NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/761 (Cy. 144) (“Rheoliadau 2019”) er mwyn cywiro mân wallau drafftio a rhoi cyfeiriadau at “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu” yn lle cyfeiriadau at “y diwrnod ymadael”.

Maent hefyd wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir yn adrannau 12 a 14 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) a pharagraff 12 o Atodlen 4 iddi er mwyn gweithredu a gwneud darpariaeth drosiannol ychwanegol yn Rheoliadau 2019 sy’n ymwneud â’r canlynol—

  • cytundeb hawliau dinasyddion Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop (EFTA) yr AEE a lofnodwyd yn Llundain ar 2 Ebrill 2019 rhwng Gwlad yr Iâ, Tywysogaeth Liechtenstein, Teyrnas Norwy a Theyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ar drefniadau ynghylch hawliau dinasyddion yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd a Chytundeb yr AEE, ac

  • y cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd a lofnodwyd yn Bern ar 25 Chwefror 2019 rhwng y Deyrnas Unedig a Chydffederasiwn y Swistir ar hawliau dinasyddion yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd a’r cytundeb ar symudiad rhydd personau,

i’r graddau y mae’r cytundebau hynny yn ymwneud â chydnabod cymwysterau proffesiynol yn gilyddol a darparu gwasanaethau proffesiynol dros dro ac yn achlysurol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.