- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7. Ar ôl rheoliad 15B (camau gweithredu a gymerir, penderfyniadau a wneir etc. cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu: arbediad cyffredinol) (fel y’i mewnosodir gan reoliad 6) o reoliadau 2019, mewnosoder—
15C.—(1) Pan fo person wedi gwneud cais, cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, o dan Erthygl 26 o gytundeb hawliau dinasyddion EFTA yr AEE i awdurdod cymwys yng Ngwlad yr Iâ, Norwy neu Liechtenstein i gymhwyster proffesiynol a ddyfernir neu a gydnabyddir gan Ofal Cymdeithasol Cymru gael ei gydnabod, rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru—
(a)cydweithredu â’r awdurdod cymwys yng Ngwlad yr Iâ, Norwy neu Liechtenstein, neu â’r person (yn ôl y digwydd), yn unol â’r ddarpariaeth cydweithredu cyffredinol, a
(b)darparu gwybodaeth i’r awdurdod cymwys yng Ngwlad yr Iâ, Norwy neu Liechtenstein ynghylch camau disgyblu a gymerwyd neu sancsiynau troseddol a osodwyd, neu unrhyw amgylchiadau difrifol penodol eraill sy’n debygol o gael effaith wrth i’r unigolyn hwnnw ddilyn gweithgareddau proffesiynol.
(2) Rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru brosesu gwybodaeth at ddibenion paragraff (1) yn unol â deddfwriaeth diogelu data o fewn ystyr “the data protection legislation” yn adran 3(9) o Ddeddf Diogelu Data 2018(1).
(3) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “awdurdod cymwys” (“competent authority”), o ran Gwlad yr Iâ, Norwy a Liechtenstein, yw corff yng Ngwlad yr Iâ, Norwy neu Liechtenstein (yn ôl y digwydd), sy’n awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliadau 2015 (gweler paragraff (b) o’r diffiniad o “competent authority” yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau hynny);
ystyr “cytundeb hawliau dinasyddion EFTA yr AEE” (“EEA EFTA citizens’ rights agreement”) yw’r Cytundeb a lofnodwyd yn Llundain ar 2 Ebrill 2019 rhwng Gwlad yr Iâ, Tywysogaeth Liechtenstein, Teyrnas Norwy a Theyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ar drefniadau ynghylch hawliau dinasyddion yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd a Chytundeb yr AEE;
ystyr “y ddarpariaeth cydweithredu cyffredinol” (“the general cooperation provision”) yw—
rheoliad 5(2), (4) a (5) o Reoliadau 2015, fel y’i haddesir gan baragraff 44(4)(b) o Atodlen 1 i Reoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019(2),
rheoliad 5(3) o Reoliadau 2015,
i’r graddau y maent yn gymwys mewn perthynas â Gofal Cymdeithasol Cymru;
ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau 2015(3) fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu yn ddarostyngedig i’r addasiad bod unrhyw gyfeiriad at “the Care Council for Wales” i’w ddarllen fel pe bai “Social Care Wales” wedi ei roi yn ei le.”
O.S. 2019/312. Mae paragraff 44(4) wedi ei amnewid gan Reoliadau Cymwysterau a Gwasanaethau Proffesiynol (Darpariaethau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020/1038.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: