RHAN 2Diwygio is-ddeddfwriaeth

Rhan 36

1

Mae Rhan 3 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 7—

a

ym mharagraff (1), ar ôl “drwy’r awyr” mewnosoder “neu i borthladd RoRo yng Nghymru”;

b

ym mharagraff (4)—

i

yn y diffiniad o “gweithredwr cyfrifol”, yn lle “yr Undeb” rhodder “Prydain Fawr”;

ii

yn y lle priodol mewnosoder—

  • ystyr “porthladd RoRo” (“RoRo port”) yw lleoliad RoRo a restrir o fewn ystyr “RoRo listed location” yn rheoliad 130 o Reoliadau Tollau (Tollau Mewnforio) (Ymadael â’r UE) 20186;

3

Yn rheoliad 8—

a

ym mharagraff (1), yn lle “o reolau iechyd planhigion yr UE” rhodder “o’r rheolau iechyd planhigion”;

b

ym mharagraff (2)(b), yn lle “diriogaeth yr Undeb” rhodder “Brydain Fawr”.

4

Yn rheoliad 10(1)—

a

yn is-baragraffau (a) a (b), yn lle “o reolau iechyd planhigion yr UE”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “o’r rheolau iechyd planhigion”;

b

yn is-baragraff (c), yn lle “diriogaeth yr Undeb” rhodder “Brydain Fawr”.

5

Yn rheoliad 11(1)(c), yn lle “diriogaeth yr Undeb” rhodder “Brydain Fawr”.