RHAN 2Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011

Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 201111

Yn rheoliad 15—

a

ym mharagraff (1)—

i

yn lle “â’r ddogfennaeth a bennir ar gyfer y llwyth hwnnw yn y ddeddfwriaeth berthnasol yn Atodlen 1” rhodder “â’r dystysgrif iechyd allforio berthnasol, yn y ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol, a dogfennaeth arall a bennir ar gyfer y llwyth hwnnw yng nghyfraith uniongyrchol yr UE a ddargedwir sy’n ymwneud â mewnforio”;

ii

yn is-baragraff (a), yn lle “o Reoliad yr UE” rhodder “o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”;

b

ym mharagraff (4)—

i

yn is-baragraff (a), yn lle “yn y rhestri” hyd at y diwedd rhodder “mewn rhestr a lunnir yn unol â deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir ar gyfer y rhywogaeth dan sylw neu y gwaherddir mewnforion ohoni fel arall o dan y ddeddfwriaeth honno o drydydd gwledydd a gymeradwywyd, neu os gwaherddir mewnforion o’r wlad neu’r diriogaeth honno fel arall”;

ii

yn is-baragraff (c), yn lle “yn neddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “yn neddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir sy’n ymwneud â mewnforio”;

iii

yn is-baragraff (d), yn lle “deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir”;

c

ym mharagraff (5)(b), ar ôl “gynnyrch arall” mewnosoder “neu anifail byw”.