(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (O.S. 2020/1609 (W. 335) (y “Rheoliadau Cyfyngiadau”).
Mae 3 Rhan i’r Rheoliadau.
Mae Rhan 1 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn dod i rym am 9.00 a.m. ar 24 Rhagfyr 2020.
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau yn diwygio y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae rheoliad 2(1) yn mewnosod darpariaethau sy’n ymwneud â De Affrica yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel rheoliad 12C newydd. Mae hyn yn darparu pan fydd person wedi bod yn Ne Affrica yn ystod y 10 diwrnod diwethaf ac yn cyrraedd Cymru ar neu ar ôl 9.00 a.m. ar 24 Rhagfyr 2020, nad yw’r categorïau o bersonau esempt y rhestrir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gymwys. Mae’r gofynion ynysu hefyd yn berthnasol i unrhyw aelodau o aelwyd lle mae’r person yn ynysu. Mae rheoliad 2(2) yn mewnosod rheoliad 12D newydd yn y Rheoliadau hynny i wahardd unrhyw awyren neu long sy’n dod yn uniongyrchol o Dde Affrica rhag cyrraedd Cymru ac eithrio am resymau diogelwch. Mae rheoliad 3 yn darparu nad yw’r rheoliad 12D newydd o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gymwys pan fo taith awyren neu long wedi cychwyn cyn y daeth rheoliad 12D i rym.
Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau yn mewnosod darpariaethau newydd sy’n ymwneud â phersonau sydd wedi bod yn Ne Affrica yn ddiweddar yn y Rheoliadau Cyfyngiadau. Mae’r darpariaethau hyn yn darparu, pan fo person yng Nghymru am 9.00 a.m. ar 24 Rhagfyr 2020 ar ôl cyrraedd o fewn y cyfnod o 10 diwrnod sy’n dod i ben yn union cyn yr amser hwnnw ac wedi bod yn Ne Affrica yn ystod y cyfnod hwnnw, fod angen i’r person hwnnw ac unrhyw aelod o aelwyd y person hwnnw ynysu am gyfnod o 10 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y gadawodd De Affrica.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn