Amnewid rheoliad 18 (dehongli darpariaethau sydd wedi eu harbed gan reoliad 17(2))11
Yn lle rheoliad 18 (dehongli darpariaethau sydd wedi eu harbed gan reoliad 17(2)) o Reoliadau 2019 rhodder—
Gweithwyr cymdeithasol Swisaidd sydd ar ymweliad a rheolwyr gofal cymdeithasol Swisaidd sydd ar ymweliad: arbed yr hen gyfraith18
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ymgeisydd perthnasol.
2
Er gwaethaf y diwygiadau a wnaed gan Ran 1, mae’r darpariaethau o Ddeddf 2016 a bennir ym mharagraff (5) yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â darparu’r gwasanaethau hynny gan ymgeisydd perthnasol ar neu ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu fel yr oeddent yn gymwys yn union cyn y diwrnod hwnnw yn ddarostyngedig i’r cyfyngiad ym mharagraff (3) a’r addasiadau a bennir ym mharagraff (6).
3
Ni chaiff ymgeisydd perthnasol ond darparu gwasanaethau fel gweithiwr cymdeithasol neu reolwr gofal cymdeithasol am gyfnod nad yw’n hwy na 90 o ddiwrnodau mewn unrhyw flwyddyn galendr.
4
Mae paragraff (2) yn cael effaith tan ddiwedd y cyfnod trosiannol ymarferwyr sydd ar ymweliad.
5
Y darpariaethau o Ddeddf 2016 y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—
a
yn adran 66(1) (dehongli Rhannau 3 i 8), y diffiniadau o “gwladolyn”, “Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol”, “rhan gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad”, “rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad” ac “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”;
b
adran 74(3) (rheolau: ffioedd);
c
yn adran 80, is-adrannau (1)(c) a (d), (2)(c) a (d) a (3)(c) a (d) (y gofrestr);
d
adran 90 (gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol);
e
adran 90A (rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol);
f
adran 105 (apelau eraill: penderfyniadau a wneir o dan y Rheoliadau Systemau Cyffredinol);
g
adran 113(3) i (5) (datblygiad proffesiynol parhaus).
6
I’r graddau y mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016 yn parhau i fod yn gymwys yn rhinwedd paragraff (2), maent yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—
a
yn adran 90 (gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol)—
i
mae is-adran (1) i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn ei lle—
1
Mae’r adran hon yn gymwys i ymgeisydd perthnasol (o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 15A o Reoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019) (“V”) sydd wedi ei sefydlu’n gyfreithlon yn y Swistir fel gweithiwr cymdeithasol.
ii
mae is-adran (8) i’w darllen—
aa
fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle’r diffiniad o “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”—
ystyr “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol” (“the General Systems Regulations”) yw Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015 (O.S. 2015/2059)—
- a
mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel yr oeddent yn cael effaith ar yr adeg honno ond yn ddarostyngedig i’r addasiad bod unrhyw gyfeiriad at “the Care Council for Wales” i’w ddarllen fel pe bai “Social Care Wales” wedi ei roi yn ei le,
- b
fel arall (a dim ond i’r graddau) y maent yn cael effaith, ar neu ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, mewn perthynas â hawlogaeth a gododd cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu neu sy’n codi o ganlyniad i rywbeth a wneir cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;
bb
yn y diffiniad o “gwladolyn”, fel pe bai “nad oedd, yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu” wedi ei roi yn lle “nad yw”;
b
mae adran 90A (rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol) i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (1)—
1
Mae’r adran hon yn gymwys i ymgeisydd perthnasol (o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 15A o Reoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019) (“X”) sydd wedi ei sefydlu’n gyfreithlon yn y Swistir fel rheolwr gofal cymdeithasol.
c
mae adran 113 (datblygiad proffesiynol parhaus) i’w darllen fel pe bai yn is-adran (5) “yw’r Swistir” wedi ei roi yn lle “yw’r Wladwriaeth” hyd at y diwedd.