RHAN 2Diwygio is-ddeddfwriaeth
Atodlen 321
1
Mae Atodlen 3 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Yn y pennawd, yn lle “Rheoliadau’r UE” rhodder “neddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir”.
3
Yn Rhan 1—
a
yn y pennawd, yn lle “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE” rhodder “Y Rheoliad Iechyd Planhigion”;
b
yn y tabl—
i
yn y pennawd i’r golofn gyntaf, yn lle “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE” rhodder “y Rheoliad Iechyd Planhigion”;
ii
yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 5(1)—
aa
yn lle “cwarantin Undeb”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “cwarantin Prydain Fawr”;
bb
yn lle “diriogaeth yr Undeb” rhodder “Brydain Fawr”, ac yn lle “tiriogaeth yr Undeb” rhodder “Prydain Fawr”;
iii
yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 9(3)—
aa
yn lle “Undeb”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, rhodder “Prydain Fawr”;
bb
yn lle “bla sy’n destun mesurau a fabwysiadwyd yn unol ag Erthygl 30(1)” rhodder “bla cwarantin Prydain Fawr dros dro”;
cc
yn lle “diriogaeth yr Undeb”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “Brydain Fawr”;
dd
yn lle “parth gwarchodedig” rhodder “PFA”;
ee
yn lle “priod barth gwarchodedig” rhodder “ardal sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr a sefydlwyd mewn cysylltiad â’r pla hwnnw”;
iv
yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 14(1)—
aa
yn lle’r geiriau o “Undeb” hyd at “Erthygl 30(1)” rhodder “Prydain Fawr neu bla cwarantin Prydain Fawr dros dro”;
bb
yn lle “parth gwarchodedig” rhodder “PFA”;
cc
yn lle “y priod barth gwarchodedig” rhodder “yr ardal sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr a sefydlwyd mewn cysylltiad â’r pla hwnnw”;
v
yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 14(3), yn lle “Undeb” rhodder “Prydain Fawr”;
vi
yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 15(1)—
aa
yn lle “Undeb” rhodder “Prydain Fawr”;
bb
yn lle “parth gwarchodedig” rhodder “PFA”;
cc
yn lle “y priod barth gwarchodedig” rhodder “yr ardal sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr a sefydlwyd mewn cysylltiad â’r pla hwnnw”;
vii
yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 32(2)—
aa
yn lle “parth gwarchodedig”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “PFA”;
bb
yn lle “y priod barth gwarchodedig”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “yr ardal sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr a sefydlwyd mewn cysylltiad â’r pla hwnnw”, ac yn lle “i’r priod barth gwarchodedig” rhodder “i’r ardal sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr a sefydlwyd mewn cysylltiad â’r pla hwnnw”;
viii
yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 37(1)—
aa
yn lle “diriogaeth yr Undeb” rhodder “Brydain Fawr”, ac yn lle “tiriogaeth yr Undeb” rhodder “Prydain Fawr”;
bb
yn lle “Undeb”, yn yr ail le a’r trydydd lle y mae’n digwydd, rhodder “Prydain Fawr”;
ix
yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 40(1), yn lle “diriogaeth yr Undeb” rhodder “Brydain Fawr”;
x
yn lle’r cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 41(1) rhodder—
Erthygl 41(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 47 a 48(1))
Yn gwahardd cyflwyno i Brydain Fawr blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill o drydydd gwledydd oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny wedi eu cyflawni.
Erthygl 41(1A) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 48(1))
Yn gwahardd cyflwyno i Brydain Fawr blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill o diriogaethau Dibynnol y Goron oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny wedi eu cyflawni.
