RHAN 3Diwygiadau i Ran 3 o’r Rheoliadau Cyfyngiadau
4
1
Mae’r Rheoliadau Cyfyngiadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Ar ôl rheoliad 11 mewnosoder—
Gofyniad i ynysu: darpariaeth benodol ar gyfer pobl sydd wedi bod yn Ne Affrica11A
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (“P”)—
a
yng Nghymru am 9.00 a.m. ar 24 Rhagfyr 2020,
b
wedi cyrraedd Cymru o fewn y cyfnod o 10 o ddiwrnodau sy’n dod i ben yn union cyn 9.00 a.m. ar 24 Rhagfyr 2020, ac
c
wedi bod yn Ne Affrica o fewn y cyfnod hwnnw.
2
Oni bai fod rheoliad 11B yn gymwys ni chaiff P, nac unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P, adael y man lle maent yn byw, neu fod y tu allan iddo, tan ddiwedd y cyfnod o 10 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y gadawodd P De Affrica.
3
Os yw swyddog olrhain cysylltiadau yn gofyn am hynny, rhaid i P hysbysu’r swyddog—
a
am enw pob person sy’n byw yn y man lle y mae P yn byw, a
b
am gyfeiriad y man hwnnw.”
Gofyniad i ynysu: eithriad penodol ar gyfer pobl sydd wedi bod yn Ne Affrica11B
1
Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo’n ofynnol i berson beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn rhinwedd rheoliad 11A(2).
2
Caiff y person ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw a bod y tu allan iddo—
a
i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;
b
os yw cwnstabl yn dweud fod yn rhaid gwneud hynny;
c
er mwyn osgoi salwch difrifol, anaf difrifol neu risg arall o niwed difrifol.
3
Yn rheoliad 12, ynlle “neu 9(2)” rhodder “, 9(2) neu 11A(2)”.
4
Yn rheoliad 14(2), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—
aa
pan fo’n ofynnol i berson ynysu yn unol â rheoliad 11A(2), gwybodaeth gyswllt a dyddiad geni’r person, neu, pan fo’r person yn blentyn, manylion cyswllt yr oedolyn a hysbysir ei bod yn ofynnol i’r plentyn ynysu a dyddiad geni’r plenty.
5
Yn rheoliad 22(4)(a), ynlle “neu 9(2)” rhodder “, 9(2) neu 11A(2)”.
6
Yn rheoliad 30, ynlle “neu 9(2)” rhodder “, 9(2) neu 11A(2)” ynlle “neu 9(2)” rhodder “, 9(2) neu 11A(2)”.
7
Yn rheoliad 40—
a
ym mharagraff (1)—
i
yn is-baragraff (a), ar ôl “9(2),” mewnosoder “11A(2)”;
ii
yn is-baragraff (b), ynlle “neu 9(3)” rhodder “, 9(3) neu 11A(3)”;
b
ym mharagraff (2)(a), ynlle “neu 9(3)” rhodder “, 9(3) neu 11A(3)”.