RHAN 3Diwygiadau canlyniadol i offerynnau statudol eraill

Diwygio Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 200333

Yng Ngorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 20037, ym mharagraff 7 o Atodlen 1, hepgorer “a gymeradwywyd o dan Ran 1 o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011”.

Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 201934

Yn Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 20198, hepgorer rheoliad 3.

Diwygio Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 201935

Yn Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 20199, hepgorer rheoliad 3.

Diwygio Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 201936

Yn Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 201910, hepgorer rheoliad 2.

Diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 202037

Yn Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 202011, hepgorer rheoliad 29.