Mewnosod rheoliad 16A9

Ar ôl rheoliad 16 (ceisiadau sydd yn yr arfaeth) o Reoliadau 2019, mewnosoder—

Gweithwyr cymdeithasol Swisaidd a rheolwyr gofal cymdeithasol Swisaidd sy’n cymhwyso y tu allan i Gymru: arbed yr hen gyfraith16A

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“ymgeisydd cymhwysol”)—

a

sydd—

i

yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig,

ii

yn wladolyn o’r Swistir, neu

iii

yn wladolyn o drydedd wlad a oedd, yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yn rhinwedd unrhyw hawl UE orfodadwy, â hawlogaeth i beidio â chael ei drin yn llai ffafriol na gwladolyn o’r Deyrnas Unedig neu’r Swistir at ddibenion mynediad at waith cymdeithasol neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol, a dilyn y gwaith hwnnw;

b

sy’n dymuno cael mynediad at waith cymdeithasol neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol yng Nghymru, a dilyn y gwaith hwnnw, ar sail barhaol pa un ai fel cyflogai neu yn rhinwedd hunangyflogaeth;

c

sydd â chymhwyster perthnasol;

d

sydd, os cafwyd y cymhwyster perthnasol hwnnw mewn trydedd wlad, â thair blynedd o brofiad proffesiynol mewn gwaith cymdeithasol neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol yn y Swistir ac a ardystiwyd gan awdurdod cymwys Swisaidd;

e

sydd, os yw’r cymhwyster perthnasol hwnnw yn gymhwyster proffesiynol a geir mewn gwladwriaeth AEE, wedi ei sefydlu’n gyfreithlon yn y Swistir, oni bai bod y person yn wladolyn Swisaidd.

2

Er gwaethaf y diwygiadau a wnaed gan Ran 1, mae’r darpariaethau o Ddeddf 2016 y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) yn parhau i fod yn gymwys i gais cofrestru a gyflwynir gan ymgeisydd cymhwysol ar neu ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel yr oeddent yn gymwys yn union cyn y diwrnod hwnnw ond fel y’u haddesir gan baragraff (5).

3

Mae paragraff (2) yn cael effaith tan ddiwedd y cyfnod cydnabod Swisaidd.

4

Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

a

yn adran 66(1), y diffiniad o “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”;

b

adran 85(1) (cymwysterau a geir y tu allan i Gymru – gweithwyr cymdeithasol);

c

adran 85A (cymwysterau a geir y tu allan i Gymru – rheolwyr gofal cymdeithasol);

d

adran 90(8) (diffiniadau at ddibenion Rhannau 3 i 8 o Ddeddf 2016);

e

adran 105 (apelau eraill: penderfyniadau a wneir o dan y Rheoliadau Systemau Cyffredinol).

5

I’r graddau y mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016 yn parhau i fod yn gymwys yn rhinwedd paragraff (2), maent yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—

a

yn adran 85(1) (cymwysterau a geir y tu allan i Gymru – gweithwyr cymdeithasol), fel pe bai “weithiwr cymdeithasol Swisaidd” wedi ei roi yn lle “berson esempt”;

b

yn adran 85A (cymwysterau a geir y tu allan i Gymru – rheolwyr gofal cymdeithasol), fel pe bai “rheolwr gofal cymdeithasol Swisaidd” wedi ei roi yn lle “berson esempt”;

c

yn adran 90(8) (diffiniadau at ddibenion Rhannau 3 i 8 o Ddeddf 2016)—

i

fel pe bai’r diffiniadau o “gwladolyn”, “Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol” a “person esempt” wedi eu hepgor;

ii

fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle’r diffiniad o “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”—

  • ystyr “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol” (“the General Systems Regulations”) yw Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015 (O.S. 2015/2059)—

    1. a

      mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel yr oeddent yn cael effaith ar yr adeg honno ond yn ddarostyngedig i’r addasiad bod unrhyw gyfeiriad at “the Care Council for Wales” i’w ddarllen fel pe bai “Social Care Wales” wedi ei roi yn ei le;

    2. b

      fel (a dim ond i’r graddau) y maent yn cael effaith, ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, mewn perthynas â hawlogaeth sy’n codi mewn perthynas â chymhwyster perthnasol (o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 15A o Reoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019);

iii

fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod yn y lle priodol—

  • mae i “gweithiwr cymdeithasol Swisaidd” (“Swiss social worker”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 16A(6) o Reoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019;

  • “mae i “rheolwr gofal cymdeithasol Swisaidd” (“Swiss social care manager”)yr ystyr a roddir yn rheoliad 16A(6) o Reoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019;

d

yn adran 105 (apelau eraill: penderfyniadau a wneir o dan y Rheoliadau Systemau Cyffredinol)—

i

yn is-adran (1), fel pe bai paragraffau (a), (c) a’r “neu” yn union o flaen paragraff (c) wedi eu hepgor;

ii

yn is-adran (5)(b), fel pe bai’r geiriau o “neu, yn achos” hyd at y diwedd wedi eu hepgor.

6

Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “cais cofrestru” (“registration application”) yw cais i dderbyn i gofrestr a gynhelir yn unol ag adran 80 o Ddeddf 2016;

  • ystyr “gweithiwr cymdeithasol Swisaidd” (“Swiss social worker”) yw ymgeisydd cymhwysol nad oedd, cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, wedi gwneud cais cofrestru (ac eithrio cais o dan adran 90 o Ddeddf 2016);

  • ystyr “rheolwr gofal cymdeithasol Swisaidd” (“Swiss social care manager”) yw ymgeisydd cymhwysol nad oedd, cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, wedi gwneud cais cofrestru (ac eithrio cais o dan adran 90A o Ddeddf 2016).