Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020
Enwi a chychwyn
1.
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020 a deuant i rym ar 22 Rhagfyr 2020.
Dehongli
2.
(b)
Mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Neddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.
Cymhwyso
3.
Yn ddarostyngedig i reoliad 4, mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â’r trafodiadau tir a ganlyn sydd â dyddiad effeithiol ar neu ar ôl 22 Rhagfyr 2020—
(a)
trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch y mae Tabl 2 o’r Atodlen i Reoliadau 2018 yn gymwys iddynt;
(b)
trafodiadau eiddo amhreswyl y mae Tabl 3 o’r Atodlen i Reoliadau 2018 yn gymwys iddynt; a
(c)
cydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent y mae Tabl 4 o’r Atodlen i Reoliadau 2018 yn gymwys iddi.
4.
Nid yw’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw drafodiad a bennir yn rheoliad 3(a) (trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch)—
(a)
y rhoddwyd effaith iddo yn unol â chontract yr ymrwymwyd iddo ac a gyflawnwyd yn sylweddol cyn 22 Rhagfyr 2020; neu
(b)
y rhoddwyd effaith iddo yn unol â chontract yr ymrwymwyd iddo cyn 22 Rhagfyr 2020 ac nad yw wedi ei hepgor gan reoliad 5.
5.
Mae trafodiad wedi ei hepgor gan y rheoliad hwn os yw’n drafodiad a bennir yn rheoliad 3(a) y rhoddwyd effaith iddo yn unol â chontract yr ymrwymwyd iddo cyn 22 Rhagfyr 2020—
(a)
pan geir unrhyw amrywiad i’r contract, neu pan aseinir hawliau o dan y contract, ar neu ar ôl 22 Rhagfyr 2020;
(b)
pan roddir effaith i’r trafodiad o ganlyniad i arfer unrhyw opsiwn, hawl rhagbrynu neu hawl debyg ar neu ar ôl 22 Rhagfyr 2020; neu
(c)
pan geir, ar neu ar ôl 22 Rhagfyr 2020, aseiniad, is-werthiant neu drafodiad arall yn ymwneud â’r cyfan neu ran o bwnc y contract, y caiff person heblaw’r prynwr o dan y contract hawl i alw am drawsgludiad o ganlyniad iddo.
Diwygio Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018
6.
(1)
Mae’r Atodlen i Reoliadau 2018 wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(2)
“Tabl 2: Trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch
Band treth
Y gydnabyddiaeth berthnasol
Y gyfradd dreth ganrannol
Y band treth cyntaf
Nid mwy na £180,000
4%
Yr ail fand treth
Mwy na £180,000 ond nid mwy na £250,000
7.5%
Y trydydd band treth
Mwy na £250,000 ond nid mwy na £400,000
9%
Y pedwerydd band treth
Mwy na £400,000 ond nid mwy na £750,000
11.5%
Y pumed band treth
Mwy na £750,000 ond nid mwy na £1,500,000
14%
Y chweched band treth
Mwy na £1,500,000
16%”;
(3)
“Tabl 3: Trafodiadau eiddo amhreswyl
Band treth
Y gydnabyddiaeth berthnasol
Y gyfradd dreth ganrannol
Band cyfradd sero
Nid mwy na £225,000
0%
Y band treth cyntaf
Mwy na £225,000 ond nid mwy na £250,000
1%
Yr ail fand treth
Mwy na £250,000 ond nid mwy na £1,000,000
5%
Y trydydd band treth
Mwy na £1,000,000
6%”; a
(4)
“Tabl 4: Cydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent
Band treth
Y gydnabyddiaeth berthnasol
Y gyfradd dreth ganrannol
Band cyfradd sero LA
Nid mwy na £225,000
0%
Y band treth cyntaf
Mwy na £225,000 ond nid mwy na £2,000,000
1%
Yr ail fand treth
Mwy na £2,000,000
2%”.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/128) (“Rheoliadau 2018”) er mwyn mewnosod bandiau treth a chyfraddau treth canrannol diwygiedig ar gyfer trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch, trafodiadau eiddo amhreswyl a chydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent.
Mae rheoliad 3 yn cymhwyso’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol diwygiedig at y trafodiadau tir a nodwyd uchod pan fo dyddiad effeithiol y trafodiad hwnnw yn syrthio ar neu ar ôl 22 Rhagfyr 2020.
Mae rheoliad 4 yn mynd ymlaen i nodi eithriadau i gymhwysiad cyffredinol y bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol diwygiedig mewn perthynas â thrafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch yn unig. Pan fo dyddiad effeithiol y trafodiadau hyn yn syrthio ar neu ar ôl 22 Rhagfyr 2020, ond pan gafodd contractau eu cyfnewid neu pan gafodd y contract hwnnw ei gyflawni i raddau sylweddol cyn 22 Rhagfyr 2020, bydd y bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol blaenorol yn dal yn gymwys, oni bai bod un o’r eithriadau a nodir yn rheoliad 5 yn gymwys.
Mae rheoliad 6 yn nodi’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol diwygiedig a fydd yn gymwys i’r trafodiadau a bennir yn rheoliad 3.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.