RHAN 2Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011
Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 201131
Yn Atodlen 3—
a
yn lle’r cyfeirnod cwr tudalen rhodder “Rheoliad 26(1)”;
b
ym mharagraff 2, yn lle “o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn” hyd at y diwedd rhodder “o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2122”;
c
ym mharagraff 4—
i
yn is-baragraff (1), yn lle “Reoliad (EU) Rhif 142/2011” rhodder “Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 142/2011”;
ii
hepgorer is-baragraff (2);
d
yn lle paragraff 5 rhodder—
5Achos 4: Llwythi a gliriwyd ym Mhrydain Fawr
Llwythi o anifeiliaid a chynhyrchion o drydydd gwledydd a gyflwynwyd i unrhyw safle rheoli ar y ffin ym Mhrydain Fawr ac a gliriwyd ar gyfer cylchrediad rhydd.
e
ym mharagraff 6(2)(ch), yn lle “mewn iaith swyddogol Aelod-wladwriaeth” rhodder “mewn Saesneg (p’un a yw’n ymddangos mewn unrhyw iaith arall ai peidio)”.