RHAN 2Diwygio is-ddeddfwriaeth
Rhan 115
1
Mae Rhan 1 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Ym mharagraff 1—
a
hepgorer y diffiniadau o “Cyfarwyddeb 93/85/EEC”, “Cyfarwyddeb 98/57/EC” a “Cyfarwyddeb 2007/33/EC”;
b
yn y lle priodol mewnosoder—
ystyr “EPPO PM 7/21” (“EPPO PM 7/21”) yw’r safon sy’n disgrifio protocol diagnostig ar gyfer Ralstonia solanacearum, R. pseudosolanacearum ac R. syzygii a gymeradwyir gan Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a Glannau’r Canolfor7;
ystyr “EPPO PM 7/40” (“EPPO PM 7/40”) yw’r safon sy’n disgrifio protocol diagnostig ar gyfer Globodera rostochiensis a Globodera pallida a gymeradwyir gan Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a Glannau’r Canolfor8;
ystyr “EPPO PM 7/59” (“EPPO PM 7/59”) yw’r safon sy’n disgrifio protocol diagnostig ar gyfer Clavibacter michiganensis subsp. sepedonicus a gymeradwyir gan Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a Glannau’r Canolfor9;
ystyr “EPPO PM 7/119” (“EPPO PM 7/119”) yw’r safon sy’n disgrifio’r gweithdrefnau ar gyfer echdynnu nematodau a gymeradwyir gan Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a Glannau’r Canolfor10;.