wahân i’r holl datws eraill mewn mangre o fewn y parth neu fod rhaid gweithredu system lanhau a, pan fo’n briodol, ddiheintio rhwng trin tatws hadyd a thrin tatws bwyta yn ystod y cyfnod penodedig;

(d)yn achos cnydau tomatos, mai dim ond planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol neu, os cânt eu lluosogi yn llystyfol, blanhigion tomatos a gynhyrchir o hadau o’r fath ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu yn ystod y cyfnod penodedig;

(e)na chaniateir defnyddio dŵr wyneb halogedig ar gyfer dyfrhau na chwistrellu deunydd planhigion penodedig a, pan fo’n briodol, blanhigion eraill sy’n cynnal Pydredd coch tatws, heb awdurdodiad ysgrifenedig ymlaen llaw gan arolygydd iechyd planhigion;

(f)os oes gollyngiadau gwastraff hylifol wedi eu halogi, fod rhaid gwaredu unrhyw wastraff o fangre brosesu neu becynnu ddiwydiannol yn y parth sy’n trin deunydd planhigion penodedig o dan oruchwyliaeth arolygydd iechyd planhigion.

(4O ran hysbysiad o dan is-baragraff (2)—

(a)rhaid iddo fod mewn ysgrifen,

(b)rhaid iddo ddisgrifio hyd a lled y parth a ddarnodir,

(c)rhaid iddo bennu mewn perthynas â phob mesur a yw’n gymwys yn gyffredinol ynteu i ardal o ddŵr wyneb yn y parth a ddarnodwyd,

(d)rhaid iddo bennu ar ba ddyddiad y bydd pob mesur yn cael effaith ac am ba hyd,

(e)rhaid iddo gael ei gyhoeddi mewn modd sy’n briodol i ddod ag ef i sylw’r cyhoedd, ac

(f)caniateir iddo gael ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, drwy hysbysiad arall.

(5Rhaid trin unrhyw fangre sy’n rhannol o fewn parth a ddarnodir ac yn rhannol y tu allan iddo fel pe bai o fewn y parth hwnnw at ddibenion y paragraff hwn, ac eithrio pan nad yw’r rhan sydd y tu allan i’r parth a ddarnodir yng Nghymru.

(6Rhaid trin hysbysiad a gyhoeddir yn unol ag is-baragraff (4) fel pe bai wedi ei gyflwyno—

(a)i unrhyw feddiannydd neu berson arall sydd â gofal am unrhyw fangre o fewn y parth a ddarnodir;

(b)i unrhyw berson—

(i)sydd â hawl i ddefnyddio unrhyw ddŵr wyneb halogedig,

(ii)sydd ag unrhyw ddŵr wyneb halogedig ar fangre o fewn y parth a ddarnodir y mae’r person yn ei meddiannu neu y mae ganddo ofal amdani, a

(iii)sy’n gweithredu peiriannau neu sy’n cyflawni unrhyw weithgaredd arall mewn perthynas â chynhyrchu tatws neu domatos o fewn y parth a ddarnodir.

(7Ni chaiff Gweinidogion Cymru bennu’r mesurau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3) ond pan fo’r parth wedi ei darnodi—

(a)mewn perthynas â’r mesurau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (d) o’r is-baragraff hwnnw at ddibenion Erthygl 5(1)(a)(iv) o Gyfarwyddeb 98/57/EC;

(b)mewn perthynas â’r mesurau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (e) ac (f) o’r is-baragraff hwnnw at ddibenion Erthygl 5(1)(c)(iii) o Gyfarwyddeb 98/57/EC.

(8Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)bod mangreoedd sy’n tyfu, yn storio neu’n trin cloron tatws a mangreoedd sy’n gweithredu peiriannau tatws o dan gontract yn cael eu goruchwylio gan arolygwyr iechyd planhigion yn ystod y cyfnod penodedig;

(b)bod arolwg swyddogol yn cael ei gynnal yn unol ag Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 98/57/EC yn ystod y cyfnod penodedig;

(c)bod rhaglen yn cael ei sefydlu, pan fo’n briodol, i amnewid yr holl stociau tatws hadyd dros gyfnod priodol o amser.

(9At ddibenion is-baragraffau (3) ac (8), rhaid i’r “cyfnod penodedig”, mewn perthynas â pharth a ddarnodir yn unol â pharagraff 26(3)(d) neu (4)(d) fod o leiaf dri thymor tyfu ar ôl y flwyddyn y darnodwyd y parth.

RHAN 7Mesurau ynglŷn â thatws o’r Aifft

Mesurau at ddibenion Erthygl 7 o Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2011/787/EC

31.—(1Yn y Rhan hon, ystyr “tatws o’r Aifft” yw unrhyw gloron Solanum tuberosum L., yn tarddu o’r Aifft a gyflwynir i diriogaeth yr Undeb o dan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2011/787/EC.

(2Ni chaiff unrhyw weithredwr proffesiynol—

(a)symud unrhyw datws o’r Aifft yng Nghymru oni bai eu bod wedi eu labelu i ddangos eu bod yn tarddu o’r Aifft;

(b)prosesu, paratoi, golchi neu becynnu unrhyw datws o’r Aifft mewn mangre yng Nghymru heblaw mewn mangre y mae Gweinidogion Cymru wedi ei chymeradwyo mewn ysgrifen at y diben hwnnw.

(3Nid yw is-baragraff (2)(b) yn gymwys i becynnu neu baratoi unrhyw datws o’r Aifft mewn siop, bwyty, ffreutur, clwb, tŷ tafarn, ysgol, ysbyty, neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) i’w ddanfon at y defnyddiwr terfynol.

Rheoliad 38(1)(d) i (f)

ATODLEN 3Troseddau: darpariaethau perthnasol yn Rheoliadau’r UE

RHAN 1Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE

Y Ddarpariaeth yn Rheoliad Iechyd Planhigion yr UEY Pwnc
Erthygl 5(1) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 8(1))Yn gwahardd cyflwyno pla cwarantin Undeb i diriogaeth yr Undeb, symud pla cwarantin Undeb o fewn tiriogaeth yr Undeb neu ddal, lluosogi neu ryddhau pla cwarantin Undeb o fewn tiriogaeth yr Undeb(47).
Erthygl 9(3) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 33(1))

Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr proffesiynol hysbysu awdurdodau cymwys ar unwaith am unrhyw dystiolaeth a all fod ganddynt ynghylch perygl sydd ar fin digwydd:

(a)

y daw pla cwarantin Undeb neu bla sy’n destun mesurau a fabwysiadwyd yn unol ag Erthygl 30(1) i diriogaeth yr Undeb neu i ran o diriogaeth yr Undeb lle nad yw’n bresennol eto, neu

(b)

y daw pla cwarantin parth gwarchodedig i’r priod barth gwarchodedig.

