Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020
Mae Gweinidogion Cymru o’r farn, oherwydd brys, fod angen gwneud y Rheoliadau hyn heb osod drafft o’r offeryn gerbron Senedd Cymru, na chymeradwyo’r drafft hwnnw drwy benderfyniad ganddi.
RHAN 1Rhagarweiniol
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
RHAN 2Diwygio is-ddeddfwriaeth
Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 20112.
(1)
(2)
“Amodau Mewnforio Arbennig11A.
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau osod amodau mewnforio arbennig mewn cysylltiad â mewnforion o drydydd gwledydd o gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl, gan roi sylw i’r sefyllfa o ran iechyd anifeiliaid yn y drydedd wlad neu yn y trydydd gwledydd dan sylw, a chânt at y diben hwnnw ddiwygio, addasu neu ddirymu unrhyw fân ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir a wnaed o dan Erthygl 8(4) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/99/EC3.(2)
Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan y paragraff hwn—
(a)
yn arferadwy drwy offeryn statudol;
(b)
yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol; ac
(c)
yn cynnwys pŵer i wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, canlyniadol, darfodol, trosiannol neu ddarpariaeth arbed y mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn briodol.
(3)
Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wnaed o dan y paragraff hwn yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.”
Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 20203.
(1)
(2)
Yn rheoliad 2(1)—
(a)
“ystyr “y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol” (“the Official Controls Regulations”) yw Rheoliad yr UE a’r Rheoliadau Gweithredu, y Rheoliadau Dirprwyedig a’r offerynnau statudol a wnaed oddi tano;”;
(b)
yn y diffiniad o “swyddog gorfodi”, yn lle “orfodi Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE” rhodder “orfodi’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”;
(c)
yn y diffiniad o “deddfwriaeth berthnasol”, yn lle “Ewropeaidd a domestig” rhodder “uniongyrchol yr UE a ddargedwir a deddfwriaeth ddomestig”.
(3)
Yn rheoliad 4, hepgorer “yn y Deyrnas Unedig ac mewn Aelod-wladwriaethau eraill”.
(4)
Yn rheoliadau 4, 5(1), 9(3), 11(1), 12(1) a 13, ym mhob lle y maent yn digwydd, yn lle “a Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE” rhodder “a’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”, yn lle “â Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE” rhodder “â’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”, yn lle “neu Reoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE” rhodder “neu’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol” ac yn lle “yn Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE” rhodder “yn y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”.
(5)
Yn rheoliad 9—
(a)
ym mharagraff (1)—
(i)
hepgorer “o Aelod-wladwriaeth arall”;
(ii)
yn is-baragraff (a), hepgorer y gair “gwlad”;
(b)
hepgorer paragraff (2).
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau o ran gweithrediad sy’n ymwneud â rheolaethau swyddogol i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2379 (Cy. 252)) a Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/44 (Cy. 5)).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.