NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/128) (“Rheoliadau 2018”) er mwyn mewnosod bandiau treth a chyfraddau treth canrannol diwygiedig ar gyfer trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch, trafodiadau eiddo amhreswyl a chydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent.

Mae rheoliad 3 yn cymhwyso’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol diwygiedig at y trafodiadau tir a nodwyd uchod pan fo dyddiad effeithiol y trafodiad hwnnw yn syrthio ar neu ar ôl 22 Rhagfyr 2020.

Mae rheoliad 4 yn mynd ymlaen i nodi eithriadau i gymhwysiad cyffredinol y bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol diwygiedig mewn perthynas â thrafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch yn unig. Pan fo dyddiad effeithiol y trafodiadau hyn yn syrthio ar neu ar ôl 22 Rhagfyr 2020, ond pan gafodd contractau eu cyfnewid neu pan gafodd y contract hwnnw ei gyflawni i raddau sylweddol cyn 22 Rhagfyr 2020, bydd y bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol blaenorol yn dal yn gymwys, oni bai bod un o’r eithriadau a nodir yn rheoliad 5 yn gymwys.

Mae rheoliad 6 yn nodi’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol diwygiedig a fydd yn gymwys i’r trafodiadau a bennir yn rheoliad 3.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.