Erthygl 41(1B) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 48(1))
Yn gwahardd symud o fewn Prydain Fawr blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny wedi eu cyflawni.
xi
yn y cofnodion sy’n ymwneud ag Erthyglau 42(2) a 43(1), yn lle “diriogaeth yr Undeb”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “Brydain Fawr”;
xii
yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 53(1)—
aa
yn lle “barthau gwarchodedig penodol”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, rhodder “ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr”;
bb
yn lle “fewn tiriogaeth yr Undeb i barthau gwarchodedig penodol” rhodder “Brydain Fawr neu diriogaeth Ddibynnol y Goron i ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr”;
xiii
yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 54(1)—
aa
yn lle “i barthau gwarchodedig penodol” rhodder “i ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr”, ac yn lle “mewn parthau gwarchodedig penodol” rhodder “mewn ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr”;
bb
yn lle “parthau gwarchodedig hynny”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “ardaloedd hynny sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr”;
xiv
yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 59—
aa
yn lle “diriogaeth yr Undeb”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “Brydain Fawr”;
bb
yn lle’r geiriau o “cwarantin Undeb” hyd at “Erthygl 30(1)” rhodder “cwarantin Prydain Fawr neu blâu cwarantin Prydain Fawr dros dro”;
cc
yn lle “parthau gwarchodedig” rhodder “ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr”;
dd
yn lle “barthau gwarchodedig” rhodder “ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr”;
ee
yn lle “priod barth gwarchodedig” rhodder “PFA”;
ff
ar y diwedd mewnosoder “sy’n ymwneud â’r ardaloedd hynny”;
xv
yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 62(1), yn lle’r geiriau o “Undeb” hyd at y diwedd, rhodder “Prydain Fawr a phlâu cwarantin Prydain Fawr dros dro”;
xvi
yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 62(2), yn lle’r geiriau o “Undeb” hyd at y diwedd rhodder “Prydain Fawr neu bla cwarantin Prydain Fawr dros dro”;
xvii
yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthyglau 72(1) a 73, yn lle “diriogaeth yr Undeb” rhodder “Brydain Fawr”;
xviii
yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 74(1), yn lle “barthau gwarchodedig penodol” rhodder “ardaloedd penodol sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr”;
xix
yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 79(1)—
aa
yn y golofn gyntaf, yn lle “a 83” rhodder “, 83 a 92a”;
bb
yn yr ail golofn, yn lle “tiriogaeth yr Undeb heb basbort planhigion” rhodder “Prydain Fawr neu gyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill i Brydain Fawr o diriogaeth Ddibynnol y Goron heb basbort planhigion y DU”;
xx
yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 80(1)—
aa
yn y golofn gyntaf, yn lle “a 83” rhodder “, 83 a 92a”;
bb
yn yr ail golofn, yn lle “barthau gwarchodedig penodol” a “parthau gwarchodedig penodol” rhodder “ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr”, ac ar y diwedd, mewnosoder “y DU”;
xxi
yn y cofnodion sy’n ymwneud ag Erthygl 84(1) ac Erthygl 84(3), ar ôl “pasbortau planhigion”, ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “y DU”;
xxii
yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 85, ar ôl “pasbortau planhigion” mewnosoder “y DU”;
xxiii
yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 86(1)—
aa
ar ôl “pasbortau planhigion” mewnosoder “y DU”;
bb
yn lle “barth gwarchodedig” rhodder “ardal sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr”;
xxiv
ar ôl y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 86(1) mewnosoder—
Erthygl 86a
Yn gwahardd gweithredwyr proffesiynol awdurdodedig rhag dyroddi pasbortau planhigion y DU ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill i’w cyflwyno i diriogaeth Ddibynnol y Goron, oni bai bod y gofynion penodol wedi eu cyflawni mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny.
xxv
yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 88, ar ôl “pasbortau planhigion” mewnosoder “y DU”;
xxvi
yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 90(1), ar ôl “pasbort planhigion” mewnosoder “y DU”;
xxvii
yn y cofnodion sy’n ymwneud ag Erthygl 93(1) ac Erthygl 93(5), ar ôl “pasbortau planhigion” mewnosoder “y DU”;
xxviii
yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 96(1), yn lle “tiriogaeth yr Undeb” rhodder “Prydain Fawr”.
4
Yn Rhan 2, yn y cofnodion sy’n ymwneud ag Erthyglau 47(5) a 56(4), yn lle “i’r Undeb”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “i Brydain Fawr”, ac yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 56(4), yn lle “yr Undeb” rhodder “Prydain Fawr”.
5
Yn Rhan 3, yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 22(4) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2124, yn lle “diriogaeth yr Undeb” rhodder “Brydain Fawr”.