RHAN 2Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011

Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 201129

Yn rheoliad 39, yn y tabl—

a

hepgorer y rhesi ar gyfer “rheoliad 5(1) ac (1A)” hyd at “rheoliad 7” (gan gynnwys y cofnodion cyfatebol yn yr ail golofn);

b

yn y rhesi ar gyfer “rheoliad 16(1)” a “rheoliad 16(2)”, yn y cofnodion cyfatebol yn yr ail golofn yn lle “DMMG” rhodder “DMIG”;

c

yn y rhes ar gyfer “rheoliad 28”, yn lle’r cofnod cyfatebol yn yr ail golofn rhodder “Mewnforio cynnyrch nad yw’n cydymffurfio â gofynion mewnforio’r Rheoliadau hyn a gweithdrefnau’r Tollau a’r gweithdrefnau storio ar gyfer mewnforion yn Neddf Trethiant (Masnach Drawsffiniol) 2018”;

d

yn yr adran ar gyfer Atodlen 2, hepgorer y rhesi ar gyfer “paragraff 5(1)” hyd at “paragraff 7” (gan gynnwys y cofnodion cyfatebol yn yr ail golofn);

e

hepgorer y rhes ar gyfer “Atodlen 3 paragraff 4(3)” (gan gynnwys y cofnod cyfatebol yn yr ail golofn).