RHAN 2Diwygio is-ddeddfwriaeth
Rhan 518
1
Mae Rhan 5 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Ym mharagraff 17—
a
yn y diffiniadau o “blwyddyn dyfu gyntaf” a “halogedig”, yn lle “at ddibenion Erthygl 5(1)(a) o Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “yn unol â pharagraff 19(1)(a)”;
b
yn y diffiniad o “halogedig o bosibl”, yn lle “at ddibenion Erthygl 5(1)(b) o Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “yn unol â pharagraff 19(1)(b)”.
3
Ym mharagraff 18—
a
yn is-baragraff (1), hepgorer “, yn unol ag Erthygl 2(1) o Gyfarwyddeb 93/85/EEC”;
b
ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—
1A
Yn achos cloron Solanum tuberosum L., rhaid i’r arolygon hynny gynnwys cynnal profion swyddogol ar samplau o datws hadyd a thatws eraill yn unol ag EPPO PM 7/59.
1B
Yn achos planhigion Solanum tuberosum L., rhaid cynnal yr arolygon hynny yn unol â dulliau priodol, a rhaid iddynt gynnwys cynnal profion swyddogol priodol ar samplau.
1C
Rhaid i’r gwaith o gasglu samplau at ddibenion is-baragraffau (1A) ac (1B) fod yn seiliedig ar egwyddorion gwyddonol ac ystadegol cadarn a bioleg Pydredd cylch tatws, ac ystyried systemau cynhyrchu tatws perthnasol.
c
yn is-baragraff (2)(a), yn lle’r geiriau o “Atodiad”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, hyd at “93/85/EEC”, yn yr ail le y mae’n digwydd, rhodder “EPPO PM 7/59”.
4
Ym mharagraff 19(1)—
a
ym mharagraff (b), yn lle “ystyried y materion a nodir ym mhwynt 1 o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder—
roi sylw i’r ffactorau a ganlyn—
i
y deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a dyfir yn y man cynhyrchu halogedig;
ii
y mannau cynhyrchu sydd ag unrhyw gysylltiad cynhyrchu â’r deunydd hwnnw sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, gan gynnwys y rhai sy’n rhannu cyfarpar a chyfleusterau cynhyrchu yn uniongyrchol neu drwy gontractwr sy’n gyffredin rhyngddynt;
iii
cynhyrchu deunydd arall sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn y man cynhyrchu halogedig, neu bresenoldeb deunydd o’r fath yn y man hwnnw;
iv
y mangreoedd sy’n trafod tatws o’r man cynhyrchu halogedig a’r mannau cynhyrchu a grybwyllir yn is-baragraff (ii);
v
unrhyw wrthrych a allai fod wedi dod i gysylltiad â’r deunydd halogedig sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau;
vi
unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a gaiff ei storio mewn unrhyw wrthrych cyn iddo gael ei ddiheintio, neu ddeunydd o’r fath sydd wedi dod i gysylltiad ag unrhyw wrthrych o’r fath;
vii
unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sy’n perthyn fel chwaer neu riant drwy glonio i’r deunydd halogedig sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a mannau cynhyrchu’r deunydd hwnnw;
b
ym mharagraff (c), yn lle “y materion a nodir ym mhwynt 2 o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “agosrwydd mannau cynhyrchu eraill sy’n tyfu tatws neu blanhigion cynhaliol eraill a chynhyrchu a defnyddio stociau tatws hadyd ar y cyd”;
c
ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
1A
Wrth wneud dynodiad neu benderfyniad o dan is-baragraff (1), rhaid i arolygydd roi sylw i egwyddorion gwyddonol cadarn, bioleg Pydredd cylch tatws a systemau cynhyrchu, marchnata a phrosesu perthnasol.
5
Ym mharagraff 20—
a
yn is-baragraff (2)—
i
ym mharagraff (a), yn lle “unrhyw fesur arall sy’n cydymffurfio â phwynt 1 o Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “ddull gwaredu a gymeradwywyd yn swyddogol sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd cylch tatws”;
ii
ym mharagraff (b), yn lle “yn unol â phwynt 2 o Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “mewn modd sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd cylch tatws”;
b
yn is-baragraff (3), yn lle “Cyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “y Rhan hon”.
6
Ym mharagraff 21—
a
yn is-baragraffau (2)(c), (3)(c) a (4)(d), yn lle “Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “EPPO PM 7/59”;
b
yn is-baragraff (8), yn lle “Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “EPPO PM 7/59”.
7
Ym mharagraff 23(7)(b), yn lle “Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “EPPO PM 7/59”.