Offerynnau Statudol Cymru
2020 Rhif 175 (Cy. 37) (C. 12)
Bwyd, Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 2) 2020
Gwnaed
24 Chwefror 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 28(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018(1).
Enwi
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 2) 2020.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 2 Mawrth 2020
2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 i rym ar 2 Mawrth 2020—
(a)adran 1 at bob diben sy’n weddill;
(b)adrannau 2 i 25;
(c)Atodlen 1.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
24 Chwefror 2020
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Hwn yw’r ail orchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).
Mae’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ynghylch yr isafbris y mae alcohol i’w gyflenwi amdano yng Nghymru gan bersonau penodol; ac at ddibenion cysylltiedig.
Mae erthygl 2 yn darparu mai 2 Mawrth 2020 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym holl ddarpariaethau’r Ddeddf a nodir yn yr erthygl honno ac y cyfeirir atynt isod—
(a)adran 1 at bob diben sy’n weddill;
(b)adrannau 2 i 25;
(c)Atodlen 1.
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau’r Ddeddf sy’n weddill nad ydynt eisoes mewn grym.
NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r ddarpariaeth a ganlyn o’r Ddeddf wedi ei dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn, i’r graddau sy’n angenrheidiol ar gyfer gwneud rheoliadau o dan yr adran honno.
| Y ddarpariaeth | Y dyddiad cychwyn | Rhif O.S. |
|---|---|---|
| Adran 1 | 14 Hydref 2019 | 2019/1336 (Cy. 233) (C. 45) |
