RHAN 2Diwygio is-ddeddfwriaeth

Rhan 619

1

Mae Rhan 6 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Ym mharagraff 24—

a

yn y diffiniadau o “blwyddyn dyfu gyntaf” a “halogedig”, yn lle “at ddibenion Erthygl 5(1)(a)(ii) o Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “yn unol â pharagraff 26(2)(c)”;

b

yn y diffiniad o “halogedig o bosibl”, yn lle “at ddibenion Erthygl 5(1)(a)(iii) neu (c)(iii) o Gyfarwyddeb 98/57/EEC” rhodder “yn unol â pharagraff 26(2)(d)”.

3

Ym mharagraff 25—

a

yn is-baragraff (1), hepgorer “yn unol ag Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 98/57/EC”;

b

ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

1A

Rhaid i’r arolygon hynny fod yn seiliedig ar asesiad risg i nodi ffynonellau halogi posibl eraill sy’n peryglu cynhyrchu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a chynnwys arolygon swyddogol wedi eu targedu mewn ardaloedd cynhyrchu, yn seiliedig ar yr asesiad risg perthnasol, i nodi presenoldeb Pydredd coch tatws ar—

a

deunydd perthnasol, ac eithrio deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau,

b

dŵr wyneb a ddefnyddir ar gyfer dyfrhau neu chwistrellu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ac

c

gollyngiadau gwastraff hylifol o fangre brosesu neu becynnu diwydiannol sy’n trafod deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau.

1B

Rhaid i’r arolygon hynny hefyd fod yn seiliedig ar fioleg Pydredd coch tatws a’r systemau cynhyrchu perthnasol, a rhaid iddynt gynnwys—

a

yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sy’n cynnwys planhigion Solanum tuberosum L., cynnal arolygiadau gweledol o’r cnwd sy’n tyfu, ar adegau priodol, neu samplu tatws hadyd a thatws eraill yn ystod y tymor tyfu neu wrth eu storio, a rhaid i hynny gynnwys cynnal arolygiad gweledol swyddogol o gloron drwy eu torri;

b

yn achos tatws hadyd a, phan fo’n briodol, thatws eraill, cynnal profion swyddogol ar samplau gan ddefnyddio’r dull a nodir yn EPPO PM 7/21;

c

yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sy’n cynnwys planhigion Solanum lycopersicum L., cynnal arolygiadau gweledol, ar adegau priodol, o leiaf o’r cnwd o blanhigion sy’n tyfu y bwriedir eu defnyddio i’w hailblannu at ddefnydd proffesiynol;

d

ar gyfer planhigion cynhaliol, ac eithrio deunyddiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ac ar gyfer dŵr gan gynnwys gwastraff hylifol, cynnal profion swyddogol.

1C

Rhaid i’r gwaith o gasglu samplau at ddibenion is-baragraff (1B) fod yn seiliedig ar egwyddorion gwyddonol ac ystadegol cadarn a bioleg Pydredd coch tatws, ac ystyried systemau cynhyrchu tatws perthnasol o ran deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a phlanhigion cynhaliol eraill Pydredd coch tatws.

c

yn is-baragraff (2)—

i

ym mharagraff (a)(i), yn lle’r geiriau o “Atodiad”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, hyd at y diwedd rhodder “EPPO PM 7/21”;

ii

ym mharagraff (b), yn lle’r geiriau o “a bennir” hyd at “98/57/EC” rhodder “y cyfeirir atynt yn EPPO PM 7/21”.

4

Ym mharagraff 26—

a

yn is-baragraff (2)—

i

ym mharagraff (a), yn lle “yn unol ag Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder—

sy’n cynnwys cynnal ymchwiliad i’r pethau a ganlyn—

i

tatws sy’n tyfu neu a gynaeafwyd sy’n perthyn drwy glonio i unrhyw datws halogedig;

ii

tomatos sy’n tyfu neu a gynaeafwyd sydd o’r un ffynhonnell ag unrhyw domatos halogedig;

iii

tatws neu domatos sy’n tyfu neu a gynaeafwyd sydd o dan reolaeth swyddogol ac yr amheuir eu bod wedi eu halogi â Phydredd coch tatws;

iv

tatws sy’n tyfu neu a gynaeafwyd sy’n perthyn drwy glonio i unrhyw datws a dyfwyd yn y man cynhyrchu halogedig;

v

tatws neu domatos sy’n tyfu gerllaw’r man cynhyrchu halogedig, gan gynnwys y rhai sy’n rhannu cyfarpar a chyfleusterau cynhyrchu yn uniongyrchol neu drwy gontractwr sy’n gyffredin rhyngddynt;

vi

dŵr wyneb a ddefnyddir ar gyfer dyfrhau a chwistrellu o unrhyw ffynhonnell y cadarnheir neu yr amheuir ei bod wedi ei halogi a Phydredd coch tatws;

vii

dŵr wyneb a ddefnyddir ar gyfer dyfrhau a chwistrellu o ffynhonnell a ddefnyddir ar y cyd â’r mannau cynhyrchu halogedig a’r mannau cynhyrchu sy’n halogedig o bosibl;

viii

mannau cynhyrchu sydd wedi eu gorlifo, neu a oedd wedi eu gorlifo, â dŵr wyneb halogedig neu ddŵr wyneb sy’n halogedig o bosibl;

ix

dŵr wyneb a ddefnyddir ar gyfer dyfrhau neu chwistrellu’r man cynhyrchu halogedig neu gaeau sydd wedi eu gorlifo yn y man cynhyrchu halogedig;

ii

ym mharagraff (e), yn lle “yn unol â phwynt 2(i) o Atodiad 5 i Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “gan ystyried y ffactorau perthnasol”;

b

yn is-baragraff (3)—

i

ym mharagraff (a), yn lle “yn unol ag Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “sy’n cynnwys cynnal ymchwiliad i’r pethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(a)(i) i (ix)”;

ii

ym mharagraff (d), yn lle “yn unol â phwynt 2(i) o Atodiad 5 i Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “gan ystyried y ffactorau perthnasol”;

c

yn is-baragraff (4)(d), yn lle “yn unol â phwynt 2(ii) o Atodiad 5 i Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “gan ystyried y ffactorau perthnasol”;

d

ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—

5

Y “ffactorau perthnasol” yw—

a

at ddibenion is-baragraffau (2)(e) a (3)(d)—

i

agosrwydd mannau cynhyrchu eraill sy’n tyfu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau;

ii

cynhyrchu a defnyddio stociau tatws hadyd ar y cyd;

iii

mannau cynhyrchu sy’n defnyddio dŵr wyneb i ddyfrhau neu chwistrellu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau pan fo risg o ddŵr wyneb ffo o’r man cynhyrchu halogedig;

b

at ddibenion is-baragraff (4)(d)—

i

mannau cynhyrchu sy’n cynhyrchu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sy’n gyfagos i ddŵr wyneb halogedig, neu sy’n wynebu risg o orlifo gan ddŵr o’r fath;

ii

unrhyw fasn dyfrhau ar wahân sy’n gysylltiedig â’r dŵr wyneb halogedig;

iii

crynofeydd dŵr sy’n gysylltiedig â’r dŵr wyneb halogedig, gan roi sylw i gyfeiriad a chyfradd llif y dŵr wyneb halogedig a phresenoldeb planhigion cynhaliol mochlysaidd gwyllt.

5

Ym mharagraff 27—

a

yn is-baragraff (2)—

i

ym mharagraff (a), yn lle “fesur sy’n cydymffurfio â phwynt 1 o Atodiad 6 i Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “ddull gwaredu a gymeradwywyd yn swyddogol sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd coch tatws”;

ii

ym mharagraff (b), yn lle “yn unol â phwynt 2 o Atodiad 6 i Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “drwy ddull gwaredu a gymeradwywyd yn swyddogol sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd coch tatws”;

b

yn is-baragraff (3), yn lle “Cyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “y Rhan hon”.

6

Ym mharagraff 28, yn is-baragraffau (2)(c), (3)(c) a (4)(g), yn lle “Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 98/57/EC”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “EPPO PM 7/21”.

7

Ym mharagraff 30—

a

yn is-baragraff (7)—

i

ym mharagraff (a), yn lle “Erthygl 5(1)(a)(iv) o Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “paragraff 26(3)(d)”;

ii

ym mharagraff (b), yn lle “Erthygl 5(1)(c)(iii) o Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “paragraff 26(4)(d)”;

b

yn is-baragraff (8)(b), yn lle “Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “EPPO PM 7/21”.