Erthygl 14(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 16 a 33(1))

Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr proffesiynol sy’n amau neu sy’n dod yn ymwybodol:

(a)

bod pla cwarantin Undeb neu bla sy’n destun mesurau a fabwysiadwyd yn unol ag Erthygl 30(1) yn bresennol mewn planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sydd o dan reolaeth y gweithredwr;

(b)

bod pla cwarantin parth gwarchodedig yn bresennol mewn planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sydd o dan reolaeth y gweithredwr yn y priod barth gwarchodedig,

hysbysu’r awdurdod cymwys ar unwaith a chymryd camau rhagofalus i atal y pla rhag ymsefydlu a lledaenu.

Erthygl 14(3)

Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr proffesiynol:

(a)

ymgynghori â’r awdurdod cymwys pan fo’r gweithredwr proffesiynol wedi cael cadarnhad swyddogol ynghylch presenoldeb pla cwarantin Undeb mewn planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sydd o dan reolaeth y gweithredwr, a

(b)

pan fo’n gymwys, bwrw ymlaen â’r camau sy’n ofynnol o dan Erthygl 14(4) i (7).

Erthygl 15(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 15(2), 16 a 33(1))

Yn ei gwneud yn ofynnol i berson nad yw’n weithredwr proffesiynol hysbysu’r awdurdod cymwys ar unwaith pan fydd y person yn dod yn ymwybodol o’r canlynol, neu pan fo ganddo reswm i amau’r canlynol:

(a)

presenoldeb pla cwarantin Undeb;

(b)

presenoldeb pla cwarantin parth gwarchodedig yn y priod barth gwarchodedig.

Erthygl 32(2)Yn gwahardd cyflwyno pla cwarantin parth gwarchodedig i’r priod barth gwarchodedig, symud pla cwarantin parth gwarchodedig yn y priod barth gwarchodedig neu’r daliad, lluosogi neu ryddhau pla cwarantin parth gwarchodedig yn y priod barth gwarchodedig(48).
Erthygl 37(1) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 39, ac Erthygl 17 o’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol)Yn gwahardd gweithredwr proffesiynol rhag cyflwyno i diriogaeth yr Undeb bla nad yw’n bla cwarantin Undeb a reoleiddir ar blanhigion i’w plannu y caiff ei drosglwyddo drwyddynt, neu symud pla nad yw’n bla cwarantin Undeb a reoleiddir o fewn tiriogaeth yr Undeb ar blanhigion i’w plannu y caiff ei drosglwyddo drwyddynt(49).
Erthygl 40(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 47 a 48(1))Yn gwahardd cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill penodol i diriogaeth yr Undeb os ydynt yn tarddu o bob trydedd wlad neu diriogaeth neu rai penodol ohonynt(50).
Erthygl 41(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 47 a 48(1))

Yn gwahardd:

(a)

cyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill o drydydd gwledydd oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny wedi eu cyflawni(51);

(b)

symud o fewn tiriogaeth yr Undeb blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny wedi eu cyflawni(52).

Erthygl 42(2) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 47 a 48(1))Yn gwahardd cyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n uchel eu risg o drydydd gwledydd(53).
Erthygl 43(1)Yn gwahardd cyflwyno i diriogaeth yr Undeb ddeunydd pecynnu pren, p’un a yw’n cael ei ddefnyddio i gludo gwrthrychau o unrhyw fath neu beidio, oni bai ei fod yn cyflawni’r gofynion penodedig neu ei fod yn destun yr esemptiadau y darperir ar eu cyfer yn SRFFf 15.
Erthygl 45(1), y trydydd paragraff (fel y’i darllenir gydag Erthygl 55)Yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau post a gweithredwyr proffesiynol sy’n ymwneud â gwerthu drwy gontractau pellter drefnu bod gwybodaeth benodol ar gael i’w cleientiaid drwy’r rhyngrwyd.
Erthygl 53(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 57 a 58)

Yn gwahardd:

(a)

cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill sy’n tarddu o drydydd gwledydd i barthau gwarchodedig penodol;

(b)

cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill sy’n tarddu o fewn tiriogaeth yr Undeb i barthau gwarchodedig penodol(54).

Erthygl 54(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 57 a 58)

Yn gwahardd:

(a)

cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill i barthau gwarchodedig penodol oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r parthau gwarchodedig hynny wedi eu cyflawni;

(b)

symud planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill mewn parthau gwarchodedig penodol oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r parthau gwarchodedig hynny wedi eu cyflawni(55).

Erthygl 59

Yn ei gwneud yn ofynnol:

(a)

i gerbydau, peiriannau neu ddeunydd pecynnu a ddefnyddir ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill sy’n symud i diriogaeth yr Undeb neu o’i mewn, neu drwy diriogaeth yr Undeb, fod yn rhydd rhag plâu cwarantin Undeb a phlâu sy’n destun mesurau a fabwysiedir yn unol ag Erthygl 30(1);

(b)

i gerbydau, peiriannau neu ddeunydd pecynnu a ddefnyddir ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill sy’n symud i’r parthau gwarchodedig neu o’u mewn, neu drwy barthau gwarchodedig, fod yn rhydd rhag y plâu cwarantin priod barth gwarchodedig.

Erthygl 62(1)

Yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n gyfrifol am orsaf gwarantin neu gyfleuster cyfyngu fonitro’r orsaf neu’r cyfleuster a’r cyffiniau agos, am bresenoldeb anfwriadol plâu cwarantin Undeb a phlâu sy’n destun mesurau a fabwysiedir yn unol ag Erthygl

30(1).

Erthygl 62(2)

Yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n gyfrifol am orsaf gwarantin neu gyfleuster cyfyngu gymryd camau priodol ar sail y cynllun wrth gefn y cyfeirir ato ym mhwynt (e) o Erthygl 61(1) ac i gydymffurfio â’r rhwymedigaethau i weithredwyr proffesiynol yn Erthygl 14 pan ganfyddir neu pan amheuir presenoldeb anfwriadol pla cwarantin Undeb neu bla sy’n destun mesurau a fabwysiadir yn unol ag Erthygl 30(1).

