RHAN 2Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011

Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 20113

Yn rheoliad 2—

a

ym mharagraff (1)—

i

yn y lleoedd priodol mewnosoder—

  • mae i “DMIG” (“CHED”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 10;

  • mae i “safle rheoli ar y ffin” (“bordercontrolpost”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 11;

  • ystyr “system rheoli gwybodaeth gyfrifiadurol briodol” (“appropriate computerised information management system”) yw’r system rheoli gwybodaeth gyfrifiadurol ar gyfer rheolaethau swyddogol y cyfeirir ati yn Erthygl 131 o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol;

  • ystyr “trydedd wlad” (“thirdcountry”) yw unrhyw wlad neu diriogaeth heblaw Ynysoedd Prydain.

ii

yn y diffiniad o “mewnforiwr” (“importer”), yn lle “i’r Deyrnas Unedig” rhodder “i Ynysoedd Prydain”;

iii

yn y diffiniad o “rheolaethau swyddogol dwysach” (“intensifiedofficialcontrols”), yn lle “o Reoliad yr UE” rhodder “o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”;

iv

yn y diffiniad o “rheolaethau swyddogol” (“officialcontrols”), yn lle “o Reoliad yr UE” rhodder “o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”;

v

yn y diffiniad o “cynnyrch” (“product”), yn lle “arolygfeydd ffin” rhodder “safleoedd rheoli ar y ffin”;

b

hepgorer paragraff (2);

c

ym mharagraff (3)—

i

yn is-baragraff (a), yn lle “mae “Rheoliad yr UE” (“the EU Regulation”)” rhodder “mae’r “Rheoliad Rheolaethau Swyddogol” (“Official Controls Regulation”)”;

ii

hepgorer is-baragraff (ch).