RHAN 2Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011

Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 20114

Yn rheoliad 3—

a

yn lle’r pennawd rhodder “Anifeiliaid anwes”;

b

ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

1A

Yn ychwanegol at ofynion y Rheoliadau hyn, ni chaniateir symud cŵn, cathod a ffuredau sydd heb eu hesemptio gan baragraff (1) i Gymru o drydedd wlad oni bai eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion a nodir yn—

a

pwyntiau (a) i (d) o Erthygl 10(1) o’r Rheoliad Anifeiliaid Anwes, yn ddarostyngedig i baragraff (1) o Erthygl 12 i’r Rheoliad hwnnw; a

b

Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/294 yn nodi’r rhestr o diriogaethau a thrydydd gwledydd a awdurdodir o ran mewnforio cŵn, cathod a ffuredau a’r dystysgrif iechyd anifeiliaid enghreifftiol ar gyfer mewnforion o’r fath.