Erthygl 64(1) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 64(2))Yn gwahardd rhyddhau planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o orsafoedd cwarantin neu gyfleusterau cyfyngu oni bai bod hynny wedi ei awdurdodi gan yr awdurdodau cymwys.
Erthygl 66(1) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 65(3))Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr proffesiynol penodol gyflwyno cais am gofrestru i’r awdurdodau cymwys.
Erthygl 66(5) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 65(3))

Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr cofrestredig, pan fo’n berthnasol:

(a)

cyflwyno diweddariad blynyddol ynghylch unrhyw newidiadau yn y data y cyfeirir ato ym mhwyntiau (d) ac (e) o Erthygl 66(2) neu yn y datganiadau y cyfeirir atynt ym mhwyntiau (b) ac (c) o Erthygl 66(2);

(b)

diweddaru’r data y cyfeirir ato ym mhwynt (a) o Erthygl 66(2) heb fod yn hwyrach na 30 diwrnod ar ôl y newid yn y data hwnnw.

Erthygl 69(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 65(3) a 69(3))Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr proffesiynol y cyflenwir iddo blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n destun y gofynion neu’r amodau penodedig gadw cofnod sy’n caniatáu i’r gweithredwr adnabod y gweithredwr proffesiynol a gyflenwodd bob uned fasnach.
Erthygl 69(2) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 69(3))Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr proffesiynol sy’n cyflenwi planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n destun y gofynion neu’r amodau penodedig gadw cofnod sy’n caniatáu i’r gweithredwr adnabod y gweithredwr proffesiynol y cyflenwyd pob uned fasnach iddo.
Erthygl 69(4)Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr proffesiynol gadw’r cofnodion sy’n ofynnol yn unol ag Erthygl 69(1) i (3) am o leiaf dair blynedd.
Erthygl 70(1)Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr proffesiynol y cyflenwir y planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill y cyfeirir atynt yn Erthygl 69(1) a (2) iddynt, neu sy’n cyflenwi’r rheiny, fod â systemau neu weithdrefnau olrhain ar waith i ganiatáu i symudiadau’r planhigion, y cynhyrchion planhigion a’r gwrthrychau eraill hynny o fewn a rhwng eu mangreoedd eu hunain gael eu hadnabod.
Erthyglau 72(1) a 73Yn gwahardd cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau penodol eraill i diriogaeth yr Undeb o drydydd gwledydd oni bai bod tystysgrif ffytoiechydol yn mynd gyda hwy(56).
Erthygl 74(1)Yn gwahardd cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau penodol eraill o drydydd gwledydd i barthau gwarchodedig penodol oni bai bod tystysgrif ffytoiechydol yn mynd gyda hwy(57).
Erthygl 79(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 81, 82 a 83)Yn gwahardd symud planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau penodol eraill o fewn tiriogaeth yr Undeb heb basbort planhigion(58).
Erthygl 80(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 81, 82 a 83)Yn gwahardd cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau penodol eraill i barthau gwarchodedig penodol, neu symud planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau penodol eraill o fewn parthau gwarchodedig penodol, heb basbort planhigion(59).
Erthygl 84(1)Yn gwahardd gweithredwyr proffesiynol rhag dyroddi pasbortau planhigion oni bai eu bod wedi eu hawdurdodi a rhag dyroddi pasbortau planhigion ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill nad ydynt yn gyfrifol amdanynt.
Erthygl 84(3)Yn gwahardd gweithredwyr proffesiynol awdurdodedig rhag dyroddi pasbortau planhigion ac eithrio mewn mangreoedd, warysau cyfun neu ganolfannau anfon penodedig.
Erthygl 85 (fel y’i darllenir gydag Erthygl 87)Yn gwahardd gweithredwyr proffesiynol awdurdodedig rhag dyroddi pasbortau planhigion ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill oni bai bod y gofynion penodedig wedi eu cyflawni mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny.
Erthygl 86(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 86(2) a 87)Yn gwahardd gweithredwyr proffesiynol awdurdodedig rhag dyroddi pasbortau planhigion ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill i’w cyflwyno i barth gwarchodedig, neu i’w symud o’i fewn, oni bai bod y gofynion penodol wedi eu cyflawni mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny.
Erthygl 88Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr proffesiynol atodi pasbortau planhigion i uned fasnach y planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill o dan sylw, neu pan fo’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill yn cael eu symud mewn pecyn, bwndel neu gynhwysydd, i’r pecyn, y bwndel neu’r cynhwysydd hwnnw.
Erthygl 90(1)

Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr awdurdodedig:

(a)

nodi a monitro’r pwyntiau yn ei broses gynhyrchu a phwyntiau allweddol penodol eraill ynglŷn â symud planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill pan fo’r gweithredwr awdurdodedig yn bwriadu dyroddi pasbort planhigion mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion a’r gwrthrychau eraill hynny, a

(b)

cadw cofnodion ynghylch nodi a monitro’r pwyntiau hynny am o leiaf dair blynedd.

Erthygl 90(2)Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr awdurdodedig sicrhau bod hyfforddiant priodol yn cael ei roi i’w bersonél sy’n ymwneud â’r archwiliadau y cyfeirir atynt yn Erthygl 87.
Erthygl 93(1)Yn gwahardd gweithredwyr awdurdodedig rhag dyroddi pasbortau planhigion amnewid oni bai bod amodau penodol wedi eu cyflawni.
Erthygl 93(5)Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr awdurdodedig gadw pasbortau planhigion amnewid neu eu cynnwys am o leiaf dair blynedd.
Erthygl 96(1)

Yn gwahardd marcio deunydd pecynnu pren, pren neu wrthrychau eraill o fewn tiriogaeth yr Undeb:

(c)

gan unrhyw weithredwr proffesiynol nad yw wedi ei awdurdodi yn unol ag Erthygl 98, neu

(d)

heblaw yn y modd gofynnol.

Erthygl 97(1)

Yn gwahardd trwsio deunydd pecynnu pren:

(a)

gan unrhyw weithredwr proffesiynol nad yw wedi ei awdurdodi yn unol ag Erthygl 98, neu

(b)

heblaw yn y modd gofynnol.

RHAN 2Y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol

Y ddarpariaeth yn y Rheoliad Rheolaethau SwyddogolY pwnc
Erthygl 47(5) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 5 a 7 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2122 yn ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran categorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau a esemptir o reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin, rheolaethau penodol ar fagiau personol teithwyr ac ar lwythi bach o nwyddau a anfonir at bobl naturiol na fwriedir eu rhoi ar y farchnad(60))Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth perthnasol sy’n dod i’r Undeb sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno ar gyfer rheolaethau swyddogol ar y safle rheoli ar y ffin lle daw i’r Undeb am y tro cyntaf.
Erthygl 50(1)Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr llwyth perthnasol y mae Erthygl 47(1) yn gymwys iddo gyflwyno’r tystysgrifau neu’r dogfennau swyddogol gwreiddiol y mae’n ofynnol iddynt fynd gyda’r llwyth i awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin.
Erthygl 50(3)

Yn gwahardd gweithredwr llwyth perthnasol rhag hollti’r llwyth nes y bydd rheolaethau swyddogol wedi eu cyflawni a bod y Ddogfen Mynediad Iechyd Cymunedol (“DMIC”) wedi ei chwblhau.

