Amnewid rheoliad 17 (gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad a rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad: arbed yr hen gyfraith)10

Yn lle rheoliad 17 o Reoliadau 2019 rhodder—

Gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad a rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad: arbed yr hen gyfraith17

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan—

a

yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

i

roedd gan berson fudd rheoliad 12 o Reoliadau 201515 mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau fel gweithiwr cymdeithasol neu reolwr gofal cymdeithasol gan y person hwnnw, a

ii

roedd adran 90(3) neu 90A(3) o Ddeddf 2016 yn gymwys i’r person;

b

bo’r person, yn rhinwedd y rheoliad hwn, yn parhau i gael y budd hwnnw ar neu ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu; ac

c

na fo’r person yn ymgeisydd perthnasol.

2

Er gwaethaf y diwygiadau a wnaed gan Ran 1, mae’r darpariaethau o Ddeddf 2016 a bennir ym mharagraff (4) yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â darparu’r gwasanaethau hynny gan berson y mae paragraff (1) yn gymwys iddo ar neu ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel yr oeddent yn gymwys cyn y diwrnod hwnnw, ond yn ddarostyngedig i’r addasiadau a bennir ym mharagraff (5).

3

Mae paragraff (2) yn cael effaith tan—

a

yn achos person sydd wedi ei gofrestru yn unol ag adran 90(3) neu 90A(3) o Ddeddf 2016, y diwrnod y caiff enw’r person ei ddileu o’r gofrestr o dan adran 90(6) neu 90A(6) o’r Ddeddf honno yn ôl y digwydd;

b

yn achos person sy’n cael ei drin fel pe bai wedi ei gofrestru o dan adran 90(4) neu 90A(4) o Ddeddf 2016, y diwrnod y mae hawlogaeth y person i gael ei gofrestru o dan adran 90(3) neu 90A(3) o Ddeddf 2016 yn peidio yn rhinwedd adran 90(5) neu 90A(5) o’r Ddeddf honno yn ôl y digwydd.

4

Y darpariaethau o Ddeddf 2016 y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

a

yn adran 66(1) (dehongli Rhannau 3 i 8), y diffiniadau o “gwladolyn”, “Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol”, “person esempt”, “rhan gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad”, “rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad” ac “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”;

b

adran 74(3) (rheolau: ffioedd);

c

yn adran 80, is-adrannau (1)(c) a (d), (2)(c) a (d) a (3)(c) a (d) (y gofrestr);

d

adran 90 (gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol);

e

adran 90A (rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol);

f

adran 105 (apelau eraill: penderfyniadau a wneir o dan y Rheoliadau Systemau Cyffredinol);

g

adran 113(3) i (5) (datblygiad proffesiynol parhaus).

5

I’r graddau y mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016 yn parhau i fod yn gymwys yn rhinwedd paragraff (2), maent yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—

a

yn adran 90 (gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol)—

i

mae is-adran (1) i’w darllen fel pe bai “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” wedi ei hepgor;

ii

mae is-adran (8) i’w darllen—

aa

fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle’r diffiniadau o “person esempt” ac “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”—

  • ystyr “person esempt” (“exempt person”) yw—

    1. a

      person a oedd, yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yn wladolyn o Wladwriaeth Ewropeaidd berthnasol,

    2. b

      person a oedd, yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig ac a oedd, ar yr adeg honno, yn ceisio mynediad at waith cymdeithasol neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol, neu’n dilyn y gwaith hwnnw, yn rhinwedd hawl UE orfodadwy, neu

    3. c

      person nad oedd, yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yn wladolyn o Wladwriaeth Ewropeaidd berthnasol, ond a oedd, ar yr adeg honno, yn rhinwedd hawl UE orfodadwy, â hawlogaeth i beidio â chael ei drin, at ddibenion mynediad at waith cymdeithasol neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol, a dilyn y gwaith hwnnw, yn llai ffafriol na gwladolyn o Wladwriaeth Ewropeaidd berthnasol, ac at ddibenion y diffiniad hwn, ystyr “hawl UE orfodadwy” (“enforceable EU right”) yw hawl a gydnabyddir ac sydd ar gael mewn cyfraith ddomestig, yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yn rhinwedd adran 2(1) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68);

  • ystyr “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol” (“the General Systems Regulations”) yw Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015 (O.S. 2015/2059)—

    1. a

      mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel yr oeddent yn cael effaith ar yr adeg honno ond yn ddarostyngedig i’r addasiad bod unrhyw gyfeiriad at “the Care Council for Wales” i’w ddarllen fel pe bai “Social Care Wales” wedi ei roi yn ei le,

    2. b

      fel arall (a dim ond i’r graddau) y maent yn cael effaith, ar neu ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, mewn perthynas â hawlogaeth a gododd cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu neu sy’n codi o ganlyniad i rywbeth a wneir cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

bb

yn y diffiniad o “gwladolyn”, fel pe bai “nad oedd, yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu” wedi ei roi yn lle “nad yw”;

b

yn adran 90A (rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol), mae is-adran (1) i’w darllen fel pe bai “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” wedi ei hepgor.

6

At ddibenion y rheoliad hwn, mae Rheoliadau 2015 yn cael effaith fel pe bai “Social Care Wales” wedi ei roi yn lle unrhyw gyfeiriad at “the Care Council for Wales”.