RHAN 2Diwygio Rhan 3 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Mewnosod darpariaethau newydd sy’n ymwneud â De Affrica2

1

Yn Rhan 3 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gofyniad i ynysu etc.), cyn Rhan 4, mewnosoder—

Rheolau arbennig sy’n berthnasol i bobl sy’n teithio o Dde Affrica12C

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan osodir gofyniad i ynysu (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2)) ar berson (“P”) oherwydd fod P—

a

wedi cyrraedd Cymru o Dde Affrica, neu

b

wedi bod yn Ne Affrica o fewn y cyfnod o 10 o ddiwrnodau sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.

2

Mae Rheoliadau 7(1) a 8(1) i’w darllen mewn perthynas â P fel petai cyfeiriadau i “wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt” yn gyfeiriadau i “Dde Affrica”.

3

Mae’r gofyniad i ynysu a osodir ar P yn rhinwedd rheoliad 7(1) neu 8(1) fel y’i diwygiwyd gan baragraph (2), hefyd yn cael ei osod ar bob aelod o aelwyd P.

4

Er gwaethaf rheoliad 9(2), mae rheoliadau 7 ac 8 yn gymwys i P.

5

Nid yw aelod o aelwyd P wedi’i eithrio o’r gofyniad i ynysu yn rhinwedd rheoliad 9(2).

6

Yn unol â hynny, nid yw P nac unrhyw aelod o aelwyd P i’w drin fel person a ddisgrifir mewn unrhyw baragraff o Atodlen 2.

7

At ddibenion rheoliad 10, mae aelod o aelwyd P i’w drin fel pe bai’r person hwnnw yw P.

8

Mae rheoliad 10 yn gymwys i P (ac aelod o aelwyd P yn rhinwedd paragraff (7)) fel pe bai, yn lle paragraff (4) o’r rheoliad hwnnw, y canlynol yn cael ei amnewid—

4

Caniateir i P adael y fangre a bod y tu allan iddi—

a

am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol—

i

i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;

ii

i osgoi salwch neu anaf neu i ddianc rhag risg o niwed difrifol;

b

os yw cwnstabl yn dweud fod yn rhaid gwneud hynny.

9

Yn y rheoliad hwn, mae i “gofyniad i ynysu” yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2).

2

Ar ôl rheoliad 12C mewnosoder—

RHAN 3BTeithio o Dde Affrica

Gwahardd awyrennau a llestrau rhag teithio’n uniongyrchol o Dde Affrica12D

1

Ni chaiff person sy’n rheoli neu’n gyfrifol am reolaeth awyren neu lestr yr oedd ei man ymadael diwethaf yn De Affrica beri na chaniatáu iddi gyrraedd Cymru, oni fo’n rhesymol angenrheidiol iddi wneud hynny er mwyn sicrhau—

a

diogelwch yr awyren neu’r llestr, neu.

b

iechyd a diogelwch unrhyw berson sydd arni.

2

Nid yw paragraff (1) yn gymwys i—

a

awyren neu lestr a weithredir yn fasnachol ac nad yw’n cludo unrhyw deithwyr;

b

awyren neu lestr a weithredir gan Lywodraeth Ei Mawrhydi neu er mwyn cefnogi Llywodraeth Ei Mawrhydi yn y Deyrnas Unedig.

3

Yn y rheoliad hwn—

a

ystyr “cyrraedd” yw—

i

mewn perthynas ag awyren, glanio;

ii

mewn perthynas â llestr, angori yn unrhyw fan arall;

b

ystyr “teithiwr” yw person a gludir mewn awyren neu ar lestr ac eithrio aelod o’i chriw.

3

Yn rheoliad 14(1)—

a

yn is-baragraff (e), hepgorer “neu”;

b

yn is-baragraff (f), ar y diwedd mewnosoder “neu”;

c

ar ôl is-baragraff (f) mewnosoder—

g

12D(1),

Darpariaeth drosiannol sy’n ymwneud â rheoliad 2(2)3

Nid yw rheoliad 12D o Reoliadau Teithio Rhyngwladol a fewnosodir gan reoliad 2(2) o’r Rheoliadau hyn, yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw hediad neu daith a gychwynnodd cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.