2020 Rhif 1614 (Cy. 338)
Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 14(3) a (6), 46(4) a 94(1) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 20172.
Enwi a chychwyn1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2021.
Cymhwyso2
Mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â gwarediad trethadwy (o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017) a wneir ar 1 Ebrill 2021 neu ar ôl hynny.
Cyfraddau’r dreth gwarediadau tirlenwi3
Rhagnodir y cyfraddau a ganlyn yn unol ag adrannau 14(3) a (6), a 46(4) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 yn y drefn honno—
a
y gyfradd safonol yw £96.70 y dunnell;
b
y gyfradd is yw £3.10 y dunnell; ac
c
y gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw £145.05 y dunnell.
Diwygio Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 20204
Yn rheoliad 2 o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 20203, ar ôl “neu ar ôl hynny” mewnosoder “ond cyn 1 Ebrill 2021”.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)