RHAN 2Diwygio is-ddeddfwriaeth
Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 20203
1
Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 20204 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2(1)—
a
yn lle’r diffiniad o “Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE” rhodder—
ystyr “y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol” (“the Official Controls Regulations”) yw Rheoliad yr UE a’r Rheoliadau Gweithredu, y Rheoliadau Dirprwyedig a’r offerynnau statudol a wnaed oddi tano;
b
yn y diffiniad o “swyddog gorfodi”, yn lle “orfodi Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE” rhodder “orfodi’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”;
c
yn y diffiniad o “deddfwriaeth berthnasol”, yn lle “Ewropeaidd a domestig” rhodder “uniongyrchol yr UE a ddargedwir a deddfwriaeth ddomestig”.
3
Yn rheoliad 4, hepgorer “yn y Deyrnas Unedig ac mewn Aelod-wladwriaethau eraill”.
4
Yn rheoliadau 4, 5(1), 9(3), 11(1), 12(1) a 13, ym mhob lle y maent yn digwydd, yn lle “a Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE” rhodder “a’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”, yn lle “â Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE” rhodder “â’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”, yn lle “neu Reoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE” rhodder “neu’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol” ac yn lle “yn Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE” rhodder “yn y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”.
5
Yn rheoliad 9—
a
ym mharagraff (1)—
i
hepgorer “o Aelod-wladwriaeth arall”;
ii
yn is-baragraff (a), hepgorer y gair “gwlad”;
b
hepgorer paragraff (2).