Erthygl 56(1)Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr llwyth perthnasol gwblhau’r rhan berthnasol o’r DMIC.
Erthygl 56(4) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 1(1) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1013 ynghylch hysbysu ymlaen llaw fod llwythi o gategorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau yn dod i’r Undeb(61) a rheoliad 9)Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr llwyth perthnasol roi hysbysiad ymlaen llaw i awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin fod y llwyth yn cyrraedd cyn i’r llwyth gyrraedd yr Undeb yn gorfforol.

RHAN 3Deddfwriaeth arall yr UE

Y ddarpariaeth yn neddfwriaeth yr UEY pwnc
Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1602 yn ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch y Ddogfen Mynediad Iechyd Cymunedol sy’n mynd gyda llwythi o anifeiliaid a nwyddau i’w cyrchfan(62)
Erthygl 3 (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 4(a), 5(1)(b) a (d), 5(2)(a) ac (c) a 6(a))Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth sicrhau bod DMIC yn mynd gyda’r llwyth cyn ei ryddhau ar gyfer cylchredeg rhydd yn unol ag Erthygl 57(2)(b) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.
Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2124 yn ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran rheolau ar gyfer rheolaethau swyddogol ar lwythi o anifeiliaid a nwyddau sy’n cael eu cludo, eu trawslwytho a’u cludo ymlaen drwy’r Undeb(63)
Erthygl 5(a) a (b)Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth perthnasol sydd wedi cael awdurdodiad i gludo’r llwyth ymlaen i nodi manylion penodol yn y DMIC a chyflwyno’r DMIC.
Erthygl 6Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth perthnasol sydd wedi cael awdurdodiad i’w gludo ymlaen gydymffurfio â’r amodau penodedig ynglŷn â’i gludo a’i storio.
Erthygl 16(1) a (3)Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth perthnasol a drawslwythir roi’r wybodaeth benodedig i awdurdodau cymwys.

Erthygl 22(4)

Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth perthnasol sy’n cael ei gludo drwy diriogaeth yr Undeb gymryd mesurau penodol ynglŷn â chludo’r llwyth.

Rheoliad 38(1)(g)

