RHAN 2Diwygio is-ddeddfwriaeth

Rhan 69

1

Mae Rhan 6 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 19, yn lle “o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE” rhodder “o’r Rheoliad Iechyd Planhigion”.

3

Yn rheoliad 20—

a

ym mharagraff (1)—

i

yn is-baragraff (b), yn lle “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE” rhodder “y Rheoliad Iechyd Planhigion”;

ii

yn is-baragraff (c)—

aa

yn lle’r coma rhodder “neu”;

bb

hepgorer “neu dystysgrif cyn-allforio”;

b

ym mharagraff (2), yn y diffiniad o “gweithgaredd perthnasol”—

i

yn lle “Reoliad Iechyd Planhigion yr UE” rhodder “y Rheoliad Iechyd Planhigion”;

ii

hepgorer “, penderfyniad brys gan yr UE”;

iii

yn lle “un arall o reolau iechyd planhigion yr UE” rhodder “reol iechyd planhigion arall”.

4

Yn rheoliad 21—

a

ym mharagraff (1)(c)—

i

ar ôl “o dan” mewnosoder “, neu yn rhinwedd,”;

ii

yn lle “Reoliad Iechyd Planhigion yr UE” rhodder “y Rheoliad Iechyd Planhigion”;

iii

ar ôl “Swyddogol” mewnosoder “, unrhyw reoliadau a wneir o dan y Rheoliad Iechyd Planhigion neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol,”;

b

ym mharagraff (3)—

i

yn y diffiniad o “rhanddirymiad iechyd planhigion”—

aa

ym mharagraff (a), yn lle “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE” rhodder “y Rheoliad Iechyd Planhigion”, ac yn lle “Reoliad Iechyd Planhigion yr UE” rhodder “y Rheoliad Iechyd Planhigion”;

bb

ym mharagraff (a), yn lle “mewn act weithredu neu act ddirprwyedig a fabwysiadwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd” rhodder “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir neu reoliadau a wneir”;

cc

hepgorer paragraff (b), a’r “neu” o’i flaen;

ii

yn y diffiniad o “pla planhigion cwarantin posibl”, yn lle’r geiriau o “yr Undeb” hyd at “yr UE”, rhodder “Prydain Fawr neu’n bla cwarantin Prydain Fawr dros dro”.

5

Yn rheoliad 22(1)—

a

yn lle “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE” rhodder “y Rheoliad Iechyd Planhigion”;

b

yn lle’r coma rhodder “neu”;

c

yn lle “neu’r Rheoliadau hyn” rhodder “neu at ddibenion y Rheoliadau hyn, neu oddi tanynt,”.