RHAN 2Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011

Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 201117

Yn rheoliad 22—

a

ym mharagraff (1)—

i

yn lle “i’r Deyrnas Unedig” rhodder “i Brydain Fawr”;

ii

yn lle “mae’r rheoliad hwn yn gymwys” hyd at y diwedd rhodder “caiff yr awdurdod gorfodi ofyn am wiriadau ffisegol ychwanegol a chymryd samplau i’w profi neu i’w dadansoddi o lwythi dilynol o’r ffynhonnell dan sylw a chymryd mesurau priodol yn unol ag Adran 3 o Bennod 5 o Deitl 2 o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”;

b

ym mharagraff (3), ar y diwedd mewnosoder “o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”;

c

yn lle paragraff (4) rhodder—

4

Pan hysbysir y person sy’n gyfrifol am lwythi y bydd angen gwiriadau ychwanegol yn unol â pharagraff (1), rhaid i’r person hwnnw, cyn i lwythi yn y dyfodol gyrraedd unrhyw safle rheoli ar y ffin, gyflwyno blaendal neu warant i’r awdurdod gorfodi perthnasol sy’n ddigon i dalu’r holl gostau y bydd yr awdurdod gorfodi hwnnw’n mynd iddynt, gan gynnwys costau cymryd samplau a chynnal profion neu ddadansoddiadau.