2020 Rhif 1628 (Cy. 342)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Iechyd Planhigion, Cymru

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020

Gwnaed

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20181.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol â pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno2.

Yn unol â pharagraff 4(a) o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol ynghylch y darpariaethau yn y Rheoliadau hyn sy’n dod i rym cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.