Mewnosod darpariaeth ddehongli5

Yn Rhan 2 (arbedion a darpariaeth drosiannol), o Reoliadau 2019 o flaen rheoliad 16 mewnosoder—

Dehongli Rhan 215A

1

Yn y Rhan hon—

  • ystyr “contract presennol” (“existing contract”) yw contract ysgrifenedig a gwblhawyd, ac y dechreuwyd ei gyflawni, cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

  • ystyr “Cyfarwyddeb 2005/36” (“Directive 2005/36”) yw Cyfarwyddeb 2005/36/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 7 Medi 2005 ar gydnabod cymwysterau proffesiynol, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

  • ystyr “cyfnod cydnabod Swisaidd” (“Swiss recognition period”) yw’r cyfnod o bedair blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod yn union ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

  • ystyr “cyfnod trosiannol ymarferwyr sydd ar ymweliad” (“visiting practitioner transitional period”) yw—

    1. a

      y cyfnod o bum mlynedd sy’n dechrau â diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu (gweler Erthygl 23(1) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd), neu

    2. b

      os yw’r cyfnod ym mharagraff (a) yn cael ei estyn yn unol ag Erthygl 23(2) o’r Cytundeb hwnnw, y cyfnod hwnnw fel y’i hestynnir;

  • ystyr “cymhwyster perthnasol” (“relevant qualification”) yw—

    1. a

      cymhwyster proffesiynol a geir mewn Gwladwriaeth AAE neu yn y Swistir cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

    2. b

      cymhwyster proffesiynol a ddechreuodd mewn Gwladwriaeth AEE neu yn y Swistir ond nas cwblhawyd cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

    3. c

      cymhwyster proffesiynol trydedd wlad a gydnabyddir gan awdurdod cymwys yn y Swistir yn unol ag Erthygl 2(2) o Gyfarwyddeb 2005/36 cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

    4. d

      cymhwyster proffesiynol trydedd wlad y mae cais i’w gydnabod yn unol ag Erthygl 2(2) o Gyfarwyddeb 2005/36 wedi ei gyflwyno i awdurdod cymwys yn y Swistir cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, pan fo’r cais hwnnw yn llwyddiannus,

  • ac at ddibenion y diffiniad hwn, ystyr “cymhwyster proffesiynol” yw cymhwyster sy’n berthnasol i ddilyn gwaith cymdeithasol neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol;

  • ystyr “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd” (“Swiss citizens’ rights agreement”) (fel y’i haddesir o bryd i’w gilydd yn unol ag unrhyw ddarpariaeth ohono) yw’r Cytundeb a lofnodwyd yn Bern ar 25 Chwefror 2019 rhwng Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a Chydffederasiwn y Swistir ar hawliau dinasyddion yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r canlynol—

    1. a

      yr Undeb Ewropeaidd, a

    2. b

      y cytundeb ar symudiad rhydd personau,

  • i’r graddau y mae’r Cytundeb yn gweithredu at ddibenion yr achos pan fo i “dyddiad penodedig” at ddibenion y Cytundeb hwnnw yr ystyr a roddir i “specified date” yn Erthygl 2(b)(ii) o’r Cytundeb hwnnw;

  • ystyr “Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol” (“relevant European State”) yw Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir;

  • ystyr “hawl UE orfodadwy” (“enforceable EU right”) yw hawl a gydnabyddir ac sydd ar gael mewn cyfraith ddomestig yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yn rhinwedd adran 2(1) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19727;

  • ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau’r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 20078 fel—

    1. a

      yr oeddent, cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yn parhau i fod yn gymwys yn rhinwedd—

      1. i

        rheoliad 78 o Reoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015;

      2. ii

        rheoliad 155 o Reoliadau Cymwysterau Ewropeaidd (Proffesiynau Iechyd a Gofal Cymdeithasol) 20169; a

    2. b

      y maent, ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yn parhau i fod yn gymwys o dan Ran 3 o Atodlen 1 i Reoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 201910;

  • ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 201511;

  • mae i “trydedd wlad” yr un ystyr â “third country” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2007;

  • ystyr “ymgeisydd perthnasol” (“relevant applicant”) yw person—

    1. a

      sy’n darparu gwasanaethau fel gweithiwr cymdeithasol neu reolwr gofal cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac yn achlysurol ac ar sail contract presennol,

    2. b

      a ddechreuodd ddarparu gwasanaeth a grybwyllir ym mharagraff (a), neu sy’n dechrau darparu gwasanaeth o’r fath, naill ai—

      1. i

        cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel cyflogai neu yn rhinwedd hunangyflogaeth, neu

      2. ii

        ar neu ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel cyflogai a leolir at ddiben cyflawni gwaith cymdeithasol neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig gan ei gyflogwr sydd wedi ei sefydlu yn y Deyrnas Unedig neu’r Swistir,

    3. c

      sydd—

      1. i

        yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig,

      2. ii

        yn wladolyn o’r Swistir, neu

      3. iii

        yn wladolyn o drydedd wlad, a oedd, yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yn rhinwedd unrhyw hawl UE orfodadwy, â hawlogaeth i beidio â chael ei drin yn llai ffafriol na gwladolyn o’r Deyrnas Unedig neu’r Swistir at ddibenion mynediad at waith cymdeithasol, neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol, a dilyn y gwaith hwnnw,

    4. d

      sydd wedi ei sefydlu’n gyfreithlon yn y Swistir at ddiben mynediad at waith cymdeithasol neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol yno, a dilyn y gwaith hwnnw yno,

    5. e

      sydd, os nad yw proffesiwn gweithiwr cymdeithasol neu reolwr gofal cymdeithasol y mae’r person yn dymuno cael mynediad ato a’i ddilyn yn y Deyrnas Unedig na’r addysg a’r hyfforddiant sy’n arwain ato yn cael eu rheoleiddio yn y Swistir, wedi dilyn y proffesiwn hwnnw yn y Swistir am o leiaf 2 flynedd yn ystod y 10 mlynedd cyn darparu gwasanaethau.