Search Legislation

Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Mewnosod darpariaeth o ran triniaeth gyfartal a chydweithredu gweinyddol o dan y cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd

12.  Ar ôl rheoliad 18 (gweithwyr cymdeithasol Swisaidd sydd ar ymweliad a rheolwyr gofal cymdeithasol Swisaidd sydd ar ymweliad: arbed yr hen gyfraith) o Reoliadau 2019 (fel y’i hamnewidir gan reoliad 11), mewnosoder—

Triniaeth gyfartal a chydweithredu gweinyddol o dan y cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd

18A.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ymgeisydd perthnasol.

(2) Wrth ymdrin ag ymgeisydd perthnasol sy’n dilyn gwaith cymdeithasol neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn unol â rheoliad 18 (gweithwyr cymdeithasol Swisaidd sydd ar ymweliad a rheolwyr gofal cymdeithasol Swisaidd sydd ar ymweliad: arbed yr hen gyfraith) mewn perthynas ag unrhyw fater, rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru beidio â thrin y person hwnnw yn llai ffafriol nag y byddai’n trin ymgeisydd brodorol (o fewn ystyr “native applicant” yn rheoliad 2 o Reoliadau 2007) sy’n darparu’n gyfreithlon wasanaethau fel gweithiwr cymdeithasol neu fel rheolwr gofal cymdeithasol yng Nghymru mewn perthynas â’r mater hwnnw.

(3) Pan fo person yn darparu gwasanaethau a fyddai’n gyfystyr, pe baent yn cael eu darparu yng Nghymru, â gwaith cymdeithasol neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol ar sail dros dro ac yn achlysurol yn y Swistir yn unol ag Erthygl 23 o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd, rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru gydweithredu â’r awdurdod cymwys priodol yn y Swistir a darparu iddo unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i gyfreithlondeb ymsefydliad ac ymddygiad da yr unigolyn, yn ogystal ag absenoldeb unrhyw sancsiynau disgyblu neu droseddol o natur broffesiynol, yn unol ag adran 159 o Ddeddf 2016 (datgelu gwybodaeth am addasrwydd i ymarfer).

(4) Pan fo person wedi gwneud neu’n gwneud cais sy’n dod o fewn Erthygl 31(1) neu 32(1) neu (5) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd i awdurdod cymwys yn y Swistir i gymhwyster proffesiynol a ddyfernir neu a gydnabyddir gan Ofal Cymdeithasol Cymru gael ei gydnabod, rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru—

(a)cydweithredu â’r awdurdod cymwys yn y Swistir neu’r person (yn ôl y digwydd), yn unol â’r ddarpariaeth cydweithredu cyffredinol, a

(b)darparu gwybodaeth i’r awdurdod cymwys yn y Swistir ynghylch camau disgyblu a gymerwyd neu sancsiynau troseddol a osodwyd, neu unrhyw amgylchiadau difrifol penodol sy’n debygol o gael effaith wrth i’r unigolyn hwnnw ddilyn gweithgareddau proffesiynol.

(5) Rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru brosesu gwybodaeth at ddibenion paragraffau (3) a (4) yn unol â’r ddeddfwriaeth diogelu data o fewn ystyr “the data protection legislation” yn adran 3(9) o Ddeddf Diogelu Data 2018(1).

(6) Yn y rheoliad hwn—

mae i “awdurdod cymwys” yr ystyr a roddir i “competent authority” gan reoliad 4(1) i (3) o Reoliadau 2007, ac o ran y Swistir ei ystyr yw corff yn y Swistir sy’n awdurdod cymwys at ddibenion rheoliad 4(4) o Reoliadau 2007;

ystyr “y ddarpariaeth cydweithredu cyffredinol” (“the general cooperation provision”) yw rheoliad 5(2) i (7) o Reoliadau 2007 (swyddogaethau awdurdodau cymwys yn y Deyrnas Unedig), i’r graddau y mae’n gymwys mewn perthynas â Gofal Cymdeithasol Cymru.

(7) At ddibenion y rheoliad hwn, mae Rheoliadau 2007 yn cael effaith yn ddarostyngedig i’r addasiadau a ganlyn—

(a)mae unrhyw gyfeiriad at “social worker in Wales” yn cael effaith fel pe bai “social worker or social care manager in Wales” wedi ei roi yn ei le,

(b)mae unrhyw gyfeiriad at “the Care Council for Wales” yn cael effaith fel pe bai “Social Care Wales” wedi ei roi yn ei le.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources