Mewnosod darpariaeth o ran triniaeth gyfartal a chydweithredu gweinyddol o dan y cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd12
Ar ôl rheoliad 18 (gweithwyr cymdeithasol Swisaidd sydd ar ymweliad a rheolwyr gofal cymdeithasol Swisaidd sydd ar ymweliad: arbed yr hen gyfraith) o Reoliadau 2019 (fel y’i hamnewidir gan reoliad 11), mewnosoder—
Triniaeth gyfartal a chydweithredu gweinyddol o dan y cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd18A
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ymgeisydd perthnasol.
2
Wrth ymdrin ag ymgeisydd perthnasol sy’n dilyn gwaith cymdeithasol neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn unol â rheoliad 18 (gweithwyr cymdeithasol Swisaidd sydd ar ymweliad a rheolwyr gofal cymdeithasol Swisaidd sydd ar ymweliad: arbed yr hen gyfraith) mewn perthynas ag unrhyw fater, rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru beidio â thrin y person hwnnw yn llai ffafriol nag y byddai’n trin ymgeisydd brodorol (o fewn ystyr “native applicant” yn rheoliad 2 o Reoliadau 2007) sy’n darparu’n gyfreithlon wasanaethau fel gweithiwr cymdeithasol neu fel rheolwr gofal cymdeithasol yng Nghymru mewn perthynas â’r mater hwnnw.
3
Pan fo person yn darparu gwasanaethau a fyddai’n gyfystyr, pe baent yn cael eu darparu yng Nghymru, â gwaith cymdeithasol neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol ar sail dros dro ac yn achlysurol yn y Swistir yn unol ag Erthygl 23 o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd, rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru gydweithredu â’r awdurdod cymwys priodol yn y Swistir a darparu iddo unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i gyfreithlondeb ymsefydliad ac ymddygiad da yr unigolyn, yn ogystal ag absenoldeb unrhyw sancsiynau disgyblu neu droseddol o natur broffesiynol, yn unol ag adran 159 o Ddeddf 2016 (datgelu gwybodaeth am addasrwydd i ymarfer).
4
Pan fo person wedi gwneud neu’n gwneud cais sy’n dod o fewn Erthygl 31(1) neu 32(1) neu (5) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd i awdurdod cymwys yn y Swistir i gymhwyster proffesiynol a ddyfernir neu a gydnabyddir gan Ofal Cymdeithasol Cymru gael ei gydnabod, rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru—
a
cydweithredu â’r awdurdod cymwys yn y Swistir neu’r person (yn ôl y digwydd), yn unol â’r ddarpariaeth cydweithredu cyffredinol, a
b
darparu gwybodaeth i’r awdurdod cymwys yn y Swistir ynghylch camau disgyblu a gymerwyd neu sancsiynau troseddol a osodwyd, neu unrhyw amgylchiadau difrifol penodol sy’n debygol o gael effaith wrth i’r unigolyn hwnnw ddilyn gweithgareddau proffesiynol.
5
Rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru brosesu gwybodaeth at ddibenion paragraffau (3) a (4) yn unol â’r ddeddfwriaeth diogelu data o fewn ystyr “the data protection legislation” yn adran 3(9) o Ddeddf Diogelu Data 201816.
6
Yn y rheoliad hwn—
mae i “awdurdod cymwys” yr ystyr a roddir i “competent authority” gan reoliad 4(1) i (3) o Reoliadau 2007, ac o ran y Swistir ei ystyr yw corff yn y Swistir sy’n awdurdod cymwys at ddibenion rheoliad 4(4) o Reoliadau 2007;
ystyr “y ddarpariaeth cydweithredu cyffredinol” (“the general cooperation provision”) yw rheoliad 5(2) i (7) o Reoliadau 2007 (swyddogaethau awdurdodau cymwys yn y Deyrnas Unedig), i’r graddau y mae’n gymwys mewn perthynas â Gofal Cymdeithasol Cymru.
7
At ddibenion y rheoliad hwn, mae Rheoliadau 2007 yn cael effaith yn ddarostyngedig i’r addasiadau a ganlyn—
a
mae unrhyw gyfeiriad at “social worker in Wales” yn cael effaith fel pe bai “social worker or social care manager in Wales” wedi ei roi yn ei le,
b
mae unrhyw gyfeiriad at “the Care Council for Wales” yn cael effaith fel pe bai “Social Care Wales” wedi ei roi yn ei le.