(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru. Mae’r Rheoliadau yn gosod gofynion a chyfyngiadau ar unigolion, busnesau ac eraill.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (y “prif Reoliadau”) er mwyn—
a
dod â’r prif Reoliadau (oni bai am Ran 6) i rym ar 20 Rhagfyr 2020;
b
cynnwys ardal Haen 4 arfaethedig Lloegr yn y diffiniad o “ardal o’r DU sydd o dan gyfyngiadau”, sy’n golygu na chaiff unrhyw berson sy’n byw mewn ardal Haen 4 ddod i Gymru heb esgus rhesymol;
c
darparu bod Lefel Rhybudd 4 yn gymwys i Gymru o 20 Rhagfyr 2020 ymlaen;
d
cyfyngu’r addasiadau a wneir yn Atodlen 6 i’r prif Reoliadau i’r cyfyngiadau sy’n gymwys dros gyfnod y Nadolig fel eu bod yn gymwys ar 25 Rhagfyr 2020 yn unig.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.