RHAN 2Diwygio is-ddeddfwriaeth
Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 20112
1
Mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 20112 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 11 mewnosoder—
Amodau Mewnforio Arbennig11A
1
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau osod amodau mewnforio arbennig mewn cysylltiad â mewnforion o drydydd gwledydd o gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl, gan roi sylw i’r sefyllfa o ran iechyd anifeiliaid yn y drydedd wlad neu yn y trydydd gwledydd dan sylw, a chânt at y diben hwnnw ddiwygio, addasu neu ddirymu unrhyw fân ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir a wnaed o dan Erthygl 8(4) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/99/EC3.
2
Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan y paragraff hwn—
a
yn arferadwy drwy offeryn statudol;
b
yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol; ac
c
yn cynnwys pŵer i wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, canlyniadol, darfodol, trosiannol neu ddarpariaeth arbed y mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn briodol.
3
Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wnaed o dan y paragraff hwn yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.