RHAN 2Diwygio is-ddeddfwriaeth
Rhan 216
1
Mae Rhan 2 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Ym mharagraff 2—
a
yn is-baragraff (1)(a), yn lle “, heblaw’r Swistir” rhodder “y mae’r gwaharddiad yn Erthygl 40(1) o’r Rheoliad Iechyd Planhigion yn gymwys iddynt”;
b
yn is-baragraff (2)—
i
ym mharagraff (a), yn lle “raglen a gymeradwywyd yn swyddogol yn yr Undeb Ewropeaidd neu’r Swistir” rhodder “raglen ar gyfer ardystio tatws a gymeradwywyd yn swyddogol gan awdurdod cymwys neu awdurdod Tiriogaeth Ddibynnol y Goron”;
ii
ym mharagraff (b), yn lle “Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “EPPO PM 7/21”;
iii
ym mharagraff (c), yn lle “Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “EPPO PM 7/59”.