RHAN 2Diwygio is-ddeddfwriaeth

Rhan 417

1

Mae Rhan 4 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Ym mharagraff 7—

a

yn y diffiniad o “cae”, yn lle “Erthygl 3 o Gyfarwyddeb 2007/33/EC” rhodder “y Rhan hon”;

b

yn y lle priodol mewnosoder—

  • ystyr “mesurau penodedig” (“specified measures”) yw—

    1. a

      at ddibenion paragraff 9(2), ail-samplu swyddogol y cae a chynnal profion swyddogol ar y samplau, a gynhelir o leiaf bob tair blynedd ar ôl gweithredu mesurau rheoli priodol a gymeradwywyd yn swyddogol yn y cae neu, yn unrhyw achos arall, o leiaf bum mlynedd ar ôl y flwyddyn y canfuwyd Llyngyr tatws neu y tyfwyd tatws ddiwethaf yn y cae ynddi;

    2. b

      at ddibenion paragraffau 11(3) a 15—

      1. i

        dadheigio’r bylbiau neu’r planhigion drwy ddulliau priodol sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Llyngyr tatws;

      2. ii

        symud pridd oddi ar y bylbiau neu’r planhigion drwy eu golchi neu eu brwsio hyd nes eu bod yn rhydd rhag pridd i bob pwrpas, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Llyngyr tatws;

3

Ar ôl paragraff 7 mewnosoder—

Profion swyddogol7A

Rhaid cynnal unrhyw brofion swyddogol ar samplau at ddibenion y Rhan hon yn unol ag EPPO PM 7/40 ac EPPO PM 7/119.

4

Ym mharagraff 8—

a

yn is-baragraff (a), yn lle “ag Erthyglau 4 a 5 o Gyfarwyddeb 2007/33/EC” rhodder “â’r Rhan hon”;

b

yn is-baragraff (b), yn lle “ag Erthygl 6 o Gyfarwyddeb 2007/33/EC” rhodder “â’r Rhan hon”.

5

Mae paragraff 8 yn dod yn baragraff 8(1) ac ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

2

Rhaid i ymchwiliad swyddogol i gae at ddibenion paragraff 8(1)(a) gael ei gynnal—

a

cyn y plannu neu storio arfaethedig, a

b

oni bai bod tystiolaeth ddogfennol o ymchwiliad swyddogol blaenorol sy’n cadarnhau na chanfuwyd unrhyw Lyngyr tatws yn ystod yr ymchwiliad ac nad oedd tatws na phlanhigion cynhaliol yn bresennol ar adeg yr ymchwiliad hwnnw ac nad ydynt wedi eu tyfu yn y cae ers yr ymchwiliad hwnnw, rhwng cynaeafu’r cnwd diwethaf yn y cae a’r gwaith arfaethedig o blannu tatws hadyd neu ddeunydd arall sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau.

3

Yn achos cae lle y mae tatws hadyd neu blanhigion cynhaliol, y bwriedir eu defnyddio i gynhyrchu planhigion ar gyfer eu plannu, i’w plannu neu eu storio, rhaid i ymchwiliad swyddogol at ddibenion paragraff 8(1)(a) gynnwys samplu pridd y cae ar y gyfradd samplu pridd briodol a chynnal profion swyddogol ar y samplau.

4

Yn achos cae lle y mae bylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, y bwriedir eu defnyddio i gynhyrchu planhigion ar gyfer eu plannu, i’w plannu neu eu storio, rhaid i ymchwiliad swyddogol at ddibenion paragraff 8(1)(a) gynnwys—

a

samplu pridd y cae ar y gyfradd samplu pridd briodol a chynnal profion swyddogol ar y samplau, neu

b

gwirio, ar sail canlyniadau profion priodol a gymeradwywyd yn swyddogol, na fu Llyngyr tatws yn bresennol yn y cae yn ystod y 12 mlynedd flaenorol neu wirio, ar sail hanes cnydio hysbys y cae, na thyfwyd unrhyw datws na phlanhigion cynhaliol yn y cae yn ystod y 12 mlynedd flaenorol.

5

Rhaid i arolwg swyddogol at ddibenion paragraff 8(1)(b) gynnwys samplu pridd y cae ar y gyfradd samplu briodol ar o leiaf 0.5% o’r erwau a ddefnyddir i gynhyrchu tatws yn y flwyddyn berthnasol a chynnal profion swyddogol ar y samplau.

