Search Legislation

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rhan 4

17.—(1Mae Rhan 4 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 7—

(a)yn y diffiniad o “cae”, yn lle “Erthygl 3 o Gyfarwyddeb 2007/33/EC” rhodder “y Rhan hon”;

(b)yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “mesurau penodedig” (“specified measures”) yw—

(a)

at ddibenion paragraff 9(2), ail-samplu swyddogol y cae a chynnal profion swyddogol ar y samplau, a gynhelir o leiaf bob tair blynedd ar ôl gweithredu mesurau rheoli priodol a gymeradwywyd yn swyddogol yn y cae neu, yn unrhyw achos arall, o leiaf bum mlynedd ar ôl y flwyddyn y canfuwyd Llyngyr tatws neu y tyfwyd tatws ddiwethaf yn y cae ynddi;

(b)

at ddibenion paragraffau 11(3) a 15—

(i)

dadheigio’r bylbiau neu’r planhigion drwy ddulliau priodol sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Llyngyr tatws;

(ii)

symud pridd oddi ar y bylbiau neu’r planhigion drwy eu golchi neu eu brwsio hyd nes eu bod yn rhydd rhag pridd i bob pwrpas, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Llyngyr tatws;.

(3Ar ôl paragraff 7 mewnosoder—

Profion swyddogol

7A.  Rhaid cynnal unrhyw brofion swyddogol ar samplau at ddibenion y Rhan hon yn unol ag EPPO PM 7/40 ac EPPO PM 7/119.

(4Ym mharagraff 8—

(a)yn is-baragraff (a), yn lle “ag Erthyglau 4 a 5 o Gyfarwyddeb 2007/33/EC” rhodder “â’r Rhan hon”;

(b)yn is-baragraff (b), yn lle “ag Erthygl 6 o Gyfarwyddeb 2007/33/EC” rhodder “â’r Rhan hon”.

(5Mae paragraff 8 yn dod yn baragraff 8(1) ac ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

(2) Rhaid i ymchwiliad swyddogol i gae at ddibenion paragraff 8(1)(a) gael ei gynnal—

(a)cyn y plannu neu storio arfaethedig, a

(b)oni bai bod tystiolaeth ddogfennol o ymchwiliad swyddogol blaenorol sy’n cadarnhau na chanfuwyd unrhyw Lyngyr tatws yn ystod yr ymchwiliad ac nad oedd tatws na phlanhigion cynhaliol yn bresennol ar adeg yr ymchwiliad hwnnw ac nad ydynt wedi eu tyfu yn y cae ers yr ymchwiliad hwnnw, rhwng cynaeafu’r cnwd diwethaf yn y cae a’r gwaith arfaethedig o blannu tatws hadyd neu ddeunydd arall sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau.

(3) Yn achos cae lle y mae tatws hadyd neu blanhigion cynhaliol, y bwriedir eu defnyddio i gynhyrchu planhigion ar gyfer eu plannu, i’w plannu neu eu storio, rhaid i ymchwiliad swyddogol at ddibenion paragraff 8(1)(a) gynnwys samplu pridd y cae ar y gyfradd samplu pridd briodol a chynnal profion swyddogol ar y samplau.

(4) Yn achos cae lle y mae bylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, y bwriedir eu defnyddio i gynhyrchu planhigion ar gyfer eu plannu, i’w plannu neu eu storio, rhaid i ymchwiliad swyddogol at ddibenion paragraff 8(1)(a) gynnwys—

(a)samplu pridd y cae ar y gyfradd samplu pridd briodol a chynnal profion swyddogol ar y samplau, neu

(b)gwirio, ar sail canlyniadau profion priodol a gymeradwywyd yn swyddogol, na fu Llyngyr tatws yn bresennol yn y cae yn ystod y 12 mlynedd flaenorol neu wirio, ar sail hanes cnydio hysbys y cae, na thyfwyd unrhyw datws na phlanhigion cynhaliol yn y cae yn ystod y 12 mlynedd flaenorol.

(5) Rhaid i arolwg swyddogol at ddibenion paragraff 8(1)(b) gynnwys samplu pridd y cae ar y gyfradd samplu briodol ar o leiaf 0.5% o’r erwau a ddefnyddir i gynhyrchu tatws yn y flwyddyn berthnasol a chynnal profion swyddogol ar y samplau.