ATODLEN 4Troseddau ynglŷn â phenderfyniadau brys gan yr UE

Penderfyniad yr UEY ddarpariaeth ym mhenderfyniad yr UE
Penderfyniad y Comisiwn 98/109/ECErthygl 1 (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb flodau wedi eu torri o Orchidaceae sy’n tarddu o Wlad Thai)
Penderfyniad y Comisiwn 2002/757/ECErthygl 3(1) a (2) (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a phren sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n tarddu o UDA)
Erthygl 3(4) (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb blanhigion penodol, heblaw hadau, a fwriedir i’w plannu ac sy’n tarddu o drydydd gwledydd heblaw UDA)
Erthygl 4 (gwahardd cyflwyno i diriogaeth yr Undeb risgl sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n tarddu o UDA)
Erthygl 5 (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb blanhigion penodol a fwriedir i’w plannu ac sy’n tarddu o’r Undeb)
Penderfyniad y Comisiwn 2004/200/ECErthygl 1 (gwahardd symud o fewn tiriogaeth yr Undeb hadau Solanum lycopersicum L. wedi eu halogi gan Firws amryliw pepino) i’r graddau y mae’n ymwneud â symud hadau Solanum lycopersicum L. a gynhyrchwyd cyn 14 Rhagfyr 2019 ac sy’n cael eu symud o fewn tiriogaeth yr Undeb ar unrhyw adeg cyn 14 Rhagfyr 2020
Erthygl 3(1) (gofynion mewn perthynas â symud hadau Solanum lycopersicum L. sy’n tarddu o’r Undeb) i’r graddau y mae’n ymwneud â symud hadau Solanum lycopersicum L. a gynhyrchwyd cyn 14 Rhagfyr 2019 ac sy’n cael eu symud o fewn tiriogaeth yr Undeb unrhyw bryd cyn 14 Rhagfyr 2020
Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2011/787/EUErthygl 1(1) (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb gloron Solanum tuberosum L. sy’n tarddu o’r Aifft)
Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/138/EUErthygl 2 (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o drydydd gwledydd, heblaw Tsieina)
Erthygl 3(1) a (2) (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o Tsieina)
Erthygl 4 (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o ardaloedd a ddarnodwyd, neu a gyflwynwyd iddynt, neu blanhigion penodedig a gyflwynwyd i diriogaeth yr Undeb yn unol ag Erthygl 2 neu 3)
Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/270/EUErthygl 1 (gwahardd cyflwyno i diriogaeth yr Undeb, a lledaenu o fewn tiriogaeth yr Undeb, Epitrix cucumeris (Harris), Epitrix Papa. (Orlova-Bienkowskaja), Epitrix subcrinita (Lec.) neu Epitrix tuberis (Gentner))
Erthygl 2(1) (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb gloron tatws sy’n tarddu o drydydd gwledydd lle gwyddys bod un neu fwy o’r organeddau penodedig yn bresennol)
Erthygl 3 (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb gloron tatws sy’n tarddu o ardaloedd a ddarnodwyd neu gloron tatws a gyflwynwyd i diriogaeth yr Undeb o drydydd gwledydd lle gwyddys bod un neu fwy o’r organeddau penodedig yn bresennol)
Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/535/EUErthygl 10(1) a (2) (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, pren sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu risgl sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau)
Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/697/EUErthygl 2 (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o drydydd gwledydd)
Erthygl 3 (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o ardaloedd a ddarnodwyd)
Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/789Erthygl 9 (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig, heblaw unrhyw rai a dyfwyd ar gyfer y cylch cynhyrchu cyfan in vitro neu blanhigion sy’n perthyn i amrywogaethau o blanhigion penodedig a restrir yn Atodiad III)
Erthygl 9a (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig a dyfwyd ar gyfer y cylch cynhyrchu cyfan in vitro ac am o leiaf ran o’u bywyd mewn ardaloedd a ddarnodwyd)
Erthygl 15 (gwahardd cyflwyno planhigion Coffea i’w plannu, ac eithrio hadau, sy’n tarddu o Costa Rica neu Honduras)
Erthygl 16 (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o drydydd gwledydd lle nad yw’r organedd penodedig yn bresennol)
Erthygl 17(1) (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o drydydd gwledydd lle gwyddys bod yr organedd penodedig yn bresennol)
Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/893Erthygl 2(a) (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o drydydd gwledydd lle gwyddys bod yr organedd penodedig yn bresennol)
Erthygl 3(a) (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb bren penodedig sy’n tarddu o drydydd gwledydd lle gwyddys bod yr organedd penodedig yn bresennol)
Erthygl 4 (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o ardaloedd a ddarnodwyd, neu a gyflwynwyd iddynt, neu blanhigion penodedig a gyflwynwyd i diriogaeth yr Undeb o drydydd gwledydd yn unol ag Erthygl 2)
Erthygl 5 (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb bren penodedig sy’n tarddu o ardaloedd a ddarnodwyd, pren penodedig sy’n cadw’r cyfan neu ran o’i wyneb crwn sydd wedi ei gyflwyno i ardaloedd a ddarnodwyd neu ddeunydd pecynnu pren penodedig sy’n tarddu o ardaloedd a ddarnodwyd)
Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/715Erthygl 5 (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb ffrwythau penodedig sy’n tarddu o Dde Affrica neu Uruguay)
Erthygl 5a (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb ffrwythau penodedig sy’n tarddu o’r Ariannin neu Frasil)
Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2017/198/EUErthygl 1 (gwahardd cyflwyno Pseudomonas syringae pv. actinidiae Takikawa, Serizawa, Ichikawa, Tsuyumu & Goto i diriogaeth yr Undeb a gwahardd ei ledaenu o fewn tiriogaeth yr Undeb)
Erthygl 2 (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o drydydd gwledydd)
Erthygl 3 (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o’r Undeb neu blanhigion penodedig a gyflwynwyd i diriogaeth yr Undeb o drydydd gwledydd yn unol ag Erthygl 2)
Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/638Erthygl 3(a) a (b) (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o drydydd gwledydd heblaw’r Swistir)
Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/1503Erthygl 7(1), (6) a (7) (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o ardaloedd a ddarnodwyd, planhigion penodedig a gyflwynwyd i ardaloedd a ddarnodwyd neu blanhigion penodedig a gyflwynwyd i diriogaeth yr Undeb o drydydd gwledydd lle y gwyddys bod yr organedd penodedig yn bresennol yn unol ag Erthygl 11)
Erthygl 8 (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb bren penodedig sy’n tarddu o ardaloedd a ddarnodwyd neu bren penodedig sy’n cadw’r cyfan neu ran o’i arwyneb crwn a gyflwynwyd i ardaloedd a ddarnodwyd)
Erthygl 9 (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb ddeunydd pecynnu pren penodedig sy’n tarddu o ardaloedd a ddarnodwyd)
Erthygl 11 (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o drydydd gwledydd lle gwyddys bod yr organedd penodedig yn bresennol)
Erthygl 12 (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb bren penodedig sy’n tarddu o drydydd gwledydd lle gwyddys bod yr organedd penodedig yn bresennol)
Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1615Erthygl 2 (gwahardd cyflwyno Firws ffrwythau crychlyd coch tomatos i diriogaeth yr Undeb a’i ledaenu o fewn tiriogaeth yr Undeb)
Erthygl 5 (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o diriogaeth yr Undeb)
Erthygl 6 (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o drydydd gwledydd)
Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1739Erthygl 2 (gwahardd cyflwyno Firws rhoséd rhosynnau i diriogaeth yr Undeb a’i ledaenu o fewn tiriogaeth yr Undeb)
Erthygl 5 (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o drydydd gwledydd)
Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2032Erthygl 6 (gofynion mewn perthynas â symud planhigion penodedig o fewn tiriogaeth yr Undeb)
Erthygl 7 (gofynion mewn perthynas â symud pren penodedig a rhisgl ynysedig o barth a heigiwyd i barth clustogi neu o ardal a ddarnodwyd)
Erthygl 8 (gofynion mewn perthynas â symud deunydd pecynnu pren o barth a heigiwyd i barth clustogi neu o ardal a ddarnodwyd)
Erthygl 9 (gofynion mewn perthynas â chyflwyno planhigion penodedig i diriogaeth yr Undeb sy’n tarddu o drydydd gwledydd nad ydynt yn wledydd Ewropeaidd)
Erthygl 10 (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb bren penodedig neu risgl ynysedig sy’n tarddu o drydydd gwledydd nad ydynt yn wledydd Ewropeaidd )

Rheoliad 49

ATODLEN 5Diwygio is-ddeddfwriaeth ynglŷn â marchnata hadau a deunydd lluosogi planhigion a ffioedd iechyd planhigion

RHAN 1Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995

1.—(1Mae Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995(64) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 8—

(a)ym mharagraff (2), yn lle “Council Directive 2000/29/EC” rhodder “the EU Plant Health Regulation”;

(b)ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(5) In this regulation, “the EU Plant Health Regulation” means Regulation (EU) 2016/2031 of the European Parliament and of the Council on protective measures against pests of plants.

RHAN 2Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Lluosogi Planhigion Addurniadol 1999

2.—(1Mae Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Lluosogi Planhigion Addurniadol 1999((65) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn y lle priodol mewnosoder—

the EU Plant Health Regulation” means Regulation (EU) 2016/2031 of the European Parliament and of the Council on protective measures against pests of plants;;

(b)hepgorer y diffiniad o “Directive 2000/29/EC”.

(3Yn rheoliad 6A(4), yn y diffiniad o “responsible official body”, yn lle’r geiriau o “a body” hyd at y diwedd, rhodder “, in relation to Wales, the Welsh Ministers”.

(4Yn rheoliad 7, yn lle paragraff (4) rhodder—

(4) Registration of a supplier on the register of professional operators for the purposes of the EU Plant Health Regulation is deemed to constitute registration for the purposes of paragraph (1) above.

(5Yn rheoliad 8(3)—

(a)yn lle’r geiriau o “notifiable” hyd at “Order 2018” rhodder “plant pest of a description specified in Annex 2, 3 or 4 to Commission Implementing Regulation (EU) 2019/2072 establishing uniform conditions for the implementation of Regulation (EU) 2016/2031 of the European Parliament and the Council, as regards protective measures against pests of plants,”;

(b)yn lle “article 42 of that Order (notification of the presence or suspected presence of certain plant pests)” rhodder “the EU Plant Health Regulation”.

(6Yn rheoliad 9(2), yn lle “Directive 2000/29/EC” rhodder “the EU Plant Health Regulation”.

(7Yn rheoliad 12(3), yn lle’r geiriau o “if he delivers” hyd at y diwedd rhodder “, in relation to Wales, if the supplier delivers a phytosanitary certificate for export or a phytosanitary certificate for re-export to the Welsh Ministers”.

RHAN 3Rheoliadau Deunyddiau Atgenhedlol y Goedwig (Prydain Fawr) 2002

3.—(1Mae Rheoliadau Deunyddiau Atgenhedlol y Goedwig (Prydain Fawr) 2002(66) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(2), yn y diffiniad o “plant passport”, yn lle “the Plant Health (Forestry) Order 2005” rhodder “Regulation (EU) 2016/2031 of the European Parliament and of the Council on protective measures against pests of plants”.

RHAN 4Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016

4.—(1Mae Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016(67) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion)” (“the Official Controls (Plant Health) Regulations”) yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020;.

(3Yn rheoliad 13(9), ar ôl “y Rheoliadau hyn” mewnosoder “, Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion”.

(4Yn Atodlen 1—

(a)ym mharagraff 3(d)—

(i)yn lle “Atodlen 14 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006” rhodder “Ran 3 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion)”;

(ii)yn lle “Gorchymyn hwnnw” rhodder “Rheoliadau hynny”;

(b)ym mharagraff 4(1)(b), yn lle “Atodlen 15 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006” rhodder “Ran 4 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion)”;

(c)ym mharagraff 7(1)(b), yn lle “Atodlen 15 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006” rhodder “Ran 4 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion)”;

(d)ym mharagraff 9(1)(b), yn lle “Atodlen 15 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006” rhodder “Ran 4 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion)”.

(5Yn Atodlen 2, ym mharagraff 10(b), hepgorer “neu yng Ngorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006”.

(6Yn Atodlen 5, ym mharagraff 3(b)—

(a)yn lle “Atodlen 14 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006” rhodder “Ran 3 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion)”;

(b)yn lle “Gorchymyn hwnnw” rhodder “Rheoliadau hynny”.

RHAN 5Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019

5.—(1Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019(68) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn y diffiniad o “man arolygu a gymeradwywyd” yn lle “erthygl 3 o’r Gorchymyn” rhodder “rheoliad 13(10) o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) 2020”;

(b)yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “hysbysiad adfer coedwigaeth” (“forestry remedial notice”) yw hysbysiad a gyflwynir gan arolygydd iechyd planhigion o dan reoliad 10 neu 15(1) neu (2) o’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) 2020;;

(c)yn lle’r diffiniad o “trwydded” rhodder—

ystyr “trwydded” (“licence”) yw—

(a)

trwydded y cyfeirir ati yn rheoliad 51(1) o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) 2020 a roddwyd gan Weinidogion Cymru, neu

(b)

awdurdodiad a ddisgrifir yn rheoliad 20(1)(a) neu (b)(i) neu 21(1)(a) o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) 2020 a roddwyd gan Weinidogion Cymru.;

(d)yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) 2020” (“the Official Controls (Plant Health) Regulations 2020”) yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020;;

(e)yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “Rheoliad Amodau Ffytoiechydol” (“Phytosanitary Conditions Regulation”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2072 yn sefydlu amodau unffurf ar gyfer gweithredu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, o ran mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion;;

(f)yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “arolygydd iechyd planhigion” (“plant health inspector”) yw swyddog iechyd planhigion swyddogol a benodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) 2020;;

(g)yn y diffiniad o “awdurdodiad pasbort planhigion”, ar y diwedd mewnosoder “ac a roddir gan Weinidogion Cymru”;

(h)hepgorer y diffiniad o “y Gorchymyn”;

(i)hepgorer y diffiniad o “hysbysiad adfer”;

(j)yn y diffiniad o “gwaith adfer”, yn lle “hysbysiad adfer, neu gan arolygydd o dan erthygl 32(1) o’r Gorchymyn” rhodder “hysbysiad adfer coedwigaeth, neu gan arolygydd iechyd planhigion o dan reoliad 16(1) o’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) 2020”;

(k)yn y diffiniad o “awdurdodiad DPP”, ar y diwedd mewnosoder “ac a roddir gan Weinidogion Cymru”.

(3Yn rheoliad 3—

(a)hepgorer paragraff (6);

(b)ar y diwedd mewnosoder—

(6A) Rhaid i’r person y cyflwynir hysbysiad adfer coedwigaeth iddo neu y rhoddir hysbysiad iddo o dan reoliad 16(1) o’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) 2020 dalu’r ffi a bennir yn Atodlen 5 ar gyfer cynnal neu fonitro gwaith adfer a gweithgareddau cysylltiedig gan arolygydd iechyd planhigion mewn cysylltiad â llwyth a reolir.

RHAN 6Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017

6.—(1Mae Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017(69) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3(1), hepgorer y diffiniad o “Cyfarwyddeb 2000/29/EC”.

(3Hepgorer rheoliad 10(6).

(4Yn rheoliad 11(7), yn lle’r geiriau o “masnachwr planhigion” hyd at “2018” rhodder “gweithredwr proffesiynol at ddibenion Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion”.

(5Yn rheoliad 15(1)(g), yn lle paragraff (iii) rhodder—

(iii)pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodiad 2, 3 neu 4 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2072 yn sefydlu amodau unffurf ar gyfer gweithredu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, o ran mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion.

Rheoliad 50

ATODLEN 6Dirymu offerynnau

OfferynCyfeirnod
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Coedwigaeth) (Prydain Fawr) 2004O.S. 2004/1684
Rheoliadau Tatws sy’n Tarddu o’r Aifft (Cymru) 2004O.S. 2004/2245 (Cy. 209)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005O.S. 2005/2517
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006O.S. 2006/1701 (Cy. 163)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Marcio Deunydd Pecynnu Pren) (Coedwigaeth) 2006O.S. 2006/2695
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) 2006O.S. 2006/2696
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) 2008O.S. 2008/644
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) 2009O.S. 2009/594
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) (Rhif 2) 2009O.S. 2009/3020
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) 2012O.S. 2012/2707
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2013O.S. 2013/1658 (Cy. 156)
Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2014O.S. 2014/1463 (Cy. 144)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2014O.S. 2014/1759 (Cy. 174)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) (Cymru) 2015O.S. 2015/1723 (Cy. 235)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2016O.S. 2016/1084 (Cy. 259)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2018O.S. 2018/772 (Cy. 156)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018O.S. 2018/1064 (Cy. 223)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) 2019O.S. 2019/132 (Cy. 33)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) (Cymru) 2019O.S. 2019/498 (Cy. 115)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2019O.S. 2019/1153 (Cy. 202)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2019O.S. 2019/1167 (Cy. 204)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2019O.S. 2019/1280 (Cy. 224)

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhoi eu heffaith i’r canlynol—

(a)Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion (OJ Rhif L 317, 23.11.2016, t. 4) (“Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE”), a

(b)Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion i ddiogelu planhigion, i’r graddau y maent yn gymwys i’r rheolau y cyfeirir atynt yn Erthygl 1(2)(g) (OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1) (“y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”).