6

Nid yw paragraff 8(1)(a) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi cadarnhau nad oes unrhyw risg o ledaenu Llyngyr tatws ac—

a

bod unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau y bwriedir ei ddefnyddio i gynhyrchu planhigion ar gyfer eu plannu i’w ddefnyddio o fewn yr un man cynhyrchu sydd wedi ei leoli o fewn ardal sydd wedi ei diffinio yn swyddogol,

b

bod tatws hadyd i’w defnyddio o fewn yr un man cynhyrchu sydd wedi ei leoli o fewn ardal sydd wedi ei diffinio yn swyddogol, neu

c

yn achos unrhyw fylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau y bwriedir eu defnyddio i gynhyrchu planhigion ar gyfer eu plannu, bod y planhigion a gynaeafir i fod yn destun mesurau a gymeradwywyd yn swyddogol.

7

At ddibenion is-baragraffau (3) i (5)—

a

“y gyfradd samplu briodol”, mewn perthynas â chae, yw’r gyfradd samplu ofynnol a bennir yn y tabl a ganlyn—

Is-baragraff

Cae

Y Gyfradd

(3) a (4)

Cae ≤ 8 hectar

1,500 ml o bridd fesul hectar a gesglir o 100 craidd/hectar o leiaf

Cae > 8 hectar

Yr 8 hectar cyntaf

1,500 ml o bridd fesul hectar

Pob hectar ychwanegol

400 ml o bridd fesul hectar

Cae ≤ 4 hectar sy’n bodloni un maen prawf o leiaf ym mharagraff (b)

400 ml o bridd fesul hectar

Cae > 4 hectar sy’n bodloni un maen prawf o leiaf ym mharagraff (b)

Y 4 hectar cyntaf

400 ml o bridd fesul hectar

Pob hectar ychwanegol

200 ml o bridd fesul hectar

(5)

Cae ≤ 4 hectar

Unrhyw un neu ragor o’r cyfraddau a ganlyn:

—400 ml o bridd fesul hectar

—gwaith samplu wedi ei dargedu ar o leiaf 400 ml o bridd yn dilyn cynnal archwiliad gweledol o wreiddiau sydd â symptomau gweledol, neu

—pan fo’n bosibl olrhain y tatws a gynaeafwyd i’r cae lle y’u tyfwyd, 400 ml o bridd sy’n gysylltiedig â’r tatws a gynaeafwyd.

b

y meini prawf yw—

i

bod tystiolaeth ddogfennol yn bodoli i ddangos nad yw tatws na phlanhigion cynhaliol wedi eu tyfu yn y cae yn y chwe mlynedd cyn yr ymchwiliad swyddogol, neu nad oeddent yn bresennol yn y cae yn ystod y cyfnod hwnnw;

ii

nad oes unrhyw Lyngyr tatws wedi eu canfod yn ystod y ddau ymchwiliad swyddogol olynol diweddaraf mewn samplau o 1,500 ml o bridd/hectar, ac nad oes unrhyw datws na phlanhigion cynhaliol, ac eithrio’r rhai y mae’r ymchwiliad swyddogol yn ofynnol ar eu cyfer, wedi eu tyfu yn y cae ers y cyntaf o’r ddau ymchwiliad hynny;

iii

nad oes unrhyw Lyngyr tatws na Llyngyr tatws heb gynnwys byw wedi eu canfod yn yr ymchwiliad swyddogol diweddaraf a oedd ar ffurf maint sampl o 1,500 ml o bridd/hectar o leiaf, ac nad oes unrhyw datws na phlanhigion cynhaliol, ac eithrio’r rhai y mae’r ymchwiliad swyddogol yn ofynnol ar eu cyfer, wedi eu tyfu yn y cae ers yr ymchwiliad swyddogol diweddaraf.

6

Ym mharagraff 9(2), yn lle’r geiriau o “a gymeradwywyd yn swyddogol” hyd at “2007/33/EC” rhodder “penodedig perthnasol”.

7

Ym mharagraffau 11(3) a 15, yn lle “y mesurau a nodir yn Adran 3(A) o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 2007/33/EC” rhodder “un o’r mesurau penodedig perthnasol”.