(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud gan Weinidogion Cymru ac maent yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Amaethyddiaeth 2020 (p. 21) (“y Ddeddf”).
Mae rheoliad 2(a) yn dwyn i rym, ar 1 Ionawr 2021, baragraffau 7 ac 8 o Ran 2 o Atodlen 5 i’r Ddeddf.
Mae rheoliad 2(b) yn dwyn i rym, ar 1 Ionawr 2021, adran 46 o’r Ddeddf i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau hynny.
Mae paragraff 7 o Atodlen 5 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud a chyhoeddi datganiad bod “amodau eithriadol yn y farchnad” (fel y diffinnir “exceptional market conditions” yn y paragraff hwnnw) yn bodoli sy’n cyfiawnhau rhoi ar gael bwerau a roddir gan baragraff 8 o Atodlen 5.
Mae paragraff 8 o Atodlen 5 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, tra bo datganiad a wneir o dan baragraff 7 yn cael effaith, roi, neu gytuno i roi, cymorth ariannol i gynhyrchwyr amaethyddol yng Nghymru, yn ddarostyngedig i’r amodau hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.