Mae’r Rheoliadau hefyd yn gweithredu’r canlynol o ran Cymru—

(a)Cyfarwyddeb y Cyngor 69/464/EEC ynghylch rheoli Clefyd y Ddafaden Tatws (OJ Rhif L 323, 24.12.1969, t. 1),

(b)Cyfarwyddeb y Cyngor 93/85/EEC ynghylch rheoli pydredd cylch tatws (OJ Rhif L 259, 18.10.1993, t. 1),

(c)Cyfarwyddeb y Cyngor 98/57/EC ynghylch rheoli Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. (OJ Rhif L 235, 21.8.1998, t. 1), a

(d)Cyfarwyddeb y Cyngor 2007/33/EC ynghylch rheoli Llyngyr tatws (OJ Rhif L 156, 16.6.2007, t. 12).

Cyflwyno materion a wneir yn Rhan 1 ac mae’n cynnwys diffiniadau. Mae rheoliad 3(2) yn darparu i gyfeiriadau at Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2072 yn sefydlu amodau unffurf ar gyfer gweithredu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, o ran mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion (OJ Rhif L 319, 10.12.2019, t. 1), ac at offerynnau’r Undeb Ewropeaidd a restrir yn rheoliad 3(1), gael eu darllen fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o dro i dro.

Mae rheoliad 6 (yn Rhan 2) yn dynodi Gweinidogion Cymru fel yr awdurdod cymwys yng Nghymru at ddibenion Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE a’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.

Mae Rhan 3 yn gwneud rhagor o ddarpariaeth mewn perthynas â llwythi o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o drydydd gwledydd sy’n dod o dan reolaethau swyddogol wrth ddod i mewn i’r Undeb Ewropeaidd.

Mae Rhan 4 yn cynnwys pwerau i alluogi arolygwyr iechyd planhigion a benodir gan Weinidogion Cymru i gymryd mesurau i atal plâu planhigion niweidiol yng Nghymru rhag ymsefydlu neu ledaenu.

Mae Rhan 5 ac Atodlen 1 yn gosod mesurau dros dro ychwanegol i atal plâu planhigion niweidiol penodol rhag dod i Gymru neu ymsefydlu neu ledaenu yng Nghymru.

Mae Rhan 6 yn gwneud rhagor o ddarpariaeth mewn perthynas â chofrestru gweithredwyr proffesiynol a rhoi awdurdodiadau i weithredwyr proffesiynol gan Weinidogion Cymru.

Mae Rhan 7 ac Atodlen 2 yn gosod gofynion ychwanegol mewn perthynas â rhywogaethau mochlysaidd penodol (tatws a thomatos) i roi’r Cyfarwyddebau a grybwyllir uchod ar waith.

Mae Rhan 8 yn gosod gofynion ychwanegol o ran hysbysu ynglŷn â phlanhigion a chynhyrchion planhigion penodol sydd i’w dwyn i Gymru o drydydd gwledydd, Aelod-wladwriaethau eraill neu’r Swistir.

Mae Rhan 9 yn nodi pwerau cyffredinol arolygwyr iechyd planhigion i’w galluogi i gyflawni rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill, a gorfodi Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE, y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol a’r Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 10 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol ac atodol mewn perthynas â hysbysiadau a roddir gan arolygwyr iechyd planhigion.

Mae Rhan 11 yn cynnwys troseddau am beidio â chydymffurfio â darpariaethau penodedig yn Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE, y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol ac offerynnau eraill yr UE, a throseddau mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Mae rheoliad 48 yn nodi’r cosbau am y troseddau hyn.

Mae Rhan 12 yn ymdrin â mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth, dirymiadau a darpariaethau trosiannol mewn perthynas â deddfwriaeth iechyd planhigion.

Mae Rhan 13 yn diwygio’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020 i estyn darpariaethau penodol yn y Rheoliadau hynny sy’n ymwneud â gweithredu a gorfodi Rheoliad (EU) 2017/625 i reolaethau swyddogol ar ollwng organeddau a addaswyd yn enetig yn fwriadol i’r amgylchedd at ddibenion cynhyrchu bwyd a bwyd anifeiliaid.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth y gangen Iechyd Planhigion a Diogelu’r Amgylchedd, Llywodraeth Cymru, Rhodfa Padarn, Aberystwyth SY23 3UR.

(1)

1972 p. 68. Diddymwyd Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) ac mae hynny’n cael effaith o’r diwrnod ymadael, ond wedi ei arbed gydag addasiadau tan ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu gan adran 1A o’r Ddeddf honno (fel y’i mewnosodwyd gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1)). Diwygiwyd adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 gan adran 27(1) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7), a Rhan 1 o’r Atodlen iddi. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 ac fe’i diwygiwyd gan Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 ac O.S. 2007/1388.

(3)

O.S. 2003/2901, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Yn rhinwedd paragraff 28(1) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), mae’r dynodiad yn effeithiol fe pe bai wedi ei wneud o dan adran 59(1) o’r Ddeddf honno.

(4)

OJ Rhif L 319, 10.12.2019, t. 1.

(5)

OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/523 (OJ Rhif L 86, 28.3.2019, t. 41).

(7)

O.S. 2005/2517, a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/755 (Cy. 90). Ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol.

(8)

O.S. 2018/1064; ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol.

(9)

OJ Rhif L 319, 10.12.2019, t. 1.

(10)

OJ Rhif L 317, 23.11.2016, t. 4, a ddiwygiwyd gan Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1).

(11)

OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1, a ddiwygiwyd gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 (OJ Rhif L 82, 25.3.2019, t. 4).

(12)

Ar gael oddi wrth Ysgrifenyddiaeth y Confensiwn Rhyngwladol ar Warchod Planhigion, AGPP-FAO, Viale Delle Terme di Caracalla, 00153, Rhufain, Yr Eidal ac yn https://www.ippc.int/int.

(13)

OJ Rhif L 27, 3.2.1998, t. 47.

(14)

OJ Rhif L 252, 20.9.2002, t. 37, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/1967 (OJ Rhif L 303, 10.11.2016, t. 21).

(15)

OJ Rhif L 64, 2.3.2004, t. 43.

(16)

OJ Rhif L 319, 2.12.2011, t. 112.

(17)

OJ Rhif L 64, 3.3.2012, t. 38, fel y’i diwygiwyd gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2014/356/EU (OJ Rhif L 175, 14.6.2014, t. 38).

(18)

OJ Rhif L 132, 23.5.2012, t. 18, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/5 (OJ Rhif L 2, 5.1.2018, t. 11).

(19)

OJ Rhif L 266, 2.10.2012, t. 42, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/618 (OJ Rhif L 102, 23.4.2018, t. 17).

(20)

OJ Rhif L 311, 10.11.2012, t. 14.

(21)

OJ Rhif L 125, 21.5.2015, t. 36, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/1511 (OJ Rhif L 255, 11.10.2018, t. 16).

(22)

OJ Rhif L 146, 11.6.2015, t. 16.

(23)

OJ Rhif L 125, 13.5.2016, t. 16, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/449 (OJ Rhif L 77, 20.3.2019, t. 76).

(24)

OJ Rhif L 31, 4.2.2017, t. 29.

(25)

OJ Rhif L 105, 25.4.2018, t. 31, fel y’i diwygiwyd gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1598 (OJ Rhif L 248, 27.9.2019, t. 86).

(26)

OJ Rhif L 254, 10.10.2018, t. 9.

(27)

OJ Rhif L 250, 30.9.2019, t. 91.

(28)

OJ Rhif L 265, 18.10.2019, t. 12.

(29)

OJ Rhif L 313, 4.12.2019, t. 94.

(30)

1971 p. 80, y ceir diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(31)

OJ Rhif L 165, 21.6.2019, t. 8.

(32)

OJ Rhif L 165, 21.6.2019, t. 4.

(33)

OJ Rhif L 165, 21.6.2019, t. 10.

(34)

OJ Rhif L 269, 10.10.2013, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) 2019/632 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 111, 25.4.2019, t. 54).

(35)

OJ Rhif L 313, 12.10.2004, t. 16.

(36)

1925 p. 86; diddymwyd adran 33 yn rhannol gan Atodlen 6 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1952 (p. 55), ac fe’i diwygiwyd gan baragraff 19 o Atodlen 8 i Ddeddf Llysoedd 1971 (p. 23) a pharagraff 71 o Atodlen 8, ac Atodlen 10, i Ddeddf Llysoedd 2003 (p. 39) (yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn O.S. 2004/2066).

(37)

1980 p. 43; diwygiwyd Atodlen 3 gan Atodlen 13 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991 (p. 53) a pharagraff 51 o Atodlen 3, a Rhan 4 o Atodlen 37 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44).

(38)

OJ Rhif L 158, 18.6.2008, t. 41.

(39)

OJ Rhif L 137, 23.5.2019, t. 15.

(42)

Ar gael oddi wrth Ysgrifenyddiaeth yr IPPC, AGPP-FAO, Viale Delle Terme di Caracalla, 00153, Rhufain, Yr Eidal ac yn https://www.ippc.int/int.

(43)

OJ Rhif L 259, 18.10.1993, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/56/EC (OJ Rhif L 182, 4.7.2006, t. 1). Mae’n cael ei ddiddymu o 1 Ionawr 2022 ymlaen (gweler Erthygl 113(2) o Reoliad (EU) 2016/2031 (OJ Rhif L 317, 23.11.2016, t. 4).

(44)

OJ Rhif L 235, 21.8.1998, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/63/EC (OJ Rhif L 206, 27.7.2006, t. 36). Mae’n cael ei ddiddymu o 1 Ionawr 2022 ymlaen (gweler Erthygl 113(2) o Reoliad (EU) 2016/2031).

(45)

OJ Rhif L 156, 16.6.2007, t. 12. Mae’n cael ei ddiddymu o 1 Ionawr 2022 ymlaen (gweler Erthygl 113(2) o Reoliad (EU) 2016/2031).

(47)

Nodir y rhestr o blâu cwarantin yr Undeb yn Atodiad 2 i Reoliad (EU) 2019/2072 (“Rheoliad Amodau Ffytoiechydol”) sy’n pennu amodau unffurf ar gyfer gweithredu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, o ran mesurau diogelu rhag plâu planhigion (OJ Rhif L 319, 10.12.2019, t. 1) (“Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE”).

(48)

Nodir y rhestr o barthau gwarchodedig a’r priod blâu parth gwarchodedig yn Atodiad 3 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(49)

Nodir y rhestr o blâu nad ydynt yn blâu cwarantin Undeb a reoleiddir a’r planhigion perthnasol i’w plannu, gyda chategorïau a throthwyon, yn Atodiad 4 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(50)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill a’r trydydd gwledydd, y grwpiau o drydydd gwledydd neu’r ardaloedd penodol o drydydd gwledydd y mae’r gwaharddiad yn gymwys iddynt yn Atodiad 6 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(51)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill sy’n tarddu o drydydd gwledydd a’r gofynion arbennig cyfatebol mewn perthynas â’u cyflwyno i diriogaeth yr Undeb yn Atodiad 7 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(52)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill sy’n tarddu o’r Undeb a’r gofynion arbennig cyfatebol mewn perthynas â’u symud o fewn tiriogaeth yr Undeb yn Atodiad 8 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(53)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill uchel eu risg y mae’r gwaharddiad yn gymwys iddynt yn Atodiad 1 i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/2019 yn sefydlu rhestr dros dro o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill uchel eu risg, o fewn ystyr Erthygl 42 o Reoliad (EU) 2016/2031 a rhestr o blanhigion nad yw tystysgrifau ffytoiechydol yn ofynnol ar eu cyfer i’w cyflwyno i’r Undeb, o fewn ystyr Erthygl 73 o’r Rheoliad hwnnw (OJ Rhif L 323, 19.12.2018, t. 10).

(54)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at y dibenion hyn yn Atodiad 9 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(55)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at y dibenion hyn yn Atodiad 10 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(56)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at ddibenion Erthygl 72(1) yn Rhan A o Atodiad 11 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol. Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at ddibenion Erthygl 73(1) yn Rhan B o’r Atodiad hwnnw, ond nid yw’n cynnwys unrhyw blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill yn y rhestr a nodir yn Rhan C o’r Atodiad hwnnw.

(57)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at y dibenion hyn yn Atodiad 12 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(58)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at y dibenion hyn yn Atodiad 13 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(59)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at y dibenion hyn yn Atodiad 14 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(60)

OJ Rhif L 321, 12.12.2019, t. 45.

(61)

OJ Rhif L 165, 21.6.2019, t. 8.

(62)

OJ Rhif L 250, 30.9.2019, t. 6.

(63)

OJ Rhif L 321, 12.12.2019, t. 73.

(64)

O.S. 1995/2652, a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/2190 (Cy. 174); ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol.

(66)

O.S. 2002/3026, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/496 (Cy. 133); ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol.

(67)

O.S. 2016/106 (Cy. 52); ceir offerynnau diwygio ond nid yw’r un yn berthnasol.

(69)

O.S. 2017/691 (Cy. 163), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/368 (Cy. 90); ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol.