RHAN 2Diwygio is-ddeddfwriaeth
Rhan 1112
1
Mae Rhan 11 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 38(1)—
a
yn is-baragraff (a), hepgorer “24(1), 25(1) neu”;
b
hepgorer is-baragraff (b);
c
yn is-baragraff (d), yn lle “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE” rhodder “y Rheoliad Iechyd Planhigion”;
d
yn is-baragraff (e), yn lle “o reolau iechyd planhigion yr UE” rhodder “o’r rheolau iechyd planhigion”;
e
yn is-baragraff (f), ar ôl “ddeddfwriaeth” mewnosoder “uniongyrchol” ac ar ôl “yr UE” mewnosoder “a ddargedwir”;
f
hepgorer is-baragraff (g).
3
Yn rheoliad 41, ar ôl “pasbort planhigion” mewnosoder “y DU”;
4
Yn rheoliad 42—
a
yn y pennawd, ar ôl “planhigion” mewnosoder “y DU”;
b
ym mharagraff (1), yn is-baragraffau (a) i (c), ar ôl “pasbort planhigion”, ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “y DU”.
5
Yn rheoliad 43—
a
ym mharagraff (1)(a) ac (c), yn lle “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “y Rheoliad Iechyd Planhigion”;
b
yn lle paragraff (2) rhodder—
2
Ym mharagraff (1)—
a
ystyr “person awdurdodedig” yw person a awdurdodwyd gan awdurdod priodol;
b
mae cyfeiriad at y Rheoliad Iechyd Planhigion neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol yn cynnwys cyfraith yr UE a ddargedwir a fabwysiedir, neu reoliadau a wneir, o dan y Rheoliad Iechyd Planhigion neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol ac unrhyw gyfraith iechyd planhigion arall yr UE a ddargedwir.