Diwygio Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 20186
1
Mae’r Atodlen i Reoliadau 2018 wedi ei diwygio fel a ganlyn—
2
Yn lle Tabl 2 rhodder—
Tabl 2: Trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch
Band treth
Y gydnabyddiaeth berthnasol
Y gyfradd dreth ganrannol
Y band treth cyntaf
Nid mwy na £180,000
4%
Yr ail fand treth
Mwy na £180,000 ond nid mwy na £250,000
7.5%
Y trydydd band treth
Mwy na £250,000 ond nid mwy na £400,000
9%
Y pedwerydd band treth
Mwy na £400,000 ond nid mwy na £750,000
11.5%
Y pumed band treth
Mwy na £750,000 ond nid mwy na £1,500,000
14%
Y chweched band treth
Mwy na £1,500,000
16%
3
Yn lle Tabl 3 rhodder—
Tabl 3: Trafodiadau eiddo amhreswyl
Band treth
Y gydnabyddiaeth berthnasol
Y gyfradd dreth ganrannol
Band cyfradd sero
Nid mwy na £225,000
0%
Y band treth cyntaf
Mwy na £225,000 ond nid mwy na £250,000
1%
Yr ail fand treth
Mwy na £250,000 ond nid mwy na £1,000,000
5%
Y trydydd band treth
Mwy na £1,000,000
6%
4
Yn lle Tabl 4 rhodder—
Tabl 4: Cydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent
Band treth
Y gydnabyddiaeth berthnasol
Y gyfradd dreth ganrannol
Band cyfradd sero LA
Nid mwy na £225,000
0%
Y band treth cyntaf
Mwy na £225,000 ond nid mwy na £2,000,000
1%
Yr ail fand treth
Mwy na £2,000,000
2%