(6) Nid yw paragraff 8(1)(a) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi cadarnhau nad oes unrhyw risg o ledaenu Llyngyr tatws ac—

(a)bod unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau y bwriedir ei ddefnyddio i gynhyrchu planhigion ar gyfer eu plannu i’w ddefnyddio o fewn yr un man cynhyrchu sydd wedi ei leoli o fewn ardal sydd wedi ei diffinio yn swyddogol,

(b)bod tatws hadyd i’w defnyddio o fewn yr un man cynhyrchu sydd wedi ei leoli o fewn ardal sydd wedi ei diffinio yn swyddogol, neu

(c)yn achos unrhyw fylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau y bwriedir eu defnyddio i gynhyrchu planhigion ar gyfer eu plannu, bod y planhigion a gynaeafir i fod yn destun mesurau a gymeradwywyd yn swyddogol.

(7) At ddibenion is-baragraffau (3) i (5)—

(a)“y gyfradd samplu briodol”, mewn perthynas â chae, yw’r gyfradd samplu ofynnol a bennir yn y tabl a ganlyn—

Is-baragraffCaeY Gyfradd
(3) a (4)Cae ≤ 8 hectar1,500 ml o bridd fesul hectar a gesglir o 100 craidd/hectar o leiaf
Cae > 8 hectarYr 8 hectar cyntaf1,500 ml o bridd fesul hectar
Pob hectar ychwanegol400 ml o bridd fesul hectar
Cae ≤ 4 hectar sy’n bodloni un maen prawf o leiaf ym mharagraff (b)400 ml o bridd fesul hectar
Cae > 4 hectar sy’n bodloni un maen prawf o leiaf ym mharagraff (b)Y 4 hectar cyntaf400 ml o bridd fesul hectar
Pob hectar ychwanegol200 ml o bridd fesul hectar
(5)Cae ≤ 4 hectar

Unrhyw un neu ragor o’r cyfraddau a ganlyn:

—400 ml o bridd fesul hectar

—gwaith samplu wedi ei dargedu ar o leiaf 400 ml o bridd yn dilyn cynnal archwiliad gweledol o wreiddiau sydd â symptomau gweledol, neu

—pan fo’n bosibl olrhain y tatws a gynaeafwyd i’r cae lle y’u tyfwyd, 400 ml o bridd sy’n gysylltiedig â’r tatws a gynaeafwyd.

(b)y meini prawf yw—

(i)bod tystiolaeth ddogfennol yn bodoli i ddangos nad yw tatws na phlanhigion cynhaliol wedi eu tyfu yn y cae yn y chwe mlynedd cyn yr ymchwiliad swyddogol, neu nad oeddent yn bresennol yn y cae yn ystod y cyfnod hwnnw;

(ii)nad oes unrhyw Lyngyr tatws wedi eu canfod yn ystod y ddau ymchwiliad swyddogol olynol diweddaraf mewn samplau o 1,500 ml o bridd/hectar, ac nad oes unrhyw datws na phlanhigion cynhaliol, ac eithrio’r rhai y mae’r ymchwiliad swyddogol yn ofynnol ar eu cyfer, wedi eu tyfu yn y cae ers y cyntaf o’r ddau ymchwiliad hynny;

(iii)nad oes unrhyw Lyngyr tatws na Llyngyr tatws heb gynnwys byw wedi eu canfod yn yr ymchwiliad swyddogol diweddaraf a oedd ar ffurf maint sampl o 1,500 ml o bridd/hectar o leiaf, ac nad oes unrhyw datws na phlanhigion cynhaliol, ac eithrio’r rhai y mae’r ymchwiliad swyddogol yn ofynnol ar eu cyfer, wedi eu tyfu yn y cae ers yr ymchwiliad swyddogol diweddaraf.

(6Ym mharagraff 9(2), yn lle’r geiriau o “a gymeradwywyd yn swyddogol” hyd at “2007/33/EC” rhodder “penodedig perthnasol”.

(7Ym mharagraffau 11(3) a 15, yn lle “y mesurau a nodir yn Adran 3(A) o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 2007/33/EC” rhodder “un o’r mesurau penodedig perthnasol”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources