RHAN 2Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011
Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 201132
Ar ôl Atodlen 4 mewnosoder—
ATODLEN 5Cymhwyso Rhan 3, ei rhanddirymu a’u haddasu, mewn perthynas â thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i drefniadau mewnforio trosiannol arbennig
RHAN 1Rhagarweiniol
Cymhwyso1
Mae’r Atodlen hon yn gymwys i gynhyrchion ac anifeiliaid byw sy’n tarddu o’r canlynol—
a
tiriogaeth sy’n ddarostyngedig i drefniadau mewnforio trosiannol arbennig; neu
b
trydedd wlad heblaw tiriogaeth sy’n ddarostyngedig i drefniadau mewnforio trosiannol arbennig lle bo’r cynhyrchion neu’r anifeiliaid byw dan sylw, cyn cael eu mewnforio i Gymru—
i
wedi eu cyflwyno i safle rheoli ar y ffin mewn Aelod-wladwriaeth a gydnabyddir gan Weinidogion Cymru;
ii
â DMIG yn cyd-fynd â hwy sydd wedi ei llenwi er boddhad yr awdurdod perthnasol; a
iii
wedi eu rhaghysbysu.
Dehongli2
At ddibenion yr Atodlen hon—
ystyr “diwrnod gwaith” (“workingday”) yw diwrnod heblaw dydd Sadwrn neu ddydd Sul nad yw’n ddydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ŵyl banc o dan adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 19716;
ystyr “nwyddau perthnasol” (“relevantgoods”) yw cynhyrchion ac anifeiliaid byw sy’n dod o fewn paragraff 1;
ystyr “rhaghysbysu” (“pre-notified”) yw hysbysu gan ddefnyddio’r system rheoli gwybodaeth gyfrifiadurol briodol;
ystyr “tiriogaeth sy’n ddarostyngedig i drefniadau mewnforio trosiannol arbennig” (“territory subject to special transitional import arrangements”) yw—
- a
un o Aelod-wladwriaethau’r UE;
- b
Ynysoedd Ffaröe;
- c
Yr Ynys Las;
- d
Gwlad yr Iâ;
- e
Liechtenstein;
- f
Norwy;
- g
Y Swistir.
Cymhwyso Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn, ei rhanddirymu a’u haddasu3
Mae darpariaethau Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys i nwyddau perthnasol gyda’r rhanddirymiadau a’r addasiadau a bennir yn Rhan 2 o’r Atodlen hon.
RHAN 2Rhanddirymu Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn a’i haddasu
Rhanddirymu rheoliad 13: lle mewnforio4
1
Nid yw rheoliad 13 yn gymwys i nwyddau perthnasol.
2
Nid yw’n ofynnol i nwyddau perthnasol ddod i Gymru drwy safle rheoli ar y ffin a chaniateir iddynt ddod i Gymru drwy unrhyw bwynt mynediad.
Rhanddirymu rheoliad 14: amseru hysbysiad mewnforio5
1
Nid yw rheoliad 14 yn gymwys i nwyddau perthnasol.
2
O 1 Ionawr 2021 ymlaen, rhaid i nwyddau perthnasol o’r disgrifiadau a ganlyn gael eu rhaghysbysu o leiaf un diwrnod gwaith cyn yr amser y disgwylir iddynt gyrraedd pwynt mynediad i Gymru—
a
anifeiliaid byw;
b
cynhyrchion eginol;
c
sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy’n ffurfio—
i
deunydd Categori 1;
ii
deunydd Categori 2;
iii
protein anifeiliaid wedi ei brosesu sy’n deillio o ddeunydd Categori 3,
iv
ond pan all y mewnforiwr ddarparu tystiolaeth o gyfyngiad logistaidd sy’n atal hysbysiad o’r fath, caniateir i’r gofyniad hwnnw gael ei fodloni drwy hysbysu’r amser y disgwylir iddynt gyrraedd o leiaf bedair awr ymlaen llaw.
3
O 1 Ebrill 2021 ymlaen, rhaid i nwyddau perthnasol sy’n cynnwys cynhyrchion sy’n tarddu o anifeiliaid gael eu rhaghysbysu o leiaf un diwrnod gwaith cyn yr amser y disgwylir iddynt gyrraedd pwynt mynediad i Gymru; ond pan all y mewnforiwr ddarparu tystiolaeth o gyfyngiad logistaidd sy’n atal hysbysiad o’r fath, caniateir i’r gofyniad hwnnw gael ei fodloni drwy hysbysu’r amser y disgwylir iddynt gyrraedd o leiaf bedair awr ymlaen llaw.
4
At ddibenion y paragraff hwn—
a
mae i “deunydd Categori 1”, “deunydd Categori 2” a “deunydd Categori 3” yr ystyr a roddir i “Category 1 material”, “Category 2 material” a “Category 3 material” yn Erthyglau 8 i 10 o Reoliad (EC) Rhif 1069/2009;
b
mae i “protein anifeiliaid wedi ei brosesu” yr ystyr a roddir i “processed animal protein” ym mhwynt 5 o Atodiad 1 i Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 142/2011.
Rhanddirymu rheoliad 15: gweithdrefn wrth fewnforio6
1
Nid yw rheoliad 15 yn gymwys i nwyddau perthnasol ond—
a
rhaid i reolaethau swyddogol ddigwydd yn y gyrchfan a nodir yn y dogfennau mewnforio cysylltiedig perthnasol ar hap neu ar sail y risg, ac yn unol â rheoliad 29 a 35;
a
o 1 Ionawr 2021 ymlaen, o ran nwyddau perthnasol sy’n cynnwys—
i
anifeiliaid byw neu gynhyrchion eginol ni chaniateir eu mewnforio i Gymru oni bai bod y dystysgrif iechyd briodol ar gyfer mewnforion o drydedd wlad yn cyd-fynd â hwy, ar y ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol;
ii
cynhyrchion sy’n tarddu o anifeiliaid a sgil-gynhyrchion anifeiliaid rhaid iddynt gael dogfennau masnachol perthnasol yn cyd-fynd â hwy sydd o leiaf yn nodi’r fangre wreiddiol a’r gyrchfan ac sy’n cynnwys disgrifiad o’r cynnyrch a swm y cynnyrch; ac
c
o 1 Ebrill 2021 ymlaen, ni chaniateir mewnforio nwyddau perthnasol sy’n cynnwys cynhyrchion sy’n tarddu o anifeiliaid i Gymru oni bai bod y dystysgrif iechyd briodol ar gyfer mewnforion o drydedd gwlad yn cyd-fynd â hwy, ar y ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol.
2
Rhaid i’r dogfennau a ddisgrifir yn is-baragraff (1)(b) ac (c) gyd-fynd â’r llwyth o nwyddau perthnasol o dan sylw i’w gyrchfan.
Rhanddirymu rheoliad 19(a): llwythi heb eu gwirio7
Nid yw rheoliad 19(a) yn gymwys i nwyddau perthnasol sydd wedi dod i Gymru drwy bwynt mynediad heblaw safle rheoli ar y ffin yn unol â’r Atodlen hon.
Addasu rheoliad 20: gweithredu yn dilyn methiant gwiriadau neu yn dilyn cipio – cynhyrchion8
Mae rheoliad 20 yn gymwys fel pe bai—
a
ym mharagraff (1), “neu, yn achos nwyddau perthnasol, nad yw’n cydymffurfio â darpariaethau Atodlen 5” wedi ei fewnosod ar ôl “Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”;
b
ym mharagraff (3)(b)—
i
“o’r un safle rheoli ar y ffin” wedi ei hepgor;
ii
“Cymru” wedi ei roi yn lle “y safle rheoli ar y ffin”.
Addasu rheoliad 23: gweithredu yn dilyn methiant gwiriadau neu yn dilyn cipio – anifeiliaid9
Mae rheoliad 23 yn gymwys fel pe bai, ym mharagraff (1), “neu, yn achos nwyddau perthnasol, nad yw’n cydymffurfio â darpariaethau Atodlen 5” wedi ei fewnosod ar ôl “Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”.
Rhanddirymu rheoliad 27: ailfewnforio anifeiliaid a chynhyrchion10
1
Nid yw rheoliad 27 yn gymwys o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-baragraff .
2
Nid yw’n ofynnol i gynhyrchion ac anifeiliaid byw sy’n tarddu o Gymru ac y gwrthodwyd iddynt fynd i’r Undeb Ewropeaidd mewn un o safleoedd rheoli’r Undeb Ewropeaidd ar y ffin ddod i mewn i Gymru eto drwy safle rheoli ar y ffin—
a
yn achos cynhyrchion ac anifeiliaid byw nad ydynt yn peri risg uchel, os oes hysbysiad wedi ei roi i Weinidogion Cymru neu i’r Asiantaeth Safonau Bwyd eu bod yn dod i mewn i Gymru eto;
b
yn achos cynhyrchion ac anifeiliaid byw sydd yn peri risg uchel, os yw Gweinidogion Cymru neu’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi rhoi awdurdod mewn ysgrifen iddynt ddod i mewn eto cyn eu bod i fod i ddod i mewn eto.
3
Yn y paragraff hwn, ystyr “risg uchel” yw yr amheuir bod y cynhyrchion neu’r anifeiliaid byw yn peri risg ddifrifol i iechyd pobl neu anifeiliaid neu i les anifeiliaid.
RHAN 3Rheolau ychwanegol mewn perthynas â nwyddau perthnasol sy’n anifeiliaid byw
Anifeiliaid byw11
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â nwyddau perthnasol sy’n anifeiliaid byw.
2
Rhaid i’r anifeiliaid byw barhau i gael eu symud dan gyfyngiadau yn y gyrchfan a nodir yn y dystysgrif iechyd hyd nes y bydd y dystysgrif iechyd wedi ei chwblhau ac wedi ei llofnodi wedi cael ei huwchlwytho i’r system rheoli gwybodaeth gyfrifiadurol briodol.
3
Rhaid i’r person sy’n gyfrifol am gludo’r anifeiliaid byw i’r gyrchfan fod â’r awdurdod priodol ganddo yn unol â Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005.