RHAN 2Diwygio is-ddeddfwriaeth
Rhan 47
1
Mae Rhan 4 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 14(2), yn y diffiniad o “deunydd gwaharddedig”—
a
ym mharagraff (b)—
i
yn lle “diriogaeth yr Undeb neu i Gymru” rhodder “Brydain Fawr”;
ii
yn lle “o reolau iechyd planhigion yr UE” rhodder “o’r rheolau iechyd planhigion”;
b
ym mharagraff (c)—
i
hepgorer “o fewn tiriogaeth yr Undeb, neu”;
ii
yn lle “o reolau iechyd planhigion yr UE” rhodder “o’r rheolau iechyd planhigion”.
3
Yn rheoliad 16(4), hepgorer “(gan gynnwys cynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd)”.